HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Archif Mawrth 2010 i Gorffennaf 2010

Dyddiad
2010
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Mawrth
6
11.30
Ystafell AV, Mynydd Gwefru, Llanberis
LLAMFF – Ffilm Dringo’r Dom
Cyfle i weld ffilm, trafodaeth a lansiad llyfr newydd am fynyddwyr o Gymru
– Ar Drywydd y Dringwyr
Clive James

Iolo ap Gwynn
Sadwrn
Mawrth
6
9.15
9.30
Cwm Giedd,
Comisiwn Coedwigaeth
CG: SN 792 127
GODRE’R MYNYDD DU
Y Giedd, Carreg yr Ogof,
Garreg Las, Y Twrch
a’r Gwys Fawr. Tua 12 milltir
Guto Evans
Sul
Mawrth
7
9.15
9.30
Trofan bysus Dinorwig
CG: SH 590 610
DRINGO - DINORWIG - Newid dyddiad
Cawn weld os fydd y ffens wedi ei dymchwel!
Arwel Roberts
Mercher
Mawrth
17
10.00
10.15
Maes parcio
Llangoed
CG: SH 610 797
PENMON …
… a Chastell Aberlleiniog

Gwen Richards
Nos Iau
Mawrth
18
19.00
DRINGO – BOULDERS, CAERDYDD

Rhys Dafis

Sadwrn
Mawrth
20
9.30
9.45

Maes parcio'r
Cenedlaethol Nant Peris
CG: SH 606 582

CYMOEDD GOGLEDDOL BWLCH LLANBERIS
Bws 10.10 i Ben y Pas gan deithio’n ôl drwy
gymoedd ochr gogleddol y Bwlch
Maldwyn Roberts
Sadwrn
Mawrth
20
10.00
 
Maes parcio
CG: SJ 232 483
DRINGO – Craig y Forwyn / Eglwyseg
Britannia Inn wedyn!
Arwel Roberts
Mawrth
30
i
Ebrill
8
TRIP I’R ATLAS – Eisoes yn llawn
Mynyddoedd yr Atlas drwy’r eira. Dringo Jbel Toubkal (4167m) a Ouanoukrim (4089m). Gwibdaith i’r Sahara a blasu hud Medina.
Rhys Dafis

Sadwrn
Ebrill
10
9.15
9.30
Man parcio – troed Moel Drygarn
CG: SN 165 331
CYLCH WALDO – Y PRESELI
Foel Dyrch, Carn Sian, Carn Menyn, Foel Drygarn. Tua 10 milltir
Dafydd a Judith Davies
Mercher
Ebrill
14
9.45
10.00
Maes parcio
Bryn Glo
Capel Curig
CG: SH 736 571
COEDWIG GWYDIR
Crwydro llynnoedd cuddiedig y goedwig
Taith hawdd!
Gwilym Jackson
Sadwrn
Ebrill
17
9.15
9.30
Parcio ger
Gorsaf Carrog
CG: SJ 118 435
MOEL FFERNA O GARROG
O Garrog i gopa’r Foel, lawr drwy Ddolydd Ceiriog, coedwig Nantyr a chwm Glyndyrdwy
Gaenor a Gareth Roberts

Sadwrn
Ebrill
17
10.30
   
DRINGO – BOULDERS, CAERDYDD
Cyfle hefyd i rai wneud cwrs 'Cyflwyniad i Ddringo'
(cyswllt: Rhys Dafis rhysdafis@aol.com
07946 299940)
Dafydd Meurig
Sul
Ebrill
18
9.30
Ger Llyn Du Bach
CG: SH 746 424
DRINGO – Foel Gron, Migneint
Addas i ddechreuwyr – cysylltwch ymlaen llaw
Alwen Williams
Sadwrn
Ebrill
24
9.15
Caffi Eric, Tremadog
CG: SH 746 424
DRINGO – Tremadog
Addas i rai gyda rhywfaint o brofiad dringo

Cysylltwch wythnos ymlaen llaw i drefnu offer
Fleece, Tremadog wedi’r dringo
Geraint Evans

Nos Sadwrn
Ebrill
24
19.30
Galeri, Caernarfon
Tocynnau
£12, £10

– yn prysur fynd!
O BATAGONIA I EVEREST
Noson yng nghwmni Eric Jones a Llion Iwan
Swyddfa Docynnau

Sadwrn/Sul
Mai
1&2

9.15
9.30
Sadwrn
ger
Ysgol Gynradd
Garn
CG: SH 496 441
Sul
Bwlch y 2 Elor
PEDOL CWM PENNANT
Taith hir a serth dros 2 ddiwrnod. Gwersylla gwyllt ger Bwlch y Ddwy Elor. Croeso i chi ddod am y diwrnod, Sadwrn neu’r Sul.
Cysyllter am fanylion!
Morfudd Thomas
01248 670067
morfuddelen@yahoo.co.uk

Sadwrn
Mai
8

9.15
9.30
Caffi Ogwen
CG: SH 649 604
SGRAMBLO – GLYDERAU
Castell y Geifr, Llwybr y Geifr, Crib Cneifion
Cysylltwch ymlaen llaw. Bryn Tyrch wedyn!
Dylan Huw Jones
Mercher
Mai
12
9.15
9.30
Man parcio ger pont dros afon Dwyfor
CG: SH 533 476
NI FYDD Y DAITH HON YN DIGWYDD
PEDOL BLAEN PENNANT
Taith fwy hamddenol na un Morfudd!

Neu cyfarfod yn Nhyddyn Madyn – SH 515 425
Jeremy Trumper
Sadwrn a Sul
Mai
14-16

9.15

 

9.15

9.30

 

9.30

Maes parcio ger cei Porth Einon (tâl)
CG: ST 468 852


NI FYDD Y DAITH HON YN DIGWYDD
PENWYTHNOS DRINGO/CERDDED BRO GWYR

Lle i 26 aros yn Hostel YHA Porth Einon. £40.
Dewch am y dydd. Gellir trefnu i wersylla hefyd
os bydd yr hostel yn llawn.
Gweler manylion llawnach isod

Guto Evans

Nos Sadwrn
Mai
15
19.30
 
Ar derfyn y
gweithgareddau
GOHIRIWYD TAN MEHEFIN 12fed
PWYLLGOR CMC

Trefnu teithiau, ayyb
Clive James
Sadwrn
Mai
22
10.15
 
Ar yr hen A55
CG: SH 879 785
DRINGO – Craig Tafarn y Castell
a Phenmaen Rhos. Cysylltwch ymlaen llaw.
Llew Coch, Hen Golwyn wedyn!
Alan Jones
Sadwrn
Mai
29
9.00
9.08
Maes parcio Corwen
i ddal bws 9.08 i
Langollen
LLWYBR DYFFRYN Y DDYFRDWY
Cerdded yn ôl dros y bryniau i Gorwen.
Taith 15 milltir. Ffoniwch am ragor o fanylion.
Gwen Evans
Sadwrn
Mai
29
10.15
Maes parcio Croesor
CG: SH 631 446
DRINGO – Yr Arddu
Croeso i bawb – os ydych yn ddibrofiad,
cysylltwch wythnos ymlaen llaw
Myfyr Tomos

Sadwrn
Mehefin
5
10.00
Caffi Ynys Lawd
CG: SH 207 820
DRINGO – Mynydd Twr, Caergybi

Kate Jones

Sadwrn
Mehefin
12
9.30
9.45
Maes parcio
Nant y Moch
CG: SN 756 863
PUMLUMON
Cylchdaith o amgylch copaon Pumlumon
Iolo ap Gwynn
Mercher
Mehefin
16
Porth Meudwy
Ffoniwch am ragor o fanylion ac i drefnu ceir
TAITH CWCH GOGLEDD LLYN
Cychwyn o Borth Meudwy heibio i Ynysoedd Gwylan, Parwyd, Ffynnon Fair a glannau gogleddol Llyn i Borthdinllaen … taith yn ardal Aberdaron os na chawn dywydd
Haf Meredydd
Sadwrn & Sul
Mehefin
19 - 20
9.15




9.45
9.30




10.00

Sadwrn – Tyddyn Llidiart, Dyffryn Ardudwy
CG: SH 601 255

Sul
– run lle

PENWYTHNOS ARDUDWY
Llety gwely a brecwast (nifer cyfyngedig)
Sadwrn – Pedol Llawllech, barbeciw gyda’r nos!
Sul – Rhinog Fawr neu Rhinog Fach
Gweler manylion llawnach isod
Iolyn Jones ac Eirlys Wyn Noble

Sadwrn
Mehefin
20

8.45
Maes parcio ger y
Pier, Llandudno
CG: SH 783 829
DRINGO – Gogarth, Llandudno
Llanw isel! Cysylltwch ymlaen llaw.

Fat Cat, Llandudno wedyn am fwyd a diod
Anita Daimond
Sadwrn
Mehefin
26
9.15
9.30
Maes parcio’r
Parc, Minffordd
CG: SH 732 116
CADER IDRIS
Taith bedol
Cysylltwch ag Alan am fanylion
Alan Hughes
Sul
Mehefin
27
9.15
9.30
Maes parcio dan
Dinas Gromlech
CG: SH 626 568
DRINGO – Bwlch Llanberis
Cysylltwch ymlaen llaw
John Parry
Sadwrn
Gorffennaf
3
9.45
10.00
Maes parcio ffordd
Llanrwst (B5106) Conwy
CG: SH 782 774
TAL Y FAN A MYNYDD CONWY
Rhannu ceir i Rowen. Cerdded yn ôl tros Tal y Fan a Mynydd Conwy. Croeso i ddysgwyr Rhan o Wythnos Gerdded Conwy (1-8 Gorff)
Dilys Phillips
Sadwrn
Gorffennaf
10
9.15
9.30
Ewch i CG: SN 917 232, sef ger corlan ar y ffordd fach o Lyn Crai i Heol Senni, tua hanner ffordd rhwng Penwaundwr a'r pentref.
Y BANNAU CANOL O HEOL SENNI
Pedol i gynnwys Bannau Frynych (drwy Gwm Du), Dringarth, Llia, Nedd a Bwlch Chwyth.
Tua 14 milltir (gorffen tua 4.30 - 5.00)
Eryl Pritchard
Sadwrn
Gorffennaf
10
DIWRNOD BLASU
Amrywiaeth o weithgareddau led-led Cymru – Rhagor o fanylion i ddilyn
Os oes gennych syniadau am weithgareddau gwahanol, gyrrwch e-bost at maldwynperis@tiscali.co.uk

Teithiau Eraill a Manylion Pellach

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â maldwynperis@tiscali.co.uk
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Clive James …
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com

Dringo dan do. Pob nos Wener cynta’r mis bydd rhai o aelodau’r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon. Mae’r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i’r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.

Dringo gyda’r nos.
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda’r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

LLAMFF – Gwyl Ffilmiau Mynydd Llanberis – Nos Wener tan brynhawn Sul, Mawrth 5-7fed
Fel rhan o’r gweithgareddau ar fore Sadwrn, Mawrth 6ed am 11.30 yn yr ystafell AV, Mynydd Gwefru (Electric Mountain), Llanberis dangosir y ffilm 'Dringo'r Dom'. Am 12.20 yn dilyn y ffilm – sgwrs gyda John Ellis Roberts, Robin Evans, Iolo ap Gwynn ac eraill am y ffilm a’r ffilmio.
Ac i orffen am 12.45 – lansio llyfr Dewi Jones, 'Ar Drywydd y Dringwyr' (cyhoeddwyr Gwasg Dwyfor) sy’n fraslun o hanes datblygiad mynydda a dringo fel adloniant corfforol ym mynyddoedd Eryri, yr Alpau, yr Himalaia ac America o’r cyfnod cynharaf hyd at y 1920au. A5, 200 tudalen gyda nifer o hen luniau ac 8 tudalen lliw.

.
Pris £10 … cyfle i brynu’r gyfrol wedi’i llofnodi gan yr awdur

Penwythnos Dringo a Cherdded Bro Gwyr, 14-16 Mai
Trefnydd: Guto Evans – guto.evans@btinternet.com – 07824 617131.
Llogwyd hostel YHA Porth Einon. Mae lle i 26 aros, a chegin a chyfleusterau eraill. Y gost yw £40 y pen am y penwythnos heb gynnwys bwyd. Mae tafarn leol sy’n gwneud bwyd, a siop pysgod a sglodion. Gellir trefnu lle i wersylla yn y pentref hefyd, os bydd yr hostel yn llawn. Neu, wrth gwrs, dewch am y dydd. Mae Bro Gwyr yn enwog am y dringo, y mwyafrif yn ddringen sengl, gydag amrywiaeth o rai caled a rhai haws ac addas i gychwynwyr. Bydd llanw uchel ar y penwythnos yma, a’r penllanw yn gynnar yn y bore, felly bydd digon o gyfle i ddringo ar y clogwyni yn ystod y dydd. Bydd Guto wedi paratoi llawlyfr ynglyn â graddfa’r dringfeydd, a bydd offer dringo’r Clwb ar gael i’w fenthyg. Ceir llawer o lwybrau diddorol yn yr ardal hefyd, yn fryniau ac arfordir, a bydd cyfle i fynd i Ben Pyrod (Worm’s Head) gan fod y trai mor isel, neu Burry Holm gyda’i oleudy haearn (yr un olaf yn Ewrop). Bydd mwy o wybodaeth i’r rhai sy’n dod yn nes at yr amser.
I sicrhau lle i aros, rhowch eich enwau a manylion cyswllt i Guto erbyn Mawrth 6ed, os gwelwch yn dda (ffurflen ynghlwm). Mae angen i’r Clwb dalu’r YHA ddeufis ymlaen llaw.
Os am ymuno yn y gweithgareddau, ond ddim am aros, rhowch wybod i Guto erbyn nos Fercher 12 Mai, gan nodi pa weithgaredd yr hoffech ei wneud.
Mae na 17 o enwau erbyn hyn – felly brysiwch i archebu lle!

Gostyngiadau!
Mae Cotswold yn ei siopau Royal Oak a Rock Bottom ym Metws y Coed wedi cynyddu'r gostyniad i aelodau CMC i 20% trwy fis Mawrth.
Bydd rhaid dangos eich cerdyn aelodaeth 2010 a defnyddio'r cyfeirnod C2036.

Sherpa’r Wyddfa
O 28 Mawrth 2010 ymlaen fedrwch chi deithio ar fysiau ‘Sherpa’ rhwng Llanberis, Nant Peris, Pen-y-pass, Capel Curig, Betws-y-coed a Bethesda am £1 bob siwrnai! Gobeithio bydd hyn yn annog pobl i anghofio’r car, a defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio trwy Barc Cenedlaethol Eryri. Am wybodaeth amserlen gweler www.goriadgwyrdderyri.co.uk neu www.gwynedd.gov.uk/bwsgwynedd

Siopau Trespass
Mae siopau Trespass wedi cytuno i roi 10% i ffwrdd oddi ar unrhywbeth yn eu siopau ym Mwllheli, Abersoch a Bangor i aelodau CMC. Rhaid dangos eich cerdyn aelodaeth. I aelodau yn y De yna mae gan y cwmni ddwy siop – Penybont a Glyn Ebwy.

Diwrnod Blasu – Gorffennaf 10-11eg
Yn dilyn llwyddiant y diwrnod blasu’r llynedd bwriedir cynnal diwrnod / penwythnos gyffelyb ddechrau Gorffennaf – manylion i ddilyn!

Penwythnos y Rhinogydd, Mehefin 18-20
Mae Iolyn ac Eirlys yn ein gwahodd i dreulio penwythnos yn ardal Ardudwy, ac wedi bod yn cynllunio teithiau ar y Rhinogydd ar ein cyfer. Ceir manylion y teithiau yn y rhaglen. Os ydych am fynd yno i aros, mae angen archebu lle drwy gysylltu ag Eirlys, 07901 542852 tyddynllidiart@fsmail.net Os am ddod am y diwrnod, dylsech roi gwybod i Eirlys erbyn nos Fercher, 17 Mehefin, er mwyn hwyluso’r trefniadau cludiant / parcio. Rhannwch geir os oes modd. Dyma’r manylion aros: Tyddyn y Llidiart, Dyffryn Ardudwy (cartref Eirlys a Iolyn) CG: SH 601 255. • Bydd un llofft sengl sbâr yn y tŷ – cyntaf i’r felin. • Bydd croeso i unrhyw un godi pabell wrth y tŷ, neu gysgu yn yr ysgubor sy'n sownd yn y tŷ, ac sydd newydd gael ei hail-wneud; mae cawod a thoiled nepell o ddrws cefn y tŷ. Angen dod â brecwast a bwyd mynydda. Byrdir, Dyffryn Ardudwy (lle gwely a brecwast)
Mae lle i’w gael ar fferm Byrdir, (CG: SH 598 242 www.byrdir.co.uk), heb fod ymhell o Dyddyn Llidiart. Mae Eirlys wedi taro bargen efo’r perchennog am wely a brecwast yno, sy’n golygu £30 y pen y noson. Bydd angen dod â bwyd mynydda.
Yn y ‘stiwdios’: Ystafell i 3 person (1 gwely dwbl ac 1 gwely byncs), Ystafell i 3 person (1 gwely dwbl a 2 wely sengl), Ystafell i 2 berson (gwely dwbl), Ystafell i 2 berson (2 wely sengl). Yn y tŷ: Ystafell i 2 berson (2 wely sengl) ac Ystafell i 1 person (gwely sengl).
I drefnu lle yn Byrdir, dylsech gysylltu ag Eirlys, nid â’r perchennog. Bydd hyn yn galluogi Eirlys a Iolyn i wybod pwy sy’n dod, a sicrhau defnydd gorau’r ystafelloedd sydd ar gael. Bydd angen talu’r £30 i Eirlys wrth archebu lle. Os byddwn yn llenwi Byrdir, bydd Eirlys yn cyfeirio’r gweddill at lefydd gwely a brecwast eraill yn y cyffiniau, iddynt wneud eu trefniadau eu hunain. Felly os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch reit handi.

Stondin Mynydda yn Steddfod Glyn Ebwy
Bydd y Clwb yn rhannu stondin ‘Mynydda’ gyda grwpiau eraill – rhagor o fanylion i ddilyn.