{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Mai-Awst 2022

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y cyfnod presennol:

  • Ni ddylai unrhyw un ddod ar daith os ydynt yn dangos arwyddion o salwch
  • Rhaid  cysylltu ag arweinydd y daith erbyn 7.00 p.m. ddau ddiwrnod cyn y daith a chael cadarnhad gan yr arweinydd. Nid yw'n ddigonol i ddanfon neges yn dweud eich bod am ddod
  • Atgoffwn aelodau o’r angen i ddilyn y canllawiau Cofid-19 a fydd yn weithredol ar ddyddiad y daith e.e. cadw pellter ac ati. Ni ddylai neb ddod ar daith os yw hi/ef neu aelod o’r teulu efo symptomau posib o’r feirws Corona.
  • Dylid cofio'r canllaw i gadw pellter o 2 m yn y man cyfarfod ac yn ystod y daith – oddi wrth eich cyd-aelodau a cherddwyr eraill
  • DOGFEN ASESU RISG COVID-19


Sadwrn 7 Mai
Y Rhinogydd
5.30 a.m.
Gorsaf y Rheilffordd, Penrhyndeudraeth

Taith hir a diddorol o Lyn Trawsfynydd i’r Bermo yn troedio asgwrn cefn y Rhinogydd. Byddwn yn pasio sawl llyn a chopa trawiadol a diarffordd ar y daith – megis Moel Penolau, Moel Ysgyfarnogod, Craig Ddrwg, Rhinog Fawr, Rhinog Fach (ychydig bach llai!), Llethr, y Diffwys, Crib Llawllech, Bwlch Cwmmaria.
   Cyfarfod yng ngorsaf drên Penrhyndeudraeth am 5:30 a.m. Mae na le i barcio yn ymyl yr orsaf a digon o le parcio o gwmpas Penrhyndeudraeth. Cludo’r cerddwyr mewn rhai o’r ceir i faes parcio ger Llyn Trawsfynydd. Wedi cyrraedd y Bermo a dal y trên (5p.m gobeithio neu 7p.m fel arall?) i Benrhyndeudraeth a chludo’r gyrrwyr i nol y ceir o Drawsfynydd.
    Mae'r daith yn hir a heriol a mae'r tir yn arw a chreigiog felly rhaid cael lefel dda o ffitrwydd a phrofiad ar y mynyddoedd.  34 km/ 22 m, 1800 m o esgyn a 2000 m o ddisgyn,

Mark Williams


Sadwrn 7 Mai
Mynydd Epynt
9.15    9.30 

Safle picnic ar y B4519 (SN 963 467)

Taith amrywiol yn ardal Mynydd Epynt, gan gerdded ychydig ar hyd Llwybr Epynt, Llangamarch a glannau Afon Irfon Tua 10 milltir.

Emlyn Penny Jones


Sadwrn 14 Mai
Gyrn Ddu, Gyrn Goch a Bwlch Mawr
9.45   10.00

Ger rhes dai Tan y Graig, ar ochor yr A499 cyn y tro i Drefor (SH 385 468.).

Taith dros dri chopa (ddim yn heriol) Gyrn Ddu, Gyrn Goch a Bwlch Mawr. Tua 9 milltir a chodi 1800’. Golygfeydd gwych o Eifionydd, Pen Llŷn ac Eryri (gobeithio!).

Gwyn Williams 


Sadwrn 21 Mai
Pedol arall Yr Wyddfa: Gyrn Las, Carnedd Ugain, Yr Wyddfa a’r Lliwedd
9.15    9.30

Ar y bont fechan sy’n arwain at Flaen-y-nant (SH 623 568). 

Roedd rhaid rhoi’r ffidil yn y to efo’r daith yma ddiwedd mis Hydref y llynedd oherwydd tywydd garw. Felly, dyma roi cynnig arni eto. Cyfuniad o gerdded a sgrialu hawdd (graddfa -1). Y Gyrn Las, cerdded uwchben clogwyni gogleddol Cwm Glas i gopa Carnedd Ugain, ymlaen i gopa’r Wyddfa, Bwlch y Saethau a thri chopa’r Lliwedd cyn dilyn Llwybr y Mwynwyr yn ôl i Ben-y-Pas. 8 milltir ac esgyniad o tua 3800 o droedfeddi.
    Mae parcio yng nghilfannau ardal Pont y Gromlech ac Ynys Ettws yn gallu bod yn anodd ond mae’n hawdd cyrraedd yno ar y bws Sherpa neu gerdded o Nant Peris

Richard Roberts  


Mai 21 – 28
Taith yr Alban – Drumnadrochit ger Inverness
Llety wedi ei drefnu yng ngwesty’r Loch Ness Lodge am yr wythnos gyfan, gydag opsiwn o ddwy noson yn Hostel Glen Affric. Croeso i rai sydd am wneud eu trefniadau llety eu hunain i ymuno â’r teithiau.

Trefnydd: Gareth Everett Roberts 


Mercher 25 Mai
Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle

09.45 10.00
Maes parcio Gwinllan Pant Du ar gyrion Penygroes ar y B4418 i Ryd-ddu (CG 478532), (ni fydd y caffi yn agored).

Ar ôl croesi’r dyffryn, cerddwn drwy adfeilion chwareli bychan Llanllyfni e.e. Taldrwst, Tyddyn Agnes a Singrig. Ymlaen heibio Bro Silyn a’r ciosg enwog. Wedi croesi’r afon Llyfnwy, ymlaen drwy Talysarn gan ddilyn y llwybrau sy’n dilyn yr hen dramffordd i gyfeiriad pentref Nantlle. Gwelwn hen chwareli fel Coed Madog, Cloddfa Coed a Dorothea ar y llaw dde a Thalsarn, Gallt y Fedw a Phenybryn ar y llaw chwith. Wedi cyrraedd Nantlle, ymunwn â’r llwybr i fyny at Chwarel Pen yr Orsedd. Yma mae’r unig ddringo ar y daith – awn o amgylch tomenni dwyreiniol chwarel Pen yr Orsedd lle mae cloddio achlysurol o hyd. Cyn bo hir cyrhaeddwn gyrion pentref Y Fron gan ddilyn trac yr hen reilffordd i chwarel Cilgwyn a thyllau Gloddfa Glytiau, Hen Gilgwyn a Maengoch. O bentref Cilgwyn, cerddwn ar hyd hen lwybrau sy’n ymuno â’r ffordd i Benygroes. Yna croesi’r caeau yn ôl i Bant Du ….  a’r caffi. Pellter o 9 m/14 km. 300 m o ddringo.

Rhiannon a Clive James


Sadwrn 28 Mai
Mynydd Mallaen
9.15    9.30

Maes parcio Coedwig Cwm y Rhaeadr (SN 765 423) tua 2.5 km i'r gogledd o Gil-y-cwm.

Ar ôl dringo Mynydd Mallaen, ymlaen i Ben Cerrigdiddos, Maen Bach a Maen Hir. Tua 16 km a chyfanswm codi o 512 m. Mae opsiwn i ychwanegu tua 2 km i ymweld â  'Crugiau Merched'.

Digby a Helen Bevan


Sul 29 Mai
Cyfannedd Fawr a Llynnoedd Cregennan
9.30  9.45

Cyfarfod ochr Bermo i Bont y Bermo neu faes parcio Morfa Mawddach erbyn 10:00.

Hoffwn gael gwybod ymlaen llaw pwy fydd yn bwriadu cychwyn o’r Bermo. Cerdded i fyny am Cyfannedd Fawr ac yna drwy’r goedwig i gyrraedd y Ffordd Ddu a’i dilyn lawr at y ffordd sy’n mynd am Lynnoedd Cregennen. Oddi yno, dilyn y llwybr at olion Llys Bradwen ac yna’r  llwybr i lawr gyda’r rhaeadr am Arthog gan fynd yn ôl at y bont heibio Fegla Fawr. Tua 9 neu 11 milltir (dibynnu ar fan dechrau) a thua 450 m o godi.

Eirlys Wyn Jones


Sadwrn 4 Mehefin
Y Garn i Foel Hebog
8.45   9.00

Ger y Ganolfan Ymwelwyr ym Meddgelert (SH 588 480), dal y bws am 9.00 i Ryd-ddu.

Cerdded yn serth i fyny’r Garn a thros gopaon Mynydd Drws-y-coed a Thrum y Ddysgl cyn disgyn i Fwlch y Ddwy Elor. Rhagor o waith dringo wedyn dros Moel Lefn a Moel yr Ogof i fan ucha’r daith, copa Moel Hebog. Ar i lawr wedyn yn ôl i Feddgelert. Tua 13 km/8 m efo 1340 m/4400’ o ddringo.

Iolo Roberts


Sadwrn 11 Mehefin ***** GOHIRIWYD Y DAITH *****
Tyddynod Coll y Migneint
9.45   10.00
Lleoliad i’w gadarnhau.

Taith trwy un o gymoedd pellennig a diarffordd Cymru, ger Ysbyty Ifan, gan fynd heibio Cerrig Lladron, Cerrig Llwynogod, Llyn Serw a nifer o dyddynnod Cwm Serw. Oddeutu 8 milltir gyda 1000 troedfedd o ddringo.

Gwyn Williams   01492 640154    godreglyn@hotmail.co.uk


Mercher 15 Mehefin
Cylch Egryn, Ardudwy
10.00 10.15

Y gilfan 300 medr i'r de o bentref Tal-y-bont, Ardudwy, ar ochr y môr o'r ffordd SH590214.
Cyffiniau Tal-y-bont, Ardudwy Tŷ canoloesol Egryn, Carneddau Hengwm, cylchoedd cerrig, Bwlch y Rhiwgyr. Codi 300 m 6/7 milltir

Haf Meredydd


Sadwrn a Sul 18 – 19 Mehefin
Penwythnos Teithiau Penllyn
Gwyddoch am y gobaith o ddenu aelodau o bob cwr a chornel i fwynhau cyd-gerdded yn ardal Penllyn. Os oes rhai'n dymuno aros yn y cyffiniau dros y penwythnos yna gofynnir iddynt wneud eu trefniadau llety eu hunain. Croeso i bawb ymuno am daith undydd.

Os ydych yn bwriadu aros yn yr ardal ac yn dymuno cyd-gyfarfod am fwyd nos Sadwrn, a wnewch gysylltu â mi cyn gynted â phoisbl os gwelwch yn dda? Hefyd unrhyw un fyddai eisiau cyd-fwyta cyn mynd adref. Mae'n amser prysur, felly bydd rhaid gwneud trefniadau buan.

Sadwrn 18 Mehefin

Aran Fawddwy ac Aran Benllyn o Lanuwchllyn.
9.15 9.30
Maes parcio ym mhen pellaf y pentref (SH 879 297).

Fyny'r ysgwydd dros  Garth Fawr, Moel Ddu a Moel Ffenigl gan godi'n raddol ar y cyfan i gopa Aran Benllyn. Ymlaen wedyn i Aran Fawddwy a dychwelyd i lawr llechwedd galswelltog serth at Greiglyn Dyfi a chrib Braich-yr-hwch i Gwm Croes a llwybrau da yn ôl i'r pentref. Tua 18 km/11 milltir a 950 m/3120' o ddringo. Gellid byrhau'r daith trwy ddychwelyd yr un ffordd o Aran Benllyn.

Sul 19 Mehefin

Cadair Fronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych o Landrillo.
9.15 9.30
Maes parcio di-dâl ond efo toiledau yn Llandrillo (SJ 035 372).

Dringo graddol heibio i gylch cerrig Moel Tŷ Uchaf a Moel thros Moel Pearce i gopa Cadair Fronwen cyn disgyn i Fwlch Maen Gwynedd a chyfle i weld y maen trawiadol hwn. Ychydig o waith dringo pellach i gopaon Cadair Berwyn y Moel Sych, dau bwynt uchaf y Berwyn (827 m/2713'). Lawr nol trwy waelod Cwm Pennant. Tua 17 km /10 milltir efo 790 m/2590’ o esgyn – dros dir glaswelltog, hawdd cerdded arno.

Eryl Owain


Sadwrn neu Sul 25/26 Mehefin
Y Pymtheg Copa
3.30 a.m.


Ydych chi’n barod am yr her o gerdded y 15 copa sydd dros 3,000’ troedfedd? Bydd angen cychwyn yn gynnar iawn i fyny Crib Goch, Carnedd Ugain a’r Wyddfa a lawr ochrau Llechog i Nantperis. Yna llechwedd (di-ddiwedd!) Elidir Fawr wedyn y Garn, y ddwy Glyder a Thryfan cyn wynebu llethrau serth Pen yr Ole Wen ac yna cerdded gweddol wastad dros gopaon Carnedd Dafydd, yr Elen, Carnedd Llywelyn, Foel Grach Carnedd Gwenllian a Foel Fras. Trefniadau’r daith i’w penderfynu yn ôl pwy sy’n dod a’r union ddyddiad yn hyblyg o ran rhagolygon y tywydd. Cychwyn o Ben-y-pas am 3.30 y bore – cofiwch am olau pen! Tua 31 milltir a 11,400’ o ddringo

Dwynwen Pennant


Sul 3 Gorffennaf
Pedol Cwm Eigiau
9.15   9.30

Maes parcio (am ddim) SH 732 663 yng Nghwm Eigiau

Taith o rhyw 10 milltir gyda 3,300’ o ddringo. Dilyn y ffordd am Melynllyn a Dulyn cyn dringo tua’r Gledffordd ac am Garnedd Llywelyn. I lawr am Fwlch Eryl Farchog gyda pheth sgrialu a pheth sgrialu syml eto i fyny am Ben yr Helgi Du ac ymlaen am Benllithrig-y-wrach. Dychwelyd i Gwm Eigiau heibio’r hen chwarel lechi.

Raymond Wheldon-Roberts


Sadwrn 9 Gorffennaf
Waun Oer ac Aberllefenni
9.15   9.30

Yn y gilfan fawr ar ben Bwlch Llyn Bach (SH 753 134).

Croesi’r ffordd a cherdded i fyny i’r grib sydd yn arwain dros Fynydd Ceiswyn at Waun Oer. Ymlaen wedyn yn serth i lawr, cyn codi eto i ben Cribin Fawr ac ymlaen i gopa Craig Portas. Er mwyn cwblhau pedol Cwm Ceiswyn, byddwn yn cerdded  dros Fynydd Dolgoed, cyn disgyn i lawr i Gwm Ratgoed. Yma cawn weld Plas Ratgoed ac olion y diwydiant llechi. Cerdded llwybrau hawdd oddi yma am Aberllefenni, ble y gwelwn olion chwareli llechi mwy ac adeiladau oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant hwnnw. Oddi yno dilyn llwybr hardd i fyny Cwm Hen-Gae a fydd yn ymuno â’r ffordd sydd yn arwain lawr am Gwm Hafod Oer, cyn y ddringfa olaf serth i gopa’r bwlch. Dilyn y ffordd i lawr nes ymuno hefo’r llwybr sy’n arwain yn ôl i ben Bwlch Llyn Bach. 
Mae peth tir gwlyb ar y mynydd.  Oddeutu 12 milltir o gerdded a gyda tua 1,386  metr o godi.

Eirlys Wyn Jones


Sadwrn 9 Gorffennaf
Fan Gyhirych
9.15 9.30
Maes parcio Tafarn y Garreg (SN850172). Cod Post agosaf: SA9 1GS. (what3words: ///cyfoethog.torfeydd.cludwch neu ///traded.dried.bikes)

Mynd ar lwybrau i'r de i Dwyn y Ffald, yna tua'r gogledd i Dwyn Disgwylfa ac ar hyd yr hen reilffordd i Fwlch Bryn-rhudd. Codi'n serth iawn i gopa Fan Gyhirych, i lawr rywfaint  i Fan Fraith ac yna ar y llwybr i'r de nes cyrraedd Llwybr y Bannau a dilyn hwnnw tua'r gorllewin yn ôl i Benwyllt. Gellid ymweld â'r hen waith brics yma cyn dychwelyd i Dafarn y Garreg. 
Hyd: 10.1 milltir, gydag esgyniad o 2,100 troedfedd. Gallwn ddefnyddio maes parcio Tafarn y Garreg os ydyn ni'n cael diod yno wedyn.

Bruce Lane 
Elin Meek  


Mercher 13 Gorffennaf
Ysbyty Ifan a'r Migneint
9.45 10.00.
Parcio yn y pentre’ SH843488. Byddwn wedi trefnu o flaen llaw fod rhai o’r gyrwyr yn parcio’u ceir ar ochr y B4407 (SH774440) lle bydd y daith yn  gorffen, er mwyn eich cludo’n ôl i Ysbyty Ifan.

Taith linellol ar hyd hen lwybrau gwledig ardal hudolus Ysbyty Ifan. Codi o’r pentre ar hyd ffordd drol i gyfeiriad Foel Gopyn a cherdded drwy fferm Pennant. Yna croesi’r ffordd a dilyn afon Conwy a thiroedd breision gwaelod y dyffryn a heibio’r Fedw.  Yna codi’n raddol a cherdded yng nghwmni’r afon Serw gyda golygfeydd rhagorol o’r anghysbell Arenig Fach. Pasio heibio Trwyn Swch, Moelfryn Serw, Trosnant ac anelu am Cefn Garw a chodi drwy rostir anial y Migneint.
Oddeutu 8 milltir o daith.  Codi rhyw 300 m. 
Cyfyngir y daith i 25 oherwydd y trefniadau cludiant ar y diwedd.

Nia, Mags a Winnie


Sul 17 Gorffennaf
Cylchdaith gogledd y Carneddau o Abergwyngregyn
9.15   9.30

Maes parcio ger yr A55 i’r gogledd o bentref Aber (SH 654727). 

Cylchdaith o gopaon gogledd y Carneddau gan ddringo Moel Wnion ac yna ymlaen dros Drosgl, Bera Bach, Carnedd Gwenllian, Foel Fras a Llwytmor.  Dychwelyd i bentref Aber i lawr Cwm yr Afon Goch a Choedydd Aber.  Pellter o 17km gyda 1150m o ddringo.

Gareth Huws 


Sadwrn 23 Gorffennaf
Taith y Cerrig Gleision
9.15   9.30

Tafarn Y Bwlch ger Brynberian ar yr B4329 (SN 083 336). Cod Post SA41 3TT. “what3words” greed.wolf.chestnuts

Bydd y daith yn cynnwys Foel Feddau, Carn Goedog, Carn Alaw, draw at Pont Saeson, Craig Rhos y Felin, Waun Mawn a 'nol i Tafarn y Bwlch.Mae archeolegwyr o'r farn erbyn hyn fod cerrig gleision Côr Y Cewri yn dod o Carn Goedog a Craig Rhos y Felin

Meirion Jones a Rich Mitchley 


Sadwrn 23 Gorffennaf
Cader/Cadair Idris o Lanfihangel-y-Pennant
9.15    9.30

Maes parcio ar gyfer yr Eglwys yn Llanfihangel SH672 089

Taith o 15.5 km gyda 968 m o ddringo.
Dilyn y lllwybr i ffarm Pencoed a wedyn darn go serth i gopa Mynydd Pencoed ac ymlaen i Graig Cwm Amarch i ymuno gyda’r llwybr i Ben-y-Gader.  I lawr wedyn tuag at Hafoty Gwastadfryn ac yn ôl heibio Tŷ’n-y-Ddôl i’r maes parcio.

Peter Williams 


Sul 31 Gorffennaf
Tryfan a’r Glyderau, Y Garn i Fethesda
8.30     8.45

Maes parcio Pant Dreiniog (SH 622 688) – parcio am ddim

Dal y bws T10 o Sgwâr Fictoria ym Methesda am 08.45 i Bont Pen y Benglog am 08.53.  Os byddai’n haws i rai ohonoch ddal bws o Fangor mae hi’n cychwyn o’r cloc am 08.28. Bydd y daith yn gorffen ym Methesda felly os byddwch yn dal y bws o Fangor bydd angen dal bws yn ôl o Fethesda ac angen cofio mai taith dydd Sul yw honn felly bydd y wasanaeth ddim mor gyson. Cychwyn o Bont Pen y Benglog a dilyn yr A5 hyd y llyn i ddringo crib ogleddol Tryfan i gychwyn (sgrialu gradd 1). O gopa Tryfan byddwn yn gostwng am Fwlch Tryfan, ac i lawr i Llyn Bochlwyd. Yna byddwn yn dringo i fyny'r Gribyn (sgrialu gradd 1) ac ymlaen dros gopaon Glyder Fawr, Y Garn, Foel Goch, Mynydd Perfedd a Charnedd y Filiast cyn gostwng yn serth am Lon Las Ogwen i orffen yn nhafarn y Douglas ym Methesda.  Taith 12 milltir gyda 4400 o droedfeddi o ddringo. 

Stephen Williams 


Mercher 3 Awst
Taith Llynnoedd Teifi
9.45-10.00
Maes parcio Ystrad Fflur - SN74546  65676.

Dilyn y lôn i fyny’r cwm, cyn troi i fyny ar ochr Nant Egnant a dringo yn araf at yr argae. Cwrdd â’r lôn sy’n dod o gwm Claerwen, a heibio llynnoedd Teif a Hir, cyn disgyn yn ôl i lawr heibio Troed y Rhiw efo golygfeydd dros Gors Caron a draw am Ystrad Meurig. Taith hamddenol yn ardal hanesyddol yr Abaty o tua 9 milltir.

Dafydd Pugh Jones 


Gwener 5 Awst
Darlith Goffa Llew Gwent
Pabell Cymdeithasau 1  am 11.00 o'r gloch

Caradog Jones, y Cymro cyntaf i ddringo Everest, fydd yn traddodi’r ddarlith eleni ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.



Sadwrn 13 Awst
Cwm Teigl
9.45    10.00
Llan Ffestiniog (SH 704423)

Taith o rhyw 9 milltir gyda 1800 o ddringo; heibio Llyn Morwynion, Y Garnedd, Y Gamallt a’r Clochdy. Dychwelyd heibio Hafod Ysbyty. Taith hamddenol, gyda golygfeydd arbennig o Ddyffryn Ffestiniog.

Gwyn Williams   01492 640154  godrerglyn@hotmail.co.uk


Sadwrn 20 Awst
Cylchdaith Nantgwryd o Gapel Curig
8.00    8.15

Ar ochr yr A4086 ger Plas y Brenin (SH 715 578).

Dilyn y llwybr drwy’r goedwig gan anelu am ysgwydd gogledd ddwyreiniol Moel Siabod ac ymlaen i’r copa. Sgrialu lefel 1 – neu aros ar y llwybr. Yna lawr am Westy Pen y Gwryd a chroesi'r A4086, a dilyn llwybr y chwarelwyr fyny at Gwm Caseg-Ffraith ac yn ôl dros gopaon Foel Goch, Gallt yr Ogof, trwy Bwlch Goleuni a Cefn y Capel. Tua 24 km (15 milltir) gan godi 1,392 m at fan uchaf o 867. Tua naw i ddeg awr. Gobeithio y bydd modd cael pryd o fwyd ym Mhlas y Brenin ar ddiwedd y daith.

Keith Roberts  07789 911437  keithtan@hotmail.co.uk


Sadwrn 27 Awst
Y Carneddau – o Ogwen i Fethesda
8.30   8.45

Maes parcio Pant Dreiniog (SH 622 688) – parcio am ddim

Dal bws T10 o Sgwâr Fictoria ym Methesda i Lan Dena ac i fyny Pen yr Ole Wen heibio Ffynnon Lloer, dros Garnedd Dafydd a Llywelyn, wedyn Foel Grach a Charnedd Gwenllian ac i lawr heibio Bera Bach a Drosgl nol i Fethesda. Tua 16 km/8 milltir a 1100 m/3600’ o ddringo.

Siân Shakespear   01248 351378 / 07890 613933   sianetal@hotmail.com



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain  01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 0780 3191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com