De Orllewin Iwerddon 24-31 Mai

Aeth 18 ohonom ar y daith, sef Bruce a Helen Lane, Eryl ac Angharad Owain, Raymond Wheldon Roberts, Susan Hepplewhite a Raymond Griffiths, Helen Williams a Digby Bevan, Eirwen Williams, Gwyn Williams, Sioned Llewelyn, Gwen Aaron, Morfudd Elen, Huw ap Rhys, Rhiannon Trefor, a Sheila a Rhys Dafis (oedd wedi trefnu’r daith). Ymunodd Lynne a Cai Larsen efo ni am ran o’r daith. Teithiwyd yno drwy rannu ceir.

Cafwyd 2 ddiwrnod o fynydda yn Na Cruacha Dubha (MacGillycuddy's Reeks), gan aros mewn bythynnod ger Cil Airne ar 24, 25 a 26 Mai. Yna, cafwyd taith i ynysoedd Na Scealaga (Skellig) oddi ar drwyn penrhyn Chiarrai (Kerry), gan aros mewn hostel yn An Caladh (Portmagee) ar 27 a 28 Mai. Symudwyd wedyn i An Daingean (Dingle) am 2 noson (29 a 30 Mai) a chael deuddydd o fynydda yng ngogledd y Sir. Bu cyfle hefyd i hamddena, beicio, mynd am dro ceffyl a throl, a phrofi’r diwylliant lleol, yn ogystal â chael mynydda ardderchog. Bendithiwyd y daith gan dywydd bendigedig drwy gydol yr wythnos, ac mi weithiodd y trefniadau yn hwylus.

 

Mynydda

Y daith gyntaf (25 Mai) oedd pedol y copaon i’r dwyrain o fwlch Dunloe ger Cil Airne. Dilynwyd yn fras daith 43 y Cicerone Guide ar gyfer mynyddoedd Iwerddon. O’r maes parcio hwylus wrth Kate Kearney’s Cottage, dringwyd yr ysgwydd am y de i Tommies Mountain (735m), ac yna ymlaen i Tommies South (757m) a Shehy (762m), cyn codi i ben Purple Mountain (832m). Roedd yn ddiwrnod braf, a chafwyd golygfeydd gwych dros Lough Leane a Chil Airne i’r dwyrain, ac o gopaon Na Cruacha Dubha i’r gorllewin. I orffen y daith, torrwyd i lawr heibio’r Llyn Glas (lle hyfryd i wersylla dan y sêr) i ben bwlch Dunloe, a cherdded heibio Madman’s Seat a’r llynnoedd i lawr y glyn yn ôl at y ceir.

Lluniau o'r daith yma ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Ar yr ail ddiwrnod (26 Mai), holltwyd yn ddau grŵp. Aeth 8 ohonom i ddringo’r 11 copa 930m+ (3,000 troedfedd) sydd yn Na Cruacha Dubha, taith bedol heriol 16 milltir o Iard Cronnin. Aethom yn groes i’r cloc –

  • Dringo i ben Bin Chaorach (Beenkeragh) 1010m, mynydd ail uchaf Iwerddon, o Gwm Callee, a chael paned haeddiannol;
  • Dilyn y grib i’r de dros gopa 959m di-enw, ac oedi yn y bwlch lle mae llwybr O’Shea’s Gulley yn ymuno, i adael neges a ‘fruit pastilles’ i’r grŵp arall oedd yn dringo o’r cwm danom;
  • Ymlaen i ben Corrán Tuathall (Carrauntoohil) 1039m, mynydd uchaf Iwerddon, a’r niwl yn cau amdanom wrth y groes fawr;
  • Am y gorllewin wedyn ar hyd y grib i Cathair (Caher) 983m a Caher West Top, 975m – cael cinio yno yn yr heulwen, a gweld y grŵp arall yn cyrraedd y bwlch uwch O’Shea’s Gulley a chanfod eu ‘pastilles’, chwifio dwylo a chlywed bloedd ‘Diolch’ yn cario ar draws gagendor Cwm Loughra!
  • Camu’n ôl am y dwyrain dros Cathair ac yna, ar ysgwydd Corrán Tuathall, troi i lawr i’r de-ddwyrain am y bwlch uwch Ysgol y Diafol (734m), cyn dringo’n ôl i’r dwyrain dros Cnoc na Toine yn serth i ben Cnoc na Chuillinn (958m) a’r niwl gwlyb yn cau amdanom eilwaith;
  • Troi am y gogledd ddwyrain ar hyd cefnen cyn codi i ben Maolán Bui (973m), yna dros fynydd dienw (926m), gan gyrraedd Cnoc na Peiste (988m) a’r niwl yn drwchus iawn.
  • Croesi’r grib fain beryglus tuag at gorn an Gunna Mór (y Big Gun) 939m)yn araf a gyda gofal oherwydd y dibyn ar y ddwy ochr a’r graig wleb;
  • Gwneud yr un fath ar y grib feinach i gyrraedd y copa olaf, Cruach Mhór (932m), crib debyg iawn i Crib Goch a’i phinaclau.

 

Roedd disgyn yn ôl i Cronnin’s Yard yn ymddangos yn hir iawn ar ôl 10 awr!

Lluniau o'r daith yma ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Yr un diwrnod, aeth grŵp o 7 i ben Corrán Tuathall o Gwm Callee yn syth i fyny O’Shea’s Gulley, taith debyg i fynd i ben yr Wyddfa heibio Llyn Glaslyn a dringo’r wal igam ogam. Roedd canfod y neges a’r ‘pastilles’ o flaen y cigfrain yn ryfeddod y diwrnod. Ar ôl cael cinio ar y copa, aethant heibio Ysgol y Diafol am Cnoc na Toinne, gan dorri i lawr o’i ysgwydd at Lough Callee ac i lawr y cwm yn ôl i Gronnin’s Yard. Taith 7 awr oedd hon.

Lluniau o'r daith yma ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Ar 29 Mai, a ninnau yn symud gwersyll i An Daingean, roedd cyfle ar y ffordd i 13 ohonom ddringo pedol o fynyddoedd yng ngogledd swydd Chiarrai, yn ardal Gleann Beithe (Glenbeigh). Mae nhw’n hawlio yr union fan lle mae 10°00 i’r gorllewin a 52°00 i’r gogledd yn croesi, a’u harddwch yn llawn deilyngu’r fath anrhydedd. Tra bod 8 copa i gyd yn y bedol, roedd digon o amser i ddringo 3 ohonyn nhw o lan llyn Coomasaharn, sef Meenteog, Coomacarrea a Teermoyle (a thir moel oedd o hefyd!). Roedd y golygfeydd ar draws y bae i benrhyn An Daingean yn ardderchog.

Lluniau o'r daith yma ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Ar 30 Mai, tra’n aros yn An Daingean, aeth 13 ohonom i ben Cnoc Bréannain (mynydd Brandon) 952m, sef un arall o gopaon 3,000 troedfedd yr Iwerddon. Holltwyd yn ddau grŵp. Dringodd 8 o’r dwyrain, gan groesi crib fain Fahar, tra bod y 5 arall yn dringo o’r gorllewin ar hyd y ‘Dingle Way’ a thros Piars Mór. Roedd yr amseru yn wych – y ddau grŵp yn cyrraedd y copa i gael cinio ar yr un pryd! Aeth y grŵp cyntaf ymlaen ar dro hir i’r de am An Géaran Mór (Brandon Peak) a wedyn dilyn y copaon pedol o gylch cwm y Cloghane i fwlch Connor, sef An Géarán, a Cnoc Bhaile uí Shé (Ballysitteragh). Dychwelodd yr ail griw ar hyd lwybr y pererinion i lawr ysgwydd orllewinol Cnoc Bréannain.

Lluniau o'r daith yma ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Hamddena
Rhwng y diwrnodau mynydda, roedd cyfle i ymlacio a mwynhau harddwch y llynnoedd, y coedwigoedd a’r arfordir.
Tra roedd y mwyafrif ohonom yn mynydda ar y Sul, cafodd Helen a Sheila eu cludo fel merched y plas ar gerbyd ceffyl o gwmpas ardal Cil Airne i ben Bwlch Dunloe. Er fflachio llygad del ar y gyrrwr, chawson nhw ddim teithio’n ôl am ddim!
Roedd y dydd Mawrth (27 Mai) yn ddiwrnod seibiant. Aeth rhai i weld abaty a phlas Muckross yn y bore cyn anelu fel y gweddill am yr arfordir deheuol. Penderfynodd Bruce ei fod am feicio ‘Cylch Chiarraí’ i’r llety nesaf yn An Caladh, her y byddai Alberto Contador yn falch ohoni. Roedd y daith o gylch yr arfordir clogwynog  yn brydferth du hwnt, a’r haul yn dal i loetran yng nghwrw’r dafarn ar y cei yn An Caladh pan gyrhaeddodd ein beiciwr gorchestol â’i dafod allan.
Y diwrnod canlynol (28 Mai), roeddem wedi hurio cwch i’n cludo i Ynysoedd Na Scealaga (Skellig Michael a Skellig Bach).  Roedd yn ddiwrnod bendigedig o braf, a’r môr yn siglo’n gysglyd wrth i ni groesi. Lle rhyfeddol ydy’r ynys fwyaf, â’i grisiau serth yn dringo i’r man lle bu mynachod yn byw am ganrifoedd ar damaid o lwyfan uwch dibyn y môr. Addas iawn oedd canu ‘Nid wy’n gofyn bywyd moethus ..’ wrth eu celloedd cerrig! Rhyfeddol hefyd oedd gwylio’r miloedd ar filoedd o fulfrain gwynion – hugannod – yn hawlio pob modfedd o’r ynys leiaf, ac yn plymio’n ddidrugaredd i’r môr. Profiad hefyd oedd sefyll ar eithaf trwyn Breagha, Ynys Dairbhre (Valencia) yn edrych dros y môr i’r gorllewin, gan ddychmygu’r fordaith ofalus honno a ollyngodd y cebl telegraff llwyddiannus cyntaf oddi yno ar draws yr Iwerydd i Newfoundland yn 1866.
Profodd y gwmnïaeth gyda’r nos yr un mor flasus a’r prydau, a da adrodd wrth y genedl bod ymddygiad pawb, boed wydryn neu gwpan, yn ddigon gweddus i genhadon, ac amseriad y noswylio yn gyfrifol os nad cynnar. Daeth yn amlwg un noson fod cwis feistres alluog iawn yn ein mysg – un oedd yn alluog iawn yn canfod ein diffyg gwybodaeth! Ar y noson olaf, cafwyd ‘swper olaf’ i’w gofio.

Lluniau o'r hamddena ar FLIKR CLWB MYNYDDA CYMRU

Amserlen gryno
Petasai rhywrai eraill am gynnal gwyliau tebyg, dyma grynodeb ohono:

Diwrnod 1

Croesi i’r Iwerddon. Teithio i Cil Airne.

Diwrnod 2

Purple Mountain / Bwlch Dunloe - mynydda

Diwrnod 3

Na Cruacha Dubha (MacGillycuddy's Reeks) – mynydda

Diwrnod 4

Cylch Chiarraí (Kerry) i An Caladh (Portmagee). Ymlacio.

Diwrnod 5

Ynysoedd Na Scealaga (Skellig) - tywydd yn caniatáu.

Diwrnod 6

Pedol. Coomacarrea – teithio i An Daingean (Dingle)

Diwrnod 7

Mynydd Brandon.

Diwrnod 8

Bore – croesi Iwerddon. Pnawn / hwyr – cwch yn ôl

Y mannau aros oedd:
Cil Airne – bythynnod gwyliau Lakeland Cottages, rhyw 2 filltir tu allan i’r dref.– ewch i www.killarneycottages.com. Mae 3 ystafell wely ddwbwl, lolfa a chegin ardderchog, a 2 ystafell folchi ym mhob un.
An Caladh (Portmagee) - Skellig Ring House – ewch i  www.skelligringhouse.com . Hostel newydd gyda 2 gegin, ystafell fwyta a lolfa sylweddol.
An Daingean (Dingle) – gwesty Dingle Harbour Lodge – ewch i www.dingleharbourlodge.com. Gwely a brecwast ar ddiwedd y daith!

Adroddiad gan Rhys Dafis - Yr Arweinydd

 

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

1/9/15 10:13