Rhaglen Gyfredol Clwb Mynydda Cymru
Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar y daith
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Mae arweinyddion yn cadw’r hawl i newid dyddiadau teithiau o’r dydd Sadwrn i ddydd Sul a vice versa, weithiau oherwydd y tywydd neu amodau/digwyddiadau eraill. Byddan nhw hefyd angen gwybod rhif ffôn ac enw cyswllt mewn argyfwng. Gwahoddir y rhai sydd am ymuno â’r teithiau rannu gwybodaeth, yn gyfrinachol, gyda’r arweinydd am unrhyw gyflwr meddygol os y bydd hynny o help iddyn nhw mewn argyfwng yn ystod y daith.
Mae’r Clwb yn graddio teithiau i adlewyrchu natur eu her. Bydd yr eicon a fydd yn cyd-fynd â lefel yr her yn ymddangos gyda disgrifiad pob taith (drwy clicio/cyffwrdd yr eicon gallwch weld y graddfeydd yn llawn). Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.
Mae croeso i unigolion nad ydynt yn aelodau i ymuno ag un o deithiau’r Clwb er mwyn ‘blasu’r’ profiad. Fodd bynnag, aelodau’n unig a gaiff ymuno â theithiau sydd wedi’u graddio’n ddu.
Mae amodau gaeafol yn cynyddu’r her wrth fynydda, e.e. mae taith a roddir gradd gwyrdd iddi yn yr haf yn gallu haeddu du yn y gaeaf. Mae’r Clwb yn disgwyl i aelodau sy’n ymuno â theithiau mewn amodau gaeafol gario’r offer priodol, e.e. caib rhew, pigau bach/mawr, lamp pen ynghyd â’r gallu i’w defnyddio.
Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.
Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'
Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA
Sul 22 Rhagfyr *****GOHIRIWYD OHERWYDD TYWYDD DRWG*****
O Ben-y-Benglog i Fethesda
08.15
Maes parcio Pantdreiniog ynghanol Bethesda, i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.
Dal bws T10 am 08.25 o Sgwâr Victoria - SH 622 668 - i Ben-y-Benglog. Cerdded drwy Cwm Idwal, i fyny heibio’r Twll Du at Llyn y Cŵn. Dros gopa’r Garn ac yna i lawr yn serth i Fwlch y Cywion a chopa’r Foel Goch. Cerdded wedyn ar hyd copaon Moel Perfedd a Charnedd y Filiast cyn disgyn at Lôn y Lord ac yn ôl i Fethesda. Peint i orffen.
14 km/9 milltir a 1,000 m/3,280 o ddringo.
Dwynwen Pennant 07720 057068 Ffôn/WhatsApp
Sadwrn 4 Ionawr
Yr Wyddfa
09.30
Dechrau cerdded o Ben-y-pas tua 9.30, wedi i fysiau gyrraedd am 9.25 o Lanberis (9.10) a Nantperis (9.15), o Fetws-y-coed (9.03), Capel Curig (9.15) a Phen y Gwryd (9.22) ac o Feddgelert (9.00).
Yn ôl yr arfer, gallwn rannu’n ddau grŵp ym Mwlch y moch gan naill ai ddilyn llwybr PyG i’r copa neu groesi Crib Goch a Chrib y Ddysgl gan ddychwelyd ar hyd llwybr y Mwynwyr. Cofiwch gadw llygaid ar y rhagolygon tywydd rhag ofn (neu gan obeithio!) y bydd angen offer mynydda gaeaf.
PYG Crib Goch
Eryl Owain
Sadwrn 11 Ionawr
Cylchdaith Cwm Oergwm
09.00 09.15
Pentref Llanfrynach (SO 075 257). Ymgynnull ar y groesffordd dan yr arwyddbost ‘Cantref’.
Esgyn y cwm gan ddilyn Nant Menasgin, fyny crib Cefn Cyff i gopa Fan y Big. Troi am Gwm Graig Cwmoergwm, Craig Chwareli a Bwlch y Ddwyallt. Cadw ar y grib ac ymlaen i Glawdd Coch. Tua 10 milltir.
Alun Wyn Reynolds
Sadwrn, 11 Ionawr *****GOHIRIWYD *****
Pedol Nantmor
09.15 09.30
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol rhwng Aberglaslyn a Nantmor – SH 597 462 – peiriant tocyn parcio.
Cylchdaith amrywiol ei thirwedd y gellir ei haddasu’n ôl y tywydd, i gynnwys Yr Arddu, Cnicht a Llyn Dinas a llymaid cynhesol i orffen.
Tuag 13 km/8 milltir ac esgyniad o 925 m/3,035'.
Rhys Dafis 07946 299940 rhysdafis@aol.com
Dydd Sul, 12 Ionawr
Y Carneddau
8.45 9.00
Cyfarfod ym maes parcio Pantdreiniog – i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen (SH 6250 6678).
Cerdded trwy Gerlan ac ymlaen i gyfeiriad Yr Elen a Charnedd Llywelyn. Efallai y caiff y daith ei newid mymryn ar y diwrnod yn unol ag amodau ac ati. Cysylltwch â Dwynwen os ydach chi am ymuno â hi a chofiwch bod rhaid dod â phigau a chaib efo chi.
Dwynwen Pennant
Sul 19 Ionawr
Y Gyrn Ddu
09.15 09.30
Parcio ar yr hen ffordd ger rhes tai Tan-y-graig. SH385468.
Dilyn hen lwybrau chwarel at ysgwydd Gyrn Ddu, yna taro i fyny’n serth i’r copa. Croesi bwlch i’r gogledd-ddwyrain i gopa Gyrn Goch, yna cylchu topiau cwm eang Corsyddalfa i Fwlch Mawr. Ymuno â’r llwybr sy’n croesi o Fwlch Derwin i ddod yn ôl at y chwarel ac yna’r man cychwyn.
Amrywiaeth o lwybrau – rhai da; dringo dros gerrig mawr i gopa Gyrn Ddu (gellir hepgor y copa yma); ambell lwybr annelwig trwy dir go wlyb.
Tua 12 km/7.5 milltir ac esgyniad o 660 m/2,200'.
Elen Huws
Sadwrn 1 Chwefror
Pedol Croesor o chwith
08.00 08.15
Maes parcio Croesor – SH 632 447.
Cerdded i fyny’r lôn am y goedwig a dilyn y grib i gopa Moelwyn Bach ac yna dilyn y llwybr ar hyd Craigysgafn i gopa Moelwyn Mawr. Lawr i Chwarel Rhosydd am ginio. Croesi’r tir corsiog ac anelu am gopa Cnicht ac yna nôl lawr i Groesor.
15 km/9 milltir ac esgyniad o 1,178 m/3,864'.
Gethin Rowlands 07974 122557 gethinrhys@btinternet.com
Sadwrn 8 Chwefror
Tri Llyn, Copa a Lloches
08.00
Ger tafarn y Bedol, Tal-y-Bont, Dyffryn Conwy - SH766 688 - am 08.00 er mwyn rhannu ceir i sicrhau fod gennym le i barcio yng Nghwm Eigiau (does dim ond lle i rhyw 12 car yno ar y mwyaf).
Cychwyn o'r maes parcio bychan ger argae Llyn Eigiau am 08.30 a cherdded i fyny’r cwm heibio hen ffermdy Cedryn i chwarel Cwm Eigiau ac anelu tua’r gogledd am Foel Grach i gyrraedd y gefnen lydan sy’n mynd â ni i gopa Carnedd Llywelyn. Wedyn, gostwng i'r dwyrain at Graig Eigiau a Melynllyn cyn disgyn i Lyn Dulyn. Byddan ni’n ymweld â Lloches Dulyn am baned cyn dilyn y llwybr yn ôl i'r maes parcio.
17.5 km/11 milltir ac 800 m/2,600' o esgyniad dros dir garw a gwlyb.
Stephen Williams 07772 546820 llechid230271@gmail.com
Sadwrn 15 Chwefror
Ardal Abercraf - i’w chadarnhau
Manylion y daith i ddilyn.
Paddy Daley 07527 527864 postpads@gmail.com
Sadwrn 15 Chwefror
Carnedd y Filiast - Waun Garnedd y Filiast - Carnedd Llechwedd Llyfn
09.00 09.15
Cilfan parcio ger cofeb pentref Capel Celyn ar yr A4212 Trawsfynydd i Bala: SH 84879 41367.
Cychwyn i fyny’r Oerfa ac yn serth ar hyd y lôn drol am Garnedd y Filiast, ymlaen wedyn am Waun Carnedd y Filiast, Bwlch y Pentre a Thrum Nant Fach Troi yn ôl ar ein hunain ac anelu am Garnedd Llechwedd Llyfn ac yn ôl i lawr gan fynd dros gopa Foel Boeth.
19 km/12 milltir - tua 6-7 awr hamddenol ac ar ddiwrnod braf golygfeydd gwych o Feirionydd.
Keith Roberts 07789 911437 keithtan@hotmail.co.uk
Sul 23 Chwefror
Pedol Elidir
08.45
Giât Marchlyn, Deiniolen - SH 59604 6311 - i rannu a symud ceir i Allt Ddu (cofeb chwarelwyr) Dinorwig.
Pedol Elidir ar hyd lôn a llwybrau chwarel Garret. Tir anwastad a ‘chydig o sgrialu hawdd. Codi'n serth hyd at Bwlch Melynwyn ac yna dros gerrig anwastad hyd at Fwlch y Brecan. Ymlaen dros Fynydd Perfedd a Charnedd y Filiast a cherdded yn ôl at y ceir ym Marchlyn.
Tua 11 km/7 milltir ac esgyniad o tua 854 m/2,800', tua 5 awr.
Sandra Parry 07738 957337 dewsan_p@hotmail.com
Sadwrn 1 Mawrth
Y Glyderau o Ben-y-Gwryd
09.00 09.15
Y gilfan hir - SH 66537 55948 – ochr Capel Curig i Ben-y-Gwryd.
Cychwyn o'r gamfa wrth ben gogleddol gwesty Pen-y-Gwryd a dilyn Llwybr y Mwynwyr i Lyn Caseg Fraith a throi i'r dde am y Foel Goch cyn troi yn ôl a mynd am Glyder Fach ac wedyn Glyder Fawr. Awn ar hyd y fraich uwchben Llyn Cwm Ffynnon i lawr am Ben y Pas a dilyn y llwybr o dan y lôn yn ôl i Ben y Gwryd.
12 km/7.5 milltir a 924 m/3,032' o esgyniad.
Siân Shakespear 07890 613933 sianetal@hotmail.com
Sadwrn 8 Mawrth
Pen y Bryn Fforchog a Glasgwm.
08.45 09.00
A470, Cilfan Bwlch yr Oerddrws, SH80225 17018.
O’r gilfan, croesi’r ffordd a thros y gamfa, wedyn yn serth i fyny ‘Ochr y Bwlch’ ac yna dilyn y llwybr sy’n fwy graddol tuag at y copa cynta, Pen y Bryn Fforchog. O’r copa, ymlaen i gyfeiriad deheuol heibio Pen yr Helfa, Tap Mawr a’r Graig Wen i ddilyn trac coedwig at Bwlch Craig Cywarch (gallwn esgyn Y Gribyn a Foel Benddin os dymunir). Yna, anelu i fyny dros Graig Cywarch a Bwlch y Gesail at Lyn y Fign (yr unig lyn yng Nghymru sydd wrth copa 2,000’+) ac at gopa Glasgwm, pwynt ucha’r daith. Dilyn llwybr i lawr heibio Bwlch y Fign yn ôl i gyfeiriad Pen y Bryn Fforchog, ac yn ôl i’r man cychwyn.
Gall rhannau o’r daith fod dros dir gwlyb, corsiog a di-lwybr mewn mannau. Peint yn y Cross Foxes i ddarfod.
16 km/10 milltir ac 884 m/2,900' o esgyniad.
Erwyn Jones 07717 287915 erwynj@aol.com
Sadwrn 8 – Sadwrn 15 Mawrth
Taith aeaf yr Alban 2025
Am y pedwerydd gaeaf yn olynol, Gwesty’r Crianlarich Best Western Hotel fydd llety’r clwb unwaith eto ar gyfer wythnos o fynydda gaeaf yn yr Alban. Mae’r pentref yn ganolfan hwylus iawn ar gyfer nifer o fynyddoedd dros 3,000’ ac mae llwybrau cerdded tir is, e.e. The West Highland Way, Rob Roy Way yn agos hefyd.
Dyddiad cau ar gyfer y daith oedd 9 Rhagfyr 2024 ond mae croeso i aelodau wneud eu trefniadau llety eu hunain ac ymuno â’r teithiau.
Cysylltwch â Keith Roberts am fwy o wybodaeth: 07789 911437 crianlarich2025@outlook.com
Sadwrn 22 Mawrth
Taith gylch ardal Castell Carreg Cennen
09.15 09.30
Maes parcio Castell Carreg Cennen SN 666 194.
Taith amrwyiol yn cynnwys ychydig ar heolydd bychain a llwybrau trwy gaeau, a pheth ar y mynydd agored heb lwybrau. Castell Carreg Cennen, Tair Carn Isaf, Tair Carn Uchaf, Carn Pen-y-clogau, ac yn ôl i'r castell.
Tua 18 km/11 milltir ac esgyniad o 700 m/2,300'.
Digby Bevan a Helen Williams 07870 663574 digby.bevan@hotmail.com
Sadwrn 22 Mawrth
Moel Hebog
09.15 09.30
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddgelert ger yr orsaf rheilffordd (bydd angen talu) SH587481.
Dringo o Feddgelert i gopa Moel Hebog (783 m) a disgyn yn serth wedyn i Fwlch Meillionen. Yn ein blaenau dros Foel yr Ogof (655 m) a Moel Lefn (638 m) cyn mynd i lawr i Fwlch Cwm-trwsgl. Gwneud ein ffordd yn ôl i Feddgelert ar hyd y llwybrau drwy’r goedwig a Lôn Gwyrfai.
12 km/7.5 milltir ac esgyniad o 915 m/3,002'. Paned neu beint ym Meddgelert ar ddiwedd y daith.
Iolo Roberts 07854 656351 ioloroberts289@btinternet.com
Sadwrn 29 Mawrth
Pedol Cwm Llan
08.45 09.00
Pont Bethania SH627 506.
Parcio yn y gilfan ger Caffi Gwynant neu faes parcio Pont Bethania (tâl). Dilyn llwybr Watkin drwy Gwm Llan cyn troi i fyny a dilyn y wal sy'n arwain at gopa'r Aran. Disgyn i Fwlch Cwm Llan cyn dringo'n eithaf serth i fyny Allt Maenderyn am Fwlch Main a chopa'r Wyddfa. Am adra ar hyd Bwlch y Saethau a Bwlch Ciliau a dilyn llwybr Watkin yn ôl i'r man cychwyn.
Tuag 8 awr, 14.5 km/9 milltir ac esgyniad o 1,219 m/4,000'.
Trystan Evans 07900 262453 trystanllwyd@outlook.com
Sadwrn 5 Ebrill
Daear Fawr - Simdde Ddu - Arenig Fawr.
09.00 9.15
Cilfan Parcio ger hen chwarel wenithfaen Arenig, ar y lôn i Lidiardau SH 83003 39203. Mae'r nifer o lefydd parcio yn gyfyngedig, felly, efallai y bydd angen i rai barcio ger cyffordd y lôn o Lan Ffestiniog ar yr A4212 i Bala.
O’r man cyfarfod, anelu trwy’r chwarel nes cyrraedd pen Ffridd y Coed, troi wedyn am ysgwydd Daear Fawr a Simdde Ddu wrth gerdded yn serth iawn am gopa ysgwydd ogleddol Arenig Fawr. O'r fan yma, mynd am gopa Arenig Fawr. Ymlaen wedyn am Garreg y Diocyn ac yn ôl ar hyd trac fferm Amnodd Wen. Tir gwlyb a serth mewn mannau. Torch Pen yn hanfodol.
13.5 km/8.43 milltir tua 6-7 awr ac esgyniad o 873 m/2,864'.
Keith Roberts 07789911437 keithtan@hotmail.co.uk
Sadwrn 12 Ebrill
Cribau a’r Lliwedd
09.30
Maes parcio Pen-y-Pass SH 647 556. Mae bysus i’r man cyfarfod o gyfeiriad Pen-y-Gwryd a Llanberis.
Cerdded at Lyn Glaslyn ar hyd Llwybr y Mwynwyr a sgrialu (gradd 1) i fyny’r Cribau i Fwlch Ciliau. Ymlaen wedyn dros gopaon y Lliwedd a dringo lawr i lannau Llyn Llydaw a dilyn y llwybr yn ôl i Ben-y-Pass. Er nad ydy hon yn daith hir iawn, rhoddir gradd ddu iddi oherwydd yr elfen sgrialu.
11 km/7 milltir ac esgyniad o 800 m/2,624'
Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Sadwrn 19 Ebrill
Y Carneddau o Lanfairfechan
09.00 09.15
Maes parcio promenâd Llanfairfechan – SH 679 754.
Cerdded i fyny trwy bentref Llanfairfechan i gopa Garreg Fawr ac anelu am gopaon y Drum, Foel Fras a Charnedd Gwenllian. Troi lawr am Bera Bach a’r Aryg a mynd i gyfeiriad y gogledd cyn cyrraedd Gyrn Wigau gan anelu i gyfeiriad Moel Wnion. Disgyn i lawr i bentref Abergwyngregyn ac un ai dal y bws yn ôl i Lanfairfechan neu gerdded yno ar hyd Llwybr yr Arfordir.
25.5 km/16 milltir ac esgyniad o 1,090 m/3,576' (bws).
29 km/18 milltir ac esgyniad o 1,091 m/3,579' (cerdded Llwybr yr Arfordir).
Matthew Williams 07376 014679 matt7399@gmail.com
Sadwrn 26 Ebrill
Diwrnod Ymarfer Map a Chwmpawd efo Dwynwen a Manon
Cyfle i ymarfer mordwyo yn y mynyddoedd gan ddefnyddio map a chwmpawd.
Y syniad ydi rhoi cyfle i rai sydd heb brofiad yn ogystal â chodi hyder a sgiliau aelodau mwy profiadol. Byddwn yn gweithio mewn dau grŵp yn dibynnu ar lefel profiad ond yn yr un ardal. Os bydd y tywydd yn ffafriol ac aelodau yn awyddus mi allwn gario ymlaen a gwneud sesiwn mordwyo nos.
Er mwyn trefnu’r diwrnod rhowch wybod i Dwynwen os ydych am ymuno erbyn dydd Mawrth, 22 Ebrill os gwelwch yn dda.
Dwynwen Pennant 07720 057068 Text/WhatsApp/Ffôn
Sadwrn 3 - Llun 5 Mai (penwythnos Gŵyl y Banc)
O’r Ffin i’r Môr dros y Mynyddoedd
Taith tri diwrnod o gerdded a gwersylla.
Cychwyn ger pentref Rhydycroesau sydd tua 4 milltir i’r gorllewin o Groesoswallt.
Cerdded i gyfeiriad Cwm Maen Gwynedd cyn mynd dros fynyddoedd y Berwyn. Ymlaen wedyn dros Goedwig Penllyn am Lanuwchllyn. Dros Aran Benllyn ac Aran Fawddwy, ymlaen am Waen Oer ac wedyn dros Gader Idris a Thyrrau Mawr cyn disgyn i’r arfordir yn y Bermo.
Y syniad ydi cael trên o Fangor i Gobowen i ddechrau’r daith a chael trên o Bermo i Port ar ddiwedd y daith.
Bydd tipyn o waith trefnu lift i Fangor/o Port a threfnu gadael rhywfaint o offer/bwyd i bigo fyny yn Llanuwchllyn felly rhowch wybod i Dwynwen os ydych am ymuno erbyn Dydd Sadwrn, 26 Ebrill os gwelwch yn dda.
Dwynwen Pennant 07720057068 Text/WhatsApp/Ffôn.
Taith Haf 2025, Y Cairngorms, 17-24 Mai.
Mae taith haf y Clwb eleni yn ardal y Cairngorms lle mae 'na ddewis helaeth iawn o fynyddoedd Munro i'w dringo.
Am ragor o fanylion, trefnu lle ar y daith a dyraniad ystafelloedd, cysylltwch â Keith Roberts ar cmcaviemore2025@outlook.com Gofynnwn i chi ddefnyddio’r cyfeiriad ebost yma’n unig wrth drefnu lle ar y daith hon.
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.