Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr i Ebrill 2019
Os
gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu âr arweinydd cyn y daith.
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Sadwrn 5 Ionawr
Yr Wyddfa
9.35 9.45
Maes parcio Pen-y-Pas
Taith draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa ar ddechrau blwyddyn. Dewis o lwybrau yn ôl amgylchiadau a dymuniad y cerddwyr. Mae Bws Sherpa o Gapel Curig a Phen-y-gwryd yn cyrraedd am 9.35. Dewch â dillad ac offer gaeaf yn y gobaith y bydd eu hangen!
Penderfynir ar union drywydd y daith yn ôl amgylchiadau a dymuniad y cerddwyr, ac yn aml bydd mwy nac un dewis. Go brin y bydd yna drwch o rew ac eira ond gall yr amgylchiadau fod yn aeafol tua'r brig felly byddai'n syniad da dod â'r gaib rhew a'r cramponau efo chi.
Raymond Wheldon-Roberts
Mercher 16 Ionawr
Taith yn ardal Eisteddfod Genedlaethol 2019.
9.45 10.00
Maes parcio Glasdir. Llanrwst.
Cychwyn draw am Goed y Felin a chyrraedd Tafarn y Fedw. Dringo ysgafn i dopiau Melin y Coed a chael golwg ar leoliad Eisteddfod Sir Conwy 2019.
Iona ac Elisabeth
Sadwrn 19 Ionawr
Pedol Nanmor
9.15 9.30
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger pont Aberglaslyn SH 597462
Taith i fyny Crib Ddu, Yr Arddu a Cnicht – tua 9 milltir
Rhys Dafis
Sadwrn 19 Ionawr
Cwm Caerfanell
9.15 9.30
Maes parcio ger Blaen y Glyn Uchaf, tair milltir i’r gorllewin o gronfa ddŵr Tal-y-bont SO 056175
Nodyn diweddar: Mae angen dilyn arwyddion Brecon Mountain Railway o ardal y Pant (uwchben Merthyr) oddi ar yr A465 i gyrraedd pentref Pontsticill ac ymlaen i Flaen y Glyn. Mae’r heol ar gau wrth fynd heibio Trefechan. Gwisgwch yn gynnes. Bosib bydd angen y thermals!
Cylchdaith o tua 8 milltir gyda ambell fan serth – Graig y Fan Du a Graig Fan Las a draw hyd Waun Rydd i Carn Pica cyn troi i’r de lawr Cwm Caerfanell.
Dewi Hughes
Sadwrn 2 Chwefror
Cwm Bochlwyd a’r Gribin
9.15 9.30
Maes parcio ar ochr yr A5 tua hanner ffordd ar hyd Llyn Ogwen SH 658602
Sgramblo gradd 1 i fyny Clogwyn Bochlwyd i’r Gribin ei hun. Byddai angen cramponau a chaib rhew dan amgylchiadau gaeaf. Parhâd o’r daith yn bosib dros gopa Glyder Fach ac yn ôl drwy Fwlch Tryfan – yn ôl amgylchiadau ar y dydd.
Arwel Roberts
Mercher 13 Chwefror
Ardal Llanberis
Taith i Nunlle. Cyfarfod yn y lagŵns, Llanberis am 10.00 (mae toiledau yno). Digon o gaffis yn Llanberis ar ddiwedd y daith.
Dafydd Whiteside Thomas
Sadwrn 16 Chwefror
Cwm Cerdin
9.15 9.30
Cwrdd yn Ysgol Tregroes dwy filltir i’r gogledd tu fas i Landysul SN 407448
Taith gylch tua 8-10 milltir: dringo mas o Gwm Cerdin i gyfeiriad Capel Cynon a dilyn y Cerdin nol lawr o Flaen Cwm Cerdin, heibio hen Gaer Dinas Cerdin, nol i'r ysgol.
Eileen Curry
Sadwrn 16 Chwefror
Bryniau Clwyd
9.00 9.15
Cilfan ger croesffordd Llangwyfan, Dinbych SJ 122657
Symud rhai ceir milltir neu ddwy at faes parcio llai. Cylchdaith dros Foel y Parc â'r mast, Pen y Cloddiau a Moel Arthur, y ddau olaf gydag olion hen gaerau. Tua 10 milltir a 2500 troedfedd o ddringo. Golygfeydd hyfryd dros y môr, Dyffryn Clwyd a thuag at Eryri.
Hywel Watkin
Sadwrn 23 Chwefror
Creigiau Gleision a Phen Llithrig y Wrach
9.15 9.30
Maes parcio (efo toiledau) y tu cefn i siop Joe Brown yng Nghapel Curig SH 720582
Taith dros dir garw, grugog a gwlyb mewn mannau, tua 16 km/10 milltir a 1030 m/3380 o ddringo. Gweler taith 6 yn Copaon Cymru.
NODER: bydd y daith wedi ei chwblhau mewn da bryd i'r rhai sy'n dymuno hynny i weld y gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr!
Gwyn Williams
24 Chwefror – 3 Mawrth (Sul i Sul)
Hostel Glenfeshie, Am Monadl Ruadh (Mynyddoedd Cairngorm)
Wythnos yr Alban
Mae lle ar gyfer 16 yn Hostel Glenfeshie (NH 849009), 9 milltir o Aviemore. Mae tair llofft yn cysgu 4 mewn byncs ac un llofft hefo 4 gwely sengl. Cyfleusterau arferol yn cynnwys cegin newydd, tair stafell gawod, ystafell londri a sychu. Rhagor o wybodaeth am y lle a lluniau ar www.glenfeshiehostel.co.uk neu ar www.visitcairngorms.com.
Gall yr amgylchiadau yn yr Alban fod yn heriol felly rhaid wrth ddillad ac offer pwrpasol. Er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, a pharodrwydd i wynebu amodau anodd, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.
Cost: £125. Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os oes rhaid canslo am unrhyw reswm.
***** DIM OND LLE i 3 AR ÔL.
Angen y canlynol erbyn 1 Ionawr 2016: Enw, Cyfeiriad, Rhif(au) Ffôn, cyfeiriad e-bost. Sieciau yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru' i’w danfon at:
Maldwyn Roberts
Sadwrn 9 Mawrth
Cwm Idwal a’r cyffiniau
8.45 9.00
Maes parcio’r Parc Cenedlaethol yn Ogwen SH 649603
Taith yng nghwmni Guto Roberts o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld planhigion y gwanwyn cynnar ar glogwyni ac yn hafnau Cwm Idwal. Cerdded tir garw a chreigiog gyda pheth sgramblo gradd 2/3 i gyrraedd rhai mannau. Taith bore yn unig ond gydag opsiwn o barhau i fyny’r Garn i wneud diwrnod ohoni.
Stephen Williams
Mercher 13 Mawrth.
Arthog, Sir Feirionnydd
Parcio ym Morfa Mawddach, SH629141.
Rydym yn mynd ar y trên i Lwyngwril ac yna taith gerdded, tua saith milltir a hanner ar hyd un o hen ffyrdd-gwlad Sir Feirionnydd dros y bryniau. Bydd raid dal y trên sydd yn cyrraedd Llwyngwril am 11.14. Mae dau opsiwn i ymuno â’r tren.
- Gyrru i orsaf Morfa Mawddach ger Arthog, digon o le parcio, a dal y trên i Lwyngwril sy’n gadael am 11.03 (llaw allan i stopio’r trên!)
- Dal y trên am Lwyngwril mewn unrhyw orsaf arall o gyfeiriad y gogledd. Bydd yr arweinyddion yn dal y trên ym Mhorthmadog. I fynd adref efo trên, byddwn mewn pryd i ddal trên Pwllheli sy’n gadael gorsaf Morfa Mawddach am 15.46.
Dringo hawdd o Lwyngwril ar hyd rhan o Lwybr yr Arfordir i gychwyn. Ffyrdd caled gan fwyaf nes dod at geunant Arthog. Milltir o oriwaered, serth weithiau, i lawr y ceunant a heibio’r rhaeadrau i Arthog. Milltir ar y gwastad wedyn yn ôl i orsaf Morfa Mawddach a phen y daith.
Llŷr Gruffydd
Sadwrn 23 Mawrth
Y Mynydd Du
9.15 9.30
Trefniadau i’w cadarnhau
Taith i gynnwys copaon Mynydd Llysiau, Pen Allt Mawr a Phen Cerrig Calch uwchben Cwmdu a Chrughywel.
Sian Shakespear
Sadwrn 23 Mawrth
Y Gribin, Glasgwm ac Aran Fawddwy
9.15 9.30
Maes parcio Blaencywarch SH 852189
Cerdded yn ôl tua ¾ km ar hyd y ffordd i ddilyn llwybr serth i fyny Cwm yr Ychen. Dargyfeiriad byr i gopa’r Gribin, ymlaen at Lyn y Fign a chopa Glasgwm ac yna i lawr i Gwm Cosyn. Dros dir gwlyb Waun Camddwr wedyn i gopa Aran Fawddwy ac yna am Ddrws Bach a Drysgol ac i lawr ar hyd llwybr mawn Hengwm. Tua 15 km / 8 milltir a rhyw 1050 m / 3600’ o ddringo.
Eryl Owain
Sul 31 Mawrth
Pedol Cwm Dwythwch
9.15 9.30
Ger caffi Pete’s Eats ar Stryd Fawr Llanberis
Taith i fyny Foel Goch, dros Foel Gron i Foel Eilio, gan gychwyn a gorffen yn Llanberis. Croeso i chi ymuno â’r arweinydd am baned/brecwast yn y caffi!
Dylan Huw Jones
Sadwrn 6 Ebrill
Y Carneddau o Abergwyngregyn
9.15 9.30
Maes parcio’r Rhaeadr Fawr (SH 664719) uwchben pentref Abergwyngregyn
Cerdded trwy Warchodfa Natur Coedydd Aber cyn esgyn yn serth ger y Rhaeadr Fawr. Dilyn Afon Goch a throi i gyfeiriad Llwytmor Bach, Llwytmor a Foel Fras. Disgyn i Fwlch y Gwryd cyn dilyn y mân gopaon o’r Drum hyd at Foel Dduarth. 10 milltir a 3600 o droedfeddi o ddringo.
Richard Roberts
Sadwrn 13 Ebrill
Llwybr Llechi Eryri
Cyfarfod yn Gorsaf Fysiau Caernarfon am 08:45
Oherwydd newid yn amserlen bysiau mae rhaid newid y trefniant. Sylwer fod y man cyfarfod wedi newid a bod yr amser ychydig yn gynt na’r arfer.
Byddwn yn dal bws 08.59 o Gaernarfon i Lanberis.
Gellir ymuno â’r daith yn Llanberis ond bydd rhaid i unigolion wneud trefniant i deithio yn ôl ar ddiwedd y dydd.
Cerdded rhan o Lwybr Llechi Eryri mewn dau gymal: Llanberis i Waunfawr a Waunfawr i Dalysarn gyda chyfanswm o 10.5 milltir i gyd – rhyw 6 awr hamddenol. Dim copaon ond llwybrau diddorol iawn.
(Gellir gweld y manylion ar www.snowdoniaslatetrail.org. Sylwer mai i Nantlle mae’r daith yno)
Mae’r daith i Waunfawr yn tua dwy awr a hanner ac yno gellir cael paned yn y dafarn. Ymlaen wedyn drosodd am y Fron a chael cyfle am baned a gweld y ganolfan newydd (mae’n werth ei gweld) cyn disgyn i lawr i ddyffryn Nantlle a Talysarn
Mae’r bws o Dalysarn i Gaernarfon yn gadael am 15:50 (Y nesaf am 18:07). Os byddwn wedi aros am baned yn Waunfawr a’r Fron yn ogystal â chael cinio mae’n bosib y byddwn yn rhy hwyr i ddal hwn felly bydd o leiaf un car wedi ei adael yn Nhalysarn.
Rhaid cysylltu gyda’r arweinydd er mwyn cwblhau trefniadau teithio yn ôl i Gaernarfon
Iolyn Jones
Sadwrn 13 Ebrill
Tor y Foel
9.15 9.30
Maes parcio pentref Llangynidr SO 154 195
Taith i fyny Dyffryn Crawnon tuag at Fynydd Llangynidr cyn troi i’r gogledd tuag at gopa Tor y Foel uwchben cronfa ddŵr Tal-y-bont.
Peredur Evans
Mercher 17 Ebrill
Ardal Llanddona, Ynys Môn
9.45 10.00
Maes parcio Traeth Llanddona SH567806
.
Cychwyn i fyny at fryngaer Bwrdd Arthur i gael golygfeydd dros Eryri a Môn. Wedyn cerdded i lawr at ran newydd hardd o’r llwybr arfordir rhwng Fedw Fawr a Bryn Offa ac i lawr i Draeth Carreg Onnen. Tua 7 milltir.
Gwen Richards
Sul 28 Ebrill
Cylch Cwm Bychan o Fwlch Gwilym i Fwlch Tyddiad
9.15 9.30
Parcio ar ochr y ffordd am Gwm Bychan ger Tafarn y Fictoria yn Llanbedr SH 586269
Trefnu i symud ceir i’r maes parcio ym mlaen Cwm Bychan.
Taith cymharol fer o rhyw 6.5 milltir gyda tua 635 m o esgyn ond bydd ambell le gwlyb a rhannau garw a tirwedd hardd a gwyllt.
Eirlys Wyn Jones
RHAGHYSBYSIADAU
7-9 Mai
Bannau Brycheiniog
Aros am dair noson (Mawrth, Mercher ac Iau) yn Hostel YHA Libanus, ger Aberhonddu. Mae nifer o wahanol ddewisiadau o ystafelloedd ar gael, pedair ystafell ar gyfer 2, dwy ystafell i 4 ac un i 8 o bobl ar hyn o bryd. Gweler gwefan yr hostel am fwy o fanylion.
Gan ein bod yn llogi ar gyfer grŵp, mae telerau ffafriol i’w cael a gellir cynnig gwely, brecwast a phryd nos am dair noson am bris o £120.00 y pen.
Mae’r hostel yn cadw nifer o ystafelloedd ar ein cyfer am gyfnod o dair wythnos. Os ydych am aros yn yr hostel rhaid cysylltu erbyn yr 8fed o Chwefror fan bellaf. Yn unol â thelerau trefnu teithiau y clwb bydd angen talu yn llawn i sicrhau lle.
- Gallwch dalu trwy anfon siec ataf i, yn daladwy i Clwb Mynydda Cymru, gan nodi eich enw, cyfeiriad, ebost a rhif ffôn.
- Gallwch dalu yn uniongyrchol i gyfrif banc y clwb. Dylech fy ebostio gyda’ch manylion cyswllt ac i gael manylion y cyfrif gennyf. Wrth dalu’n uniongyrchol dylech nodi “Bannau + enw” fel cyfeirnod.
Yn unol â chanllawiau newydd y clwb ar gyfer teithiau o’r fath ni fydd yn bosibl cael adaliad os yn tynnu nôl am unrhyw reswm, oni bai fod teithiwr arall ar gael i lenwi’r bwlch.
Edrychwn ymlaen am dreulio tridiau neu bedwar mewn ardal arbennig o hardd o Gymru, ardal i nifer ohonom sy’n gymharol ddieithr. Medrwn drefnu amrywiaeth o deithiau i fodloni pawb.
Cysylltwch cyn gynted â phosib ond dim hwyrach na 8 Chwefror.
Gwyn Williams
Dydd Llun Calan Mai, 6 Mai
TEITHIAU I BAWB CLWB MYNYDDA CYMRU
RHAID I BOB UN Â DIDDORDEB GYSYLLTU YMLAEN LLAW ag arweinydd y daith - o leiaf wythnos ynghynt os oes grŵp mawr
RHAID I BOB UN DAN 18 OED FOD DAN OFAL RHIANT NEU OEDOLYN CYFRIFOL
Cyfarfod am 9.15 i gychwyn cerdded am 9.30 ar gyfer pob taith
Cwm Caerfanell
Dechrau o faes parcio Blaen-y-glyn Uchaf, tair milltir i’r gorllewin o gronfa ddŵr Tal-y-bont (SO 056175). Cylchdaith o tua 11 km/7 milltir i fyny Craig y Fan Ddu, ar hyd Craig Fan Las a draw hyd at Waun Rydd i Garn Pica cyn troi i’r de lawr Cwm Caerfanell. Arweinydd: Dewi Hughes
Cadair Idris
Cyfarfod yn y maes parcio’r Parc Cenedlaethol ym Minffodd, Tal-y-llyn (SH 732115). Taith bedol o amgylch Cwm Cau yw hon, 10 km/6 milltir gyda tua 950 m/3130’ o ddringo. Darn serth i fyny i’r cwm i ddechrau ac yna dilyn y grib dros Graig Cwmamarch (Graig Cau) ac ymlaen i gopa Pen-y-Gadair. Cerdded ar hyd y gwastad wedyn i Fynydd Moel ac yn ôl i’r llwybr o’r maes parcio.
Arweinydd: Eryl Owain
Y Cnicht
Cyfarfarfod ym maes parcio Croesor (SH 632447). Cerdded tua 11 km/7 milltir gan ddringo tua 950 m/3130’ o ddringo i gopa’r Cnicht ac yna ymlaen i Fwlch Rhosydd ac yn ôl drwy Gwm Croesor.
Arweinydd: Iolo Roberts
Cofiwch gysylltu ymlaen llaw – croeso i chi wneud hynny i drafod addasrwydd y daith.
Bydd nifer o gerddwyr profiadol o blith aelodau Clwb Mynydda Cymru ar bob taith. Cyfle gwych i deuluoedd, neu’r llai profiadol, fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.
Dydd Mercher 15 Mai
Ardal Dolgellau - mwy o fanylion i ddod.
Arweinydd: Rhys Gwynn, warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri
24 Mai – 1 Mehefin
Cabanau Inchree, ger Onich
Lle i hyd at 20 mewn pedair llofft. Byddwn yn llogi adain gyfan felly ni fydd rhaid rhannu cyfleusterau (cegin, ystafelloedd molchi ac ati) efo eraill. Tafarn/bwyty ar y safle. Lleoliad cyfleus, 7 milltir o Fort William ac yn agos at Glencoe. Digonedd o fynyddoedd gwych!
Cost: £120. Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os yn canslo am unrhyw reswm.
Enw, Cyfeiriad, Rhif(au) Ffôn, cyfeiriad e-bost a siec yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru' i’w danfon at:
Gareth Everett Roberts
Mercher 19 Mehefin
Diwrnod ar Ynys Enlli
ar y cyd ag aelodau Cymdeithas Edward Llwyd
3 i 4 awr ar yr ynys; dilyn y lôn heibio'r odyn galch, yr ysgol, Plas Bach, Carreg Bach hyd at Gapel Enlli a Thŵr yr Abaty, cyn dod yn ôl i'r Cafn dros Fynydd Enlli.
Porth Solfach, y goleudy a'r morloi llwyd wedyn os bydd amser.
Haf Meredydd
Cysylltwch efo Haf cyn gynted â phosib i archebu lle ar y cwch. Croesi o Borth Meudwy tua 10.30.
Mercher 26 Mehefin
Taith yn Ardudwy
Un ai Cwm Nantcol (Capel Salem, Hendre Waelod) neu uwchben Llandecwyn (i'w benderfynu'n nes at yr amser, ond nodwch y dyddiad, osgydda).
Haf Meredydd
Mercher 10 Gorffennaf
“O’r Nef i’r Cwt”
Cychwyn o faes parcio’r Ddôl yn Nefyn (cyfeirnod grid 308403) am 10 y bore. Taith o rhyw ddeng milltir gyda 700 troedfedd o godi i’r man uchaf. Byddwn yn cychwyn o Nefyn, yn croesi Cors Geirch ac yn cerdded hyd odre Garn Fadryn i orffen yn Nhudweiliog.
Gwenan Roberts
Wythnos Eisteddfod Dyffryn Conwy Mis Awst
Gweler tudalen Newyddion am fanylion llawn.
28 Medi - 5 Hydref
Gogledd Iwerddon – Mynyddoedd Mourne neu na Beanna Boirche
Mae’r clwb yn trefnu taith i ogledd Iwerddon am wythynos. Mae digon o gerdded i’w gael ym mynyddoedd Mourne am chwe diwrnod ac mae’r lleoliad yn gyfleus i atyniadau eraill y dalaith.
Bwriedir aros yn Tory Bush Cottages, heb fod ymhell o Newcastle, Sir Down. Mae amryw o dai ar gael i’w gosod ar delerau hunan-arlwyo. Gweler eu gwefan am fwy o wybodaeth. Mae Raymond wedi aros yno o’r blaen ac yn cadarnhau eu bod yn gyfforddus iawn ac yn dderbyniol dros ben gyda’r holl gyfleusterau arferol.
Byddai’r gost debygol tua £120 y pen pe byddai pob tŷ yn llawn. Does dim trefniadau teithio ar hyn o bryd; trefnir hynny ymysg y rhai fydd yn mynd – naill ai hedfan i Belffast a llogi car neu groesi gyda char i Ddulyn ac ymlaen oddi yno.
Fel cam cyntaf, gofynnir i rai sydd efo diddordeb i gysylltu â Raymond cyn y bydd yn symud ymlaen i wneud trefniadau mwy pendant a phenderfynu ar union gost y daith.
Cysylltwch â:
Raymond Griffiths erbyn Chwefror 1af
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07760 283024 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com