HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhaglen Rhagfyr 2014 i Ebrill 2015

Dyddiad
2014
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Rhagfyr
13
9.30 9.40 Maes parcio Crughywel
(tu ôl i’r Ganolfan wybodaeth) CG: SO 219 185 

Taith y Mynyddoedd Duon
Taith o tua 13 milltir o Grughywel i Llangenny, Llanbedr a Phen-y-fâl

Richard Mitchley

Sadwrn
Rhagfyr
13
9.15 9.30

Ar y ffordd gefn ger argae’r
llyn
CG: SH 697 348
Trowch oddiar y ffordd fawr ychydig i’r de o Drawsfynydd
(rhyw 500 medr o’r bont dros afon Prysor)

Moel Ysgyfarnogod a Gogledd y Rhinogydd
Cerdded ar hyd ffordd Cefn Clawdd ac heibio Wern Fach i Fwlch Gwylim ac yna Moel Ysgyfarnogod, Foel Penolau, Diffwys a Moel y Gyrafolen a lawr i Fwlch Cwm Moch ac yn ôl i’r ffordd ger Tŷ’n Twll.
Tua 8 milltir a thua 1700 tr. / 520 m o esgyn

Eryl Owain
Mercher
Rhagfyr
17
10.00 10.15

 Yn Croesor
CG: SH 631 447

Llwybrau'r Porthmyn
Troedio hyd ffordd y porthmyn i'r gogledd orllewin heibio Dolfriog, Cae Dafydd, Carneddi a Nantmor, gan orffen yng Nghaffi Hebog ym Meddgelert.
Trefnir ceir i ddanfon y gyrrwyr yn ôl i Groesor

John Parry

Sadwrn
Rhagfyr
20
10.00  

Yn Rhuthun
Maes parcio arhosiad hir yn Stryd Clwyd
CG: SJ 121 580

Beicio Mynydd - Cylchdaith Moel Famau
Tua 35km ar feic mynydd – rhai rhannau serth ond ddim byd rhy dechnegol

Arwel Roberts
Sadwrn
Rhagfyr
27
9.15 9.30

Yn arosfan ger yr A5 wrth
Llyn Ogwen
CG: SH 659 602

Y Glyderau
Taith am y Glyderau, i'w dewis yn ôl y tywydd a'r amgylchiadau.

Rhys Dafis
2015          
Iau
Ionawr
1
9.15 9.30  Maes parcio Pen-y-pas
i gychwyn cerdded yn brydlon am 9.30

******* DIDDYMWYD OHERWYDD TYWYDD GARW*****
Yr Wyddfa ar ddydd Calan

Dewis o deithiau i gopa’r Wyddfa.
Angen dillad ac offer mynydda gaeaf yn y gobaith y bydd cyfle i ddefnyddio cramponau a cheibiau   

Gwyn Roberts

Sadwrn
Ionawr
10

9.15 9.30

Maes parcio ar y ffordd tuag at Gwmorthin
CG: SH 682 452

Moelwyn Mawr a’r Moelwyn Bach
Heibio Llyn Cwmorthin i Fwlch y Rhosydd (Moel yr Hydd os yw’n dywydd braf?) ac yna’r ddau Foelwyn

Gareth Wyn Griffiths

Sadwrn
Ionawr
24
9.15 9.30

Yng Ngharreg Cennen

CG: SN 66654 19331

Taith o amgylch Carreg Cennen
Taith o tua 10 milltir at darddiad Afon Llwchwr a chyfle i gerdded grib mwyaf gorllewinol Bannau Brycheiniog.
Siawns i dorri syched neu gynhesu yn y Cennen Arms ar ôl y daith!

Guto Evans

Sadwrn
Ionawr
24

9.15 9.30  Maes parcio, gyferbyn â Llyn Ogwen
CG: SH 656 602

Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd
Dringo Pen yr Ole Wen gan gychwyn o Bont Pen y Benglog ac yna ymlaen am Garnedd Dafydd. Dychwelyd i lawr Braich Tŷ Du, croesi Afon Ogwen a dychwelyd i fyny’r hen ffordd, yr ochr orllewinol i Nant Francon.
Mae’r ddringfa i gopa Pen yr Ole Wen yn eithaf serth, ond cerdded rhwydd iawn sydd wedyn.
Cyfanswm o ryw 3200 troedfedd. Pellter o tua 8-9 milltir, 5 i 6 awr. Paned yng Nghaffi Ogwen i orffen – neu beint yng Nghapel Curig!

R. Wheldon Roberts
   

Sadwrn
Chwefror
7

9.15 9.30

Yn y lle arferol ar ochr y ffordd gefn am Llidiardau CG: SH 845 395

Arenig Fawr a Moel Llyfnant
Tuag at Lyn Arenig. Ymlaen i’r copa ac yna Moel Llyfnant ac yn ôl hebio Amnodd-bwll i lwybr yr hen reilffordd ger Rhyd-y-fen.
Taith o rhyw 9.5 milltir, gan ddringo oddeutu 830 medr.
Fe all fod amgylchiadau gaeafol

Gwyn Williams

Sadwrn
Chwefror
7
  10.00   Cynhadledd 'Mynyddoedd Pawb'
Gwersyll Yr Urdd Glan-llyn
Manylion YMA
Llinos Williams,
Chwefror
15-22
     

Mynydda yn yr Alban
Llety hunan arlwyo yn Shiel Lodge, Shiel Bridge (manylion: glenshielestate.com/shielaccommodation.htm neu lluniau gwell ar aboutscotland.com/west/shiellodge.html).
Pris yn £75 yr un yn cynnwys trydan, gwres, gobennydd a thyweli. Lle i 16 yn unig ond llefydd eraill cyfagos ar gael os oes angen.

Danfoner: Enw, cyfeiriad a manylion cysylltu gyda sieciau’n daladwy i "Clwb Mynydda Cymru” at Maldwyn Peris >>>>

Maldwyn Peris,

Mercher
Chwefror
18
9.45 10.00

Ger y llyn yn Llanbêr,
dros y ffordd i Surflines yn y Glyn.
Mae parcio yn rhad ac am ddim yno.

CG: SH 575 607

Ardal Llanberis
Cylchdaith lefel isel o gwmpas y Cwm a fydd yn parhau tan tua 14.30 fan hwyraf.
Er fod y daith yn un lefel isel bydd angen sgidiau cryf gan fod rhan o'r llwybr yn croesi tir gwlyb yng Nghwm Brwynog.
Bydd cyfle am baned a chacen yn Llanbêr ar ddiwedd y daith.
Eirwen Williams
Sadwrn
Chwefror
21
9.15 9.30 Ar y ffordd rhwng Crymych a Mynachlog-ddu
    CG: SN 165 331

Taith Preseli
Moel Drygarn, Foel Eryr a Charningli.
Nid taith gylch, felly bydd angen cysylltu â Digby ymlaen llaw er mwyn trefnu cludiant yn ôl i'r man cychwyn.

Digby Bevan

Sadwrn
Chwefror
28
9.15 9.30

 Maes parcio ger siop Joe Brown
CG: SH 720 582

Pen Llithrig y Wrach a Phen yr Helgi Du o Gapel Curig
10 km o hyd; tua 800 m o ddringo


Elen Huws
Sadwrn
Mawrth
7
     Ger Craig Tafarn y Castell, Llysfaen
CG: SH 890 772

GOHIRIWYD******** Dringo – addas i bawb
Cysyllter ag Arwel erbyn y nos Iau os oes diddordeb gennych, i drefnu offer ac ati.

Arwel Roberts
Sadwrn
Mawrth
7
9.15 9.30 Maes Parcio Abaty Llanddewi Nant Hodni    CG: SO 289 278

Cylchdaith Llanddewi Nant Hodni
Taith gylch yn dringo i lwybr Clawdd Offa a'i ddilyn ar hyd y grib am rhyw 3 milltir tua'r gogledd cyn disgyn yn ôl i lawr i groesi'r cwm yng Nghapel y Ffin.
Dringo 'nôl i ben y grib orllewinol uwchben Capel y Ffin. Golygfa o Gronfa Grwyne Fawr i'r Gogledd Orllewin.
Dilyn llwybr y grib i'r De nes cyrraedd copa Bâl Mawr cyn disgyn yn ôl i lawr i'r abaty drwy Cwm Bwchel.
Cyfanswm o 10.5 milltir.
Cyfle i wlychu pig naill ai yn yr Abaty neu yn yr Half Moon ar ddiwedd y daith.


Peredur Evans
Sadwrn
Mawrth
14
9.45 10.00

Maes parcio pentref Rowen
CG: SH 760720

Tal-y-fan
Taith yn cychwyn ac yn gorffen yn Rowen ac yn dilyn llwybrau anghyfarwydd i gopa Tal-y-fan gyda chyfle i gael peint neu baned yn y Tŷ Gwyn ar ôl dychwelyd.
Taith o ryw 5 awr neu tua 8 milltir.

Dilys ac Aneurin Phillips
Mercher
Mawrth
18
9.45 10.00 Maes parcio i’r de o’r castell ar ffredd Trefriw  
CG: SH 781 773

Mynydd Conwy ac yn ôl ar lan y môr


Codi i ben Mynydd Conwy, cerdded i Ben Sychnant ac lawr i Ddwygyfylchi, ac yn ôl ar y traeth ger aber Afon Conwy.

Geraint Percy: 

Gareth Tilsley

Sadwrn
Mawrth
28
9.15 9.30

Maes parcio gorsaf
Rhyd ddu
CG: SH 571526

Crib Nantlle
Taith hir o rhyw 9-10 milltir, serth gyda bron 1000medr o ddringo a chaled hefo crib gradd 1-2.
(Os bydd y tywydd yn ddrwg gellir newid cyfeiriad y daith i Fwlch y Ddwy Elor ac am Fwlch Cwm Trwsgwl a Moel Lefn, Moel Ogof a Bwlch Meillionen ac yn ôl drwy'r goedwig i Ryd ddu.)

Morfudd Thomas

Pawb i gysylltu efo Morfudd erbyn y nos Iau er mwyn trefnu ceir yn Nebo

Sadwrn
Ebrill
18
9.15 9.30 Maes parcio bach 3 milltir i’r De o Aberhonddu (troi oddiar yr heol fawr yn Libanus).
CG: S0 025 248

Taith Cwm Gwdi
Dechrau yn Cwm Gwdi. Cefn Cwm Llwch, Pen y Fan.. Cribyn.
Tua 9 milltir.
Mannau serth wrth gyrraedd copa Pen y Fan.


Dewi Hughes

Cysylltwch â Dewi os am ymuno

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php