{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr-Ebrill 2022

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y cyfnod presennol:

  • Ni ddylai unrhyw un ddod ar daith os ydynt yn dangos arwyddion o salwch
  • Rhaid  cysylltu ag arweinydd y daith erbyn 7.00 p.m. ddau ddiwrnod cyn y daith a chael cadarnhad gan yr arweinydd. Nid yw'n ddigonol i ddanfon neges yn dweud eich bod am ddod
  • Atgoffwn aelodau o’r angen i ddilyn y canllawiau a rheoliadau Cofid-19 a fydd yn weithredol ar ddyddiad y daith e.e. cadw pellter ac ati. Ni ddylai neb ddod ar daith os yw hi/ef neu aelod o’r teulu efo symptomau posib o’r feirws Corona.
  • Dylid cofio'r canllaw i gadw pellter o 2 m yn y man cyfarfod ac yn ystod y daith – oddi wrth eich cyd-aelodau a cherddwyr eraill
  • DOGFEN ASESU RISG COVID-19


Sadwrn 18 Rhagfyr
Pedol Elidir
9.15   9.30

Cychwyn o Fethesda a cherdded y llwybr llechi at giat Marchlyn a dychwelyd hyd y Lôn Las a Parc Meurig.  Manylion pellach i ddod.

Stephen Williams


Llun 3 Ionawr
Yr Wyddfa
9.30   9.45

Cyfarfod ym Mhen y Pas.

Taith Calan draddodiadol y clwb i gopa’r Wyddfa. Dechrau cerdded wedi i’r bws Sherpa o Gapel Curig (9.22) a Phen y Gwryd (9.29) gyrraedd am 9.35. Dewis o lwybrau gan gynnwys opsiwn o fynd dros Grib Goch. Angen bod yn barod am y posibilrwydd o amgylchiadau gaeafol

Eryl Owain


Sadwrn 15 Ionawr
Y Carneddau o Lyn Ogwen
9.15    9.30

Cyfarfod yn Glan Dena (SH 668 605) i gychwyn am 9.30. Parcio am ddim ar ochor y ffordd.

Dilyn y Llwybr Llechi at Fferm Gwern Gof Isaf ac yna lôn y Bwrdd Dŵr i fyny am Ffynnon Llugwy cyn ymuno â llwybr uwchben y llyn at Bwlch Eryl Farchog. Yna byddwn yn sgrialu i fyny'r slabiau am Graig yr Ysfa ac ymlaen am gopa Carnedd Llywelyn. Ymlaen wedyn dros Gefn Ysgolion Duon am Garnedd Dafydd a Phen yr Ole Wen cyn gostwng yn serth i lawr heibio Ffynnon Lloer yn ôl i Glan Dena.  Taith 9.5 milltir gyda 900 medr o ddringo. Mi allai hon fod yn daith heriol mewn amodau gaeafol felly cysylltwch gyda'r arweinydd o flaen llaw i drafod os nad ydach chi'n siwr o beth i’w ddisgwyl.

Stephen Williams


Mercher 19 Ionawr
Taith y llynnoedd
10.00 10.15
Maes parcio Pont y Pair, Betws-y-coed SH 791 567 (£4.70).

Byddwn yn mynd i fyny i ardal Nant Bwlch yr Haearn heibio nifer o lynnoedd, gyda golygfeydd gwych.
Manylion pellach gan Elizabeth Roberts.

Mair Owens; Elizabeth Roberts a Iona Evans


Sadwrn 22 Ionawr
Crib Llawllech o’r Bermo
9.15     9.30
Cyfarfod yn y maes parcio tu ôl i’r Ganolfan Hamdden. Digon o lefydd parcio a posib parcio ar ambell stryd am ddim yn y gaeaf.

Cychwyn o'r dref, ble mae toiledau a chaffis. Mynd i fyny heibio'r eglwys, a wedyn heibio Gellfach a Gellfawr i Fwlch y Llan. Dringo'n serth wedyn i'r grib a thros Fwlch Cwm Maria i Fwlch y Rhiwgyr. Disgyn o Fwlch y Rhiwgyr at Gerrig Arthur, uwchben fferm Sylfaen ac ymlaen yn ôl i Fwlch y Llan ac oddi yno mae dewis o fynd yn ôl i’r dref heibio Bedd y Ffrancwr neu ar hyd y grib sy’n dilyn Taith y Cambria. Tua 7-8 milltir a thua 600 m o godi.

Eirlys Wyn Jones


Sadwrn 22 Ionawr
Taith Llangyndeyrn
9.15     9.30
Canolfan y pentref Llangyndeyrn (SN 460 140).

Cerdded tuag at pentref Crwbin gan esgyn tuag at chwarel Torcoed a Mynydd LLangyndeyrn. Taith o thua 8 milltir. I’w haddasu os na fydd y tywydd yn ffafriol.

Bruce Lane


Sul 30 Ionawr
Y Garn ac Elidir Fawr
9.15     9.30
Cyfarfod ym maes parcio y Parc Cenedlaethol (SH 607583) yn Nant Peris (efo toiledau).

Cerdded i fyny Cwm Padrig i Lyn y Cwn ac yna i gopa’r Garn. Ymlaen wedyn dros Foel Goch i Fwlch y Brecan. Dringo i gopa Elidir Fawr. Disgyn i lawr wedyn i Gwm Dudodyn ac yn  ol i Nant Peris. Posib ymestyn y daith i gynnwys Mynydd Perfedd a Garnedd y Filiast os amodau yn ffafriol.
Taith tua 8 milltir a 3740 troedfedd o ddringo.

Iolo Roberts


Sadwrn 12 Chwefror *Newidiwyd i 19 Chwefror
Cwm Teigl
9.15    9.30

Cyfarfod yn Llan Ffestiniog (SH 704423).

Taith o rhyw 9 milltir gyda 1800 o ddringo; heibio Llyn Morwynion, Y Garnedd, Y Gamallt a’r Clochdy. Dychwelyd heibio Hafod Ysbyty. Taith hamddenol, gyda golygfeydd arbennig o Ddyffryn Ffestiniog.

Gwyn Williams  


Sadwrn 12 Chwefror - *** Newidiwyd i 19 Chwefror
Taith Corsgoch
9.15     9.30

Man cychwyn fydd pentre Cwrtnewydd (SN 490 482) rhyw 5/6 milltir o Llambed, neu 4/5 milltir i'r gogledd o Landysul.

Gadael y ceir ar ben y bryn tu allan i Ysgol Cwrtnewydd a mynd ag isafswm o geir lawr i'r pentre. Taith gylch yn mynd lan at Gorsgoch ac o amgylch y gors, a heibio'r safle trin carffosiaeth! Mae'r llwybrau hyn yn eithaf sych, h.y. dim dŵr yn llifo, dim nentydd i'w croesi na phwll nofio yn y canol!

Eileen Curry 


12 – 19 Chwefror
Taith yr Alban

Mae ystafelloedd wedi eu cadw i’r rhai sydd eisoes wedi mynegi diddordeb yn y Crianlarich Hotel am bris o £350 y pen, gan gynnwys brecwast a phryd min nos. Bydd yn rhaid aros i weld a fydd amgylchiadau a rheoliadau Cofid yn caniatau i’r daith fynd rhagddi. Os oes diddordeb, cysylltwch â’r trefnydd. Nid oes sicrwydd y byddai lle ar gael.

Gareth Everett Roberts


Mercher 23 Chwefror
Ardal Llandudno/Bae Penrhyn
10.00 10.15
Ger gorsaf y bad achub ym mhen dwyreiniol promenâd Llandudno  SH 800 821.

Taith hawdd o rhyw 6 milltir o amgylch Nant y Gamar, Coed Gaer, Mynydd Pant, Trwyn y Fuwch a Chreigiau Rhiwledyn.

Dilys ac Aneurin Phillips


Sadwrn 26 Chwefror
Crib Maesglasau
9.15    9.30

Cyfarfod ger y Llew Coch yn Ninas Mawddwy – lle parcio a thoiledau gyferbyn (SH 858 149).

Symud rhai ceir i ben Bwlch Oerddrws a cherdded y grib yn ôl i Dinas.
 
Tegwyn Jones


Sadwrn 12 Mawrth
Pedol Drws y Coed
9.15     9.30

Cyfarfod ym mhentref Y Fron. Digon o le i barcio lle mae’r ffordd yn fforchio fel da chi’n dod i fewn i’r pentref (SH 506 548) ond dim toiledau.

Cychwyn wrth gerdded lawr i waelod Dyffryn Nantlle a fferm Tal y Mignedd Isaf cyn dilyn cwrs y ras fynydd i ben Mynydd Tal y Mignedd. Ar hyd Crib Nantlle dros Trum y Ddisgyl, Mynydd Drws y Coed a’r Garn cyn disgyn i lawr i Rhyd Ddu. O Rhyd Ddu, mynd drwy’r coed uwchben Planwydd a dilyn y llwybr i fynu’r grib i ben Foel Rudd a wedyn Mynydd Mawr cyn disgyn yn ôl lawr i’r Fron. Taith 12 milltir efo 4800 troedfedd o ddringo. Taith tua 9 awr.

Dwynwen Pennant


Sul 20 Mawrth
Yr Wyddfa a’r Moelydd
9.15 9.30
Cyfarfod yn lle parcio Cefn Du, ger Waunfawr (SH 550 598).

Moel Eilio, Moel Cynghorion a’r Wyddfa ac i lawr llwybr Llanberis. Os oes tywydd gwael gellid ddod lawr o Foel Cynghorion ac yn ôl drwy Gwm Brwynog. Tua 20 km / 12 milltir.

Sonia Williams


Mercher 23 Mawrth
Ardal y Llechi.
9.45 10.00

Maes parcio Rhostryfan, tu ucha’r ysgol ar y chwith. SH 498579

Dilyn Llwybr Llechi Bryngwyn yna chydig o dynnu fyny ysgafn dros Moel Tryfan a Moel Smytho. Tua 7 milltir.

Anet Thomas


Sadwrn 26 Mawrth
Cylch y Glyderau
8.50       9.00

Maes parcio’r Parc Cenedlaethol (SH 649 603)

Taith dros Y Garn, Llyn y Cŵn, Glyder Fawr, Glyder Fach i Fwlch Tryfan ac yn ôl heibio Llyn Bochlwyd. Hoffwn annog pawb i ddal bws T10 o Fethesda – gadael Sgwâr Fictoria 8.45. Parcio ym maes parcio Pant Dreiniog (SH 622 668). Mae’r bws yn gadael Bangor 8.23 i unrhyw un sydd eisiau’i ddal o fanno. Bws yn cyrraedd Pen y Benglog 8.53.

Siân Shakespear 


Sadwrn 2 Ebrill
Cylchdaith Nantgwryd o Gapel Curig ******** GOHIRIWYD *******
8.00    8.15
Parcio ar ochr yr A4086 ger Plas y Brenin (SH 715 578).

Dilyn y llwybr drwy’r goedwig gan anelu am ysgwydd gogledd ddwyreiniol Moel Siabod ac ymlaen i’r copa. Sgrialu lefel 1 – neu aros ar y llwybr. Yna lawr am Westy Pen y Gwryd a chroesi'r A4086, a dilyn llwybr y chwarelwyr fyny at Gwm Caseg-Ffraith ac yn ôl dros gopaon Foel Goch, Gallt yr Ogof, trwy Bwlch Goleuni a Cefn y Capel. Tua 24 km (15 milltir) gan godi 1,392 m at fan uchaf o 867. Tua naw i ddeg awr. Gobeithio y bydd modd cael pryd o fwyd ym Mhlas y Brenin ar ddiwedd y daith.

Keith Roberts  07789 911437  keithtan@hotmail.co.uk


Sadwrn 9 Ebrill
Crib Penmaen Bach a chopaon Mynydd y Dref
9.45     10.00

Pensychnant (SH 755 768)

Sgrialu gradd 1 yna taith gerdded ar Fynydd y Dref Conwy. Tua 10 km

Arwel Roberts


Mercher 13 Ebrill
Taith Ffynnongroew
10.15 10.30
Cyfarfod wrth Melin y Garth, Ffynnongroew (SJ139817). Parcio cyfyng neu barcio ar y stryd Ffynnongroew. 

Taith bro Thomas Pennant. Garth, Trelogan, Maen Archwyfan, Y Tŵr, Chwitffordd a Nant y Felin Blwm - 10 km.

Arwel Roberts


Llun y Pasg 18 Ebrill
Rhinog Fawr a Rhinog Fach
9.15      9.30

Y man parcio ger Greigddu Isaf (SH 684 302) – troi o’r ffordd fawr 1 km i’r de o bentref bach Bronaber.
 
Dewch i dawelwch y Rhinogydd i osgoi prysurdeb y Pasg yn Eryri! Cerdded tua Bwlch Tyddiad a heibio i Lyn Du i gopa Rhinog Fawr, lawr yn serth ar dir garw i Fwlch Drws Ardudwy cyn codi eto i gopa Rhinog Fach a dychwelyd heibio Pont Grugle. Taith o tua 14 km / 9 milltir a tua 850 m/2800’ o ddringo.

Eryl Owain


Sul 24 Ebrill *******GOHIRIWYD - oherwydd prawf cofid positif yr arweinydd
Cyfannedd Fawr a Llynnoedd Cregennan
9.45    10.00

Cyfarfod ochr Bermo i Bont y Bermo erbyn 9:45 (yn barod i gerdded) neu faes parcio Morfa Mawddach erbyn 10:00.
Hoffwn gael gwybod ymlaen llaw pwy fydd yn bwriadu cychwyn o’r Bermo.

Cerdded i fyny am Cyfannedd Fawr ac yna i fyny drwy’r goedwig i gyrraedd Y Ffordd Ddu a’i dilyn lawr at y ffordd sy’n mynd am Lynnoedd Cregennen. Oddi yno, dilyn y llwybr at olion Llys Bradwen ac yna’r  llwybr i lawr gyda’r rhaeadr am Arthog gan fynd yn ôl at y bont heibio Fegla Fawr.
Tua 9 neu 11 milltir (dibynnu ar fan dechrau) a thua 450 m o godi.

Eirlys Wyn Jones  01341 241391 / 07901 542852  eirlyswyn@outlook.com


Trip yr Alban, 21 - 28 Mai
Mae'r trefniadau wedi eu cwblhau ar gyfer ymweliad y clwb â'r Alban fis Mai. Mae'r llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig felly y cyntaf i'r felin fydd hi.

Pentref Drumnadrochit ger Inverness fydd y ganolfan eleni, lle hwylus ar gyfer mynyddoedd Glen Affric, Mullardoch a Strathfarrar.

Mae dau ddewis:

  1. Lle i 10 aros yn y Loch Ness Lodge yn Drumnadrochit o ddydd Sadwrn y 21ain o Fai tan Sadwrn y 28ain o Fai, £420 am yr wythnos, gwely a brecwast mewn ystafelloedd twin.

  2. Lle i 10 aros yn y Loch Ness Lodge am bedair noson (nos Sadwrn tan nos Fawrth) yna dwy noson yn Hostel Glen Affric ar y nos Fercher a nos Iau ac un noson yn ôl yn y Loch Ness Lodge, nos Wener y 27ain o Fai. £350 am yr wythnos, gwely a brecwast yn y gwesty, ond hunan ddarpariaeth yn yr hostel.

Mae Hostel Alltbeithe yn hwylus ar gyfer cerdded rhai o fynyddoedd mwyaf anghysbell yr Alban ym mhen uchaf Glen Affric. Dydi hi ddim yn bosibl mynd â char yno ac mae’n wyth milltir o feicio neu gerdded o’r ffordd agosaf. Mae cyfleusterau coginio yno ond rhaid cludo eich bwyd eich hunain a sach gysgu.

Y cyntaf i’r felin fydd hi o ran bachu lle o ran y naill ddewis neu’r llall.

Mi fydd angen blaendal o £100 efo pob enw – na fydd yn bosibl ei ad-dalu.

Trefnydd: Gareth Everett Roberts 07773 523233 neu cefncoed@gmail.com
Bydd angen danfon y blaendal ato trwy drosglwyddiad banc, gan nodi Loch Ness a’ch enw fel cyfeirnod.


Mercher 25 Mai
Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle

09.45 10.00
Maes parcio Gwinllan Pant Du ar gyrion Penygroes ar y B4418 i Ryd-ddu (CG 478532), (ni fydd y caffi yn agored).

Ar ôl croesi’r dyffryn, cerddwn drwy adfeilion chwareli bychan Llanllyfni e.e. Taldrwst, Tyddyn Agnes a Singrig. Ymlaen heibio Bro Silyn a’r ciosg enwog. Wedi croesi’r afon Llyfnwy, ymlaen drwy Talysarn gan ddilyn y llwybrau sy’n dilyn yr hen dramffordd i gyfeiriad pentref Nantlle. Gwelwn hen chwareli fel Coed Madog, Cloddfa Coed a Dorothea ar y llaw dde a Thalsarn, Gallt y Fedw a Phenybryn ar y llaw chwith. Wedi cyrraedd Nantlle, ymunwn â’r llwybr i fyny at Chwarel Pen yr Orsedd. Yma mae’r unig ddringo ar y daith – awn o amgylch tomenni dwyreiniol chwarel Pen yr Orsedd lle mae cloddio achlysurol o hyd. Cyn bo hir cyrhaeddwn gyrion pentref Y Fron gan ddilyn trac yr hen reilffordd i chwarel Cilgwyn a thyllau Gloddfa Glytiau, Hen Gilgwyn a Maengoch. O bentref Cilgwyn, cerddwn ar hyd hen lwybrau sy’n ymuno â’r ffordd i Benygroes. Yna croesi’r caeau yn ôl i Bant Du ….  a’r caffi. Pellter o 9 m/14 km. 300 m o ddringo.

Rhiannon a Clive James 07787755673 / 01286 674806 clivejames1807@btinternet.com


Mercher 15 Mehefin
Cylch Egryn, Ardudwy
10.00 10.15

Y gilfan 300 medr i'r de o bentref Tal-y-bont, Ardudwy, ar ochr y môr o'r ffordd SH590214.
Cyffiniau Tal-y-bont, Ardudwy Tŷ canoloesol Egryn, Carneddau Hengwm, cylchoedd cerrig, Bwlch y Rhiwgyr. Codi 300 m 6/7 milltir

Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com


Mercher 13 Gorffennaf
Ysbyty Ifan a'r Migneint

Cychwyn o Ysbyty Ifan. Taith 8-9 milltir. 

Mwy o fanylion i ddod.

Nia Wyn, Winnie a Mags.



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain  01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 0780 3191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com