{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diweddarir yn rheolaidd

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr - Ebrill 2018

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr
9.15       9.30
Parcio di-dâl ar ochr y lôn ger Glan Dena (SH 667 6040)
Carneddau o Lyn Ogwen
Cerdded tuag at fferm Tal-llyn Ogwen a dilyn Afon Lloer tuag at Ffynnon Lloer ac i fyny Pen yr Ole Wen, gydag un darn byr o sgrialu rhwydd. O amgylch ochrau’r cwm, dros Carnedd Fach i Garnedd Dafydd ac ymlaen tuag at Gefn Ysgolion Duon cyn gostwng yn serth yn ôl i lawr am Ffynnon Lloer i ail-ymuno â'r llwybr i'r man parcio. Taith o tua 6 milltir a 730 m o ddringo.

Stephen Williams


Dydd Sadwrn, 30 Rhagfyr
9.15    9.30
Maes Parcio Pen y Pas (SH 647 555)
Taith draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa dros y Gwyliau
Taith i ffarwelio â’r hen flwyddyn y tro hwn! Cyrraedd Pen y Pas mewn car, ar fws neu ar droed o Ben y Gwryd i gychwyn cerdded am 9.30. Dewis o lwybrau yn ôl yr amgylchiadau ar y dydd a dymuniadau’r cerddwyr.

Eryl Owain 


Dydd Sadwrn, 6 Ionawr
9.15    9.30
yng Nghwm Mynach (SH 684219)
Diffwys a Llethr
Diffwys, Crib y Rhiw, Llethr, Llyn y Bi, Chwarel Cefn Cam, Hafod y Brenin ac yn ôl i Gwm Mynach. Dringo tua 750 m a tua 9 milltir o hyd.

Myfyr Tomos  


Ddydd Mercher, 17 Ionawr
10.30 ym maes parcio Saithgroesffordd (SH746212) ar y ffordd rhwng Dolgellau a Llanfachreth. Tai bach yn fanno.
Moel Offrwm
Cerdded am rhyw ddwy awr neu dair mae’n siŵr os ydi’r criw yn hapus i oedi bob hyn a hyn. Mae ‘na ddigon i’w weld – Plas Nannau, cwningar neu ddau, efallai haid o’r gylfin groes yn yfed dŵr mewn chwarel fach, hen geyrydd, golygfeydd eang, cennau diddorol.. Dydy’r gylchdaith gyfan o gwmpas y foel ddim wedi agor eto, ond dim ots am hynny, mae gwneud ei hanner a chodi dros y copa lawn cystal. Hei lwc am dywydd gweddol i weld y copaon

Arwain: Rhys Gwynn
Cadarnhau efo Haf Meredydd os ydych am ddwad ai peidio,


Dydd Sadwrn, 20 Ionawr *** GOHIRIWYD TAN Y 27ain
9.15    9.30
maes parcio Blaen y Glyn Uchaf,3 milltir i’r gorllewin o gronfa ddŵr Tal-y- bont (SO 056175)
Taith Cwm Caerfanell
Cylchdaith o tua 8 milltir gydag ambell fan serth. Graig y Fan du – Graig Fan Las a draw hyd Waun Rydd i Carn Pica, cyn troi i’r de lawr Cwm Caerfanell.

Dewi Hughes 


Dydd Sadwrn, 20 Ionawr
9.15    9.30
y gilfan agosaf at Ben y Benglog (SH 653602)
Y Glyderau
Dilyn trywydd taith 9 yn Copaon Cymru, sef heibio Llyn Bochlwyd i Fwlch Tryfan, dros y ddwy Glyder ac i lawr hebio’r Twll Du. Amrywiadau dewisol yn bosib e.e. sgrialu’r Grib Ddanheddog neu ddefnyddio cramponau a chaib rew, yn ôl yr amgylchiadau. Tua pum milltir a hanner a 780 m  o ddringo.

Eryl Owain 


Dydd Sadwrn, 3 Chwefror
9.15    9.30
ar ochr y ffordd o Arenig i Lidiardau (SH 845395)
Arenig Fawr a Moel Llyfnant
Cerdded tuag at Lyn Arenig, ymlaen i’r copa ac yna Moel Llyfnant ac yn ôl hebio Amnodd-bwll i lwybr yr hen reilffordd. Taith o rhyw 9.5 milltir, gan ddringo oddeutu 850 m.  Fe all fod amgylchiadau gaeafol.

Gwyn Williams 


Dydd Sadwrn, 10 Chwefror
9.15   9.30
maes parcio Neuadd DH Evans, Pontsian (SN 465440)
Taith Ardal Pontsian
Cerdded lan llwybr ceffyl i Bwlchyfadfa ac wedyn croesi draw heibio Gellihen i Groes-gwyn ac wedyn ymuno â llwybyr ceffyl arall lawr heibio Blaen-rallt-ddu cyn ymuno â llwybr troed drwy Moelhedog a nol i Bontsian. Tua 9 milltir gyda ambell fan gwlyb iawn.

Eileen Curry


Dydd Mercher, 21 Chwefror
10.00 10.15
Maes parcio 'caffi'r llyn' ar lan Llyn Traws (troi i mewn i safle'r atomfa ac mae'r caffi ar y chwith ymhen rhyw 50 m. Ella y bydd rhaid symud y ceir i faes parcio arall ar safle'r atomfa ond gallwn drefnu hynny ar fore Mercher.)
O amgylch Llyn Trawsfynydd
Taith o amgylch Llyn Traws, dilyn y lôn feiciau. Awn yr holl ffordd rownd y llyn neu gallwn ddod yn ôl dros y bont os bydd amser yn brin. Panad a chacan, gobeithio, yng nghaffi'r llyn ar ddiwedd y daith.

Haf Meredydd


Dydd Sadwrn, 24 Chwefror
9.15    9.30
maes parcio bach gyferbyn â'r eglwys (SH 903190) yn Llanymawddwy
Cymoedd Tawel yr Aran
Cerdded fyny Cwm Dyniewyd i ben Aran Fawddwy, yna dros Moel Hafod Fynydd a lawr Llaethnant. Tua 15 km/8 milltir ac esgyniad o 850 m.

Tegwyn Jones  


Dydd Sadwrn, 10 Mawrth
9.15      9.30
ger  tafarn Y Bedol ym mhentre Tal-y-bont (SH766689)
Foel Grach a Charnedd Gwenllian - Taith dau gopa, dau lyn a dwy loches!
Ceir i fyny i’r man parcio ger Llyn Eigiau. Oddi yno, dilyn y llwybyr am Felynllyn a thorri ar draws tuag at gopa Craig Eigiau. Ymlaen i gopa Foel Grach, lle bydd cyfle am ginio yn y lloches, cyn cyraedd yr ail gopa, Carnedd Gwenllian. Gostwng yn ôl wedyn yn weddol serth am Lyn Dulyn a chyfle am baned yn Lloches Dulyn, os bydd yn wag, cyn dilyn y llwybyr i fyny am Felynllyn ac yn ôl at Lyn Eigiau.  Tua 11 milltir o daith gyda tua 600 m o ddringo.

Stephen Williams 


Dydd Sadwrn, 10 Mawrth
9.15    9.30
pont WilliamEdwards (ST 074904) - maes parcio aml gerllaw ar Berw Rd neu Sardis Road (ST 068897).
Taith Pontypridd i Benrhys ar hyd llwybyr y pererinion
Mae llwybr i lawr o’r maes parcio i gyfeiriad yr orsaf, lle byddwn yn dychwelyd ar ddiwedd y daith.  Fyny i’r coed ar yr hen lwybr i bentref Ynysybwl, drwy warchodfa natur Craig yr Hesg a dilyn llwybr drwy gaeau a choedwigoedd nes cyrraedd pentref Llanwynno i ginio. Bydd modd ymweld â’r eglwys i weld bedd un o enwogion Cymru. Heibio i losgfynydd y Rhondda Fach a disgyn i lawr i groesi’r afon cyn dringo i fyny’r llwybr serth i Benrhys a safle Cerflun y Forwyn Fair. Disgyn lawr i Lwynypia i ddal y tren nôl i Bontypridd (£2.90 am docyn)  8.5 milltir.

Peredur Evans 


Dydd Mercher, 14 Mawrth
10.45
Yn yr orsaf ym Metws-y-coed i ddal y trên 10.56 i Bont Rufeinig.
Ardal Dolwyddelan
Cerdded llwybr y tu cefn i'r castell i Ddolwyddelan, yna dilyn llwybrau efo glannau afon Lledr yn ôl i'r Betws.  Gall fod yn wlyb mewn rhannau.  Tua 14 km / 9 milltir ond fawr ddim angen dringo gan y byddwn yn cychwyn cerdded ar uchder o 195 m ac yn gorffen ar uchder o 13 m!

Angharad ac Eryl Owain 


Dydd Sadwrn, 24 Mawrth
9.15    9.30
maes parcio (SH 622668) tu ôl i'r stryd fawr ym Methesda
Y Carneddau o Fethesda
Taith ar hyd cribau gorllewin y Carneddau, dros gopaon Gurn Wigau, Y Drosgl, Bera Bach, Carnedd Gwenllian, Foel Grach, Carnedd Llywelyn a'r Elen a nol i lawr Cwm Llafar. Hyd 10.5 milltir, 1125 m o ddringo, tua 6.5 i 7 awr o daith.

Sian Shakespear  


Dydd Sadwrn, 7 Ebrill
9.15    9.30
maes parcio (talu a thoiledau) Pont Bethania yn Nant Gwynant (SH 628506)
Yr Wyddfa a Phedol Cwm Llan
Dilyn llwybr Watkin i fyny am Gwm Llan cyn troi am Gwm Merch ac i gopa Gallt y Wenallt cyn anelu am gopaon y Lliwedd.  I lawr i Fwlch Ciliau gan  ailymuno â Llwybr Watkin i gopa’r Wyddfa. Dychwelyd dros Fwlch Main i Fwlch Cwm Llan a lawr y cwm. Taith hir o tua 10 milltir a 1280 m o ddringo.

Richard Roberts  


Dydd Sadwrn, 14 Ebrill
9.15    9.30
maes parcio o dan Llyn y Fan Fach (SN799 238) 
Bannau Sir Gâr
Taith o gwmpas ardal Bannau Sir Gar gan deithio o amgylch Llyn y Fan Fach a Mawr.

Eurig James   


Dydd Mercher,  18 Ebrill
10.00
Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas yn Rhiw - cyfeirnod grid SH 236281
Mynydd y Rhiw
Taith o ryw wyth milltir yn yr ardal.

Gwenan Roberts
Anet Tomos


Dydd Sadwrn, 21 Ebrill
9.15    9.30
Yr Arddu, Ysgafell Wen, Moel Druman a’r Alt Fawr
Cyfarfod ym maes parcio Bwlch Gorddinan (SH 701488) i drefnu ceir. 
Bydd y daith yn cychwyn ym Mlaenau Dolwyddelan cyn teithio ar hyd bryniau i’r gogledd orllewin o Flaenau Ffestiniog at Fwlch y Gorddinen yna cerdded yn ôl i lawr i Flaenau Dolwyddelan (tua 11 milltir).
Mae’r daith yn dilyn tir garw ac yn wlyb iawn ar hyn o bryd.

Dylan Huw


Dydd Sadwrn, 28 Ebrill
9.15    9.30
maes parcio Swtan (SH301892)
Llwybr Arfordir Môn o Fae Cemlyn i Borth Swtan
Symud rhai ceir i ddechrau’r daith ym maes parcio pen dwyreiniol Bae Cemlyn (SH336932).  Croesi Esgair Cemlyn a dilyn llwybr arfordir Môn i’r gorllewin ar daith hamddenol (tua 10 km) rownd Trwyn Carmel i  Borth Swtan. Byddai’n bosib ymestyn y daith ymhellach i gyfeiriad Llanfachraeth yn ôl amodau’r diwrnod a dymuniad y criw.

Dafydd Jones  


Cylch Paddy Buckley,  Mai 4 – 7

Ydych chi’n barod am tipyn o her?  Wel, dyma felly’r daith i chi! Nodwch y dyddiadau rŵan.

Dydd Gwener, 4 Mai Cymal 1:  Capel Curig i Aberglaslyn – 22 milltir, 7400 troedfedd o ddringo, 13 awr.
Dydd Sadwrn, 5 Mai Cymal 2: Aberglaslyn i Rhyd Ddu – 9 milltir, 4800 troedfedd o ddringo, 8 awr.
Dydd Sul, 6 Mai Cymal 3: Rhyd Ddu i Llanberis  –  11 milltir, 6000 troedfedd o ddringo, 8.5 awr.
Dydd Llun, 7 Mai Cymal 4:  Llanberis i Capel Curig – 19 milltir, 9800 troedfedd o ddringo, 15 awr.

Dwynwen Pennant  
Morfudd Thomas


Teithiau Teulu, Mai 7

Yn dilyn llwyddiant y llynedd, penderfynwyd cynnal tair taith eto eleni ar ddydd Llun Gŵyl y Banc a fydd yn addas ar gyfer teuluoedd a phlant ac eraill llai profiadol neu hyderus. Y mynyddoedd y tro yma fydd  Craig Cerrig Gleisiad ym Mannau Brycheiniog, Pumlumon a Moel Siabod.

Eryl Owain 


8-10 Mai - angen archebu cyn Chwefror 3ydd
Ddyffryn Wharfdale
Tair noson mewn hostel YHA yn Kettlewell yn Nyffryn Wharfdale.
Pris yr ystafelloedd, gan gynnwys brecwast:
Gwely a brecwast llawn mewn ystafell i chwech am dair noson: £93.00 y person
Gwely a brecwast llawn mewn Ystafelloedd gwely dwbwl am dair noson: £110.00 y person
Dewis o brydau min nos tri cwrs am £15.00 - £18.00.
Mae’r llety hefyd yn drwyddedig, ac mae dwy dafarn gerllaw i ddisychedu!
Rhagor o fanylion ar y dudalen Newyddion
Mae’n angenrheidiol cael enwau pendant erbyn Chwefror 3ydd 2018
Cysyllter â: Gwyn Williams


Dydd Mercher, 16 Mai
10.00
Maes parcio tu ôl i Joe Brown, Capel Curig er mwyn teithio efo bws i Ben-y-gwryd. 
Moel Siabod
Cerdded yn ôl dros gopa Moel Siabod.  Taith o 9.5 cilometr (6 milltir) a 600 m (1950 troedfedd) o godi.
 
Dilys ac Aneurin Phillips


26 Mai - 2 Mehefin 

Mynydda ar Ynys Skye/An t-Eilean Sgitheanach
Mae trefniadau ar droed i logi llefydd aros mewn hosteli ar yr ynys, gyda golwg, wrth gwrs, ar grib ryfeddol y Cuillin.
Rhaghysbysiad yw hwn.
Rhagor o fanylion am brisiau ac ati cyn gynted â phosib.

Chris Humphreys


Dydd Mercher, 13 Mehefin
10.15 10.30
Cyfarfod y tu allan i Ganolfan Parc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Ogwen (y tu allan i'r caffi). Mae yna faes parcio yn ymyl ond rhaid talu. Digon o le am ddim draw am Tryfan.
O gwmpas Llyn Idwal
Dangos ambell beth diddorol o gwmpas yr ardal cyn cychwyn i fyny am Lyn Idwal. Croesi'r bont newydd cyn cyrraedd y Twll Du. Disgyn i lawr yn ôl at Lyn Idwal. Taith pedair milltir ar y mwya' ond hefo ambell bwt lle mae'n rhaid bod yn ofalus.

Alun Roberts


Dydd Mercher, 20 Mehefin
Taith am y dydd i Ynys Enlli
Cysyllter â Haf Meredydd


Dydd Mercher, 4 Gorffennaf
10.00
Yng Nghaernarfon, i ddal bws o'r dref.
Dros Bwlch Brwynog
Cychwyn cerdded o Ryd-ddu, heibio chwarel Glanrafon a thros Bwlch Brwynog. Wedyn i lawr i'r Cwm ac ychydig o hanes cyn cael te parti i ddathlu cwblhau'r cylchdaith ystafelloedd te. 
Bws yn ôl i Gaernarfon.

Rhiannon a Clive


Dydd Iau, 9 Awst
4.30
Darlith Goffa Llew Gwent
– Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Ystafell Cymdeithasau 2.

Darlithydd: Marged Tudur
‘ ... bryn a mawndir a phabwyr a chraig a llyn.’
Marged Tudur yn sôn am y profiad a’r pleser o fynydda a chysylltiadau llenyddol ambell le sy’n bwysig iddi hi.


CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com