{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Diweddarir yn rheolaidd

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Mai i Medi 2019

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Dydd Llun Calan Mai, 6 Mai

TEITHIAU I BAWB CLWB MYNYDDA CYMRU

RHAID I BOB UN Â DIDDORDEB GYSYLLTU YMLAEN LLAW ag arweinydd y daith - o leiaf wythnos ynghynt os oes grŵp mawr

RHAID I BOB UN DAN 18 OED FOD DAN OFAL RHIANT NEU OEDOLYN CYFRIFOL

Cyfarfod am 9.15 i gychwyn cerdded am 9.30 ar gyfer pob taith

Cwm Caerfanell
Dechrau o faes parcio Blaen-y-glyn Uchaf, tair milltir i’r gorllewin o gronfa ddŵr Tal-y-bont (SO 056175). Cylchdaith o tua 11 km/7 milltir i fyny Craig y Fan Ddu, ar hyd Craig Fan Las a draw hyd at Waun Rydd i Garn Pica cyn troi i’r de lawr Cwm Caerfanell. Arweinydd: Dewi Hughes 

Cadair Idris
Cyfarfod yn y maes parcio’r Parc Cenedlaethol ym Minffodd, Tal-y-llyn (SH 732115). Taith bedol o amgylch Cwm Cau yw hon, 10 km/6 milltir gyda tua 950 m/3130’ o ddringo. Darn serth i fyny i’r cwm i ddechrau ac yna dilyn y grib dros Graig Cwmamarch (Graig Cau) ac ymlaen i gopa Pen-y-Gadair. Cerdded ar hyd y gwastad wedyn i Fynydd Moel ac yn ôl i’r llwybr o’r maes parcio.
Arweinydd: Eryl Owain  

Y Cnicht
Cyfarfarfod ym maes parcio Croesor (SH 632447). Cerdded tua 11 km/7 milltir gan ddringo tua 950 m/3130’ o ddringo i gopa’r Cnicht ac yna ymlaen i Fwlch Rhosydd ac yn ôl drwy Gwm Croesor.
Arweinydd: Iolo Roberts  

Cofiwch gysylltu ymlaen llaw – croeso i chi wneud hynny i drafod addasrwydd y daith.

Bydd nifer o gerddwyr profiadol o blith aelodau Clwb Mynydda Cymru ar bob taith. Cyfle gwych i deuluoedd, neu’r llai profiadol, fwynhau mynydda mewn cwmni hwyliog, diogel a chefnogol.


Iau 9 Mai
Pen y Fan
9.15    9.39
maes parcio (£3 y dydd) Cwm Gwdi ar ddiwedd lôn gul tua 5 km i’r de o Aberhonddu SO 025248

Taith o tua 8 milltir i gopa Pen y Fan o’r gogledd.

Dewi Hughes


Sadwrn 11 Mai
Pedol Cwm Cerist
9.15     9.30
maes parcio efo toiledau ger y Llew Coch, Mawddwy   SH 858149

Taith i fyny Foel Bendin ac ar hyd y grib i ben Graig Cywarch, yna i lawr i Fwlch Oerddrws, croesi’r ffordd ac yn ôl ar hyd Crib Maesglase. Tua 20 km/12 milltir a thros 1200 metr/3900’ o ddringo.

Tegwyn Jones


Mercher 15 Mai
Ardal Dolgellau

10.00    10.15
Maes parcio Saithgroesffordd (SH 746212) ar y ffordd o Ddolgellau i Lanfachreth. Mae 'na dai bach yn fanno.

Dilyn dolen llwybr llyn Cynwch, cerdded drwy glychau'r gog yng nghoed Fedw Felen, fydd yn eu gogoniant, dringo Bryn y Wiber o bosib, a chyfle i weld y dirwedd i'r gorllewin. Cyfle o bosib hefyd i fynd heibio hen waith copr Glasdir, neu gerdded drwy ardd goedwig Cyfoeth Naturiol Cymru i Lanfachreth ac at y Garreg Fawr, y bwa efo’r maen deunaw tunnell o Gwm Bychan. Yna un ai dychwelyd ar hyd un o hen lonydd y stad neu anelu mwy am Foel Offrwm, lle gwelwyd ceiliog mwyalchen y mynydd y gwanwyn hwn.

Arweinydd: Rhys Gwynn, warden gyda Pharc Cenedlaethol Eryri.
Cyswllt:Haf Meredydd 


Sadwrn 18 Mai
Taith Cwm Darran
9.15    9.30
prif faes parcio (£3) Parc Cwm Darran (safle sy'n cynnwys y caffi) rhwng Deri a Fochriw    SO 113035

Taith gylch, rhwng 10 a 12 milltir yn dibynnu ar y tywydd. Cerdded Cefn y Brithdir ar ochr ddwyreiniol y cwm a chroesi Nant Bargod Rhymni i gyrraedd Gefn Gelligaer a Charn y Bugail ar yr ochr orllewinol.

Gareth Pierce
 


Sadwrn 18 Mai
Llwybr y Morwyr

9.30    9.40
gorsaf bysus Pwllheli

Dilyn llwybr cymharol newydd, deng milltir o hyd, ar draws Llŷn o Nefyn i Lanbedrog ar lwybrau yn bennaf ond peth lôn. Mae dringo Garnfadryn ar y ffordd yn ddewisol. O Lanbedrog gellir dal bws yn ôl i Bwllheli neu gerdded rhyw dair milltir ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Anet Thomas


25 Mai – 1 Mehefin
Cabanau Inchree, ger Onich

Lle i hyd at 20 mewn pedair llofft. Byddwn yn llogi adain gyfan felly ni fydd rhaid rhannu cyfleusterau (cegin, ystafelloedd molchi ac ati) efo eraill. Tafarn/bwyty ar y safle. Lleoliad cyfleus, 7 milltir o Fort William ac yn agos at Glencoe. Digonedd o fynyddoedd gwych!
Cost: £120.  Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os yn canslo am unrhyw reswm.

Gareth Everett Roberts


Sadwrn 8 Mehefin
Tryfan a Foel Goch

9.15   9.30
arosfan wrth ochr y ffordd ger Gwern Gof Uchaf   SH 674 604

Heibio Tryfan Bach ac ymuno â Llwybr Llechan Goch (Heather Terrace). Sgrialu hawdd gradd 1 i fyny’r Gwter Fychan a’r Gwter Ogleddol ac yna croesi y Tramwyad Dwyreiniol i ddod allan ar gopa Tryfan. I lawr i Fwlch Tryfan ac ymlaen at Lyn Caseg Fraith, Y Foel Goch a Gallt yr Ogof. Lawr at Bwlch Goleuni ac yn ôl ar hyd yr hen ffordd heibio Gwern Gof isaf. Taith tua 6 milltir gyda sgrialu gradd 1.

Chris Humphreys  


Dydd Mercher 19 Mehefin
Diwrnod ar Ynys Enlli
Ar y cyd ag aelodau Cymdeithas Edward Llwyd. Croesi o Borth Meudwy tua 10.30 a 3 i 4 awr ar yr ynys; dilyn y lôn heibio'r odyn galch, yr ysgol, Plas Bach, Carreg Bach hyd at Gapel Enlli a Thŵr yr Abaty, cyn dod yn ôl i'r Cafn dros Fynydd Enlli. Porth Solfach, y goleudy a'r morloi llwyd wedyn os bydd amser.

Haf Meredydd 


Sadwrn 22 Mehefin
Mynydd Epynt

9.15    9.30
Canolfan Ymwelwyr Epynt (toiled) dros filltir i'r gogledd o bentre Capel Uchaf ar y B4519  SN 995428

Taith tua 12 milltir yn dilyn rhan o Lwybr Epynt (sydd tua 50 milltir i gyd), ardal lle distrywiwyd cymuned Gymreig yn 1940. Bydd rhan helaeth yn ffinio ac yn croesi tir y fyddin. (Mae'n hollol saff!)

Emlyn Penny Jones


Sadwrn 22 Mehefin
Y Carneddau – Pedol Cwm Penllafar
9.15     9.30
maes parcio oddi ar yr A5 gyferbyn â Neuadd Ogwen ym Methesda   SH 623668

Cerdded i Gerlan ac yna i fyny’r Elen, dros copaon Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd ac i lawr Crib Lem. Tua 16 km/8 milltir a 1070 m/3500’ o ddringo.

Gareth Wyn Griffiths


Mercher 26 Mehefin
Taith mango Cwm Nantcol

10.20      10.30

Cyfarfod gyferbyn â’r Vic ym mhentref Llanbedr am 10.20 y bore, a chychwyn am Gwm Nantcol am 10.30. Dilyn ffordd yr hen waith mango (manganîs) heibio Graig Isa a Graig Ucha hyd at Lyn Hywel. Cip ar Lyn y Bi a’r olygfa tua’r dwyrain o bosib, cyn dilyn y llwybr i lawr heibio Llyn Cwmhosan i Fwlch Drws Ardudwy a heibio Maes y Garnedd, cartref y Cyrnol John Jones.

Haf Meredydd 


Sul 7 Gorffennaf
Manod Mawr
9.45    10.00
maes parcio ger Cae Clyd ym Manod  SH 707443

Llwybr graddol i gopa’r Manod Mawr gan ddychwelyd heibio Llyn Manod – taith gymhedrol o tua 14 km/8 milltir a 640 m/2100’ o ddringo.

Eryl Owain


Mercher 10 Gorffennaf
O’r Nef i’r Cwt

9.45     10.00
maes parcio’r Ddôl yn Nefyn   SH 308403
Mae toiledau yn Nefyn wrth ymyl Eglwys Dewi Sant, troi i'r dde yn y gylchfan bach ac ar ben yr allt, tipyn o bellter cerdded o'r maes parcio sydd i'r chwith o'r gylchfan.

Taith o rhyw 9 milltir gyda 700 troedfedd o godi i’r man uchaf. Byddwn yn cychwyn o Nefyn, yn croesi Cors Geirch ac yn cerdded hyd odre Garn Fadryn i orffen yn Nhudweiliog.

Bydd rhaid i yrrwyr y ceir ddal bws o Dudweiliog nôl i Nefyn ar ddiwedd y daith

Gwenan Roberts


Sadwrn 13 Gorffennaf
Pedol Yr Wyddfa
Cychwyn am 9.40
Pen-y-pas

Cychwyn cerdded wedi i fysiau o Nant Peris (9.10) gyrraedd am 9.20 ac o Ben-y-gwryd (9.30) am 9.35. Y daith glasurol – dros  y Grib Goch a Chrib y Ddysgl i’r copa ac yn ôl dros Y Lliwedd. 12 km/7.5 milltir a 1030 m/3380’ o ddringo. Angen pen da am uchder a phrofiad o gerdded tir garw ond cyfle i rai sydd eisiau rhoi cynnig ar y grib am y tro cyntaf. Diwrnod i’r gofio ar ddiwrnod braf!

Richard Roberts


Sadwrn 13 Gorffennaf
Taith Cwm Ogwr (i’w gadarnhau)
Manylion i ddilyn

Rhun Jones


Sadwrn 27 Gorffennaf
Cadair Idris
9.45     10.00
maes parcio (toiledau a thâl) Dol-y-cae, Minffordd, Tal-y-llyn   SH 732115

Taith i gopa Cadair Idris ar hyd llwybr Minffordd. Taith o tua 6 milltir a 950 m/3130’ o ddringo.
Taith wedi ei threfnu gan griw’r de yw hon felly gobeithio y bydd cefnogaeth gref o bob rhan o Gymru – i brofi ein bod yn glwb cenedlaethol!

Dewi Hughes


Sadwrn 3 Awst
Dathlu’r Deugain – Caernarfon i Lanrwst

Taith gerdded arbennig o Gaernarfon, lle sefydlwyd Clwb Mynydda Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1979, i uned y clwb ar faes Prifwyl 2019 ger Llanrwst. Gellid ymuno â chymalau o’r daith. Manylion llawn ar dudalen Newyddion ac YMA.

Dwynwen Pennant


Wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst - Gweler tudalen Newyddion


Iau 8 Awst
Taith yr Eisteddfod

9.45    10.00
Y Sgwâr, Llanrwst

Taith wedi ei threfnu ar y cŷd â’r Eisteddfod i Nant Bwlch yr Heyrn, Eglwys Llanrhychwyn a’r ‘llynnau gwyrddion llonydd’ yn y bryniau uwchben Trefriw. Tua 10 milltir a dros 400 m o ddringo sy’n debygol o gymryd tua 5 awr.

Aneurin Phillips


Sadwrn 17 Awst
Dyffryn Mawddach

11.00    11.20
Arosfan Bws T3, Stryd Fawr, Dolgellau

Dal bws 11:20 i’r Bermo. Cerdded ar draws Aber y Fawddach ar y Bont Rheilffordd i orsaf Morfa Mawddach. Wedyn ar y Cross Britain Way, sef Llwybr Mawddach, yn ôl i dref Dolgellau a’i chyfleusterau. Beth oedd barn Ruskin am y golygfeydd? Pellter o 15 km, man uchaf 20 m, man isaf -2 m, cyfanswm codi 240 m.

Clive a Rhiannon James


Sadwrn 31 Awst
Aran Fawddwy ac Aran Benllyn

8.30    8.45
maes parcio’r Pandy, Llanuwchllyn    SH 879298

Dal bws 8.45 am Ddolgellau. Taith oddeutu 16 km/10 milltir a thua 900 m/2950’ i fyny Aran Fawddwy heibio Esgair-gawr ger Rhyd-y-main, ymlaen i gopa Aran Benllyn ac yna dilyn y gefnen yn ôl i Lanuwchllyn.

Gwyn Williams


Sul 8 Medi
Yr Aran o Feddgelert
9.15 9.30
Maes parcio (talu) tu cefn i'r ysgol ger Gwesty'r Goat (SH 589481). Cylchdaith ar y cyd hefo Richard Till drwy dir preifat fferm Richard a Iola, Perthi, dros Craig Wen ac i gopa'r Aran. Ymlaen wedyn efallai drwy Cwm Bleiddiad / Hyrddod uwchben Craflwyn yn ôl i Feddgelert.  Tir garw a serth heb lwybrau i gopa Craig Wen. 

Morfudd Thomas


Sadwrn 14 Medi
Pedol Cwm Idwal

9.15     9.30
arosfan agosaf at Ben-llyn Ogwen   SH 656602

Taith o tua 13 km/8 milltir a 1120 m/3700’ o ddringo dros gopaon Tryfan, Glyder Fach, Glyder Fawr a’r Garn.

Rhys Dafis 


dafis@aol.com

Dydd Sadwrn 28 Medi
Crib Nantlle

9.15     9.30
maes parcio Rhyd-ddu (talu a thoiledau) ger yr orsaf drên (SH 571525)

Taith ar hyd y grib o Ryd-ddu i Nebo. Rhaid cysylltu â’r arweinydd erbyn 6.00 nos Iau fan bellaf i drefnu cludiant yn ôl.

Elen Huws


28 Medi - 5 Hydref

Gogledd Iwerddon – Mynyddoedd Mourne neu na Beanna Boirche

Mae’r clwb yn trefnu taith i ogledd Iwerddon am wythynos. Mae digon o gerdded i’w gael ym mynyddoedd Mourne am chwe diwrnod ac mae’r lleoliad yn gyfleus i atyniadau eraill y dalaith.

Bwriedir aros yn Tory Bush Cottages, heb fod ymhell o Newcastle, Sir Down. Mae amryw o dai ar gael i’w gosod ar delerau hunan-arlwyo. Gweler eu gwefan am fwy o wybodaeth. Mae Raymond wedi aros yno o’r blaen ac yn cadarnhau eu bod yn gyfforddus iawn ac yn dderbyniol dros ben gyda’r holl gyfleusterau arferol.

Byddai’r gost debygol tua £120 y pen pe byddai pob tŷ yn llawn. Does dim trefniadau teithio ar hyn o bryd; trefnir hynny ymysg y rhai fydd yn mynd – naill ai hedfan i Belffast a llogi car neu groesi gyda char i Ddulyn ac ymlaen oddi yno.

Fel cam cyntaf, gofynnir i rai sydd efo diddordeb i gysylltu â Raymond cyn y bydd yn symud ymlaen i wneud trefniadau mwy pendant a phenderfynu ar union gost y daith.

Cysylltwch â:
Raymond Griffiths    erbyn Chwefror 1af


 
CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com