HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhaglen Mawrth - Gorffennaf 2014

Dyddiad
2013
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Mawrth
22
9.15 9.30

Maes parcio Pandy
ger Glasdir Isaf,  Llanfachreth
CG: SH 745 224

Rhobell Fawr
Hermon - Rhobell Fawr - Llanfachreth ac yn ôl i’r cychwyn – tua 13 milltir

Rheinallt Hughes

Sadwrn
Mawrth
29
9.15 9.30

Maes parcio Llanystumdwy

Beicio yn Llŷn ac Eifionydd
Dewis o ddwy daith:  Taith hir o tua 50 milltir i Aberdaron ac yn ôl neu daith mwy hamddenol o amgylch Eifionydd.  Addas i feiciau ffordd.
Cyfle i gael pryd yng Ngwesty’r Plu wedi’r daith – cysylltwch â’r trefnwyr i gael archebu lle ymlaen llaw.

Cheryl a Dei Jones

Sadwrn
Ebrill
5
9.15 9.30

wrth yr A55
CG: SH 625 714
Troi odiwrth yr A55 am Tal y Bont

Cylch Gogledd y Carneddau
Tros y Drosgl a Bera Bach (Mawr hefyd efallai) i Garnedd Gwenllian, ymlaen i Foel Fras a’r Drum ac i lawr i Lanfairfechan.
Bws yn ôl at y ceir yn syth neu ar ôl peint neu baned (bysiau yn aml).
Tua 10 milltir gan esgyn yn raddol tua 950 medr.

Iolyn Jones

Sadwrn
Ebrill
12
9.10 9.20

Maes parcio ger yr ysgol ym Meddgelert
CG: SH 588 481
erbyn 9.10 fan bellaf i ddal bws i Nant Gwynant am 9.24.

O amgylch Yr Aran
Dilyn Llwybr Watcyn o Bont Bethania i Gwm Llan cyn dringo i Fwlch Cwm Llan (byddai cyfle i unrhyw un fyddai'n dymuno  i ddringo'r Aran) ac i lawr i Ryd-ddu a dilyn y llwybr newydd, Llwybr Gwyrfai, yn ôl i Feddgelert.
Tua 10 milltir a thua 500 m o esgyn (heb yr Aran).

Anet Thomas

neu
Gwyn Williams
Sadwrn
Ebrill
12
  9.30 Ger y dafarn ym Mhontneddfechan
CG: SN 902 078

Taith Rheadrau Cwm Nedd
Taith o gwmpas y rhaeadrau (13.5 km) gyda’r posibilrwydd o’i hymestyn lan i Bwll y rhyd

Dai Thomas
Mercher
Ebrill
16
9.45   Ger Neuadd yr Eglwys, Llanbedrog,
CG: SH 3294 3164

Gellir parcio a thalu un ai ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth neu ym Mhlas Glyn-y-Weddw ond mae digon o le yr adeg yma o'r flwyddyn ar yr allt sy’n arwain o dafarn Glyn-y-Weddw i lawr at neuadd yr eglwys.

Cyffiniau Llanbedrog
Taith o tua 10 milltir i ben Mynydd Tir Cwmwd, golygfa fendigedig o Eryri a thros Fae Ceredigion ar ddiwrnod braf. I lawr at y ddelw a thrwy lwybrau'r Plas i draeth Llanbedrog. Dilyn Llwybr yr Arfordir i faes golff Pwllheli, troi am Benrhos a dilyn yr un llwybr â'r tri daniodd "y tân yn Llŷn" i Rydyclafdy, yna llwybr difyr heibio Melin Cefn Llanfair, trwy Goed y Wern ac at fedd Gwenogfryn ac yn ôl i Lanbedrog.

Paned ar y diwedd yng nghaffi'r Plas.

Gwenan
Sadwrn
Ebrill
26
9.00 9.15

Cilfan ar y A5 o flaen hen ffatri Austin Taylor, Bethesda
CG: SH 626 661
i ddal bws Sherpa 9.15 i Ogwen

Cadwyn Nant Ffrancon
Cerdded i Gwm Idwal, heibio’r Twll Du i gopa'r Garn ac ymlaen ar hyd Foel Goch, Mynydd Perfedd a Charnedd y Filiast yn ôl i Fethesda.
Tua 8 milltir a thua 850 m o esgyn.  

Sian Shakespear
Sadwrn
Mai
10
9.15 9.30 Maes parcio ger y capel
yng Nghefn Brith
CG: SH 932 504
Beicio Mynydd yn ardal Hiraethog
Dros y gefnen o Gefn Brith at lynnoedd Alwen a Brenig ac yn ôl drwy  ardal Llanfihangel Glyn Myfyr a Cherrigydrudion, tua 25 milltir a 2000' o ddringo.
Gellir amrywio hyd y daith yn ôl yr amgylchiadau.
Dim beicio technegol na llechweddau serth iawn.
Gareth Williams

a
Prys Ellis
Sadwrn
Mai
10
  9.30 Ar bwys Cronfa Ddŵr Lliw Isaf, ger Felindre
CG: SN 650034
tua 7 km o'r M4 ger Abertawe

Taith Mynydd y Gwair
Taith o tua 12 milltir

Digby Bevan
Mercher
Mai
14
9.45 10.00

Wrth y bont yng Ngharrog
CG: SJ 115 436

Sut i gyrraedd Carrog o’r A5:
Troi i lawr yn Llidiart-y-Parc
(i’r chwith wrth deithio o’r
gorllewin a rhwng Corwen a Glyndyfrdwy).
Parcio ar lan yr afon Ddyfrdwy
cyn croesi’r bont.

Moel Morfudd a Moel y Gaer
Taith ffigwr wyth o bentref Carrog gan ddringo’n serth i gopa Moel Morfudd a Moel y Gaer.
9 milltir

Gwen Evans
Sadwrn
Mai
17
7.45 8.00

Maes parcio Atomfa Trawsfynydd
CG: SH 696 383
yn brydlon.
Rhaid cysylltu cyn nos Iau, 15 Mai
i drefnu ceir.

Crib y Rhinogydd
Cerdded i Fwlch Moch, yna dros Foel Penolau, Moel Ysgyfarnogod a Chraig Wion i Fwlch Tyddiad (tua hanner ffordd!) yna ymlaen dros Rhinog Fawr a Rhinog Fach, Y Llethr a’r Diffwys ac i lawr Cwm Hirgwm i’r Bont-ddu.
Tua 18 milltir a thros 1600 m o esgyn - tua 12-13 awr.

Eryl Owain

Sadwrn
Mai
24
i
Sul
Mai
25

9.15 9.30

Maes parcio Nant Peris
CG: SH 607 582

Dal y Bws Sherpa am 9.30
o Nant Peris i Gapel Curig

Bydd ceir yn cael eu gadael yn y maes parcio am ddau ddiwrnod.
Cost o £5.00 y dydd x 2 = £10.00 y car am y cyfnod llawn.
Bydd prynu dau docyn dydd o'r peiriant fore Sadwrn ar gyfer pob car yn gwneud y tro.
Aelodau i geisio rhannu ceir er mwyn arbed ar y costau parcio.

GOHIRIWYD OHERWYDD Y TYWYDD

Taith dros nos ar y Glyderau
Dal bws i Gapel Curig a cherdded i fyny Gallt yr Ogof, Y Foel Goch, Glyder Fach a'r Glyder Fawr a gwersylla dros nos ger Llyn y Cŵn.
Ar y dydd Sul byddwmn yn parhau i fyny'r Garn a cherdded i gopa Elidir Fawr cyn dychwelyd i Nant Peris.

Cysylltwch ag Ifan neu Gareth erbyn nos Iau, 22 Mai os gwelwch yn dda.

Gareth Huws

ac
Ifan Llewelyn

Sadwrn
Mehefin
7
8.45 9.00

Maes parcio y tu ôl i siop Joe Brown, Capel Curig
CG: SH 719 582
rhad ac am ddim - i drefnu ceir.

Y Carneddau
 Cychwyn o Glan Dena (SH 668 605) i fyny Pen yr Ole Wen (sgrambl fer, hawdd), Carnedd Dafydd, Carnedd Llewelyn, Craig yr Ysfa (sgrambl hawdd ar i lawr), Pen yr Helgi Ddu a Phen Llithrig y Wrach ... ac yn ôl i Gapel Curig.
Nôl y ceir o Glan Dena a pheint neu baned i orffen y diwrnod.
Tua 9 milltir a thua 1220 m o esgyn.

Richard Roberts
Sadwrn
Mehefin
14
9.15   Maes parcio Rhosili
CG: 415 881

Taith Arfordir Gŵyr
Taith o Borth Eynon (trefnu ceir i’r man yma) gan ymweld ag Ogof Paviland a Phen y Pyrrod.

Eryl Pritchard
Mercher
Mehefin
18
      Taith cwch o Borth Meudwy
(lle i 11)
neu lle i fwy groesi i Ynys Enlli? I'w benderfynu
 
Sadwrn
Mehefin
21
9.40 9.45

Maes parcio Pen-y-pas
(bysus o Feddgelert ac o Lanberis yn cyrraedd yno am 9.40)

Pedol yr Wyddfa
Y daith glasurol dros y Grib Goch a Chrib y Ddysgl i gopa’r Wyddfa ac yna i Fwlch y Saethau a thros Lliwedd.
Tua 8 milltir a thros 1000 medr o esgyn.

Iolo Roberts

Sadwrn
Gorffennaf
5
9.15 9.30 Cilfan rhwng Tal y Bont a Thŷ’n-y-groes
CG: SH 771 701
er mwyn trefnu ceir i Eigiau 

Y Carneddau o Eigiau
Cychwyn cerdded o’r lle parcio yng Nghwm Eigiau (SH 731 663) o amgylch Glogwyn yr Eryr at Felynllyn a Llyn Dulyn, i fyny i Garnedd Gwenllian, ymlaen dros Foel Grach i Garnedd Llywelyn ac yn ôl i Gwm Eigiau.
Tua 11 milltir a thua 860 m o esgyn.

Gareth Wyn Griffiths

Sadwrn
Gorffennaf
12
   

Pen-y-pas

Manylion i'w trefnu

Y Pymtheg Copa
Yr her fawr o gerdded y pymtheg copa dros 3,000’ troedfedd o fewn diwrnod!  Bydd yn rhaid cychwyn yn gynnar iawn a bydd yn rhaid wrth lefel uchel o ffitrwydd a phrofiad o gerdded tir garw ac o groesi’r Grib Goch.  Croeso i’r rhai â diddordeb i gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd ac efallai y gellid trefnu taith neu ddwy i ymarfer.
Uchafswm o wyth – y cyntaf i’r felin gaiff gerdded!
Manylion llawnach i’w cael gan yr arweinydd yn nes at y dyddiad.

Mark Williams
Sadwrn
Gorffennaf
12
8.45 9.30

Ochr draw i dafarn Y Fuwch Goch Pontsticill
CG: SO 057 116

Taith y Bannau
Pontsticill - Pen-y-fan - Fan-y-Big - Craig-y-Fan-ddu - Torpantau (diwedd lein-fach Merthyr).
Tua 15 milltir ond gellir torri’r fyr yn ôl y dymuniad.
Angen symud ceir i ddiwedd y daith.

Bruce Lane

Mercher
Gorffennaf
16
9.45 10.00

Ar ochr y ffordd fawr ger y Drofa Goch (ar gyrion y pentre wrth ddod o Ddolgellau)

CG: SH 678 189

Ardal y Bont-ddu
Cyfle i droedio tri chwm – Cwm Mynach, Cwm Hirgwm a Chwm Dwynant – gyda golygfeydd gwych o Gadair Idris ac aber afon Mawddach wrth ddilyn llwybrau i’r bryniau uwchben y Bont-ddu. 
Taith o rhyw 7-8 milltir gan godi’n raddol tua 400 medr – ond ddim gyda’i gilydd!

Eryl Owain
Sadwrn
Gorffennaf
19
9.00 9.15

Maes parcio coedwigaeth a gorsaf Abergynolwyn
CG: SH 671 064
i rannu ceir a symud i Dolgoch.
Tâl parcio.

Tarrennau Meirionnydd
Fyny heibio Rhaeadr Dolgoch yna Tarren Hendre, Tarren y Gesail a lawr i Pont Llaeron a chwarel Bryn-Eglwys. Yna dilyn hen wely y rheilffordd o'r chwarel heibio inclein yr Alltwyllt ac yn ôl i stesion Abergynolwyn.
Tua 10 milltir ac o gwmpas 3000' o godi.

Raymond Griffiths

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â ymholiadau@clwbmynyddacymru.co
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â ni drwy e-bostio ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870 534, Arwel Roberts ar 01492 514 424 neu Anita Daimond ar 01492 600 414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.

Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php