Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Mai-Awst 2023
Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'
Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA
Mercher 12 Ebrill ***GOHIRIWYD oherwydd tywydd gwael
Ardal Coed Cymerau
1015 10.30
Arosfan ar yr A496 rhwng Maentwrog / Rhyd y Sarn a Blaenau ffestiniog (SH694431).
Cerdded o gwmpas Parc Cymerau Isaf, Rhyd y Sarn, Dduallt Coediog yr holl ffordd i'r Oakley Arms (bydd 3 char yno i gludo gyrrwyr yn ôl at eu ceir. Llwybr cul, anwastad a serth. 7 milltir.
Mae'n bwysig cysylltu â'r arweinydd ymlaen llaw er mwyn trefnu'r drafnidiaeth.
John Parry 07891 835576 llwynderw@yahoo.co.uk
Sadwrn 22 Ebrill
Elidir Fawr, Foel Goch a’r Garn
8.45 9.00
Maes Parcio Nant Peris.
Cerdded yn serth i gopa Elidir Fawr, croesi Bwlch Marchlyn ac i ben Foel Goch ac yna ’mlaen i’r trydydd copa, y Garn. Disgyn i lawr i Lyn y Cŵn a dilyn y llwybr trwy Cwm Padrig yn ôl i Nant Peris. Tua 13 km/8 m efo 1340 m/3606’ o ddringo.
Dylan Evans
Sadwrn 22 Ebrill
Taith yn y de
Manylion i ddod
Alison Maddocks
Sadwrn 29 Ebrill
Bryniau Clwyd
9.45 10.00
Cyfarfod ym maes parcio Bwlch Pen Barras.
Dilyn llwybr Clawdd Offa i gopaon Moel Famau, Moel Dywyll ac ymlaen i gopa Moel Arthur lle mae bryngaer sy’n werth ei gweld. Dilyn llwybr ar hyd godrau’r bryniau yn ôl i’r maes parcio.
Taith o 10 milltir ac esgyniad o tua 2,400 o droedfeddi.
Sw a Richard Robertsgmail.com
Llun 1 Mai
Taith Flasu'r Clwb ar Foel Siabod
9.00 9.15
Maes parcio Pont Cyfyng, Capel Curig (SH734571)
Cerdded at Llyn y Foel a bydd dewis wedyn o unai sgramblo i fyny Crib y Ddaear Ddu neu dilyn y llwybr cerdded yr holl ffordd i’r copa. I lawr wyneb gorllewinol Moel Siabod i gyfeiriad Plas y Brenin a dilyn afon Llugwy yn ôl i’r maes parcio.
11 km/7 milltir o gerdded ac esgyniad o tuag 800 m/2600 o droedfeddi
Manylion pellach: YMA
Stephen Williams
Ariannell Parry
Sadwrn 6 Mai
Cwm Eigiau - Foel Grach, Carnedd Gwenllian, Foel Fras a’r Drum o Lyn Eigiau.
09.00 - 09.15
wrth ymyl tafarn Y Bedol yn Nhal-y-Bont, Dyffryn Conwy (SH 766 689) i rannu ceir (does yna ddim lle i lawer o geir ym maes parcio Cwm Eigiau).
Cychwyn o faes parcio Cwm Eigiau ac anelu am Gerrig Cochion, croesi afon Melynllyn, wedyn fyny am Llyn Dulyn. O Lyn Dulyn, i fyny am Lyn Melynllyn, wedyn dringo’n serth i fyny llethrau Craig Fawr i gopa Foel Grach. Ymlaen wedyn i gopaon Carnedd Gwenllian, Foel-fras, Drum, ac wedyn lawr am Foel Lwyd ac yn ôl i’r man cychwyn. Peint neu banad yn nhafarn Y Bedol, Tal y bont i orffen y diwrnod.
Taith o tua 20 km/12 milltir ac esgyniad o 1100 m /3600 o droedfeddi.
Keith Roberts
Mercher 10 Mai
Cylchdaith Mynydd Twr
9.45 10.00
ger Morglawdd Caergybi SH 235 836 (parcio am ddim).
Cerdded ar hyd llwybr yr arfordir hyd at Ynys Arw cyn mynd i gopa Mynydd Twr. Ymlaen at Ynys Lawd lle disgwylir gweld amrywiaeth o adar y môr yn clwydo. Dychwelyd i Gaergybi ar hyd llwybr i’r de o Fynydd Twr ac ymlaen i Barc Gwledig y Chwarel.
Caffi a thoiledau yn Ynys Lawd a’r Parc Gwledig. Taith o rhyw 10.5 km /6.5 milltir.
Eirwen Williams
Sadwrn 13 Mai
Taith y Preselau ( i’w chadarnhau)
Manylion i ddilyn.
Digby a Helen
Sadwrn 13 Mai
Cwm Hesgyn, Carnedd y Filiast a’r Gylchedd
9.15 9.30
wrth Bont Mynachddwr, Cwmtirmynach ( SH911418)
Taith o oddeutu 18 km/11 milltir ar gopaon llai cyfarwydd Penllyn ac ardal anghysbell Cwm Hesgyn. 732 m /2400 troedfedd o ddringo, peth ar lwybrau da a pheth ar dir garw a gwlyb.
Taith o 7 i 8 awr.
Gwyn Williams
Sadwrn 20 Mai
Cnicht, Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach
9.15 9.30
Maes parcio Croesor SH 631 446
Cerdded i gopa’r Cnicht ac wedyn ar hyd y grib a throi am hen Chwarel Rhosydd. Ymlaen at gopaon Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach. Dilyn y grib orllewinol yn ôl i’r ffordd a’r maes parcio.
14 km/ 9 milltir o gerdded ac esgyniad o 1080 m/3500 troedfedd
Gethin Rowlands
27 Mai - 3 Mehefin
Taith ddechrau’r haf i'r Alban
Taith i ardal Roy Bridge, ychydig filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o Fort William.
Mae llety wedi’i drefnu yn hostel Aite Cruinnichidh https://highland-hostel.co.uk Mae gan yr hostel gyfleusterau paratoi a choginio bwyd ac mae ’na dafarndai nid nepell o’r safle. Mae’r siop agosaf tua 5 milltir o’r safle a thref Fort William tua 12 milltir oddi yno. Mae hon yr ardal wych i fynydda gyda Ben Nevis, The Ring of Steall, The Grey Corries a llu o bosibiliadau eraill o fewn tafliad carreg.
Cysylltwch â Keith am fwy o fanylion.
Keith Roberts
Sadwrn 3 Mehefin
Penllithrig-y-wrach a Chreigiau Gleision.
8.15 8.30 - **sylwer ar y newid amser
Maes parcio (SH 720582) tu ôl i siop Joe Brown yng Nghapel Curig.
Codi’n raddol heibio Clogwyn Mawr a thros Crimpiau a Graig Wen i gopa Creigiau Gleision ac yna i lawr i lannau Llyn Cowlyd. Wedi croesi’r argae, rhaid dringo’n serth i’r gefnen sy’n arwain at gopa Penllithrig-y-wrach, disgyn yn serth i Fwlch Tri Chwmwd ac yn ôl heibio Tal-y-waun. Rhannau dros dir garw, di-lwybr a gall fod yn wlyb dan draed mewn mannau. 16 km/10 milltir a 1030 m/3380 troedfedd o ddringo.
Eryl Owain
Mercher 7 Mehefin
I gopa’r Drum.
9.30 9.45
Abergwyngregyn, yn y maes parcio heibio i’r gylchfan bws yng ngwaelod y pentref gyda lle chwech yn ymyl.
Llenwi’r ceir a symud i faes parcio cyfyng ger giât y mynydd.
Cychwyn i’r dwyrain ar Lwybr y Gogledd a throi am gopa’r Drum am 3.6 milltir gweddol serth. Troi’n ôl am Fwlch y Ddalfa a thros fân gopaon Pen Bryn Du, Yr Orsedd, Foel Ganol a Foel Dduarth ac yn ôl i’r man cychwyn.
Taith tua 7 milltir o hyd a 600 medr o ddringo.
Panad a chacen yn Cwrtiau wedyn a’r elw a wneir yn mynd tuag at gronfa’r Eisteddfod Genedlaethol.
Dewi Roberts
Sadwrn 10 Mehefin
Pedol Bochlwyd
9.15 9.30
o Glan Dena (SH 668 605) lle mae parcio am ddim wrth ochor y ffordd. Mae'r man cychwyn yn gallu bod yn ofnadwy o brysur ar benwythnosau dros yr haf felly mae defnyddio gwasanaeth bws dipyn yn haws yr amser yma o'r flwyddyn. Bws T10 yn gadael cloc Bangor am 08.23 a Sgwâr Fictoria, Bethesda am 08.45 - cyrraedd Glan Dena erbyn 08.55. O gyfeiriad Betws y Coed, bydd y bws yn gadael am 09.01 a chyrraedd am 9.20. Bydd angen gofyn i'r bws stopio yn Glan Dena o'r ddau gyfeiriad.
Un o'r clasuron! Dilyn y Llwybr o Glan Dena i waelod Tryfan a dringo'r grib ogleddol (gradd 1) i’r copa. Ymlaen am Fwlch Tryfan ac i fyny’r Grib Ddanheddog neu Bristly Ridge (gradd 1 ond cryn dipyn yn fwy heriol na Tryfan). Wrth gyrraedd diwedd y grib byddwn fwy neu lai ar gopa Glyder Fach. Cynnig i rai sydd dal awydd sgrialu i ddringo dros Gastell y Gwynt ac i'r rhai sydd ddim, dilyn y llwybr o'i amgylch. Sgrialu unwaith eto i lawr y Gribyn (gradd 1) i lyn Bochlwyd a dychwelyd i Glan Dena.
Taith 10 km/6 milltir a 800 m/2645 o droedfeddi o ddringo. Er nad yw'n daith mor hir ag arfer mae’r symud yn llawer arafach oherwydd yr holl sgrialu.
Stephen Williams
Sadwrn 17 Mehefin
O’r môr i’r môr dros y miloedd
02.45 – 03.00
Maes parcio yn Abergwyngregyn, ar y chwith yn union ar ôl dod oddi ar yr A55 os yn dod o’r Dwyrain (SH656728). Bydd hi’n bosib gadael ceir yma tan y diwrnod wedyn.
O Abergwyngregyn i Borthmadog dros 5 copa uwch na 1000 m Cymru.
Cychwyn o lefel môr yn Abergwyngregyn a cherdded i ben uchaf y Rhaeadr Mawr cyn mynd rhwng y ddwy Bera ac anelu am gopa Carnedd Llywelyn. Ymlaen dros yr Ysgolion Duon i gopa Carnedd Dafydd cyn disgyn lawr heibio Ffynnon Lloer i Glan Dena. Dringo eto wedyn o waelod Dyffryn Ogwen i fyny’r Gribin ac am gopa Glyder Fawr cyn disgyn i Ben-y-Pass ar hyd llwybr y dotiau coch.
O Ben-y-Pass i fyny llwybr PYG i Fwlch Glas, piciad i Gopa Garnedd Ugain/Crib y Ddysgl cyn mynd am gopa’r Wyddfa. I lawr o’r Wyddfa ar hyd llwybr Rhydd Ddu cyn mynd ymlaen i Fwlch y Ddwy Elor. Cerdded haws wedyn i lawr Cwm Pennant, drosodd i Gwm Ysdradllyn, i lawr Cwm Mawr i Dremadog a thrwy Nyrseri Tremadog i Port (gobeithio cyrraedd cyn stop tap yn y Sportsman).
Taith hiiiir o 58 km/36 milltir a 3078 m/10,100 troedfedd o ddringo, tuag 20 awr.
Bydd angen cysylltu i ddeud eich bod chi’n dod erbyn nos Fawrth cyn y daith er mwyn gwneud trefniadau ceir a ballu.
Dwynwen Pennant
Mercher 21 Mehefin
Ymweliad ag Ynys Enlli.
Rhyw 3 i 4 awr ar yr ynys.
Mae angen archebu lle ar y cwch cyn gynted â phosib – lle i 11, croesi am 10.30 y bore (ail gwch am 11.30 os bydd galw). £45 yr un i oedolion (£25 i blant). Croesi o Borth Meudwy, Aberdaron, am 10.30 y bore (angen bod ar y traeth o leiaf 20 munud cyn hynny).
Haf Meredydd
Sadwrn 24 Mehefin
Waun Oer, Pedol Cwm Ceiswyn, Cwm Ratgoed ac Aberllefenni
9.15 9.30
Bwlch Llyn Bach. Bwriedir gadael car yn Aberllefenni fel bo modd i unrhyw un sydd wedi blino neu i’r gyrrwyr gael mynd yn ôl i’r man cychwyn i alw am eu ceir.
Dyma gyfle eto i’r rhai oedd eisiau ymuno ar y daith hon y llynedd ond wnaeth fethu gwneud hynny.
O Fwlch Llyn Bach, cerdded i fyny am a thros Mynydd Ceiswyn ac yna ar hyd y grib i gopa Waun Oer cyn mynd ymlaen at Gribin Fawr. Oddi yno ar draws at Graig Portas ac er mwyn cwblhau’r bedol, cerdded ar hyd crib Mynydd Dolgoed. Disgyn yn serth oddi arni i Gwm Ratgoed a chael gweld tŷ hynafol Dolgoed, yr olion chwarelyddol o gwmpas gan gynnwys Plas Ratgoed. Yna cerdded ar hyd llawr y dyffryn i gyrraedd Aberllefenni, ble y gwelir chwareli mwy o faint. Oddi yno, yn ôl i ddechrau’r daith ar hyd llwybrau a ffordd dawel.
(Tua 13 milltir o gerdded neu 10 milltir os yn gorffen yn Aberllefenni a thua 1,050 m o godi neu 750 m o godi os yn gorffen yn Aberllefenni.)
Eirlys Wyn Jones
Sadwrn 24 Mehefin
Taith Epynt
9.15 9.30
Cyfarfod yn y ganolfan ymwelwyr ger Penre Dolau Honddu ar y B4519 i’r gogledd o Upper Chapel. SN993. 437.
Tua 11 milltir o daith.
Guto Evans
Sadwrn 1 Gorffennaf
O Gapel Curig i Fethesda
8.30 8.45
Maes Parcio Pant Dreiniog, Bethesda am 08:30 i fod yn barod i ddal y Bws T10 am 08:45 i Gapel Curig.
Cychwyn o faes parcio Joe Brown, Capel Curig am 09:15.
Dilyn y Llwybr Llechi am rhyw 400 m cyn troi heibio Creigiau'r Gelli. Cerdded dros Gefn y Capel at Fwlch Goleuni a dringo’n serth at gopa Gallt yr Ogof. Ymlaen wedyn dros y Foel Goch a'r ddwy Glyder, cyn gostwng i Lyn y Cŵn ac yna i fyny am y Garn. Wedyn ymlaen i Foel Goch cyn gwneud penderfyniad yn dibynnu ar yr amser ac ati.
Opsiwn 1) Troi am gopa Elidir Fawr ar ôl disgyn o Foel Goch, i fyny at y copa, a wedyn dod nôl lawr yr un ffordd ac wedyn at Fynydd Perfedd.
Opsiwn 2) Mynd yn syth i fyny Mynydd Perfedd o Foel Goch.
Ymlaen o gopa Mynydd Perfedd i Garnedd Y Filiast, gostwng i’r Fronllwyd, ac yna i lawr at Lôn Las Ogwen ar hyd y grib lydan rhwng Chwarel y Penrhyn a Chwm Ceunant. Ymlaen ar hyd Lôn Las Ogwen yn ôl i Fethesda. Peint yn y Vic os oes amser.
Taith (opsiwn 1):
- 25 km/15.5 milltir o gerdded
- 1500 m/4900 troedfedd o esgyniad
Taith (opsiwn 2):
- 22 km/13.7 milltir o gerdded
- 1250 m/4100 troedfedd o esgyniad.
Matthew Williams
Sadwrn 8 Gorffennaf
Her y pymtheg copa
03.15 – 03.30
ym Mhen-y-Pass. (i’w gadarnhau).
Taith 15 Copa o’r Grib Goch i Foel Fras dros gopaon uwch na 3000 troedfedd Cymru
Gorffen yn y maes parcio uchaf uwchben Abergwyngregyn. Bydd angen torch pen!
Taith hir o 50 km/31 milltir a 4359 m/14,300 troedfedd o ddringo, tua 18-20 awr. Bydd angen cysylltu i ddeud eich bod chi’n dod erbyn nos Fawrth cyn y daith er mwyn gwneud trefniadau ceir a ballu.
Dwynwen Pennant
Mercher 12 Gorffennaf
Dyffryn Conwy - Pen y Gaer, Penygadair, Pen y Castell a Drum
9.30 – 9.45
yn y gilfan ar y B5106 milltir a hanner i’r gogledd o bentref Talybont (SH 770 701) er mwyn rhannu ceir i’r man cychwyn.
Taith ar gyrion gogledd-ddwyreiniol y Carneddau. Ymweld â bryngaer Pen y Gaer yna codi’n raddol dros gopaon Penygadair a Phen y Castell i’r Drum cyn disgyn i Fwlch y Ddeufaen a chylchu’n ôl. Taith o 8-9 milltir (13 -14 km) a 1650’ (500 metr) o godi.
Dilys ac Aneurin Phillips
Sadwrn, 15 Gorffennaf ****GOHIRIWYD OHERWYDD Y TYWYDD GWAEL
Cylchdaith Gwawr – Y Glyderau.
02:40. Cychwyn am 02:50
o flaen Canolfan Wardeiniad Ogwen (SH64971 60373).
Yna cychwyn fyny am Llyn Bochwyd, Bwlch Tryfan, ac ymuno â llwybr y mwynwyr i fyny o Cwm Tryfan. Ymlaen am garreg Y Gwyliwr a’r Glyder Fach, gan anelu i fod yno erbyn 05:00 i wylio’r wawr. Cychwyn wedyn am Gastell y Gwynt, Bwlch y Ddwy Glyder, a chopa Glyder Fawr, ac yna i lawr at Lyn y Cŵn, heibio Twll Du, ac yn ôl i’r man cychwyn. Tua 7 milltir o cerdded. Rhaid cael torch pen, ac offer cerdded addas ar gyfer y daith yma, ac wrth gwrs, camera os ydy’r tywydd yn ffafriol.
Keith Roberts 07789 911437 keithtan@hotmail.co.uk
Sadwrn 22 Gorffennaf ****GOHIRIWYD OHERWYDD Y TYWYDD GWAEL
Moel Meirch a Cnicht
9.15 9.30
Maes Parcio Pont Bethania - SH 508628.
Cychwyn hamddenol i fyny heibio Plas Gwynant a lôn Nantmor am Moel Meirch a phasio’r bwlch o dan y Foel. Yn ôl lawr i Lyn Edno cyn mynd ar hyd yr Ysgafell Wen am gopa’r Cnicht. Yn ôl i Bont Bethania drwy fynd lawr am Gelli Iago a throsodd i Lyn Dinas. Esgyniad o dros 660 m/ 2165 troedfedd a phellter o 18 km/11 milltir.
Siân Shakespeare 07890 613933 sianetal@hotmail.com
Sadwrn 29 Gorffennaf
Cwm Dulais a Bryniau gogledd Abertawe.
9.15 9.30
Cilfan wrth ymyl yr A48 ger y Fountain Inn gerllaw Pontarddulais, SN 6020 0297
What3Words: https://w3w.co/distracts.belonging.mute (neidio.trefnaf.nadroedd).
Cylchdaith o ryw 12 milltir gan gynnwys Cwm Dulais, Cefn Drum, Twyn Tyle, Cwmcerdinen, Pentwyn Mawr a Graig Fawr. Esgyn graddol ar y cyfan.
Eurig James 07890 756310 eurig-james@supanet.com
Mercher 9 Awst, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
Taith Goffa Gareth Pierce – Yr Eifl
9.45 10.00
Maes parcio rhwng Llithfaen a Nant Gwrtheyrn (SH 353441)
Cychwyn o’r maes parcio ac anelu am Dre’r Ceiri (485 m) lle ceir yr enghraifft orau o fryn gaer o’r Oes Haearn ym Mhrydain. Ymlaen i gopa Garn Ganol (pwynt uchaf y daith – 564 m). Disgyn wedyn i Fwlch yr Eifl cyn dringo’r trydydd copa sef Garn Fôr (Mynydd gwaith) - 444 m. Disgyn yn ôl i‘r bwlch a gwneud ein ffordd yn ôl i’r maes parcio ar hyd llwybr yr arfordir. Taith o tua 4.5 milltir. Os oes awydd, gellir ymestyn y daith a disgyn i lawr o’r bwlch i Nant Gwrtheyrn a dod yn ôl i fyny drwy Gallt y Bwlch a fydd yn ychwanegu oddeutu 3.5 milltir i’r daith.
Taith o tua 3 awr ond yn hirach os caiff ei hymestyn.
Iolo Roberts 07854 656351 ioloroberts289@btinternet.com
Sadwrn 12 Awst
Darlith Goffa Llew ap Gwent gan Catrin Meurig
Pabell Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
1130
Dewch i wrando ar Catrin Meurig, un o aelodau Clwb Mynydda Cymru, sy’n mynd i rannu ei phrofiadau am ei hanturiaethau. Er enghraifft, mae Catrin wedi cystadlu yn y Marathon Des Sables, râs a ddisgrifir fel yr un galetaf yn y Byd a’r râs TDS gan Ultra Trail du Mont Blanc sydd bron i gan milltir a 30,000 o droedfeddi o esgyniad. Roedd y Babell Gymdeithasau dan ei sang ar gyfer darlith y Clwb yn Nhregaron, felly cyrhaeddwch mewn da bryd i sicrhau lle.
Sadwrn 19 Awst
Sgramblo ar y Gribyn a’r Lliwedd
9.00 9.15
Parcio rhad ac am ddim yn un o’r cilfannau sydd ar ochr Conwy o’r ffin sirol yn ymyl Pen-y-Gwryd a chyfarfod o flaen y gwesty o’r un enw (SH 660 557).
Cerdded i Ben- y-Pass a dilyn llwybyr y Mwynwyr hyd nes cyrraedd Llyn Glaslyn. Sgrialu gradd 1 i fyny’r Gribyn i Fwlch y Saethau a sgrialu pellach hamddenol wedyn i gopa’r Lliwedd. Cerdded ymlaen dros Gallt y Wenallt cyn disgyn yn serth at Bwerdy Cwm Dyli a dilyn y llwybr yn ôl i Ben-y-Gwryd.
Cerdded 14 km/9 milltir ac esgyniad o 1040 m/3400 troedfedd.
Trystan Evans 07900 262453 trystanllwyd@outlook.com
Sadwrn 26 Awst
Moelydd yr Wyddfa
9.15 9.30
ger siop Joe Brown, Llanberis.
Cerdded i fyny Moel Eilio a thros gopaon Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion, yna i lawr i Gwm Brwynog ac yn ôl i Lanberis. Taith hamddenol. 15 km/9 milltir a 990 m/3250 o droedfeddi o ddringo.
Anna George 07531 651943 annagwenllian@icloud.com
Sadwrn 26 Awst
Taith Ardal y De
Manylion i ddilyn. Cysylltwch â Rhun os am ymuno
Rhun Jones 07976 599607 rhuncjones@gmail.com
Sadwrn 23 Medi
Taith Bannau Sir Gar
9.00
Maes parcio di-dal Coedwig Glasfynydd ger Pont ar Wysg SN 82019 27129
What3Words:
ticket.shadowing.glassware.
Cerdded lan i Bannau Sir Gar (Fan Foel) o'r gogledd. Tua 22 km.
Cysylltwch â Simeon os am ymuno.
Simeon Jones 07463 407 526 slldjones@gmail.com
Sadwrn 21 Hydref
Taith Dyffryn Teifi
Manylion i ddilyn. Cysylltwch â Meirion os am ymuno.
Meirion Jones. 07790015418 Meirionanesta@hotmail.co.uk
Sadwrn 9 Rhagfyr
Taith Ardal Grughywel
9.30
Maes Parcio Crughywel – tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC. CG SO 218 184 (i’w gadarnhau).
Cysylltwch â Richard os am ymuno.
Ymlaen wedyn i Westy’r Bear yn Crughywel am ginio, os dymunir (6.30 o’r gloch).
Richard Mitchley 07850 174875 Richard@dragontrails.com
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.