Ymaelodi
Ymaelodi
Tâl aelodaeth: £35 y flwyddyn i bawb dros 18, i’w dalu ym mis Ionawr fel arfer.
Ffurflen ymaelodi (cliciwch yma)
Dylid ymaelodi â’r Clwb, ar ôl blasu un gweithgaredd, er mwyn manteisio ar y canlynol:
- teithiau amrywiol yn Ne a Gogledd Cymru ar ddyddiau Sadwrn,
- teithiau llai heriol ar ddyddiau Mercher,
- dysgu neu gwella sgiliau a hyder mynydda gydag aelodau mwy profiadol,
- teithiau mynydda tramor neu i rhannau eraill o’r DU yn reolaidd,
- cefnogaeth ariannol i fynychu cyrsiau trwy’r Bartneriaeth Awyr Agored,
- disgownt mewn amryw o siopau offer mynydda
- ymarfer neu gwella iaith os yn dysgu’r Gymraeg
- yswiriant damwain personol y CMP (BMC)
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain.
