Rhaglen Rhagfyr 2013 - Mawrth 2014
Dyddiad 2013 |
Amser | Lle | Taith | Arwain/Cyswllt | |
Cyf. | Cych. | ||||
Sadwrn Rhagfyr 7 |
9.30 | Maes parcio cyhoeddus Crughywel : CG: SO 217 184 |
Ardal Crughywel Cylchdaith o Grughywel gan gynnwys Pen Allt Mawr a Chrug Hywel. 10-11 milltir, gyda'r posibilrwydd o ehangu rhywfaint os bydd tywydd, amser ac awydd yn caniatau. Peint yn nhafarn y Bear. |
Richard Mitchley Cysylltwch â Richard os am ymuno. |
|
Sadwrn Rhagfyr 7 |
9.30 | 9.45 | Cilfan Plymog (yr agosaf at Lanferres) ar y dde o’r A494 rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug |
Bryniau Dyffryn Clwyd Godre Moel Eithinen, Moel Llanfair a Moel y Plas i lawr i bentref Llanarmon-yn-Iâl yna Creigiau Bryn Alun ac yn ôl. Dim byd serth iawn. Tua naw milltir a hanner ond gellir cwtogi yn ôl y tywydd a’r amser. |
Gwen Evans |
Sul Rhagfyr 8 |
9.15 | 9.30 | Caffi Antur Stiniog, |
Taith beic mynydd cyn ’Dolig |
Alwen Williams |
Mercher Rhagfyr 11 |
9.45 | 10.00 | Maes parcio Porth Penrhyn |
Cylch Craig Canu Ogwen Panad wedyn - yn y Tŷ Golchi o bosib! |
Gwen Richards a Gwen Aaron |
Sadwrn Rhagfyr 14 |
9.45 | 10.00 | Maes parcio Rhyd Ddu |
Mynydd Mawr |
Raymond Wheldon-Roberts |
2014 | |||||
Mercher Ionawr 1 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Pen-y-Pas |
Yr Wyddfa ar ddydd Calan |
Gwyn Roberts |
Penwythnos Ionawr 3-5 |
Penwythnos Canolfan Rhyd-Ddu Mae llety nos Wener a nos Sadwrn yng nghanolfan Rhyd Ddu – bydd angen dod â sach gysgu gyda chi. £15 am y ddwy noson, sieciau’n daladwy i Glwb Mynydda Cymru i’w danfon at Iolo Roberts. Tafarn o fewn 100 llath ar gyfer eich lluniaeth! Trefnir amrywiaeth o deithiau yn ddibynnol ar yr amgylchiadau. Cyfle, gobeithio, i ymarfer sgiliau mynydda gaeaf felly dewch a dillad ac offer pwrpasol rhag ofn y byddwn yn lwcus! Croeso i aelodau ymuno am deithiau diwrnod a fydd yn cychwyn o’r ganolfan am 9.30. |
Iolo Roberts |
|||
Mercher Ionawr 8 |
9.30 | 9.45 | Parcio wrth fynedfa'r pwerdy niwclear, yn y cilfannau ar y ffordd fawr gyferbyn â'r brif fynedfa.
|
Ardal Maentwrog |
Raymond Griffiths |
Sadwrn Ionawr 18 |
9.30 | Maes parcio bach 3 milltir i’r De o Aberhonddu (troi i ffwrdd o’r heol fawr yn Libanus) CG: S0 025 248 |
Taith Cwm Gwdi |
Dewi Hughes |
|
Sadwrn Ionawr 18 |
9.15 | 9.30 | Ochr y ffordd gefn uwchben Rhiw Goch, ger Trawsfynydd |
Ymarfer sgiliau map a chwmpawd |
Myfyr Tomos |
Sadwrn Chwefror 1 |
9.15 | 9.30 | Ochr y ffordd yn arwain o Ddeiniolen tuag at Marchlyn |
Pedol Marchlyn |
Iolo Roberts |
Mercher Chwefror 12 |
10.00 | 10.15 | Ym mhentref Rowen |
Rowen Taith drwy ardal yn llawn o henebion diddorol o Ro-wen at Eglwys Llangelynnin, Maen Penddu, Barclodiad y Gawres, Ffordd Rufeinig ac yn ôl. Tua 10km / 4-5 awr. |
Arwel Roberts |
Sadwrn |
9.30 | Maes parcio Pont ar Wysg |
Mynydd Myddfai |
Guto Evans |
|
Sadwrn Chwefror 15 |
9.15 | 9.30 | Bwthyn Idwal |
Y Garn a'r Glyderau |
Rhys Dafis |
Chwefror 22 i Mawrth 1 |
|
Wythnos yr Alban |
Maldwyn Peris Roberts |
||
Sadwrn |
9.30 | Maes parcio Bwlch-yr-Efengyl CG: SO 237 351 i fynd â nifer bach o geir i CG: SO 266 305 |
Capel y Ffin |
Peredur Evans |
|
Sadwrn Mawrth 8 |
9.15 | 9.30 | Maes Parcio Croesor CG: SH 442 637 |
Moelwyn Mawr a’r Moelwyn Bach |
Elen Huws |
Mercher Mawrth 12 |
10.00 | 10.15 | Cilfan ar yr A494 yn ymyl Pont Rhyd Ddu, Rhydymain CG: SH 797 214. |
Foel Ddu a’r Cyffiniau Cerdded tir agored mewn ardal eithaf anghyfarwydd tuag at Graig a Chyfyng y Benglog |
John Williams |
Sadwrn Mawrth 22 |
9.15 | 9.30 | Maes parcio Pandy |
Rhobell Fawr |
Rheinallt Hughes |
Mercher Ebrill 16 |
9.45 | Ger Neuadd yr Eglwys, Llanbedrog, CG: SH 3294 3164 Gellir parcio a thalu un ai ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth neu ym Mhlas Glyn-y-Weddw ond mae digon o le yr adeg yma o'r flwyddyn ar yr allt sy’n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw i lawr at neuadd yr eglwys. |
Cyffiniau Llanbedrog Paned ar y diwedd yng nghaffi'r Plas. |
Gwenan |
|
Mercher Mai 14 |
9.45 | 10.00 | Wrth y bont yng Ngharrog Sut i gyrraedd Carrog o’r A5: |
Moel Morfudd a Moel y Gaer |
Gwen Evans |
Mercher Mehefin 18 |
Taith cwch o Borth Meudwy (lle i 11) neu lle i fwy groesi i Ynys Enlli? I'w benderfynu |
Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau
Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.
Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.
Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php