Dyddiad
2013 |
Amser |
Lle |
Taith |
Arwain/Cyswllt |
Cyf. |
Cych. |
Sadwrn
Mawrth
2 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio Pen-y-Pas
neu
ar ochr y ffordd ychydig i'r gogledd o Ben-y-Gwryd
CG: SH 661 559) am 8.50 yn brydlon (parcio am ddim!!) i gerdded (20 munud) i Ben-y-Pas. |
Yr Wyddfa
Cychwyn o Ben-y-pas at Glaslyn, i fyny'r Cribau (peth sgramblo hawdd) i Fwlch y Saethau ac yna (Lliwedd os yw'r tywydd yn dda?) copa'r Wyddfa. Dychwelyd i lawr llwybr Pen-y-gwryd |
Eryl Owain
|
Sadwrn
Mawrth
2 |
9.15 |
9.30 |
Maindy Crescent , Ton Pentre CG: SS 968 954
Lle i barcio ar Maindy Crescent dros y ffordd i'r tai, a gorsaf yr Heddlu neu ar Maindy Road rownd y gornel. |
Taith y Cymoedd
Bwlch y Clawdd, Mynydd Llangeinwyr,Cwm y Fuwch. Pellter tua 14 milltir.
Sylwadau: Golygfeydd gwych o 'r Cymoedd gan groesi o Gwm Rhondda i Gwm Ogwr ac yn ôl.
'Sgod a Sglods ar gael yn y 'Fish Called Rhondda' yn agos i'r diwedd! |
Emlyn Penny Jones
|
Mercher
Mawrth
13 |
10.15 |
10.30 |
Maes parcio Llantysilio
CG:
SJ 198 433
Sut i gyrraedd: Wrth ddod o’r Gorllewin ar yr A5, tua dwy filltir a hanner o Lyndyfrdwy, troi i lawr i’r chwith ychydig o lathenni cyn Gorsaf Berwyn ( adeilad du a gwyn), dilyn y ffordd dros y bont, ac yna i’r chwith ar y gyffordd ar ben yr allt. Mae’r maes parcio ( am ddim, toiledau) ar y llaw chwith. |
Taith yn ardal Llangollen
heibio Abaty Glyn y Groes, i ben Castell Dinas Brân, dros bont Pontcysyllte, ar hyd y Gamlas |
Gwen Evans
|
Sadwrn
Mawrth
16 |
9.15 |
9.30 |
Parcio ar ffordd Llyn Marchlyn
ger Deiniolen
CG:
SH 596 631 |
Pedol Marchlyn
Carnedd y Filiast - Mynydd Perfedd - Elidir Fawr - Elidir Fach |
Nathan Price
neu
Eryl Owain
|
Sul
Mawrth
24 |
10.00 |
|
ger Tafarn y Castell |
Dringo sport
– Llysfaen
Addas i bawb |
Arwel Roberts
|
Sadwrn
Ebrill
13 |
9.00 |
|
Tafarn y Llew Coch Llanbedr:
CG: SO 240 204
Man cychwyn y daith
ar ôl rhannu ceir:
CG:
SO 234 228 |
Taith yn y Mynyddoedd Du
(Pen Cerrig Calch,
Mynydd Llysiau,
Pen y Gadair Fawr)
Pellter tua 13 milltir |
Aled Morgan
|
Sadwrn
Ebrill
13 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio’r Ganllwyd (gyferbyn â Neuadd y Pentref) CG: SH 727 244 |
Y Llethr
Cwm Camlan-Pont y Brenin-
Y Llethr-Crib y Rhiw
ac yn ôl.
tua 10 milltir
gyda tua 720m / 2350’
o ddringo |
Rheinallt Hughes
|
Mercher
Ebrill
17 |
9.40 |
|
Abergwyngregyn
Parcio am ddim heibio i`r cylchdro bysus o flaen Tafarn Aber Falls.
9.55, dal bws i Rachub
10.30 Stryd y Mynydd, |
Abergwyngregyn
Moel Faban, Llefn, Gyrn, Moel Wnion, Cras, yna o amgylch y waen heibio i`r ddau raeadr ac i lawr i Aber am banad yng Nghaffi yr Hen Felin. |
Dewi Roberts
|
Sadwrn
Ebrill
20 |
10.00 |
|
Arosfan wrth garej
Citroen Porthmadog
CG:
SH 564 400 |
Dringo
Moel y Gest
Addas i bawb |
Dilwyn Jones
|
Sadwrn
Ebrill
27 |
9.15 |
9.30 |
Maes Parcio Croesor
CG:
SH 631 446 |
Y Moelwynion
O amgylch Cnicht
Bwlch y Batel - Moel Druman - Bwlch y Rhosydd - Moel yr Hydd - Moelwyn Mawr - Moelwyn Bach
Tua 16 km / 10 milltir a thua 1080 medr / 3540' o ddringo
ond gellir byrhau os oes angen |
Sian Williams
|
Sadwrn
Mai
4 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio Bethania,
Nant Gwynant
CG:
SH 627 506 |
Pedol Cwm Llan
Gallt y Wenallt-Y Lliwedd
-Yr Wyddfa-
Allt Maenderyn.
Tua 16km/10milltir
gyda tua 1050m / 3440’
o ddringo |
Richard Roberts
|
Sadwrn
Mai
11 |
10.00 |
|
Maes parcio Dolyrhedyn,
Tan y Grisiau |
Dringo
Moelwyn
Addas i bawb |
Myfyr Tomas
|
Mercher
Mai
15 |
9.40 fan
bellaf
[er mwyn
dal y bws am 9.50] |
|
Dal bws wrth geg y lôn am
Eglwys Pistyll
CG: SH
330 421
i gyfeiriad Llithfaen.
(amser i'w gadarnhau)
Mae cilfan fawr i barcio yno. |
Yr Eifl
(gan obeithio na fydd y niwl mor drwchus â'r tro o'r blaen)
Cerdded tros Dre Ceiri a'r Eifl ac i lawr i Nant Gwrtheyrn, lle bydd siawns am baned gobeithio. Yna ymlaen ar hyd Llwybr yr Arfordir i Bistyll.
[Bydd y bws yn gadael Pistyll am 9.50 ac yn cyrraedd Llithfaen lle byddwn yn cychwyn cerdded am 9.55.] |
Anet Thomas
|
Penwythnos
Mai
17-19 |
|
|
Rosebush, Sir Benfro
Aelodau i wneud eu
trefniadau eu hunain
rhifau ffôn:
Tafarn Sinc [bwyd]:
01437-532214;
Llety Tufton:
01437-532379;
Llety Maenlochog:
10437-532476 |
Teithiau yn y Preseli
Teithiau cerdded neu seiclo ar y dydd Sadwrn a Sul
dros y Preseli
Llety: Dewis o wely a Brecwast yn yr ardal [£25-£35 y noson] neu maes carafanau yn y pentre.
Bwyd nos Wener/Sadwrn
yn Nhafarn Sinc, Rosebush [Cymreig a
chroesawgar iawn] |
Bruce Lane
|
Sadwrn
Mai
18 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio
ger Llyn Ogwen
CG:
SH 657 603 |
Y Glyderau a Tryfan
Pedol tua 8 milltir
gyda tua 970m / 3180’
o ddringo |
Nathan Price
|
Penwythnos
Mai
25-26
Gwersylla
ar y
nos Sadwrn
|
9.15 |
9.30 |
Arosfan
ger Ysgol Gynradd Garndolbenmaen
CG: SH 495 440 |
Pedol Cwm Pennant
Mynydd Graig Goch, Bwlch Cwmdulyn, Garnedd Goch, Craig Cwm Silyn, Bwlch Dros-bern, Mynydd Tal-y-mignedd, Trum y Ddysgl, Bwlch y Ddwy elor, Cwm Trwsgl, Moel Lefn, Moel yr Ogof, Bwlch Meillionen, Cwm Llefrith, heibio chwarel Moelfre a Cae Amos am Fwlch y Bedol a Craig Garn.
Tua 25km / 16 milltir
gyda tua 1330m / 4360’
o ddringo
Gwersylla ar y nos Sadwrn |
Morfudd Thomas
|
Sadwrn
Mehefin
1 |
8.15 |
8.30 |
Croesor
CG:
SH 631 446
i fynd â cheir i Bont Cyfyng |
Moel Siabod i Cnicht
Taith hir a heriol,
tua 14 milltir
dros dir gwyllt
ac anghysbell.
Golygfeydd unigryw o gopaon Cymru dros 3000 o droedfeddi gyda tua 1340m / 4400’ o ddringo
O Bont Cyfyng i fyny Moel Siabod, lawr ysgwydd Moel Siabod tuag at Pen y Gwryd efo golygfeydd ysblenydd (gobeithio) i Fwlch Rhiw'r Ychen. Dilyn y ffin rhwng Gwynedd a Chonwy i Foel Meirch ac Ysgafell Wen yna i gopa Cnicht a lawr i Croesor a siawns am beint yn y Ring, Llanfrothen |
Mark Wyn Williams
Rhaid cysylltu â Mark
cyn 28 Mai (dydd Mawrth) |
Sadwrn
Mehefin
8 |
|
|
Maes parcio
Pont y Pandy, Llanuwchllyn
CG:
SH 879 297
i fynd â cheir neu
ddal bws X94 10.50 i Ryd-y-main
Manylion i ddilyn |
Aran Fawddwy ac Aran Benllyn
Rhyd-y-main, heibio Esgair Gawr i gopa Aran Fawddwy, ymlaen i Aran Benllyn ac i lawr i Lanuwchllyn heibio Carreg Goffa Llew Gwent
tua 14 km / 10 milltir
gyda tua 860m / 2800’
o ddringo |
Arwel Roberts
neu
Owain Gwent
|
Mercher
Mehefin
12 |
10.15 |
10.30 |
Parcio yn Llanrwst
CG:
SH 613 798
ochr arall i'r afon o'r dre ei hun |
Cerdded i gyfeiriad Castell Gwydir, a mynd i fyny heibio Eglwys Llanrhychwyn at Lyn Geirionydd.
Ymlaen hyd ochr y llyn, a mynd dros y bryn i ben Llyn Crafnant. Cerdded wrth ochr y llyn ac i lawr i Drefriw, a chroesi Pont Gower yn ôl i Lanrwst.
Rhyw 6 milltir efallai. |
Gareth Tilsley
|
Sadwrn
Mehefin
15 |
10.00 |
|
Maes parcio Croesor |
Dringo
Lliwedd Bychan
Addas i bawb |
Myfyr Tomas
|
Sadwrn
Mehefin
15 |
9.15 |
9.30 |
Wrth ochr yr heol
yn agos i Maesnant
CG:
SN 775 880 |
Ardal Pumlumon
Tua 12 milltir fydd y daith, gyda sawl opsiwn i'w wneud yn llai |
Digby Bevan
|
Mercher
Mehefin
19 |
|
|
|
Ynys Enlli
Taith ar gwch i Ynys Enlli am y dydd.
Mi fydd amryw o 'griw dydd Mercher' (Anet, Haf, Carys P, Rhian) yn aros ar yr ynys am yr wythnos felly croeso i unrhyw un ddod draw am y dydd
Lle i 11 -
'y cyntaf i'r felin ...' |
Haf Meredydd |
Sadwrn
Mehefin
22 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio
Llangynnog wrth
y toiledau cyhoeddus
CG:
SJ 054 262 |
Moel Sych
Taith i gopa Moel Sych heibio Pistyll Rhaeadr, ymlaen i’r B4391 (Ffordd Bala),
ac yn ôl drwy Gwm Rhiwarth neu Gwm Pennant,
yn dibynnu ar yr amser
a’r coesau.
Taith o 12 i 14 milltir
gyda tua
690m / 2260’ i 780m / 2560’
o ddringo |
Gareth Everett Roberts
|
Sadwrn
Mehefin
29
neu
Sul 30
|
3.30
a.m. |
|
Pen-y-pas
Noder: Bydd angen 'cofrestru' efo Rhys ymlaen llaw erbyn 15 Ebrill - y cyntaf i'r felin. Bydd angen i bawb fod wedi mynd dros Crib Goch a Tryfan yn hyderus o'r blaen, yn gerddwyr cryf efo digonedd o stamina.
Bydd hawl gan Rhys ddweud 'Na' os bydd o'n gweld na fydd rhywun yn ddigon abl i wneud y daith.
Bydd disgwyl i bawb baratoi ac ymarfer teithiau hir sy'n rhan o'r her yn ystod yr wythnosau cynt.
Cysylltwch efo Rhys i drafod |
Her y 15 Copa mewn 15 awr
Dros Crib Goch i'r Wyddfa, lawr i Nant Peris, Elidir Fawr, Y Garn, Glyderau a Thryfan i Lan Dena, Pen yr Oleu Wen a'r Carneddau, draw i Foel Fras a gorffen ym Mwlch y Ddeufaen (SH 721 715)
24 milltir / tua 17 awr
i gyd.
Hyd at 8 o bobol |
Rhys Dafis
|
Sadwrn
Gorffennaf
6 |
9.15 |
9.30 |
Maes parcio canol Bethesda
ger Swyddfa'r Heddlu
CG: SH 622 668 |
Yr Elen a’r Carneddau
Taith i fyny Cwm Caseg at Ffynnon Caseg a chopa’r Elen, ymlaen i Garnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd ac i lawr Craig Lem i Gwm Pen-llafar.
Tua 16 km / 10 milltir
gyda tua 1010m / 3310’
o ddringo |
Gareth Wyn
neu
Gareth Williams
|
Sadwrn
Gorffennaf
13 |
10.00 |
|
pen Llyn Peris
CG:
SH 598 587
****PWYSIG GOHIRIWYD |
Dringo
Dinorwig Plateau Slabs
Addas i bawb |
Arwel Roberts
|
Sadwrn
Gorffennaf
6
|
9.15 |
9.30 |
Maes parcio
Parc Melincourt, Resolven
CG: 822020 |
Taith Bryniau Resolven
a Llwybr Sant Illtud
13 milltir |
Rhun Jones
|
Sadwrn
Gorffennaf
20
|
9.15 |
9.30 |
Ger y Fic yn Llanbedr
(i drefnu ceir)
CG:
SH 585 268 |
Rhinog Fawr a Rhinog Fach o Gwm Nantcol
tua 12km / 8 milltir
gyda tua 700m / 2300’
o ddringo |
Iolo Roberts
|
Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau
Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.
Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.
Partneriaeth Awyr Agored
Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php
.