{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diweddarir yn rheolaidd

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Ionawr - Ebrill 2018

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Dydd Mercher 18 Ebrill  
9.15     9.30
maes parcio Plas yn Rhiw  SH 236281
Mynydd y Rhiw
Dilyn Llwybr yr Arfordir cyn belled â Thrwyn Talfarach cyn  troi tua Chlip y Gylfinir a chopa Mynydd y Rhiw. Rhyw wyth milltir gyda thynnu i fyny yma ac acw.  Cyfle am banad yng nghaffi'r Plas ar y diwedd. Os bydd yn dywydd mawr gellir cwtogi'r daith.

Gwenan Roberts
Anet Thomas


Dydd Sadwrn 21 Ebrill
Yr Arddu, Ysgafell Wen, Moel Druman a’r Alt Fawr

Cyfarfod am 9.15 ym maes parcio Bwlch Gorddinan (SH 701488) i drefnu ceir. 
Bydd y daith yn cychwyn ym Mlaenau Dolwyddelan cyn teithio ar hyd bryniau i’r gogledd orllewin o Flaenau Ffestiniog at Fwlch y Gorddinen yna cerdded yn ôl i lawr i Flaenau Dolwyddelan (tua 11 milltir).
Mae’r daith yn dilyn tir garw ac yn wlyb iawn ar hyn o bryd.

Dylan Huw


Dydd Sadwrn 28 Ebrill
9.15   9.30
maes parcio Swtan  SH301892
Llwybr Arfordir Môn o Fae Cemlyn i Borth Swtan
Symud ceir i ddechrau’r daith ym maes parcio pen dwyreiniol Bae Cemlyn. Croesi Esgair Cemlyn a dilyn llwybr arfordir Môn i’r gorllewin  ar daith hamddenol (tua 10 km) rownd Trwyn Carmel i  Borth Swtan. Byddai’n bosib ymestyn y daith ymhellach i gyfeiriad Llanfachraeth yn ôl amodau’r diwrnod a dymuniad y criw.

Dafydd Jones


Dydd Llun 7 Mai
9.15   9.30
TEITHIAU TEULU CLWB MYNYDDA CYMRU - Cyfle gwych i deuluoedd, neu’r llai profiadol, fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol
RHAID I BAWB GYSYLLTU YMLAEN LLAW - o leiaf wythnos ynghynt os oes grŵp mawr a RHAID I BOB UN DAN 18 OED FOD DAN OFAL RHIANT NEU OEDOLYN CYFRIFOL

Craig Cerrig Gleisiaid
maes parcio ger safle picnic ar ochr yr A470 3.2 km i’r gogledd o Ganolfan Storey Arms  SN 972221. Golygfeydd hyfryd o Gwm Tarell, Pen y Fan a Chorn Du cyn cerdded i fewn i warchodfa Craig Cerrig Gleisiaid yng Nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Tua 8 milltir a thua 575 m o ddringo.
Dewi Hughes  

Pumlumon
maes parcio ger argae Nant-y-moch     SN 756862.
Cludo cerddwyr i’r man cychwyn, yna dilyn llwybr heibio Llyn Llygad Rheidol i gopa Pumlumon Fawr ac ymlaen i Bumlumon Arwystli. Tua 8 ½ milltir gyda thua 500 m o ddringo.
Eryl Owain   

Moel Siabod
maes parcio Bryn-y-glo     SH 735571.
Dringo’n raddol heibio ffarm y Rhos at Lyn y Foel yna i fyny ysgwydd Daear Ddu i’r copa cyn dilyn llwybr i lawr i gyfeiriad Plas y Brenin ac yn ôl trwy Goed Brynengan a glan afon Llugwy. Tua 7 milltir a thua 730 m o ddringo.
Sian Shakespear  


Penwythnos 4 – 7 Mai
Cylch Paddy Buckley

Gwener 4 Mai
6.00
y llwybr at y llyn ger Plas y Brenin   SH 716578
Capel Curig i Aberglaslyn – 22 milltir, 7400 troedfedd o ddringo, 13 awr.

Sadwrn 5 Mai
8.45   9.00
maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ffordd Nantmor o Bont Aberglaslyn  SH 597462 Aberglaslyn i Ryd Ddu – 9 milltir, 4800 troedfedd o ddringo, 8 awr.

Sul, 6 Mai
8.45   9.00
maes parcio’r orsaf drenau SH 571526
Rhyd Ddu i Lanberis  –  11 milltir, 6000 troedfedd o ddringo, 8.5 awr.

Llun, 7 Mai
5.00
maes parcio’r Amgueddfa Lechi (SH 586602)
Llanberis i Gapel Curig – 19 milltir, 9800 troedfedd o ddringo, 15 awr

Dwynwen Pennant  
Morfudd Thomas    
Mae’n hanfodol i bawb gysylltu â’r trefnwyr cyn nos Fawrth, 2il o Fai er mwyn trefnu ceir.


8 – 10 Mai
Wharfedale
Aros mewn hostel yn Kettlewell ar gyfer 3/4 diwrnod o gerdded. Yr hostel bellach yn llawn ond croeso i rai wneud eu trefniadau aros eu hunain ac ymuno â’r teithiau.

Gwyn Williams 


Dydd Sadwrn 12 Mai
9.15   9.30
Bedd Morris, Gogledd Sir Benfro   SN 038365
Taith y Preselau
Taith gylch, tua 12 milltir, yn cynnwys rhai o fynyddoedd y Preselau a rhan o lwybr yr arfordir.

Digby Bevan  


Dydd Mercher 16 Mai
10.00 i ddal bws am 10.20
maes parcio (di-dâl efo toiledau) y tu ôl i Siop Joe Brown    SH 720582
Moel Siabod
Cerdded yn ôl dros gopa Moel Siabod.  Taith o 9.5 cilometr (6 milltir) a 600 m (1950 troedfedd) o godi.

Dilys ac Aneurin Phillips  


Dydd Sadwrn 19 Mai
9.15   9.30
maes parcio di-dâl Croesor     SH 632447
Y Cnicht a’r Moelwynion
Dilyn Taith 21 yn Copaon Cymru, sef i gopa’r Cnicht yna i Fwlch y Rhosydd a chopaon y ddau Foelwyn ac i lawr ar hyd ysgwydd orllewinol Moelwyn Bach. Tua 15 km / 9 milltir a 980 m / 3215’ o ddringo.

Iolo Roberts 


26 Mai - 2 Mehefin 
Mynydda ar An t-Eilean Sgitheanach / Ynys Skye
Mae trefniadau ar droed i logi llefydd aros mewn hosteli ar yr ynys, gyda golwg, wrth gwrs, ar grib ryfeddol y Cuillin.

Chris Humphreys 
Gareth Roberts 


Dydd Sadwrn 2 Mehefin
9.15   9.30
canolfan y Parc Cenedlaethol    SH 648604
Clogwyn a Chastell y Geifr a’r cyffiniau
Taith ym mhen draw Cwm Idwal i geisio gweld rhai o flodau a phlanhigion y gwanwyn – union lwybrau yn ddibynnol ar argaeledd y planhigion. Peth cerdded ar dir caregog heb lwybr. Tua 8 km / 5 milltir ond cyfle i rai sydd eisiau  i gynnwys copa’r Garn hefyd.

Eryl Owain 
Janet Buckles 


Dydd Sadwrn 9 Mehefin
9.15   9.30
Clydach    SN 692013 - cod post SA6 5LN
Taith gylch o amgylch ardal Clydach a bryniau’r fro.

Alun Voyle 


Dydd Mercher 13 Mehefin
9.45    10.00
Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Ogwen (toiledau a rhaid talu) SH 648604
O gwmpas Llyn Idwal
Dangos ambell beth diddorol o gwmpas yr ardal cyn cychwyn i fyny am Lyn Idwal. Croesi'r bont newydd cyn cyrraedd y Twll Du. Disgyn i lawr yn ôl at Lyn Idwal. Taith pedair milltir ar y mwya' ond hefo ambell bwt lle mae'n rhaid bod yn ofalus.

Alun Roberts


Dydd Sadwrn 16 Mehefin
9.15   9.30
Glan Dena    SH 668605
Y Carneddau o Ogwen i Ro-wen
Esgyn Pen yr Ole Wen, ymlaen  tros Garnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Foel Grach, Carnedd Gwenllian, Y Foel Fras a’r Drum gan ddisgyn i Fwlch y Ddeufaen  ac ymlaen i bentref Ro-wen. Taith gymharol hir ar hirddydd haf, ond yn gymharol rhwydd wedi dringo Pen yr Ole Wen. Dringo 1150 medr  ac yn oddeutu 14 milltir o hyd. Angen cysylltu i drefnu ceir erbyn nos Iau fan bellaf. Bydd cynllun “B” pe bae’r tywydd yn wael.

Gwyn Williams


Dydd Mercher 20 Mehefin
Ynys Enlli
Taith am y diwrnod
Cysyllter â Haf Meredydd


Dydd Sadwrn 23 Mehefin
9.15   9.30
maes parcio Tal-y-bont    SH 590217
Llawllech a Bwlch y Rhiwgyr
Ar hyd y llwybr gydag afon Ysgethin at Bont Fadog yna ymlaen at Bont Sgethin wedyn cerdded i grib Llawllech, yna hyd y grib i Fwlch y Rhiwgyr ac yn ôl i lawr i Dal-y-bont. Tua 8 milltir a thua 550m o esgyn.

Eirlys Wyn Jones


Dydd Sadwrn 30 Mehefin
9.15   9.30
maes parcio yng nghanol Trefriw     SH 781630
Creigiau Gleision a Phenllithrig-y-wrach
Symud rhai ceir wedyn rhyw 1km i fyny Dyffryn Crafnant i gychwyn y daith tuag at Ben y Graig Gron ac yna ymlaen i gopa Creigiau Gleision, (a chwrdd a’r ysbryd !?) ac ymlaen i Benllithrig-y-wrach. Byddwn felly wedi cwblhau 2 o’r 4 Marilyn sy’n rhan o’r Carneddau. Dychwelyd dros Gefn Cyfarwydd.

R. Wheldon Roberts


Dydd Mercher 4 Gorffennaf
9.55    10.10
Stondin Bws B ym Mhen-llyn, Caernarfon ar gyfer Bws Sherpa S4 Gwynfor
Yr olaf o’r Teithiau Ystafelloedd Te o amgylch Yr Wyddfa
Ar ôl ’paned sydyn, cerdded drwy Chwarel Glanrafon ac ymlaen dros dir gwlyb i Fwlch Maesgwm am ginio bach. Wedyn i lawr Maesgwm a chroesi Cwm Brwynog a thrwy  Goed Victoria a chyfle, efallai, i weld gwiwerod coch cyn cyrraedd Llanberis - a dathlu.

Rhiannon a Clive James    


Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf
9.15   9.30
man parcio di-dâl ger Greigddu Isaf    SH 684302
Rhinog Fawr a Rhinog Fach
Taith 24 yn Copaon Cymru. Cerdded ar lwybr clir at Lyn Du ond yna llwybrau garw Rhinog Fawr dros y copa ac i lawr i Fwlch Drws Ardudwy cyn dringo’n serth i gopa Rhinog Fach ac yn ôl heibio Llyn Cwmhosan a thrwy Bwlch Drws Ardudwy. Tua 14 km/9 milltir a 850 m/2790’ o ddringo.

Myfyr Tomos


Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf
9.15   9.30
Maes Parcio Parc Gwledig Afan Argoed, Dyffryn Afan SN 823952
Taith Dyffryn Afan i Gwm Llynfi
Taith gylch hyd at 14 milltir o Afan Argoed drosodd i Gwm Llynfi. Yna, Mynydd Pwll yr Iwrch a Mynydd Caerau (1800tr). Dychwelyd heibio i bentref Croeserw ac ar hyd dyffryn yr Afan i Afan Argoed.

Rhun Jones


Dydd Sul, 29 Gorffennaf
9.15   9.30
maes parcio’r Parc Cenedlaethol    SH 5871526
Pedol Rhyd-ddu
Dilyn llwybr Rhyd-ddu i fyny'r Wyddfa, ar hyd crib Llechog a Bwlch Main, gan obeithio y bydd lle i eistedd ar y copa i gael cinio! Dychwelyd am Fwlch Main ond yna dilyn y grib i lawr am Fwlch Cwm Llan lle bydd opsiwn o fynd am gopa’r Aran, esgyniad serth a di-lwybr.  Tua 8 milltir / 880 m o ddringo heb yr Aran neu  9 milltir / 1070 m efo’r Aran

Stephen Williams 


Dydd Iau, 9 Awst 
Darlith Goffa Llew Gwent
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 – Pabell y Cymdeithasau 2 am 4.30
... bryn a mawndir a phabwyr a chraig a llyn.
Marged Tudur yn sôn am y profiad a’r pleser o fynydda a chysylltiadau llenyddol ambell le sy’n bwysig iddi hi. Mae Marged yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ym maes geiriau caneuon artistiaid Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif. Llenyddiaeth a cherdded mynyddoedd sy'n mynd â'i bryd a bydd yn cyfuno'r diddordebau hyn yn y ddarlith hon. 


Dydd Gwener 10 Awst
Trên yn gadael Heol y Frenhines am 9.06 neu Caerdydd Canolog am 9.10 i gyrraedd y Bari am 9.26. Amser cychwyn y daith 9.30.
Taith yr Eisteddfod - Y Bari i Bae Caerdydd
Taith o rhyw 11 milltir o orsaf dren Cadoxton (ST 132688) ger y Bari i Fae Caerdydd.
Opsiynau i ymuno yn Y Captain’s Wife, Sully (ar ôl tua 4 milltir), Larnog (6milltir) neu Benarth (8milltir) ond byddai rhaid rhoi gwybod o flaen llaw os yn bwriadu gwneud hynny.

Aled Elwyn    


Dydd Sul, 12 Awst
9.15   9.30
maes parcio’r Parc Cenedlaethol    SH 5871526
Pedol Rhyd-ddu
Dilyn llwybr Rhyd-ddu i fyny'r Wyddfa, ar hyd crib Llechog a Bwlch Main, gan obeithio y bydd lle i eistedd ar y copa i gael cinio! Dychwelyd am Fwlch Main ond yna dilyn y grib i lawr am Fwlch Cwm Llan lle bydd opsiwn o fynd am gopa’r Aran, esgyniad serth a di-lwybr.  Tua 8 milltir / 880 m o ddringo heb yr Aran neu  9 milltir / 1070 m efo’r Aran

Stephen Williams   


Dydd Mercher 15 Awst *** MAE'R DAITH HON WEDI EI GOHIRIO
Abergwyngregyn

9.45 10.00
Parcio yn Cwrtiau i'r chwith o faes parcio glan y môr Abergwyngregyn.
Tua'r gorllewin ar lwybr yr arfordir a chroesi i fyny am Lôn y Lord. Dychwelyd am Aber wedyn gyda godre Moel Wnion, gan fwynhau yr olygfa o'r Fenai a Môn.
Paned a chacen yn Cwrtiau wedyn i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru.
Tua 8 milltir ond gellir byrhau neu ymestyn fel bo'r galw. 

Dewi Roberts    


Dydd Sadwrn, 18 Awst
Aran Fawddwy ac Aran Benllyn
10.20    10.40
maes parcio Pont y Pandy, Llanuwchllyn SH 878298
Dal bws i Ddrws y Nant, ger Rhyd-y-main. Dilyn Afon Harnog i Waun Camddwr ac yna ar hyd yr ucheldir dros Aran Fawddwy ac Aran Benllyn ac i lawr y grib dros Moel Ffenigl a Moel Ddu yn ôl i Lanuwchllyn. Tua 15 km/8  milltir a tua 840 m o ddringo.

Rhiannon a Clive James   


Dydd Mercher 12 Medi
Ardal Bethesda

9.45 10.00
Parcio ym Methesda (Pen y graig) 624669 di-dâl.
Cerdded heibio hen gapel Bethesda a cadw i’r dde ac allan i’r B4409 – Grisiau Cochion.
Ymuno efo Lôn Las Ogwen tua’r mynyddoedd. Heibio hen ysbyty’r chwarel a chroesi ffordd y chwarel a Zip World i fyny at Bont Ogwen ac ymlaen heibio gwaelod hen domenni’r chwarel i Nant Ffrancon cyn belled â’r fferm Maes Caradog.
Croesi gwaelod y dyffryn a chroesi’r A5 yn Tŷ Gwyn. Mae llwybr yn cychwyn yno i fyny am Braich Tŷ Du a Chefn yr Orsedd ac i lawr i Braich Melyn ym Methesda. Yn ôl ar y B4409 am ychydig cyn troi am lwybr drwy’r coed ger afon Ogwen.
Yn ôl STRAVA mae’r daith yn 8 milltir ac mae’r wlad yn ogoneddus o hardd.
Mae yna sawl caffi ym Methesda ar gyfer panad ar ôl y daith.

Rhys Morgan Llwyd


CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com