{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y rhaglen yn gyson oherwydd yr amgylchiadau

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Medi - Tachwedd 2020

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y cyfnod presennol:

  • Ni ddylai unrhyw un ddod ar daith os ydynt yn dangos arwyddion o salwch
  • Cyfyngir y nifer ar bob taith i 12
  • Rhaid  cysylltu ag arweinydd y daith erbyn 7.00 p.m. ar y nos Iau cyn y daith a chael cadarnhad gan yr arweinydd. Nid yw'n ddigonol i ddanfon neges yn dweud eich bod am ddod
  • Nid oes hawl i gyd-deithio y tu allan i'r teulu/swigen dwy aelwyd
  • Dylid cofio am yr angen i gadw pellter o ddwy fetr yn y man cyfarfod ac yn ystod y daith – oddi wrth eich cyd-aelodau a cherddwyr eraill
  • Cynghorir pob un i ddod â hylif diheintio llaw gyda hwy a'i ddefnyddio pe byddai angen cyffwrdd â phethau megis peiriant talu am barcio, drws toiled ac ati, neu â chamfeydd neu rwystrau eraill. Gofynnwn i arweinydd pob taith i fod yn gyfrifol am agor a chau gatiau.
  • Gan fod gwaharddiad teithio ar hyn o bryd ar gyfer amryw o siroedd yng Nghymru (Wrecsam, Fflint, Dinbych a Chonwy yn y gogledd) ni fydd yn bosib i aelodau groesi'r ffiniau i mewn nac allan o'r siroedd hynny. Er enghraifft, os cynhelir taith yng Ngwynedd, dim ond aelodau o siroedd sy'n rhydd o waharddiadau teithio all ddod ar y daith; os cynhelir taith yn Sir Conwy, yna dim ond aelodau o'r sir honno all ddod ar y daith.
  • DOGFEN ASESU RISG COVID-19

Sadwrn 5 Medi
Y Carneddau
9.15     9.30
Maes parcio oddi ar Stryd Fawr Bethesda (SH 647 556) gyferbyn â Neuadd Ogwen

I fyny Mynydd Du a Foel Meirch i gopa Carnedd Dafydd, Cefn Ysgolion Duon, Carnedd Llywelyn, Yr Elen ac i lawr Braich y Brysgyll.  Taith wych o tua 10 milltir o amgylch Cwm Pen-llafar.

Chris Humphreys


Sadwrn 5 Medi

Ro-wen o Ddolwyddelan
9.45     10.00
Maes parcio (SH 628 506) ger yr Orsaf Reilffordd

Dilyn y ffordd drol i gyfeiriad Bwlch y Groes i gopa Ro-wen ac ymlaen uwch law’r coed i Foel Fras. Gellid cynnwys Moel Penamnen hefyd yn ôl amgylchiadau a dymuniad y criw cyn dychwelyd ar hyd Cwm Penamnen. Taith o tua 12.5 km/8 milltir gyda tua 470 m/1540’ o ddringo.

Eryl Owain 


Sadwrn 12 Medi
Y Mynyddoedd Duon
9.15    9.45
Maes parcio eang o dan gopa Penybegwn ger cylch o gerrig (SO 244 367)  i’r gogledd o Gapel y Ffin.

Taith o tua 10 milltir yn dechrau a gorffen islaw Penybegwn ochr ogleddol y Mynyddoedd Duon gan grwydro i gopa y Das, Pen rhos Dirion, Twmpa a Ffynnon y Parc.

Dewi Hughes  
Peredur Evans  


Mercher 16 Medi
Ardal Llanfair
 
9.45    10.00
Maes parcio yng nghanol pentra Llanfair, i'r de o Harlech
 
Dibynnu ar y tywydd, ond gellir dewis o ddwy daith gylch:
Dewis 1: galw heibio Eglwys Llanfair (lle mae Ellis Wynne wedi ei gladdu), Chwarel Hen (hen chwarel lechi), ffermydd Uwchartro, Capel Salem (o bosib), cei Pensarn (lle allforiwyd llechi Chwarel Hen ganrif yn ôl), clawdd llanw aber Artro 
Dewis 2: taith ar ffermdir Uwchartro ac i gopa Moel Senigl uwchben Harlech.

Haf Meredydd


Mercher 16 Medi

Ardal Penmachno – Coed Benar, y Fedw Deg a’r Wybrnant

9.45     10.00
Maes parcio (di-dâl) gyferbyn â’r Neuadd (SH 789 506) ar ochr orllewinol y bont (toiledau gerllaw)

Dilyn llwybrau drwy’r coed gyda golygfeydd gwych o ddyffryn Machno ac yna o ddyffryn Conwy cyn mynd heibio ffermdy’r Fedw Deg a’i hanes cyfoethog ac i lawr at hen Gapel Cyfyng yn y Wybrnant. Dychwelyd heibio Tŷ Mawr a thros y gefnen yn ôl i’r pentref. Tua 12 km / 7.5 milltir a thua 400 m / 1300’ o ddringo – graddol ar y cyfan ond ambell riw serth ond byr!

Eryl Owain   


Sul 20 Medi
Ardal Y Moelwynion
8.15      8.30
Maes parcio (SH 631 446) am ddim gyda thoiledau Croesor

Cymal y Moelwynion o Gylchdaith Paddy Buckley sydd yn cynnwys 8 copa. Dringo Cnicht gynta’ cyn mynd ymlaen heibio Llyn yr Adar i gopaon Moel Druman ac Allt-Fawr. Anelu heibio Llyn Conglog a Llyn Cwm Corsiog i Chwarel Rhosydd. O'r chwarel, cylch i gynnwys copaon Foel Ddu, Moel yr Hydd, Moelwyn Bach, Craig Ysgafn a Moelwyn Mawr cyn disgyn yn ôl i Rhosydd. Cerdded hamddenol i lawr Cwm Croesor i orffen y daith. Taith 13 milltir gyda 5100 troedfedd o ddringo. Amser tua 8 awr a hanner.

Dwynwen Pennant  


Sul 20 Medi
Pedol Anafon – Llwytmor a Foel Fras
9.15    9.30
Maes parcio (SH 664 719) tua cilometr o bentref Abergwyngregyn

Cerdded heibio’r Rhaeadr Fawr ac i gopaon Llwytmor a Foel Fras, yna i lawr i Fwlch y Gwryd ac yn ôl dros y Drum a’r rhes o gopaon hyd at Foel Dduarth. Taith o 16 km/10 milltir gan ddringo tua 1090 m/3576’.

Gareth Huws ac Ifan Llywelyn


Mercher 30 Medi

Ardal Penmachno – Coed Benar, y Fedw Deg a’r Wybrnant

9.45     10.00
Maes parcio (di-dâl) gyferbyn â’r Neuadd (SH 789 506) ar ochr orllewinol y bont (toiledau gerllaw)

Dilyn llwybrau drwy’r coed gyda golygfeydd gwych o ddyffryn Machno ac yna o ddyffryn Conwy cyn mynd heibio ffermdy’r Fedw Deg a’i hanes cyfoethog ac i lawr at hen Gapel Cyfyng yn y Wybrnant. Dychwelyd heibio Tŷ Mawr a thros y gefnen yn ôl i’r pentref. Tua 12 km / 7.5 milltir a thua 400 m / 1300’ o ddringo – graddol ar y cyfan ond ambell riw serth ond byr!

Eryl Owain


Sadwrn 3 Hydref

Pedol Cwm Llan
9.15     9.30
Maes parcio (SH 628 506) Pont Bethania, Nant Gwynant

Cerdded i fyny Llwybr Watkin i gopa’r Aran cyn disgyn i Fwlch Cwm Llan. Croesi Cwm Llan i ail ymuno gyda Llwybr y Watkin ac ymlaen am Fwlch y Saethau, dros gopaon y Lliwedd a Gallt y Wenallt. I lawr Cwm Merch yn ôl i Nant Gwynant. Esgyniad o 1,150 m a 14.5 km o gerdded. Osgoi copa’r Wyddfa a’r tyrfaoedd gan ddilyn trywydd gwahanol i’r arfer.

Stephen Williams


Sadwrn 3 Hydref
Tal y Fan
9.45     10.00
Parcio ar un ochr i’r ffordd (SH 761 719) ar gyrion pentref Y Ro-wen

Taith gron tua 7-8 milltir i gopa Tal y Fan ac yn ôl. Taith hyfryd i gopa mynydd mwyaf gogleddol Cymru!

Dilys ac Aneurin Phillips


Mercher 14 Hydref
Y Grinllwm a Geirionnydd

9.45     10.00
Maes parcio Trefriw (SH782630)

Taith o Drefriw i gopa’r Grinllwm ac ardal Geirionnydd a Chrafnant. Gan ddibynnu ar yr amodau a’r criw, gellir ei hymestyn neu ei byrhau yn ôl y galw. Golygfeydd arbennig o Ddyffryn Conwy a bro’r llynnoedd
Rhwng 7 a 9 milltir yn ôl yr amodau, gyda oddeutu 700 m o esgyniad.

Gwyn Williams


Sadwrn 17 Hydref

Mynydd Mawr, Y Llwybr Llechi a Llyn Nantlle
Gwybodaeth gan Elen o ran man cyfarfod/parcio.

Cylch yn cynnwys copa Mynydd Mawr, Llyn Nantlle a chwareli'r dyffryn. Tua 10 milltir a chyda 600m o godi. Taith amrywiol a gwahanol gyda chyfle i weld rhai o olion diwydiannol y fro.

Elen Huws


Sadwrn 17 Hydref
Y Rhinogydd
9.15    9.30
Llecyn parcio (SH 684 302) ger y Greigddu, wedi troi o’r A470 1 km i’r de o Fronaber

Cyfle i ddringo dau o gopaon mwyaf creigiog a grugog Cymru, taith sydd bob amser yn gofiadwy. Union drywydd y daith yn ôl amgylchiadau ar y dydd a dymuniad y criw.

Myfyr Tomos


Sadwrn 17 Hydref
Bryniau Rhandirmwyn
9:15   9:30   
Llecyn parcio bychan (SN 773 459) rhwng Pont Rhandirmwyn a Llyn Brianne, ar y chwith yn union wedi pasio (ond nid croesi) y bont dros afon Tywi a arwyddir Troedrhiw. 

Taith i nodi 30 mlwyddiant cyhoeddi cyfrol "Troedio Cymru" gan Howard Lloyd, un o hoelion wyth y Clwb yn y De yn y 1980au. Ar hyd hen lwybr Chwarel Ystrad-ffin cyn croesi tir gwelltog garw i gopa Cerrig Cedny, yna disgyn i Fwlch-y-ffin a dilyn yr heol at argae Llyn Brianne. Oddi yno, croesi Pen Rhiwbie i ddyffryn Doethie (tua 10 milltir neu hwy). 

Os bydd gormod o law mis Hydref wedi disgyn ar Gefn Ystrad-ffin neu os bydd trwch o niwl mynydd, gallwn addasu i gyfeiriad dyffrynoedd Pysgotwr a Doethie.

Gareth Pierce


Mercher 21 Hydref
Gogledd Ardudwy

10.15 10.30
Cyfarfod y tu allan i gaffi Llyn Trawsfynydd wrth yr Atomfa.

Taith yng ngogledd Ardudwy o ochr Traws, taith gylch cyn belled â Nant Pasgan a Llenyrch.

Haf Meredydd


Sadwrn 31 Hydref *** Oherwydd gwaharddiadau gan Lywodraeth Cymru rhag gynnal cyfarfodydd, rhwng Hydref 23ain a Thachwedd 9fed, yn anffodus bu'n rhaid gohirio'r daith hon am y tro. Daw cyfle eto!

Elidir Fawr a’r cyffiniau

9.15     9.30
Parcio am ddim ger trofan bws Dinorwig (SH 591 611)

Cerdded drwy’r chwarel am Nant Peris. Troi i fyny Cwm Didodyn ac am Fwlch Marchlyn i gopa Elidir Fawr ac Elidir Fach cyn dychwelyd i’r man parcio dros lwybrau Chwarel Dinorwig. Tua 12 km; gellir ymestyn y daith i gynnwys Carnedd y Filiast (3 km ychwanegol yno ac yn ôl) pe dymunir yn dibynnu ar y criw, y tywydd ac ati! Cyfle gwych i grwydro llwybrau anghyfarwydd a rhyfeddu at anferthrwydd chwarel.

Eirwen Williams


Sadwrn 31 Hydref *** Oherwydd gwaharddiadau gan Lywodraeth Cymru rhag gynnal cyfarfodydd, rhwng Hydref 23ain a Thachwedd 9fed, yn anffodus bu'n rhaid gohirio'r daith hon am y tro. Daw cyfle eto!

Bryniau Clwyd

9.30     9.45
Cilfan (SJ 139 602) o flaen Ysgol Gynradd Dyffryn Clwyd, 1 km i’r gogledd o ganol Llanbedr

Dewch draw i ddathlu Calan Gaeaf yn Sir Ddinbych drwy gerdded llwybrau tawel Moel-y-Gaer, Moel Famau, Moel Dywyll a Moel Arthur. Cewch ymweld â dwy fryn-gaer o’r Oes Haearn a mwynhau golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd a thu hwnt.  Esgyniad: 800 m ac 18 km o gerdded.

Richard a Sw Roberts


Mercher 11 Tachwedd
Eifionydd

10.15 10.30
Parcio ger Capel Bryn Bachau SH432370 yn agos i fynedfa Hafan Y Môr (Butlins gynt).

Taith hamddenol yn Eifionydd. Cerdded i Benychain ac yna dilyn yr arfordir heibio hen orsaf drên Afon Wen at aber afon Dwyfor. Dilyn yr afon i Bont Fechan, yna dros afon Dwyfach (mae yna bont droed!) ac ymlaen i'r lôn goed. Dilyn y lôn goed ac yn ôl i'r man cychwyn. Rhyw 8 milltir ar y gwastad; addas iawn i glwb mynydda! 

Anet a Gwyn Chwilog


Sadwrn, 14 Tachwedd
Taith Dwyrain y Bannau
9.15      9.30
Ger heol fach i’r gogledd o Ystradfellte (SN 927164)

Taith gylch gan anelu at gopaon Fan Llia, Fan Frynych, Cerrig Gleisiaid ac o bosib Maen Madoc.

Guto Evans


Llun 16 Tachwedd
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
7.30 p.m.
Cynhelir y cyfarfod drwy gyfrwng Zoom eleni, am resymau amlwg, a bydd gwahoddiad i bob aelod ymuno â'r cyfarfod.
Bydd adroddiadau'r swyddogion, gan gynnwys yr adroddiad ariannol, yn cael eu dosbarthu ymlaen llaw.
Bydd angen cofrestru ymlaen llaw i fynychu'r cyfarfod. Manylion i ddilyn.


Sadwrn 5 Rhagfyr
Taith Ardal Crughywel
9.15     9.30
Maes Parcio Crughywel (SO 218 184) y tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC.

Richard Mitchley


Mercher 9 Rhagfyr
Ardal Croesor

Taith o Fron Danw i fyny i Groesor ac yn ôl ar hyd rai o lwybrau'r ardal.
Mwy o fanylion i ddod.

Arwyn Jones



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau:  Eryl Owain  01690 760335   erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes  02920 891753 / 07909 930427  dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:  Arwel Roberts  07803191058    arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd    01766 780541 / 07760 283024  hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com