{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mae rhaglen gyfredol gan y clwb eto - gweler y Rhaglen

Newyddion ayyb.


Arddangosfa Flynyddol Arlein Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Cyrraedd y Copa

Yn flynyddol, mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn trefnu arddangosfa ar thema arbennig.
Eleni, unwaith eto, rydym wedi creu arddangosfa ddigidol a fydd yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa eang.
Teitl yr arddangosfa arlein yw ‘Cyrraedd y Copa’ ac mae’n olrhain hanes mynydda yng ngogledd Cymru a hynny drwy gyfrwng deunydd printiedig a llawysgrifau amrywiol o'n casgliadau.

Cliciwch ar y ddolen yma i weld yr Arddangosfa – ‘Cyrraedd y Copa

Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau derbyn negeseuon achlysurol oddi wrth yr Archifdy.
Cofiwch, gellwch dynnu'ch enw oddi ar ein rhestr bostio unrhyw adeg drwy gysylltu á ni'n uniongyrchol ar ebost.


Anrhydeddu Iolo ap Gwynn (Adroddiad gan Gareth Pierce)

Yng nghynulliad blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, anrhydeddwyd Iolo ap Gwynn, ein cadeirydd cyntaf a gwefeistr presennol y Clwb. Derbyniwyd Iolo yn Gymrodor er Anrhydedd fel gwerthfawrogiad o’i gyfraniad gydol oes tuag at hyrwyddo ac addysgu’r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyflwynwyd Iolo gan Gareth Pierce, a soniodd iddo gwrdd â Iolo am y tro cyntaf ar glogwyn Carn Dochan ger Llanuwchllyn, pan yn fyfyriwr ar gwrs preswyl yng Nglan-llyn a Iolo yno yn hyfforddi dringo. Pan gyhoeddodd Iolo ei gyfrol “Mynydda” yn 1978, roedd yn dilyn Ioan Bowen Rees fel un o’r ychydig awduron oedd yn ymdrin â’r maes yn Gymraeg.

O ran y gwyddorau, bu Iolo ar fwrdd golygyddol Y Gwyddonydd yn yr 1980au cyn dod yn olygydd yn 1993 a hefyd lywio’r cylchgrawn newydd Delta a anelai at gynulleidfa ehangach. Pwysleisiai Iolo werth cyhoeddiadau gwyddonol mewn byd lle mae’n hollbwysig bod gennym fel dinasyddion sylfaen dda o wybodaeth wyddonol gyfredol.

Wedi graddio mewn Swoleg yn Aberystwyth a chwblhau PhD, arbenigedd gwyddonol Iolo yw bywyd y gell a microsgopeg electron. Cafodd gyfle ar un adeg i weithio yn Davos yn y Swisdir, lle roedd ei ymchwil i adlyniad celloedd ac i’r protein colagen o fewn ffibrau’r madruddyn yn cysylltu gyda’r gwaith orthopaedig adferol a wneir yno. Roedd Iolo hefyd yn un o’r tri wnaeth arloesi drwy ddatblygu’r cylchgrawn eCM (European Cells and Materials) fel cylchgrawn safonol ar-lein mynediad agored ymhell cyn bod hynny yn ffasiynol.

Mewn perthynas ag addysg Gymraeg, soniodd Gareth fel y bu i Iolo o 2002 gadeirio Canolfan Edward Llwyd,  a oedd yn ganolfan rithiol i ddysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Roedd hyn ddegawd cyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn dilyn hynny bu’n cadeirio Bwrdd Prosiect Gwyddorau’r Coleg ac yn cynghori ar ddyfarnu ysgoloriaethau ymchwil.

Cyfansoddodd Rhys Dafis englyn i gyfarch Iolo ar yr achlysur:

         Dr Iolo ap Gwynn

     O ben copaon y byd – i waelod
           manylyn gwyrth bywyd,
       gwelaist drwy ystyr golud
       un gell y cyfan i gyd.

Wrth dderbyn yr anrhydedd a diolch i’r Coleg, soniodd Iolo bod pethau wedi symud ymlaen ers y blynyddoedd anodd pan oedd ysgolion cyfun cyfrwng Cymraeg yn ceisio dilyn polisi o gyflwyno gwyddoniaeth drwy’r Saesneg yn unig, a pryd y bu raid dweud rhai gwirioneddau plaen wrth swyddogion addysg. Credai bod diffyg hyder wedi arwain at y ffordd hon o feddwl, a hefyd ddiffyg cefndir a fyddai’n rhoi sylweddoliad o fanteision dwyieithrwydd. Roedd hynny’n cyferbynnu’n llwyr â’i brofiad tra’n byw a gweithio yn y Swistir, lle byddai trafod gwyddoniaeth mewn tair iaith yn digwydd yn hollol naturiol.
Cyfeiriodd Iolo at ymchwil diweddar gan Osian Penri James sy’n cadarnhau manteision dysgu gwyddoniaeth mewn dwy iaith: mae dysgu mewn dwy iaith yn hybu dealltwriaeth, tra bod defnyddio un iaith yn unig yn gallu arwain at wybodaeth mwy arwynebol.

Dywedodd Iolo ei fod ar y cyfan yn optimistaidd o ran safle’r Gymraeg yn y tymor hir, a bod y dulliau dysgu o bell y mae’r Coleg Cymraeg yn eu hybu wedi bod yn ffafriol yng nghyfnod y pandemig, gan nad oes raid i ddarlithwyr a myfyrwyr fod yn yr un lle, a dymunodd yn dda i’r Coleg ar gyfer y dyfodol.


Map o Gwm Idwal, sy'n nodi nifer o enwau hyfryd sydd yn anghyfarwydd i lawer, a cherdd wych gan Tudur Dylan sy'n crynhoi ein meddyliau a'n dyheadau yn ystod y cloi yma.

Cliciwch arno i'w chwyddo

Rhwng Penrhos a Phenchwintan (Tudur Dylan Jones)

Barddas, Mehefin 2011

Rhwng Penrhos a Phenchwintan un hwyr o Fai,
rhwng heddiw a fory, a rhwng dwy res o dai,

mae’r car yn aros... i’r llygaid gael troi
tua’r mynyddoedd, ac i’r enaid ffoi

heibio i stori a miri Coed Mawr,
heibio i eiliad a munud ac awr,

aros i gerdded y llwybrau maith,
a dringo, heb gerdded na dringo chwaith,

dyheu am gael bod ar lan Ffynnon y Gwas,
neu nôl gyda’r wawr wrth y llyn yng Nghwm Glas,

neu ddilyn yr afon yn y Ceunant bach
mewn bwlch rhwng dau fynydd yr awyr iach.

Rhwng dwy res o dai mae’r alwad yn dod
i’r lle nad yw dyn nac amser yn bod,

ac fe ddwed yr enaid yn dawel, ‘Pam lai,’
rhwng Penrhos a Phenchwintan un hwyr o Fai.


Partneriaeth Awyr Agored

Mae gan y Bartneriaeth gynllun ar gyfer pobl ieuainc ddi-waith yng Ngwynedd sy'n cynnig hyfforddiant am ddim i rai â diddordeb mewn gweithio yn y sector hamdden awyr agored. Gweler yr atodiad am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â simon.jones@partneriaeth-awyr-agored.co.uk.


GWYBODAETH BYW AR Y WE O GOPA'R WYDDFA

Gallwch gael gafael ar adroddiadau tywydd ayyb o gopa'r Wyddfa a llun gwegamera (yr Wyddfa o Dinorwig) drwy ddilyn y ddolen HON i wefan WyddfaFyw.


CLWB MYNYDDA CYMRU YN EISTEDDFOD SIR CONWY 2019
Ym mis Awst 1979 daeth criw at ei gilydd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon i sefydlu Clwb Mynydda Cymru. Bu aelodau'r Clwb yn dathlu penblwydd y Clwb yn 40 yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst

Presenoldeb ar y maes - gweler yr adroddiad gyda lluniau

Taith i Ddathlu’r Deugaindydd Sadwrn, 3 Awst.  Gweler yr adroddiad

Cyfarfod yn y Babell Lêndydd Llun, 5 Awst. Cyfarfod arbennig am 2.15 i ddathlu pen-blwydd y clwb. Bu Gerallt Pennant yn holi Dei Tomos, Gwen Aaron, Jeremy Trumper, Gareth Pierce a Morfudd Thomas am eu profiadau o fynydda. Lluniau YMA
A gellir gweld rhan o'r rhaglen ar S4C YMA.

Taith Eisteddfod y Clwb
dydd Iau, 8 Awst.  Gweler yr adroddiad gyda lluniau

Lansio ap TRO yn yr Eisteddfod
dydd Gwener, 9 Awst.

Darlith goffa Llew Gwent
dydd Gwener, 9 Awst

Cystadleuaeth adnabod y mynyddoedd: Llongyfarchiadau i’r canlynol:

  1. Dylan Griffiths
  2. Gerallt Pennant
  3. Meleri Jones
  4. Rhodri ap Gwyn
  5. Rhodri Dwyfor
  6. Luc Evans
  7. Telor Owain Jones
  8. Dafydd Piercy
  9. Rhun Edwards
  10. Dwynwen Pennant
  11. Idris Lloyd Jones
  12. Sian Williams
  13. Morfudd Thomas
  14. Eryl Owain
  15. Nia Williams
  16. Anet Thomas

Os am geisio adnabod y mynyddoedd mynnwch olwg YMA
A'r atebion cywir YMA

Cafwyd sylw hefyd ar wefan Cymru Fyw


PANEL POLISIAU/YMATEB

Mae'r clwb yn derbyn nifer cynyddol o geisiadau am ymateb i amrywiol gyhoeddiadau, ymgynghoriadau, dogfennau ac ati yn ymwneud â mynydda a chefn gwlad yn gyffredinol. Mae'n bwysig bod llais y clwb a, thrwy hynny, llais mynyddwyr o Gymry i'w glywed. Penderfyniad y Cyf Cyff oedd sefydlu panel neu bwyllgor ad-hoc fyddai'n cyfarfod (neu'n trafod ar y wê) yn achlysurol yn ôl yr angen i ystyried y materion hyn. Os oes gennych ddiddordeb ac yn barod i gynnig eich hun, yna cysylltwch â Iolo  (07854 656351 / ioloroberts289@btinternet.com).


LLWYBYR LLECHI - BBC

https://www.facebook.com/Newyddion9/videos/376344442820714/


CWRS CYMORTH CYNTAF

Mae nifer o aelodau wedi mynegi diddordeb mewn cwrs cymorth cyntaf, rhai ohonynt eisiau diweddaru eu cymwyster presennol. Byddai'r cwrs yn addas ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio tuag at gymwyster arwain mynydd ond byddai'n fuddiol i bawb fyddai eisiau gwella eu hymateb i sefyllfa annisgwyl. Mae Raymond Griffiths yn barod i gyd-lynnu ar ran y clwb ac i drafod efo'r Bartneriaeth Awyr Agored. Byddai'r Barneriaeth yn barod i drefnu cwrs cyfrwng Cymraeg yn y gogledd orllewin. Pe byddai galw o rannau eraill o Gymru, byddai'r clwb yn ceisio trefnu ar eu cyfer hwy hefyd. Croeso i chi sôn wrth eraill, nad ydynt yn aelodau.

Os oes gennych ddiddordeb, neu angen mwy o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu â Raymond, os gwelwch yn dda. Byddai'r cwrs dros ddeuddydd, a hoffai Raymond gael gwybod a fyddai'n well gennych gwrs dros y Sul neu yn ystod yr wythnos. 

Cysylltwch ag ef:  rbryngolau@aol.com; 01348 891688 / 07967 259722.


'AP' CLWB MYNYDDA CYMRU
Sefydlwyd ‘ap’ newydd Clwb Mynydda Cymru ar gyfer ffonau clyfar a phadiau.
Mae’r ‘ap’ yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwefan y clwb mewn rhyngwyneb newydd a rhwydd ei ddefnyddio.
Mae’r ‘ap’ ar gael ar ‘Play Store’ Android/Google yn ogystal a ‘App Store’ iOS (Apple).
Dim ond chwilio am ‘Clwb Mynydda Cymru’ sydd angen ac yna cyffwrdd ‘Install’.


COPAON CYMRU

Copaon Cymru
Mae ail-argraffiad COPAON CYMRU ar gael yn y siopau, yn dilyn gwerthiant rhagorol o 1000 o gopiau o'r argraffiad cyntaf.
Mae gan Wasg Carreg Gwalch wasanaeth archebu ar-lein.
Mae'n gyfrol hardd dros ben, gyda lluniau trawiadol a mapiau lliw yn cyflwyno 48 taith i dros gant o brif gopoan Cymru - ac mae pawb sydd wedi gweld y llyfr yn cytuno ei fod yn glamp o fargen am £15.


DISGOWNT I AELODAU!

SIOP CRIB GOCH
Mae Siop Crib Goch yn Llanberis yn cynnig disgownt hael o 15% oddi ar bris llawn popeth yn y siop (ond bwyelli Gransfors Bruks) i aelodau'r Clwb sy'n dangos cerdyn aelodaeth wrth dalu.
Mae'r cynnig yn cymharu'n ffafriol iawn gyda'r hyn sydd ar gael gan siopau cadwyn.
Mae nhw'n gwerthu offer gan nifer o gwmniau, gan gynnwys Paramo - dillad sydd ddim ond i'w cael yn y siopau llai, Berghaus, Keela, Buffalo, Sherpa, Fjallraven, Hanwag, Aku, Keen a llawer mwy – felly mae digon o ddewis.
Dyma'r unig siop yng Nghymru sydd yn annibynnol ac ym mherchnogaeth Cymry Cymraeg.
Mae pawb o'r staff  yn siarad Cymraeg (heblaw Rich, o Seland Newydd, sy'n ddysgwr).

COTSWOLD
Gostyngiad wrth brynu dillad/offer mynydda
Mae cwmni Cotswold yn cynnig 15% o ostyngiad i aelodau Clwb Mynydda Cymru a nifer o siopau eraill yn cynnig rhyw ostyngiad neu'i gilydd.

TRESPASS
Mae siopau Trespass wedi cytuno i roi 10% i ffwrdd oddi ar unrhywbeth yn eu siopau ym Mwllheli, Abersoch a Bangor i aelodau CMC. Rhaid dangos eich cerdyn aelodaeth.
I aelodau yn y De yna mae gan y cwmni ddwy siop – Penybont a Glyn Ebwy.

SIOPAU CUNNINGHAMS
Mae siopau Cunninghams yn cynnig 10% o ddisgownt i aelodau’r clwb.

SIOP ANTUR STINIOG
Gwerthir dillad a nwyddau gweithgareddau awyr agored, fel menter gymunedol. Nôd arall ydi galluogi'r gymuned i elwa ar gyfleon economaidd a hyfforddi yn y maes.
Amcanion ar dudalen ar y wefan
Disgownt o 15%, ag eithrio offer DMM a Yaktrax, i aelodau'r Clwb Mynydda sy'n dangos cerdyn aelodaeth.
Ar agor rhwng 9 a 5 dydd Llun hyd Sadwrn ac ar y Suliau hefyd yn yr haf

NODER:Dylech ofyn mewn unrhyw siop a oes gostyngiad i'w gael i aelodau clybiau mynydda gan grybwyll os oes angen bod CMC yn perthyn i'r BMC ("BMC affiliated" yn eich Saesneg gorau!)


PARTNERIAETH AWYR AGORED
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ewch i'w GWEFAN


RHESTR O GOPAON CYMRU - AR WICIPEDIA
Mae rhestr gyflawn o gopaon Cymru ar gael ar Wicipedia. Ceir dipyn o fanylion am bob un hefyd - a gallwch ychwanegu atynt neu ei golygu.


LLAWLYFR GWYN GOGLEDD CYMRU
Lawrlwythwch lyfryn yn cynnwys canllawiau ar gyfer sut i osgoi niweidio
cynefinoedd gwantan yn eryri yn ystod y gaeaf oddi YMA


WAL DDRINGO YN HARLECH
Mae yna wal ddringo ar safle Pwll Nofio Harlech.

Aeth llawer o waith i adeiladu un o'r waliau dringo gorau yng Ngwledydd Prydain. Mae'r wal yn cynnig her i ddringwyr o bob safon felly os nad ydych wedi dringo o'r blaen mae cyfle i chi feithrin y grefft ar eich stepen drws.

Mae'r amserlen a'r prisiau i'w cael ar eu gwefan.
Yn ogystal â wal ddringo, mae yna gaffi newydd ar fin agor a derbynfa newydd sbon wedi ei datblygu yn y pwll nofio.
Mae'r pwll nofio angen trigolion yr ardal i gefnogi'r holl atyniadau gan gynnwys y wal ddringo a'r pwll nofio felly dewch yn llu!!