Beth yw'r Clwb?
Mae Clwb Mynydda Cymru yn hyrwyddo mynydda drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn agored i bawb sy’n hoff o fynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.Drwy fod yn aelod o’r clwb gellid manteisio ar:
- deithiau amrywiol yn Ne a Gogledd Cymru ar ddyddiau Sadwrn neu Sul,
- deithiau llai heriol ar ddyddiau Mercher,
- yswiriant y CMP (Cyngor Mynyddig Prydain) ar gyfer holl weithgareddau’r Clwb,
- ddysgu neu gwella sgiliau a hyder mynydda gydag aelodau mwy profiadol,
- deithiau mynydda tramor neu i rhannau eraill o’r DU yn rheolaidd,
- gefnogaeth ariannol i fynychu cyrsiau trwy’r Bartneriaeth Awyr Agored,
- ddisgownt mewn amryw o siopau offer mynydda
- gyfle i ymarfer neu gwella iaith os yn dysgu’r Gymraeg.
Y Pwyllgor
Y Pwyllgor sy’n gyfrifol am weithgareddau a gweithdrefnau’r Clwb. Etholir y Pwyllgor gan yr aelodau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB).
PWYLLGOR A SWYDDOGION CYFREDOL
Cadeirydd: Elen Huws
Is-Gadeirydd: Keith Roberts
Swyddogion
Ysgrifennydd Cyffredinol ac Aelodaeth: Iolo P. Roberts
Ysgrifennydd Gweithgareddau: Richard Roberts
Ysgrifennydd y Wefan: Iolo ap Gwynn
Trysorydd: Dilys Phillips
Aelodaeth Cyffredinol:
Dewi Hughes
Dwynwen Pennant
Gethin Rowlands
Eurig James
Steve Williams
Erwyn Jones
Mathew Williams
Aelodau Cyfetholedig:
Steve Williams (Cyn-Gadeirydd)
Dogfennau’r clwb (cliciwch yma): cyfansoddiad, cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a’r Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol.