Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr - Medi 2020
Os
gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu âr arweinydd cyn y daith.
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
NODYN
Y Coronafeirws
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb.
Dydd Sadwrn 21 Rhagfyr 2019
Moel Siabod
9.15 - 9.30
Bryn-y-glo ger Pont Cyfyng (SH 735571). Gellir parcio’n ddi-dâl mewn cilfannau ar ymyl yr A5 ar ochr Betws-y-coed o’r bont (arwydd taliad o £5 ym maes parcio Bryn-y-glo)
Cyfle i osgoi siopa ’Dolig ar ddydd byrraf y flwyddyn! Dilyn y llwybr heibio ffarm Rhos am Lyn y Foel a fyny Daear Ddu (peth sgramblo rhwydd ond dewisol yn bosib yma) i’r copa.
Raymond Wheldon-Roberts
2020
Dydd Sadwrn 4 Ionawr
Yr Wyddfa
9.30 - 9.45
Maes parcio Pen-y-pas – bws yn gadael Pen y Gwryd am 9.30 ac yn cyrraedd Pen-y-pas am 9.35.
Taith draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa ar ddechrau blwyddyn newydd. Pedol yr Wyddfa neu dewis o lwybrau yn ôl amgylchiadau a dymuniad y cerddwyr. Dewch â dillad ac offer mynydda gaeaf yn y gobaith y bydd eu hangen!
Eryl Owain
Dydd Sul 12 Ionawr
Moel Siabod o Nantgwynant
8.45
Maes parcio (talu + toiledau) Pont Bethania (SH 628506)
Symud i’r man cychwyn ger Llyn Gwynant.
Dilyn yr hen lwybr Rhufeinig o Hafod Rhisgl i Fwlch y Rhediad yna heibio Clogwyn Pwll Budr, Y Cribau, Bwlch Maen Pig, Clogwyn Bwlch y Maen, Bwlch Rhiw’r Ychen, Bwlch Clorad a Moel Gid i gopa Moel Siabod (870 m). I lawr am Blas y Brenin a chyfle am baned a/neu bws yn ôl neu drefnu bod ceir yng Nghapel Curig. Tua 8.6 milltir a 2880’ o ddringo – tua 5.5 awr.
Gofynnir i rai sydd am ddod gysylltu erbyn y nos Iau cynt.
Morfudd Thomas
Dydd Sadwrn 18 Ionawr
Taith Mynyddoedd Duon
9.15 - 9.30
Maes parcio cyhoeddus Talgarth (SO 153337)
Symud rhai ceir i fan cychwyn y daith sef SO188333.
Esgyn Rhiw Cwnstab – tua 350 m i ben Y Das cyn mynd i ben Waun Fach, copa ucha'r Mynyddoedd Duon. Ymlaen wedyn i Ben y Trumau cyn mynd yn ôl trwy Bwlch Bach a'r Grib - taith o 12 milltir. Bydd angen cerdded yn handi o ystyried nifer yr oriau o olau dydd – dewch â golau pen rhag ofn!
Sian Shakespeare
Dydd Mercher 22 Ionawr
Ro-wen i Gonwy
9.45 - 10.00
Maes parcio Mount Pleasant yng Nghonwy (ger waliau’r dref a’r Castlebank Hotel) – SH 778 775. Tâl £4.50.
Symud rhai ceir i Rowen.
O Rowen heibio Hen Eglwys Llangelynin ac yna dilyn Llwybr Gogledd Cymru dros Fynydd y Dref yn ôl i Gonwy. Tua 6.5 milltir.
Dilys ac Aneurin Phillips
Dydd Sadwrn 25 Ionawr
Glyder Fawr, Y Garn a Foel Goch
9.15 - 9.30
Caffi Ogwen, Pont Pen y Benglog (SH 649603)
Peth parcio am ddim ger y caffi ond mwy o lefydd am ddim yn y cilfannau gyferbyn â Llyn Ogwen.
Cerdded i Gwm Idwal cyn dringo'r hafn ger y Rhiwiau Caws i Gwm Cneifion ac yna i fyny ysgwydd ogleddol Glyder fawr (Crib Clogwyn Du? - Crib Seniors) i’r copa. Ymlaen i'r Garn a Foel Goch cyn dychwelyd i lawr Y Llymllwyd a Chwm Cywion. 12 km. Sgrialu sylfaenol gradd 1 mewn mannau; gallai fod yn gyflwyniad da i rai di-brofiad ond yn llawer mwy heriol ar dywydd gaeafol – byddai angen offer mynydda gaeaf.
Arwel Roberts
Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Y Diffwys a Llethr
9.15 - 9.30
Cwm Mynach (SH 684219)
Diffwys, Crib y Rhiw, Llethr, Llyn y Bi, Chwarel Cefn Cam, Hafod y Brenin ac yn ôl i Gwm Mynach. Dringo tua 750 m a tua 9 milltir o hyd.
Myfyr Tomos
Dydd Sadwrn 15 Chwefror
Taith Gorsgoch
9.15 - 9.30 ******* GOHIRIWYD OHERWYDD RHAGOLYGON TYWYDD ERCHYLL **********
Cwrtnewydd, tua pum milltir o Lambed (SN 490479)
Taith gylch tua 8-10 milltir yn dechrau a gorffen ym mhentref Cwrtnewydd, tua pum milltir o Lambed (SN 490479) fyny ac o amgylch ardal Gorsgoch.
Eileen Curry
Dydd Sul 16 Chwefror
Mynydd Mawr, Y Llwybr Llechi a Llyn Nantlle
9.15 - 9.30 ******* GOHIRIWYD TAN DYDD SUL 29 MAWRTH **********
Canolfan Gymdeithasol Y Fron (SH 508548)
Cylch yn cynnwys copa Mynydd Mawr, Llyn Nantlle a chwareli'r dyffryn. Tua 10 milltir a chyda 600 m o godi. Llefydd i barcio o gwmpas y pentref.
Elen Huws
Dydd Mercher 19 Chwefror
Y Lôn Goed
10.15 - 10.30 ******* GOHIRIWYD OHERWYDD RHAGOLYGON TYWYDD DRWG **********
***************** AIL DREFNIR Y DAITH YN DDIWEDDARACH YN Y FLWYDDYN *******
SH439376 ger yr hen Londri, ddim yn rhy bell o gylchfan Afonwen.
Cerdded gwastad ar y Lôn Goed, oddeutu 7 milltir ar lonydd ac ambell lwybr. Heibio Plas Hen, Betws Fawr, Betws Hirfaen, Y Gwynfryn a Blaen y Wawr.
John Parry
15 – 22 Chwefror
Taith Aeaf yr Alban - Crianlarich
Aros yn y Crianlarich Hotel am £220 y pen am wely a brecwast, gyda swper ar gael am £12 y noson ar ben hynny. Mae’r rhain yn brisiau arbennig i grŵp; os am fanteisio arnynt, byddai’n ofynnol archebu am saith noson. Gall unrhyw un sydd am aros am lai na saith noson wneud eu trefniadau eu hunain efo’r gwesty. 1 Rhagfyr oedd y dyddiad cau ond efallai bod llefydd yn dal ar gael – cysylltwch â’r trefnydd i holi.
Gall yr amgylchiadau gaeaf yn yr Alban fod yn heriol felly rhaid wrth ddillad ac offer pwrpasol. Er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, a pharodrwydd i wynebu amodau anodd, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.
Gareth Everett Roberts
Dydd Sadwrn 29 Chwefror
Bryniau Clwyd
9.15 - 9.30
Bwlch Pen Baras ger Rhuthun (SJ 161605)
Symud rhai ceir i Bodffari i gychwyn cerdded.
Taith o oddeutu 9 milltir ar hyd Bryniau Clwyd gyda dau neu dri o ddringfeydd gweddol serth, cyfanswm o 870 m o ddringo ac oddeutu 6 awr o gerdded. Cawn olygfeydd godidog o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt gan fynd heibio rhai o gaerau hynafol mwyaf nodedig Cymru.
Gwyn Williams
Dydd Sadwrn 7 Mawrth
Copaon y Berwyn o Faldwyn
9.15 - 9.30
Maes parcio tafarn y New Inn, Llangynog (SJ 262054)
Cychwyn o dan sowdl Craig Rhiwarth, ac i fyny’r cwm crog dros y bwlch at Bistyll Rhaeadr. Wedyn codi at Lyn Lluncaws, cyn torri hyd ben uchaf Cwm Maen Gwynedd i Tomle. Yna mynd o gopa i gopa – Cadair Bronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych – cyn anelu’n ôl dros y Clogydd. Peth tir corsiog. Taith hir tua 21.5 km /13.5 milltir gyda 1350m /4,390’ o ddringo. Rhaid cychwyn yn brydlon.
Rhys Dafis
Dydd Sadwrn 14 Mawrth
Gallt yr Ogof a Foel Goch
9.45 - 10.00
Maes parcio (SH 720581) tu ôl i siop Joe Brown yng Nghapel Curig
Codi’n raddol dros Gefn y Capel i Fwlch y Goleuni ac ymlaen i gopaon Gallt yr Ogof (763 m) a Foel Goch (805 m). Dychwelyd i lawr Braich y Ddeugwm at Wern Gof Uchaf ac yna 2.5 milltir gwastad yn ôl i’r maes parcio ar hyd llwybr yr hen ffordd i’r de o afon Llugwy. Taith ganolig – tua 12 km/8 milltir, ac esgyniad – tua 700 m/2300’.
Eryl Owain
Dydd Sadwrn 14 Mawrth
Taith Pedol Llanfrynach
9.15 - 9.30
Ger yr Eglwys yn Llanfrynach (SO 074 2570)
Taith gylch o Gwm Oergwm o Lanfrynach ar hyd dwy grib gan godi i Bwlch y Ddwyallt a Fan y Big cyn ddisgyn nol lawr y cwm i’r man cychwyn. Taith o tua 10 milltir.
Dewi Hughes
Dydd Mercher 18 Mawrth
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Cwm Cynfal a Llyn Morwynion
9.45 -10.00
Ger yr Eglwys yn Llan Ffestiniog (SH 701419). Maes parcio bach gerllaw neu barcio ar ochr ffyrdd cyfagos – digon o le fel arfer.
Cerdded i lawr i Geunant Cynfal i ymweld â’r Rhaeadr a Phulpud Huw Llwyd yna i fyny Cwm Cynfal i groesi’r B4391 ger Pont yr Afon Gam. Ymlaen dros y gefnen (gorslyd!) at Lyn Morwynion a dychwelyd heibio Hafod Ysbyty i lawr Cwm Teigl yn ôl i’r Llan. Un esgyniad serth ac yna ambell ddarn gwlyb yn ail ran y daith. Tua 14 km/ 9 milltir a tua 300 m o ddringo.
Eryl Owain
Dydd Sadwrn 21 Mawrth
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Ardal Y Moelwynion
9.15 - 9.30
Croesor, lle mae toilet a maes parcio am ddim (SH 631446)
Cymal y Moelwynion o Gylchdaith Paddy Buckley sydd yn cynnwys 8 copa. Dringo Cnicht gynta’ cyn mynd ymlaen heibio Llyn yr Adar i gopaon Moel Druman ac Allt-Fawr. Anelu heibio Llyn Conglog a Llyn Cwm Corsiog i Chwarel Rhosydd. O'r chwarel, cylch i gynnwys copaon Foel Ddu, Moel yr Hydd, Moelwyn Bach, Craig Ysgafn a Moelwyn Mawr cyn disgyn yn ôl i Rhosydd. Cerdded hamddenol i lawr Cwm Croesor i orffen y daith. Peint haeddiannol yn Y Ring, Llanfrothen ar y ffordd adra. Taith 13 milltir gyda 5100 troedfedd o ddringo. Amser tua 8 awr a hanner.
Dwynwen Pennant
Dydd Sul 29 Mawrth
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Mynydd Mawr, Y Llwybr Llechi a Llyn Nantlle
9.15 - 9.30 ******* DYMA'R DAITH OEDD I FOD I DDIGWYDD AR 16 CHWEFROR **********
Canolfan Gymdeithasol Y Fron (SH 508548)
Cylch yn cynnwys copa Mynydd Mawr, Llyn Nantlle a chwareli'r dyffryn. Tua 10 milltir a chyda 600 m o godi. Llefydd i barcio o gwmpas y pentref.
Elen Huws
Dydd Sul 5 Ebrill
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Pedol Anafon – Llwytmor a Foel Fras
9.15 - 9.30
Maes parcio (SH 664719) tua cilometr i fyny’r cwm o bentref Abergwyngregyn
Cerdded heibio’r Rhaeadr Fawr ac i gopaon Llwytmor a Foel Fras, yna i lawr i Fwlch y Gwryd ac yn ôl dros y Drum a’r rhes o gopaon hyd at Foel Dduarth. Taith o 16 km/10 milltir gan ddringo tua 1090 m/3576’.
Gareth Huws ac Ifan Llywelyn
Dydd Mercher 15 Ebrill
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Cornel y Carneddau
10.15 - 10.30
Maes parcio Pant Dreiniog, Carneddi, Bethesda (SH 62521 67137).
Cychwyn yn hen bentref Carneddi uwchben Bethesda, a dilyn y ffordd heibio Tan y Foel, a oedd yn chwarae rhan bwysig yn Streic Fawr Penrhyn. Dringo tuag at gopa Moel Faban ac ymlaen i gopa greigiog y Gyrn a’i gorlannau hanesyddol, ac yna i gopa Moel Wnion lle cawn olygfeydd hardd tuag at Ynys Môn ac Ynys Seiriol. 9.5km ar ffermdir, mynydd a rhostir tua 3/3.5 awr.
Gobeithio y cawn weld merlod y Carneddau a chlywed yr ehedydd uwchben ac arogl cnau coco'r eithin yn blodeuo yn haul y gwanwyn
Claire Holmes, Cymdeithas Eryri
Cyswllt: Haf Meredydd
Dydd Sadwrn 18 Ebrill
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Pedol Cwm Idwal
9.15 - 9.30
Yr ail gilfan ar ochr y ffordd Ben-llyn Ogwen (SH 659601).
Taith i gynnwys copaon Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr a’r Garn. Cyfleoedd sgrialu ar grib ogleddol Tryfan a’r Grib Ddanheddog ar Glyder Fach.
Rheinallt Hedd
Dydd Sadwrn 25 Ebrill
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Pedol Cwm Llan
9.15 - 9.30
Maes parcio Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 628506).
I fyny Cwm Llan a chopa’r Aran cyn disgyn i Fwlch Llan. I fyny’r grib ddeheuol i gopa’r Wyddfa ac i lawr i Fwlch y Saethau, dros gopaon y Lliwedd ac i lawr Cwm Merch yn ôl i Nant Gwynant. Esgyniad o 1,400 metr a 15 cilometr o gerdded.
Stephen Williams
Dydd Llun, 4 Mai
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Teithiau i Bawb
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diwethaf, trefnir tair o deithiau mynydd mewn gwahanol rannau o Gymru gyda gwahoddiad agored i unrhyw un ymuno â ni.
Taith i ardal Hawes yn Swydd Efrog, 11 – 15 Mai
********Y Coronafeirws********
Yn anffodus oherwydd y coronafirws bydd yn rhaid inni ohirio ymweliad a Hawes ym mis Mai eleni. Nid penderfyniad heb ystyriaeth ddwys fu hyn, ond oherwydd yr amgylchiadau arbennig, ynghyd a pholisi y clwb o beidio trefnu teithiau yn sgil cyngor y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, teimlwn mae dyma’r penderfyniad cywir.
Fodd bynnag rydym wedi gohirio y daith hyd Mai 10fed 2021 hyd Mai 14eg. Mae’r cyfan o’r trefniadau ar gyfer eleni yn cael ei trosglwyddo ar gyfer 2021. Mae Clwb Mynydda Cymru wedi talu blaendal, a bydd hynny yn sefyll.
Hyderwn na fydd neb yn cymryd penderfyniad byrbwyll i ganslo y daith, ond mae cyfle i unrhyw aelod i ganslo y daith, gan gael adaliad . Ond bydd y clwb yn cymryd yr hawl i gadw 20% o’r taliad ar hyn o bryd. Yn ogystal bydd cyfle i aelodau eraill ymuno ar y daith.
Os cyfyd unrhyw gwestiwn, peidiwch ag oedi cyn cysylltu.
Diolch am eich dealltwriaeth o sefyllfa anodd ac unigryw iawn.
Y pris fydd £163.00 am wely, brecwast a phryd nos am bedair noson mewn hostel ieuenctid ar gyrion Hawes. Mae nifer o wahanol ddewisiadau ar gyfer cysgu, gan gynnwys ystafelloedd ensuite a ystafelloedd i ddau/dwy, pedwar, chwech ac wyth ond cyntaf i’r felin wrth gwrs!
Mae hawl ar gyfer llety i ugain hyd y 25ain o Ionawr. Ni ellir gwarantu y bydd lle ar gael wedi hynny.
Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os oes rhaid canslo am unrhyw reswm.
Danfonwch eich enw, cyfeiriad, rhif(au) ffôn ac ebost at:
Gwyn Williams, Godre'r Glyn, Ffordd Llanddoged, Llanrwst LL24 0YU
Gellir talu trwy amgau siec am £163 yn daladwy i: Clwb Mynydda Cymru
neu ebostio
godrerglyn@hotmail.co.uk
a thalu trwy drosglwyddiad electronig
Banc: HSBC
Enw’r cyfrif: Clwb Mynydda Cymru
Côd didoli: 40-09-03
Rhif y cyfrif: 51092138
Cyfeirnod i’w ddyfynnu: HAWES + enw’r unigolyn
DALIER SYLW: Bydd angen i’r sawl sy’n talu trwy’r dull hwn anfon e-bost at y Trysorydd (Dilys Phillips) yr un pryd ag at Gwyn – craflwyn@globalnet.co.uk
Dydd Mercher 20 Mai
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Llanrwst i Fetws-y-coed
9,45 - 10.00
Glasdir (Plas yn Dre), Llanrwst
Cerdded heibio rhaeadr y Parc Mawr i gyfeiriad Nant Bwlch yr Haearn. Cawn weld ambell i lyn bach yma ac acw ar y ffordd a golygfeydd da o'r mynyddoedd cyn disgyn i lawr yn raddol at Bont y Pair. Bydd cyfle i gael panad yn Betws cyn dal trên neu fws yn ôl i Lanrwst. Tua 7 milltir.
Elizabeth Roberts, Iona Evans & Mair Owens
23 – 30 Mai
********Y Coronafeirws********
Gwneir penderfyniad yn fuan am y ddwy daith breswyl sydd wedi eu trefnu ym mis Mai, i Swydd Efrog ac i’r Alban.
Glen Shiel
Mae 20 o lefydd wedi eu llogi’n amodol yn Hostel Ratagan ar lan Loch Duich tua 2.5 milltir o bentref Shiel Bridge. Y pris fydd £160 am saith noson. Bydd yn bosib (yn nes ymlaen) archebu brecwast am £6 y noson yn ychwanegol. Bydd amrywiaeth o ystafelloedd ar gael, gan gynnwys nifer cyfyngedig o lofftydd i ddau. Ffurflen archebu ar wefan y clwb neu cysylltwch â’r trefnydd.
Gareth Everett Roberts
Dydd Mercher 24 Mehefin - Abergynolwyn
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Lisa Markham Manylion i ddilyn
Dydd Mercher 15 Gorffennaf
******Y Coronafeirws*******
O ganlyniad i’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf sydd wedi ei gyhoeddi, gwnaed y penderfyniad anorfod i ganslo holl deithiau rhaglen gyfredol y clwb
Taith i Fynyddoedd yr Himalaya
Mae Morfudd Thomas yn fodlon trefnu taith i Fynyddoedd yr Himalaya ac estyn croeso i aelodau Clwb Mynydda Cymru - ac unrhyw un arall efo diddordeb - i ymuno â'r daith. Mae gan Morfudd brofiad helaeth o gerdded yn y mynyddoedd hyn ac o drefnu teithiau yno ac mae ganddi gysylltiad gwerthfawr dros ben ag un teulu yn arbennig. Mae wedi cyd-weithio â Kamal a'i deulu i drefnu sawl taith yn y gorffennol, teithiau sydd wedi elwa'n fawr o brofiad personol Kamal a'r faith ei fod yn gallu cynnig prisiau rhatach o lawer na defnyddio cwmniau masnachol.
Gweler y Newyddion am fwy o wybodaeth.
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 07803191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07760 283024 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com