Torridon Mis Mai

Torridon, Yr Alban. Dechrau Mai, 2017. Haul. Awyr las. Golygfeydd godidog. Nemor ddim glaw. Dim gwybed! Dyna’r lwc gafodd criw Clwb Mynydda Cymru wrth ymweld â’r ardal drawiadol yma eleni.

Does unman tebyg i Dorridon. Loch Torridon yn ymestyn yn fys hir o’r môr, a phentref bach Torridon ar flaen ei ewin. O’i gwmpas, talpiau creigiog o fynyddoedd. Liathach, Ben Eighe a Ben Alligin, dim un yn uwch na’r Wyddfa, ond yn esgyn yn waliau ysgythrog, serth o’r heli i’r copaon.

Ymunodd 28 o aelodau â’r daith, 22 yn yr hostel ieuenctid, 4 mewn ty preifat, a dau yn gwersylla; y rhan fwyaf i fynydda, eraill i feicio a chaiacio hefyd. Roedd Morfudd, Dei a Cheryl, Gwil Jackson, Cemlyn a Gareth Everett eisoes wedi bod yn beicio ar Mull ac Iona, Arwel wedi bod yn y Cairngorm ac Elen yn Loch Tay a Drumochter.

Rhannwyd yn ddau grwp ar y diwrnod cyntaf, gyda Myfyr, Gwyn Roberts, Anet, Gwyn Chwilog, Dafydd, Richard a Sue, Sian, Dei a Cheryl, Morfudd, Gwil a Cemlyn yn dringo Ben Alligin, a Chris, Steve, Sioned, Gareth Everett, Elen, Iolo, Gareth Pierce a Tegwyn yn mynd am Liathach. Er fod cymylau dros y copaon i ddechrau (cymorth i gadw’r tymheredd i lawr wrth esgyn), buan y diflansant, gan adael diwrnod hynod o braf. Aeth criw Ben Alligin i gopa Tom na Gruagaich (922 m) a Sgurr Mhor (985 m) cyn sgramblo dros y ‘cyrn’, sef Na Rathanan, cyfres o dyrau creigiog. Ond! Cafwyd damwain ar y ffordd i lawr gyda Cheryl yn troi ei throed yn gas. Gyda dau achubwr mynydd profiadol yn y criw, penderfynwyd galw’r tîm achub lleol ac fe gymerwyd Cheryl oddi ar y mynydd gan hofrennydd (dau, a dweud y gwir, gan fod nam wedi datblygu ar y cyntaf ar ôl gollwng un o’r tîm achub ar y grib!). Roeddem yn falch o’i chael yn ôl atom y diwrnod wedyn, wedi ymweliad ag Ysbyty Inverness.

Cychwynnodd grwp Liathach o Glen Torridon gan esgyn yn syth i fyny, ar lwybr da ond didrugaredd i’r grib. Yn lle mynd i’r chwith am y copa cyntaf, trowyd i’r dde at Stuc a’ Choire Dhuibh Bhig (915 m)  ar y pen dwyreiniol, cyn troi am y gorllewin a chroesi Stob a Choire Liath Mhor (983m) i gyrraedd Spidean a’ Choire Leith (1055 m), y Munro cyntaf. Ymlaen wedyn i sgrialu dros binaclau Am Fasarinen ac yna i ben yr ail Funro, Mullach an Rathain (1023 m). Yn lle dilyn y llwybr arferol i lawr am y glen, aed ymlaen ar hyd y grib i’w phen yn Sghorr a Chadail (678 m) ac yna cymryd llwybr tarw ar ongl serth i lawr am y loch.

Newidwyd drosodd ar y dydd Sul, rhai yn dringo Ben Alligin, eraill Liathach, a chriw arall (Anet, Gwyn Chwilog, Dafydd, Gareth Pierce a Sian) yn mynd i fyny rhan o grib Benn Eighe. Aeth eraill i feicio.

Parhaodd y tywydd sych trwy’r wythnos, er fod mwy o ysbeidiau o gymylau uchel yn ystod ei hail hanner. Bu sawl un yn beicio, gyda Arwel, Bruce, Gareth Everett a Dei yn croesi bwlch enwog y Baelach na Ba.  Dringwyd y tri mynydd enwocaf gan y mwyafrif, hefyd Slioch (980 m), pedol hyfryd Beinn Liath Mhor (926 m) a Sgorr Ruadh (962 m) o Achnashellach, Maol Charn-dearg (933 m), Fionn Beinn (933 m), mynyddoedd nad oeddent yn Funros sef Beinn Bhan a Ben Damh, a chafodd Chris, Steve, Sioned, Gareth Everett, Iolo, Elen a Tegwyn antur yn teithio i’r gogledd i groesi crib ddramatig An Teallach, gyda’i ddau gopa, Sgurr Fiona (1060 m) a Bidean a’ Glas Thuill (1062 m).

Profodd yr hostel ieuenctid yn lety da, gyda adnoddau coginio, prydau parod ar gael, diodydd ar werth, digon o le i gymdeithasu ac ymlacio a staff dymunol a chyfeillgar.

Gwelwyd ceirw, mwyeilch y mynydd, grugieir, grugieir gwyn, eryrod ac eryrod y môr, a chlywyd côr (wel, tair ar draws ei gilydd!) o gogau’n canu.

Ardal wych, gwyliau gwych. Diolch i bawb ddaeth: Tegwyn, Gareth Pierce, Gareth Everett, Iolo, Gwilym, Morfudd, Cemlyn, Sioned, Dafydd, Myfyr, Gwyn Roberts, Gwyn Chwilog, Anet, Chris, Steve, Dei a Cheryl, Richard a Sue, Clive a Rhiannon, Raymond a Sue, Sian, Arwel, Bruce a Helen.

Atodaf ddyddiadur Steve i roi blas o’r gweithgareddau.

Adroddiad gan Elen.

Lluniau gan Gareth, Anet a Myfyr ar Fflickr

Dyddiadur Steve:

Liathach
Cychwyn ar fore dydd Sul ar y diwrnod cyntaf o bump gan wneud penderfyniad i ddringo Liathach. Bore Sul cymylog gyda niwl trwchus o gwmpas y copaon. Roeddwn wedi penderfynu ar Liathach oherwydd ei fod yn ddiwrnod heriol a’r cytundeb oedd ein bod angen teimlo’n ffit a chael tywydd da. Roedd y rhagolwg MWIS yn gaddo prynhawn braf, heulog a chlir a ni chawsom ein  siomi er bod y dringo cynnar i'r copa cyntaf yn oer ac yn  niwlog. 8 ohonom yn cychwyn o maes parcio ychydig i fyny'r ffordd o Glen Cottage a dilyn llwybr da yn y lle sy'n dilyn ffrwd Allt an Doire Ghairbh. Dirywiodd y llwybr ychydig wrth i ni ddringo cyn cyrraedd copa Stuc a' Choire Dhuibh Bhig. Yna dilyn y llwybr i lawr ar hyd y brif grib ac yn parhau i gopa Stob a’ Choire Liath Mhor cyn cael seibiant a phaned mewn lloches wynt. Disgyn yn ol lawr ar ol hyn ac yna dringo i fyny’n serth i gopa Spidean a'Choire Leith, y Munro cyntaf. I lawr wedyn am glogwyn uwchben Coire na Caime. Roedd y cymylau wedi clirio a'r haul wedi codi erbyn hyn a’r grib o’n blaenau’n edrych yn wych. Sgrialu gwych wedyn dros binaclau Am Fasarinen cyn ail-ymuno â'r llwybr ar hyd y grib yn union ar ôl y pinacl olaf. Gwnaethom ein ffordd i fyny am yr ail Munro sef Mullach an Rathain. Yn lle dewis gostwng yn ol am Torridon o’r copa fe benderfynwyd fynd ymlaen, gan ei bod yn ddiwrnod mor braf, hyd at y pen pellaf ar y masîff i Sgorr a’ Chadaill. Disgyniad i lawr llethr glaswelltog serth iawn o’r copa olaf i Loch Torridon yn dilyn nant Allt Ghorbhie cyn cyrraedd llwybr ychydig yn uwch na'r ffordd ac yn dilyn hwn i bentref Torridon cyn cerdded yn ôl i’r hostel.

Beinn Alligin
Yn dilyn diwrnod blinedig ar Liathach fe gychwynodd yr 8 ohonom am Beinn Alligin ar ddiwrnod braf, clir, heulog a wnaeth am ddiwrnod gwerth chweil. Parcio yn y maes parcio ar ochr orllewinol y Abhain Coire Mhic Nobuil cyn dilyn y llwybr i fyny ochr orllewinol y nant hyd at ffens ceirw a gamfa. Parhawyd i fyny i gyrraedd nant yn rhedeg o Coir nan Laogh ac ymlaen i mewn i'r cwm. Ar ôl seibiant byr yn y cwm parhawyd i fyny lwybr serth, creigiog i lwyfandir o dan bwynt trig copa Tom na Gruagaich. Wedyn cychwynon i lawr crib gul, serth a chreigiog i fwlch cyn dechrau dringo’n serth i fyny at Sgurr Mhor am ein cinio. Ar ol ail gychwyn cafom gyfle i edmygu'r “Horns o Alligin” cyn mynd i lawr crib serth arall tuag at y cyrn. Dipyn o sgrialu mewn llefydd wedyn i fyny at y corn cyntaf ac ymlaen dros y ddau olaf a oedd lawer haws na beth oedd wedi edrych o bell! Disgyn i lawr o’r corn olaf a dilyn llwybr ar dir gwastad am dipyn cyn iddo newid i fod yn eithriadol o serth ar ddiwedd y llwyfandir o dan y trydydd corn. O waleod y dyffryn buom yn dilyn llwybr i afon Abhainn Coire Mhic Nobuil a chroesi pont droed cyn parhau i lawr i'r maes parcio am beth amser yn ol i lawr y dyffryn.

Slioch
Yn dal i fanteisio ar y tywydd braf fe benderfynwyd mynd i ddringo Slioch ar y trydydd diwrnod. Cychwyn o faes parcio ar ddiwedd llwybr garw yn Incheril a dilyn llwybr ar hyd ffens heibio mynwent. Ar ol dilyn y llwybr ar hyd afon Kinlochewe drwy goetir cyrraeddwyd glannau Loch Maree. Yn fuan iawn o ochor y llyn roedd y llwybr yn croesi pont a un yn arwain i’r de a ddilynwyd i ddringo’n raddol tuag at Gleann Biannasdail. Cerddom ar hyd yr afon am beth amser cyn dod yn ôl at y llwybr oedd yn arwain yn serth i Coire na Sleaghaich (Corrie’r Slog…?!). Ar ddiwedd y cwm dilynwyd lwybr i fyny ei lethr dwyreiniol hyd at ddau lyn bach lle cafom ginio. Y tu hwnt i'r llynnoedd mi oedd y dringo’n serth iawn gyda thir creigiog rhydd i gyrraedd llethrau glaswelltog tuag at lwyfandir y copa. Er ei bod yn braf a heulog roedd y tywydd wedi newid yma ac roeddem, am ychydig, mewn dipyn o niwl cyn gadael copa Slioch. Dilyn y grib o gopa Slioch tuag at  Sgurr an Tuill Bhain ac o’r fan hon dilyn llethr serth yn disgyn tua'r de i lawr yn ol i fewn i Coire na Sleaghaich cyn ail-ymuno â'r llwybr allan i ddychwelyd i'r car.

Beinn Eight
Pedwerydd ddiwrnod a'r coesau rywsut wedi gwella erbyn hyn. Elen wedi mynd ar daith gydag Arwel y diwrnod hwn a Sian Shakespear wedi ymuno gyda ni. Roedd y tywydd wedi troi erbyn hyn ac yn gymylog iawn. Cawodydd glaw yn rheolaidd drwy gydol y bore ac ar gopa'r Munro cyntaf o’r diwrnod cyn iddi wella fel aeth y dydd yn ei flaen. Cychwyn o faes parcio fyny'r dyffryn yn Torridon ac yna dilyn llwybr da ar hyd Allt a’ Choire Dhuibh Mhòir ac ymlaen o amgylch ochrau Liaithach trwy Coire Dubh Mhoir. Taith bell ofnadwy i fewn o gwmpas gefn Beinn Eighe a gwaelod Sail Mhor i gyrraedd y fynedfa i Coire Mhic Fhearchair. Ar ôl seibiant sydyn yn y cwm parhawyd tuag at y “Triple Buttress” a sgramblo i fyny sgri serth a llac iawn dan draed cyn i ni ddod ar risiau creigiog oedd ddipyn haws i'r chwith. Ar ben y llethr bu angen i ni droi i'r chwith tuag at Ruadh-stac Mhor a stop am ginio ar y Munro cyntaf. Dilynwyd ein camau yn ôl a pharhau ar draws y grib tuag at Sail Mor heb deithio’r holl ffordd i'r copa. Parhau wedyn hyd y grib am y Munro terfynol sef Spidean Coire nan Clach. I ddychwelyd at y car roedd rhaid i ni ddilyn ein camau’n ol i lawr i bwynt trig cyn y copa i bigo llwybr i lawr crib eang, serth a disgyn i fewn i'r dyffryn islaw. Dilyn llwybr hir, igam ogam yn ôl i'r ffordd i ddychwelyd i faes parcio llai yn rhyw filltir i fyny'r ffordd o'r fan cychwyn. Diolch i Chris Humphreys a Gareth Everett am feddwl gwneud siwr bod car bob pen cyn cychwyn!

An Teallach
Ar ôl cyflawni popeth roeddwn wedi gobeithio’i wneud a tywydd ffafriol wedi addo am dydd Iau fe benderfynodd y grwp gwreiddiol sef Elen, Iolo, Sioned, Chris, Steve a Tegwyn yrru i fyny tuag at Dundonnell a parcio mewn cilfan ar ochr yr A832 yn Corrie Hallie. Gareth wedi penderfynnu beicio'r diwrnod hwn. Chris ac Elen wedyn yn mynd i Westy'r Dundonnell a gadael car Elen yno cyn dod yn ôl yng nghar Chris. Arbed taith gerdded o 3 km ar hyd y ffordd ar ôl dod oddi ar y mynydd. Cychwynwn hyd drac trwy goetir yn Gleann Chaorachchain a chroesi pont droed i ddod tuag at Lochan na Brathan. Yma roedd angen troi i’r dde tuag at An Teallach. Roedd y tywydd yn heulog ar y pryd, ond fe wnaeth  waethygu i fod gymylog ac yn oer wrth i ni ennill uchder. Ar ol paned sydyn cychwynwyd dringo i gopa  Sail Liath a golygfa o An Tealleach yn wych o’n blaenau! Collwyd dipyn o uchder wedyn cyn dringo i fyny at Stob Cadha Gobhlach ble cafom ginio cyn yr her o’n blaenau. Parhau ar ôl cinio i fyny Bwtres Corrag Buidhe lle roedd y sgrialu yn cychwyn hyd crib gul gyda mannau agored a nifer o binaclau. Dechreuodd y cymylau  glirio â rhywfaint o heulwen yn dangos tra oeddwn yn sgrialu dros y pinaclau. Gwnaethom barhau i binacl a elwir yn “Lord Berkeley’s Seat” uwchben  Coire Toll an Lochain. Sgrialu i lawr i fwlch a dringo'n serth wedyn i fyny am bwynt trig Sgurr Fiona. Ar ol disgyn yn serth o Sgurr Fiona gyda sgrialu dipyn haws fe gyraeddwyd ar gopa Bidein a'Ghlas Thuill. O'r fan hon roedd angen i ni fynd i lawr sgri serth i gyrraedd bwlch o dywodfaen fflat. Parhawyd i lawr o Sron a Choire tuag at Meall Garbh a dilyn y llwybr i lawr i'r ffordd i Westy Dundonnell

 

Diweddarwyd gan y gwefeistr:

6/14/17 12:02