Oriel Clwb Mynydda Cymru
2006

0001: Llun o'r Wyddfa dan eira gan Morfudd Thomas

0002: Cerastium arcticum, Clust llygoden mynyddig llydanddail - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0003: Cerastium arcticum, Clust llygoden mynyddig llydanddail - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0004: Antennaria dioica, Pawen y gath - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0005: Antennaria dioica, Pawen y gath - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0006: Lloydia serotina, Brwynddail y mynydd - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0007: Lloydia serotina, Brwynddail y mynydd - llun gan Gerallt Pennantt, Mai

0008: Craig a Llyn Cau ar Gadair Idris - llun gan Iolo ap Gwynn (defnyddiwyd ar gyfer cerdyn Nadolig 2005 Mudiad Ysgolion Meithrin)

0009: Golygfa glasurol o'r Wyddfa o gopa'r Grib Goch- llun gan Iolo ap Gwynn

0010: Tormaen siobynnog, tufted saxifrage. Mae'r mymryn o hwn sydd ar ôl yng Nghwm Idwal y mwyaf deheuol ohono yn Ewrop. - llun gan Gerallt Pennant

0011: Tormaen siobynnog, tufted saxifrage. Mae'r mymryn o hwn sydd ar ôl yng Nghwm Idwal y mwyaf deheuol ohono yn Ewrop. - llun gan Gerallt Pennant, Mai

0012: Ar sgis ger La Plagne yn alpau Ffrainc - llun gan Iolo ap Gwynn

0013: Lloydia serotina, Brwynddail y mynydd - llun gan Gerallt Pennant, Mai 31 Clogwyn Du'r Arddu

0014: llun gan Gerallt Pennant, yn cyfarfod Bert Jones o Benrhyndeudraeth yn profi ei bengliniiau newydd ar Y Cnicht

0015: llun gan Gerallt Pennant o Glogwyn Du'r Arddu yn gynnar iawn ar fore ym mis Mehefin - cyfeiriodd ato ar ei raglen fore Sadwrn 10fed o Fehefin

0016: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith microlite yn ystod ei ymweliad â Nepal (ger Pokkhara). 06:00 y bore tra roedd yr awyr yn glir, hefo peilot uniaith Rwseg yn hyfforddi - codi o 2700' i 12000' o flaen Machhapuchhare y mynydd sanctaidd.

0017: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith microlite yn ystod ei ymweliad â Nepal. 06:00 y bore tra roedd yr awyr yn glir, hefo peilot uniaith Rwseg yn hyfforddi - codi o 2700' i 12000' o flaen Machhapuchhare y mynydd sanctaidd.

0018: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith microlite yn ystod ei ymweliad â Nepal

0019: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith paraglide yn ystod ei ymweliad â Nepal. 2000' mewn thermals uwchben llyn Phewa Tal

0020: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith paraglide yn ystod ei ymweliad â Nepal . 2000' mewn thermals uwchben llyn Phewa Tal

0021: llun gan Gwyn Roberts, a dynnwyd tra roedd yn profi taith paraglide yn ystod ei ymweliad â Nepal. 2000' mewn thermals uwchben llyn Phewa Tal

0022: llun gan Guto Evans. Clychau'r Gog (Clychau Glas, Bwtchas y Gog a.y.y.b.) ar lethrau Moel Hebog yn gynnar un bore.

0023: llun gan Guto Evans. Ar lethrau Moel Hebog.

0024: llun gan Guto Evans. Yr olygfa am Foel yr Ogaf o foel Hebog.

0026: llun gan Gerallt Pennant. Genista pilosa, yr Aurfanadl flewog

0027: llun gan Gerallt Pennant. Meconopsis cambrica, y Pabi Cymreig

0025: llun gan Gerallt Pennant. Genista pilosa, yr Aurfanadl flewog
Nodyn gan Gerallt (lluniau 25-27). Ar Gader Idris efo Alan Machynlleth (16-06-06). Cawsom weld y Genista pilosa, yr Aurfanadl flewog, a Meconopsis cambrica, y Pabi Cymreig, ar eu gorau. Un o hynodion y Gader ydy mai dyma safle gogleddol eitha'r Genista pilosa, un o blanhigion Môr y Canoldir.
Diolch i Alan am ei arweiniad a'i frwdfrydedd.

0028: llun gan Gerallt Pennant. Celyn y Môr, Eryngium maritinum

0029: llun gan Gerallt Pennant. Celyn y Môr, Eryngium maritinum, a Paenog

0030: llun gan Gerallt Pennant. Celyn y Môr, Eryngium maritinum

0031: llun gan Gerallt Pennant. Lafant y Môr, Limonium vulgare
Nodyn gan Gerallt (lluniau 28-31) Mae'n werth mynd am dro i ben draw Twyni Niwbwrch i weld Celyn y Môr, Eryngium maritinum (28) sydd ar ei orau ar ddechrau Awst. Mae Lafant y Môr, Limonium vulgare (31) yn llawn addewid hefyd. Y lle gorau i adael y car ydy maes parcio Pen Lôn yn Niwbwrch a dilyn y llwybr sydd ger Afon Braint tuag at Aber Menai. Os bydd bryniau Ll?n yn glir mi ddylech gael hyd i lain llydan o'r Celyn Môr wrth droed y twyni gyferbyn a'r Eifl!

0032: llun gan Morfudd Thomas. Llyn Glaslyn yn fuan wedi toriad gwawr fis Gorffennaf

0033: llun gan Morfudd Thomas. Marmot. Parc Cenedlaethol y Vanoise, Ffrainc.

0034: llun gan Morfudd Thomas. Dringo'r Grande Casse. Parc Cenedlaethol y Vanoise, Ffrainc.

0035: llun gan Morfudd Thomas. Grande Casse. Parc Cenedlaethol y Vanoise, Ffrainc.

0036: llun gan Morfudd Thomas. Parc Cenedlaethol y Vanoise, Ffrainc.

0037: llun gan Morfudd Thomas. Parc Cenedlaethol y Vanoise, Ffrainc.

0038: llun gan Morfudd Thomas. Noswylio ar gopa'r Wyddfa cyn cychwyn ar y 14eg

0039: llun gan Geraint Efans. Clogwyn Du’r Arddu o Dinorwig, 17.08.2006 gyda’r hwyr

0040: llun gan Gerallt Pennant. "Cerdded Moel Bronmiod efo Joohn a Dewi H J , Joohn yn oedi a gofyn "weli di'r Mercedes Benz GP?" weli di o?"

0041: llun gan Morfudd Thomas. "Llun o ffwng a welais ar fy ffordd i lawr Elidir Fawr, ddiwedd Hydref., ddim yn sicr o'r enw, ai fly agaric neu sickener? (Rhyw syniad, Gerallt Pennant ?)."
Ateb Gerallt: "Ceredaf mai'r Amanita muscaria, amanita'r pryfed/gwybed (diolch Brws), fly agaric mae Morfudd wedi ei weld. Y smotoiau gwynion o gwmpas gwefl y capan sydd yn fy argyhoeddi o hynny. 'Toes gan Russula emetica, y cyfogwr(diolch eto Brws!), the sickener mo'r smotiau gwynion yma. Afraid dweud bod y ddeugaws-llyffantaidd yn wenwynig."

0042

0043

0044: llun gan Gerallt Pennant.
Dim angen sylw pellach!
Lluniau gan Morfudd Thomas
"2 x lun o ardal Castleton yn y Peaks (mis Hydref).
Trochwr sy yn y llun cynta (42), ond dwi ddim yn sicr o enw'r aderyn yn yr ail lun, a'i bras yr eira?"
Unrhyw awgrymiadau neu sylwadau gan rhywun?
Sylwadau gan Haf Meredydd:
Llun 42: Bronwen y dŵr (Cinclus cinclus) ydy hon, aderyn weddol gyfarwydd i ni yma yng Nghymru gan ei fod yn hoff o'n nentydd mynyddig yn yr haf a'n hafonydd mwy llonydd yn y gaeaf. Yn amlach na pheidio, mae ei chlywed yn haws na'i gweld, oherwydd mai ei 'tss tss' amlwg yn cario dros swn a bwrlwm y dŵr. Dyma un o'r ychydig o adar sy'n gallu 'nofio' o dan wyneb i dŵr i chwilio am ei hoff fwyd, sef larfa pryf gwellt (y caddis-fly). Wedi ei ddal, mae hi'n sefyll ar graig ac yn siglo i fyny ac i lawr. Ar un o deithiau'r Clwb yn Ardudwy, dwi'n cofio i ni ddod o hyd i nyth mwsoglyd bronwen y dŵr yng ngherrig bwa Pont Ysgethin uwchben Dyffryn Ardudwy. Lle da i'w gweld ydy i fyny'r afon o Lanystumdwy ar yr Afon Dwyfor yn ystod y gaeaf.
Llun 43: Bras yr eira (Plectrophenax nivalis) yw hwn yn ei liwiau gaeafol. Yn ei blu nythu mae'r ceiliog yn ddu a gwyn, ond yn y gaeaf mae'r breision i gyd yn debyg, gyda chymysgedd o blu browngoch ar eu cefnau, smotiau gwynion ar eu hadenydd a phlu gwyn oddi tanynt. Mae'r breision, sydd i'w gweld mewn heidiau ran amlaf, i'w gweld yn rheolaidd ar gopaon yr Alban yn y gaeaf, a gan eu bod yn eithaf dof mae'n bosib mynd yn agos iawn atyn nhw ambell dro. Mae'r bras yr eira ychydig bach mwy nag aderyn y to.


0045: llun gan Iolyn Jones.
Tynnwyd yn Wexford.


0046: llun gan Iolyn Jones.
Tynnwyd yn Wexford.

0047: llun gan Morfudd Thomas.
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Llun o Namche Bazzar.
Esboniad gan Gerallt: Gwelwyd y creaduriaid môr rhyfedd yma gan Iolyn ar draeth Wexford, Iwerddon (Llwch Garmon yn y Gymraeg gyda llaw!), ar ddechrau mis Tachwedd, ac mae'n debyg iddyn nhw gael eu gadael yno gan y llanw. Math o wyran (barnacle) ydy'r rhain, un o deulu'r cramenogion (crustaceans) ac yn ôl Geiriadur yr Academi, un o'r enwau Cymraeg arnyn nhw ydy caglau môr, sy'n eu disgrifio i'r dim. Mae rhai mathau yn dal eu gafael ar froc môr ac yn cael eu cludo hwnt ac yma yn y môr, tra bod eraill yn byw ar greigiau rhwng y ddau lanw. Cyn i bobl sylweddoli bod adar yn ymfudo, credid bod gwyddau gwyran (Branta bernicla) yn datblygu o'r cramennog hwn, oherwydd eu tebygrwydd o ran lliw a ffurf. Yn wir, honnodd Gerallt Gymro ei fod wedi gweld caglau môr yn newid i wyddau gwyran yn y ddeuddegfed ganrif!
Am fwy o fanylion ewch i http://en.wikipedia.org/wiki/Gooseneck_barnacle

0048: llun gan Morfudd Thomas.
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Llun o Namche Bazzar.

0049: llun gan Morfudd Thomas
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Llun o fynydd Cho Oyu 8153m o gopa mynydd Gokyo 5463m.

0050: llun gan Morfudd Thomas.
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Dringo mynydd Lobuche East 6119m.

0051: llun gan Morfudd Thomas.
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Llun o Namche Bazzar.

0052: llun gan Morfudd Thomas.
Tynnwyd ar daith i Nepal yn 2005.

Llun o rewlif y Khumbu a'r Himalayas.
 

Oes gennych chi luniau i'w dangos?
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Cofiwch gynnwys sylwadau a manylion an y llun!
Diweddarwyd gan y gwefeistr: 6/11/07