HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ionawr i Ebrill 2017

Dyddiad
2017
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Llun
Ionawr
2
9.15 9.30

Maes parcio Pen-y-Pas

Taith draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa i ddathlu’r flwyddyn newydd

Eryl Owain

Sadwrn
Ionawr
14
9.15 9.30

Parcio ar ochr y lôn gyferbyn â Glan Dena
CG: SH 668 605

Y Carneddau a Phen yr Ole Wen
Cerdded ar am tua milltir a chwarter neu rhanu ceir i Gwern Gof Isaf. Yna i fyny'r lôn Ddŵr i Ffynnon Llugwy ac ymlaen i Fwlch Eryl Farchog, Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd a Phen Yr Ole Wen a lawr i Gwm Lloer a Glan Dena.
Tua 15 km/10 milltir a 900 m/2955’ o ddringo

Chris Humpreys

Sadwrn
Ionawr
21
9.15 9.30

CG: SO 035 174
– i’w gadarnhau

Pedol Taf Fechan
Taith Gylch ar hyd cribau Pen y Fan yn cychwyn a gorffen ger Cronfeydd Neuadd, Pontsticyll. Tua 10 milltir.

John Morlais Rowlands

Sadwrn
Ionawr
28
9.15 9.30

Arosfan ar ochr yr A5
CG: SH 656 602

Y Glyderau
Cyfle am fynydda gaeaf os yw’r tywydd o’n plaid.
Bwriad i ddringo Glyder Fach a Glyder Fawr ond yr union drywydd yn ôl amgylchiadau ar y dydd.

Maldwyn Roberts

George Jones

Sadwrn
Chwefror
4

9.15 9.30

Man parcio’r Ymddiriedolaeth Coedwigaeth ger Faerdre Fawr wedi dilyn y B4476 o Landysul am Brengwyn
CG: SN 427 422

Taith Ardal Prengwyn, ger Llandysul
Taith gylch rhwng 8 a 10 milltir yn dilyn llwybrau a rhai ffyrdd, dim llawer o ddringo ond golygfeydd bendigedidg!

Eileen Curry

neu William

Mercher
8
Chwefror
9.45 10.00

Maes Parcio Traeth Lligwy (yr un hefo’r caffi tymhorol)
CG: SH 492 873

DS. Mae dau faes parcio o fewn llai na chwarter milltir i’w gilydd; dewch i’r un lle mae’r cwt pren (caffi tymhorol).  Mae gennych ddewis o ffyrdd at y maes parcio – rhai yn lletach na’i gilydd!
Cysylltwch â Nia neu Margaret os ydych yn ansicr o’r ffordd orau at y maes parcio

Môr a Mynydd - Cylchdaith yn nwyrain Ynys Môn
Taith o ryw 7½ milltir yn cychwyn o’r maes parcio ger Traeth Lligwy (GR 492873).  Dilyn llwybr yr arfordir uwchben Traeth Lligwy i Draeth yr Ora – dylem weld Ynys Dulas o’n blaen ac Ynys Seiriol i’r de.  Troi’n cefnau ar y môr a dilyn y llwybr dros gaeau a phrysgdir – gallwn alw heibio cofgolofn Morrisiaid Môn os oes diddordeb.  Cerdded i ben Mynydd Bodafon at y copa, sef yr Arwydd – ar ddiwrnod clir mae golygfeydd godidog yma.  I lawr yr ochr bellaf a cherdded at y llyn cyn troi’n ôl ar hyd y ffordd i’r maes parcio.

Mae’n bosib y bydd y llwybr yn fwdlyd mewn rhai mannau.

Nia

Margaret
Sadwrn
Chwefror
11
9.15 9.30

Maes parcio ger gorsaf Rhyd-ddu
CG: SH 571 526

O Rhyd Ddu i ben Yr Wyddfa
 I fyny i Fwlch Hafod y Llan a lawr llwybr Rhyd Ddu.
Tua 12 km/7.5 milltir a 900 m/2955’ o ddringo

Elen Huws
Chwefror
18-25
     

Wythnos o fynydda yn ardal Ullapool
Aros ar stad Leckmelm, ychydig i’r de o Ullapool, mewn bythynnod ar lan Loch Broom – tua awr o daith o Inverness.
Lle i 18+ mewn llety hunan-arlwyo gyda’r cyfleusterau arferol.  £80 y pen. Rhagor o fanylion am y llety ar www.leckmelmholidays.co.uk

Enwau, gyda chyfeiriad, ebost a rhif(au) ffôn, ynghyd â sieciau yn daladwy i ‘Clwb Mynydda Cymru’ at:  Maldwyn Peris Roberts,

Sadwrn
Chwefror
25
9.45 10.00

Maes parcio rhwng Llithfaen a Nant Gwrtheyrn
CG: SH 353 440

Yr Eifl
Taith gymhedrol o tua 7 km/4½ milltir gydag esgyniad o tua 450 m/1500 troedfedd

Anet Thomas

Sadwrn
Mawrth
11
9.15 9.30

Maes parcio tu cefn i Siop Joe Brown, yng Nghapel Curig
CG: SH 720 582

Pen yr Helgi Du a Phen Llithrig y Wrach
Taith o 9.5 milltir, gan ddringo oddeutu 845 m.

Gwyn Williams
Sadwrn
Mawrth
11
9.15 9.28

Ymgynull yng ngorsaf rheilffordd Ffynnon Taf CG: ST 124 832
mewn pryd i ddal tren 09.28.

Cilgant Caerdydd
Cychwyn cerdded o faes parcio Gorsaf Llysfaen am 10.00 ac yn gorffen 'nol yn Ffynnon Taf tua 15.30. Os na allwch gyrraedd Ffynnon Taf mewn pryd, gallwch fynd yn uniongyrchol i orsaf Llysfaen (ST 178 834). Mae'r daith yn 9.5 milltir o hyd gyda golygfeydd trawiadol i bob cyfeiriad wrth ddringo i ben Crib Cefn Onn, Mynydd Caerffili, Graig yr Allt a Mynydd y Garth yn eu tro.

Peredur Evans
Mercher
Mawrth
15
9.45 10.00 Maes parcio Ewyn Eryri (Surf Snowdonia), Dolgarrog
CG: SH 771 673

Dolgarrog
Cychwyn ar lwybr igam ogam i fyny`n raddol i Warchodfa Natur Genedlaethol Coed Dolgarrog a diweddu wrth gronfa ddŵr Coedty.
Ymlaen i Lynnoedd Eigiau a Chowlyd cyn gostwng yn ôl i Ddolgarrog yn dilyn yr afon Ddu.
Taith o tua 6-7 milltir a thua 480 medr/1574 troedfedd o esgyniad

Gwilym Jackson
Sadwrn
Mawrth
18
9.45 10.00

Cyfarfod yn Nhal-y-bont, Ceredigion
CG: SH 654 892

Beicio Mynydd Syfydrin a Nant yr Arian
Beicio o Dal-y-bont i Elerch, Llyn Blaen-melindwr, Nant yr Arian {paned}, Bwlchstyllen, Rhyd Ffos Fudur,Bwlch Glas ac yn ôl i Dal-y-bont.
Tua 36 km/23 milltir.

Arwel Roberts

Sadwrn
Mawrth
25
9.15 9.30

Maes parcio Llandrillo
CG: SJ 656 602

Y Berwyn
Taith i gopaon Cadair Fronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych o Landrillo, tua 16 km/10 milltir gydag esgyniad o tua 970 m/3180’.

Eryl Owain

Sadwrn
Ebrill
8
9.15 9.30

Maes parcio oddi ar y ffordd fawr ym Methesda
CG: SH 622 688

Y Carneddau
Cerdded drwy Gerlan i Gwm Pen-llafar ac i fyny Crib Lem (angen sgramblo yma) i gopa Carnedd Dafydd, ymlaen i Garnedd Llywelyn a’r Elen.
Taith o tua 16 km/10 milltir gan ddringo tua 1120 m/3675’

Richard Roberts

Sadwrn
Ebrill
8
9.15 9.30 Maes parcio eglwys Rhosili
CG: SS 416 881
Gofynnir am gyfraniad am barcio.

Cylchdaith Rhosili
Taith amrywiol 10 milltir dros Rhosili Down i Llangennith, Hardings Down, Pitton ac ar hyd clogwyni yr arfordir 'nôl i Rhosili.  Codi tua 500 m gyda golygfeydd panoramig i bob cyfeiriad o'r tir uchel.
Y darn mwyaf serth ar y dechrau.
Rhowch wybod i'r arweinyddion os ydych yn dyfod:

Eurig

a Meirion

Sadwrn
Ebrill
22
9.15 9.30

Arosfan yng Nglan-y-wern ger Talsarnau i symud i fan cychwyn y daith uwch ben Eisingrug
CG: SH 629 342

Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau
Dilyn hen ffordd y gweithfeydd mango heibio Llyn Eiddew Bach a Llyn Du i’r copaon gan ddychwelyd heibio Bryn Cader Faner.
Tua 11 km/7 milltir gydag esgyniad o tua 390 m/1280’.
Er mwyn cael trefn ar barcio ceir ymlaen llaw, cysylltwch i adael i mi wybod eich bod am ddod ar y daith un ai drwy yrru neges destun ar 07760 283024 neu drwy yrru neges e-bost. Diolch

Haf Meredydd

Mercher
Ebrill
26
     

Nant Gwynant i Ryd-ddu
Un o'r gyfres o deithiau ystafelloedd te'r Wyddfa, o Nant Gwynant i Ryd-ddu y tro yma.
Mwy o fanylion i ddod.

Rhiannon a Clive

Llun
Mai
1
Gŵyl y Banc

9.15 9.30

 





Maes parcio’r Parc Cenedlaethol efo toiledau ger gorsaf y rheilffordd
CG: SH 571 525


Maes parcio’r Parc Cenedlaethol efo toiledau
CG: SH 698 153


Maes parcio Nant Gwdi
CG: SO 025 248
ar derfyn ffordd gul tua 3 milltir i’r de o Aberhonddu. Os yn dod o’r de, gellir troi o’r A470 ym mhentref Libanus.

Teithiau addas i deuluoedd gyda thri dewis:
Yr Wyddfa, Cader/Cadair Idris, Pen y Fan

Trefnir ar y cyd â’r Urdd.  Bydd nifer o gerddwyr profiadol, gydag arweinydd gyda chymwyster priodol, ar bob taith.  Cyfle gwych i deuluoedd fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.

Yr Wyddfa o Ryd-ddu
Dilyn llwybr Rhyd-ddu i’r copa dros Llechog ac yna Bwlch Main. Tua 12 km/7½ m a 895 m/2940’ o ddringo.



Cader/Cadair Idris  o Dŷ Nant, Islaw’r-dref

Dilyn llwybr Pilin Pwn i Fwlch Rhiw Gwredydd ac ar hyd llethrau’r Cyfrwy i’r copa.
Tua 10 km/6¼ m a 740 m/2430’ o ddringo.


Pen-y-fan o Gwm Llwch, ger Aberhonddu

I fyny Cefn Cwm Llwch i gopaon Pen y Fan a Chorn Du ac i lawr drwy Gwm Llwch.
Tua 12 km/7½ m o ddringo.

 







Sian Shakespear

 


 


Eryl Owain


 


Dewi Hughes

Mercher
Mai
17
9.45 10.00

Maes parcio (di-dâl) Cronfa Ddŵr yr Alwen
CG: SH 955 529

Ardal Llyn Alwen
Oddeutu 14 km gan alw ym Mhentrellyncymer, hebio Caer Ddunod ac ymlaen i Graig-yr-Yirchen, dim dringo bron.

Cofiwch gysylltu efo Dafydd cyn y daith fel arfer fel y bydd yn gwybod fod pawb wedi cyrraedd ar ddechrau'r daith.

Dafydd Williams
6-8
Mehefin
      Croesi'r ffin: ychydig ddyddiau yn ardal y Long Mynd

Llety yn Hostel Ieuenctid Bridges, yn Ratlinghope gerllaw Church Stretton ar y 6ed a’’r 7fed o Fehefin 2017 (Mynd Ddydd Mawrth a cherdded Dydd Mercher ac Iau cyn dychwelyd adref).
Byddem yn cael dau ddiwrnod o gerdded ar Long Mynd a Chaer Caradog.
Cost yr hostel fyddai £16.00 am lety, gyda brecwast am £6.00 a phryd nos os dymunir am £12.50.
Byddai Gwyn yn fodlon trefnu llety ar ran y clwb, i gynnwys brecwast am £22.00 y noson. Mae lle yno i 30+, ond byddai’n dda cael enwau rhag blaen er mwyn sicrhau lle. 

Mae’n bosibl gwersylla hefyd yno am £8 y noson a gerllaw mae tafarn y Bridges gyda llety a bwyd min nos yno. Felly mae’r dewis yn eang. Gwnech eich tyrefniadau eich hunain os am wersylla neu am aros yn y dafarn.

Mae’n lleoliad canolog i aelodau y de yn ogystal a’r gogledd!

Gwyn Williams (Llanrwst)
24-25
Mehefin
      O Ddyffryn Ogwen i Flaenau Ffestiniog

Diwrnod 1
Cyfarfod am 8.45 i ger Ysgol Mynydd Llandegai (SH 602 666) i gychwyn am 9.00.  Cerdded heibio tomenydd chwarel Penrhyn i Farchlyn Bach ac i lawr drwy chwarel Dinorwig. Paned ym Mhen Ceunant ac ymlaen i Fwlch Maesgwm a thrwy chwareli Glanrafon a Chwm Llan ac i lawr i Nant Gwynant. Tua 26 km/16 milltir a 1050 m/3440’ o ddringo – pwynt uchaf : 500 m.

Posib aros yn Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant (03453719108), Byncws neu Gabanau Pren (pods) Bryn Dinas (01766 890473) neu Maes Gwersylla Hafod y Llan - gwefan i bob un. Digon o lefydd bwyta ym Meddgelert .

Diwrnod 2
Gan ddibynnu ar niferoedd, efallai y bydd yn  bosib trefnu brecwast erbyn 8.30 yng Nghaffi Gwynant.

Cyfarfod ger Caffi Gwynant  (SH 628506) am 9.00 i gychwyn erbyn 9.15. Cerdded i Hafodydd Brithion ac yna Llyn yr Adar ac i Gwmorthin, gan orffen yn Cell B, Blaenau Ffestiniog, lle mae hostel foethus, theatr a bwyty. Tua 13 km/8 milltir 500 m/1635’ o ddringo – pwynt uchaf: 590 m.
Pwynt ucha: 593m. Hyd y daith : 13km

Trefnir ceir ym Mynydd Llandegai / Nangwynant / Betws y Coed / Blaenau Ffestiniog. 

Enwau cyn neu erbyn diwedd Ebrill er mwyn trefnu Cell B. Efallai y bydd yn bosib trefnu adloniant, ffilm neu sgwrs yn Cell B.

Posib i aelodau ddod am y dydd yn unig a phosib mynd i ambell gopa os y dymunir.

Morfudd Thomas

Cemlyn Jones

CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com

Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com

Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058  arwelgwydyr@aol.com

Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hafm@hmeredydd.freeserve.co.uk

 

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php