HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

FFURFLENI YMAELODI Â CHLWB MYNYDDA CYMRU


Mae ymaelodi'n hawdd a dim ond yn costio £35 y flwyddyn!

Mae’n cynnwys aelodaeth o’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) sy’n darparu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus i’r Clwb a’i aelodau ac ers 1 Ionawr 2026 yswiriant damwain personol hefyd. Mae rhagor o fanylion ar wefan CMP - https://www.thebmc.co.uk/en/10000-personal-accident-cover-added-to-bmc-club-membership

Cliciwch ar y llun isod i gael y ffurflen ymaelodi o'ch dewis
Fersiynau:
RTF
– gellir ei llenwi gan ddefnyddio rhaglen fel MS Word, cyn ei hargraffu
PDF – a ellir ei hargraffu a'i llenwi â llaw.

Byddwch angen Acrobat Reader i agor yr un PDF - sydd i'w gael am ddim gan Adobe.

Argraffwch eich copi dewisedig a llenwch y bylchau

Ymdrinnir â’ch manylion yn unol â Pholisi Preifatrwydd y Clwb sydd i’w gael YMA

Yna anfonwch y ffurflen, wedi eu cwbwlhau, gyda ebost at:

Dilys Phillips, Trysorydd Clwb Mynydda Cymru, craflwyn2@gmail.com

Edrychwn ymlaen at eich cwmni yng ngweithgareddau'r Clwb yn fuan!