Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Mai-Awst 2024
Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar y daith
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Mae arweinyddion yn cadw’r hawl i newid dyddiadau teithiau o’r dydd Sadwrn i ddydd Sul a vice versa, weithiau oherwydd y tywydd neu amodau/digwyddiadau eraill. Byddan nhw hefyd angen gwybod rhif ffôn ac enw cyswllt mewn argyfwng. Gwahoddir y rhai sydd am ymuno â’r teithiau rannu gwybodaeth, yn gyfrinachol, gyda’r arweinydd am unrhyw gyflwr meddygol os y bydd hynny o help iddyn nhw mewn argyfwng yn ystod y daith.
Mae’r Clwb yn graddio teithiau i adlewyrchu natur eu her. Bydd yr eicon a fydd yn cyd-fynd â lefel yr her yn ymddangos gyda disgrifiad pob taith (drwy clicio/cyffwrdd yr eicon gallwch weld y graddfeydd yn llawn). Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.
Mae amodau gaeafol yn cynyddu’r her wrth fynydda, e.e. mae taith a roddir gradd gwyrdd iddi yn yr haf yn gallu haeddu du yn y gaeaf. Mae’r Clwb yn disgwyl i aelodau sy’n ymuno â theithiau mewn amodau gaeafol gario’r offer priodol, e.e. caib rhew, pigau bach/mawr, lamp pen ynghyd â’r gallu i’w defnyddio.
Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.
Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'
Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA
Sadwrn 6 Ebrill ****** Gohiriwyd tan Fis Medi - oherwydd y tywydd
Pedol Cwm Caseg
9.00 9.15
Maes parcio Pantdreiniog, ynghanol Bethesda; i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.
Cerdded trwy Gerlan am Gyrn Wigau ac ymlaen dros gopaon Bera Bach, Yr Aryg, Carnedd Gwenllian, Foel Grach a Charnedd Llywelyn. I lawr trwyn serth Yr Elen ac yn ôl i Fethesda dros Foel Ganol a Chors Gwaun y Gwiail.
Diweddu’r daith efo peint yn y Siôr.
11.5 milltir/19 kcm ac esgyniad o 1,134 m/3,720 troedfedd.
Owain Evans
Sadwrn 13 Ebrill
Taith y Forest Fawr
9.15
Maes parcio - rhad ac am ddim - Coedwig Blaen Llia SN 927 164.
Cerdded i fyny Fan Llia ac wedyn draw at Fan Fawr (734 m). Cerdded heibio Maen Llia (4,000 oed) ac wedyn Craig Cerrig Gleisiad a'u planhigion arctig-alpaidd yn eu lleoliad mwyaf deheuol yn y DU. Bydd y daith gerdded yn dod i ben ar hyd enghraifft braf o ffordd Rufeinig. Tua 21 km.
Simeon Jones
Sadwrn 13 Ebrill
Pen Llithrig y Wrach a
Phen yr Helgi Ddu
7.00 7.15
Maes parcio tu ôl i siop Joe Brown, Capel Curig SH 720 582.
Croesi’r briffordd ac anelu am y Crimpiau. Croesi’r tir corsiog i Fwlch y Trichwmwd a dringo Pen Llithrig y Wrach. I lawr i Fwlch y Tri Marchog cyn cerdded i gopa Pen yr Helgi Du a lawr y Braich i gyfeiriad yr A5. Cerdded yn ôl i Gapel Curig ar hyd y Llwybr Llechi. Noder: cyrhaeddwch y maes parcio mewn da bryd; mae o wedi prysuro dros y blynyddoedd diwetha.
Tua 15 km/9 milltir ac esgyniad o 880 m/2,900 o droedfeddi.
Gethin Rowlands
Mercher 17 Ebrill
Cylch Moel-y-Gest
10.15 10.30
Maes parcio Borth-y-Gest
Hyd - 8 milltir gwastad ar y cyfan. Ychydig o dynnu fyny.
Gwyn Williams
Anet Thomas
Sadwrn 20 Ebrill
Mynyddoedd y Berwyn
8.30 8.40
Maes parcio pentref Llangynog SJ 05356 26161.
Rhannu ceir yn y man cyfarfod yn Llangynog a gyrru i faes parcio Tan-y-Pistyll, sef y man cychwyn y daith - cost o £5.
O faes parcio’r rhaeadr, mynd am Graig y Llyn/Moel Sych ac ymlaen am Gadair Berwyn a Chadair Bronwen os bydd y tywydd yn ffafriol. Yn ôl am Gadair Berwyn ac i lawr Moel yr Ewig a heibio Llyn Lluncaws yn ôl i’r man cychwyn.
Taith o tua 9 milltir, estyniad o 2,543 o droedfeddi tuaf 5-6 awr o gerdded.
Sandra Parry
Sadwrn 27 Ebrill
Rhinog Fach, y Llethr a’r Diffwys
9.15 9.30
Maes parcio ger fferm Maes y Garnedd ym mhen pellaf Cwm Nantcol, bydd angen ychydig bunnoedd i dalu am barcio. SH641 269.
Cerdded trwy Fwlch Drws Ardudwy cyn dringo’n serth i gopa’r Rhinog Fach. Disgyn i’r bwlch uwchben Llyn Hywel cyn dringo i gopa’r Llethr. Dilyn Crib y Rhiw at Diffwys ac wedyn i lawr am Bont Sgethin a dilyn y llwybr yn ôl i Gwm Nantcol. Rhai llwybrau serth a charegog.
19 km/12 milltir ac esgyniad o 1,300 m/4,300 o droedfeddi, tuag 8 awr.
Trystan Evans
Sadwrn 27 Ebrill
Taith yn y Preselau
9.15 9.30
Rhos Fach, Mynachlog-ddu, SN 135304
Taith gylch yn cynnwys Foel Feddau, Foel Cwm Cerwyn, Garn Menyn, Garn Gyfrwy a Foel Dyrch.
Pellter: 21 km Esgyn: 686 m
Helen & Digby Bevan
Llun 6 Mai
Pedol Moel Eilio ****Taith flasu i ddarpar aelodau
09.00 09.15
Siop Joe Brown, Llanberis SH 577602
Cyfle i brofi diwrnod blasu yn rhad ac am ddim gyda Chlwb Mynydda Cymru cyn penderfynu os hoffech ymuno ai peidio. Byddwn yn cerdded i fyny o'r pentref i Fwlch-y-groes ac yna dros gopaon Moel Eilio, Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion cyn disgyn i lawr llwybr o Fwlch Maesgwm yn ôl i Lanberis.
17 km/10.5 milltir ac esgyniad o 950 m/3117 troedfedd.
Byddwn yn anelu at ddychwelyd i Lanberis erbyn 15.00.
Cysylltwch â Stephen Williams erbyn 30 Ebrill, neu cysylltwch gyda ni drwy Facebook neu Instagram.
Steven Williams
Taith y Clwb i Hawes, Swydd Efrog 6-10 Mai
Taith i dref Hawes yn ardal hyfryd Parc Cenedlaethol y Yorkshire Dales.
Cysylltwch â Gwyn am fanylion pellach.
Gwyn Williams
Sadwrn 11 Mai
Bannau Sir Gâr o Gwmgïedd
9.15
Maes Parcio Coedwig Gïedd SN 791 127
Teithio i Gefn Mawr, Carreg Lem, Waun Lefrith, Esgair Ddu, Llorfa.
Taith o tua 20 km/12 milltir.
Paddy Daley
Sadwrn 11 Mai
Y Rhinogydd - o Drawsfynydd i Bermo
Gorsaf drennau Penrhyndeudraeth am 5:00 a.m.
Mynd mewn cyn lleied o geir â phosib i’r man cychwyn ger Moelfryn Isaf ar lan Llyn Trawsfynydd. Cerdded crib y Rhinogydd ar ei hyd i Bermo dros gopaon Moel Gyrafolen, Diffwys, Foel Penolau, Moel Ysgyfarnogod, Craig Ddrwg, Rhinog Fawr, Rhinog Fach, Y Llethr, Diffwys, a Llawllech. Peint haeddiannol yn y Bermo cyn dal trên yn ôl i Benrhyndeudraeth a nôl y ceir o Traws.
Taith hir dros dirwedd hynod o arw.
32 km/20 milltir a 2164 m/7100 troedfedd o ddringo, tua 12 awr.
Dwynwen Pennant
Mercher 15 Mai
Pen y Gaer, Dyffryn Conwy
9.45 10.00
Yn Rowen ger hen swyddfa bost y pentref SH 761 719.
Taith gylch o bentref Rowen i gopa Pen y Gaer gan ddilyn llwybrau cydnabyddedig. Dychwelyd ar hyd llethrau dwyreiniol Pen y Gaer yn ôl i Rowen.
Tua 7 milltir/11 km a 1150’/350 m o godi.
Dilys ac Aneurin Phillips
Sadwrn 18 – 25 Mai
Taith Haf i’r Alban
Mae llety wedi’i drefnu ar gyfer aelodau’r Clwb ym mhentref Inchree, nid nepell o Fort William ac ardal Glencoe; ardal wych i fynydda gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Keith am fanylion pellach.
£190 am saith noson.
Keith Roberts
Sadwrn 1 Mehefin
Pedol Cwm Pen Llafar
8.30 8.45
Maes parcio Pantdreiniog ynghanol Bethesda, i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.
Cerdded trwy Gerlan ac i mewn i Gwm Pen Llafar. Troi i’r de-ddwyrain yn ymyl yr hen gorlan a cherdded dros Foel Meirch i gopa Carnedd Dafydd. Ymlaen am Gefn Ysgolion Duon a Bwlch y Cyfrwy Drum cyn dringo i gopa Carnedd Llywelyn. Ymlaen i gopa’r Elen a disgyn yn serth i lawr y trwyn ac yn ôl i Fethesda.
Peint yn y Siôr i orffen.
17 km/11 milltir ac esgyniad o 1267 m/4157 o droedfeddi.
Richard Roberts
Sadwrn 8 Mehefin **Taith weddol fer i'r rhai sydd ddim am fentro ar her flynyddol y pymtheg copa.
Coed Cerrig y Frân Nant Ffrancon.
8.50 9.10
Maes parcio Pantdreinog ynghanol Bethesda, i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen i ddal y bws T10 o Sgwar Fictoria Bethesda am 09:25 i Bont Pen y Benglog.
Cychwyn dros y bont ac wedyn ar hyd llwybr ger yr Afon Ogwen i lawr i Nant Ffrancon gan anelu am Pentre. Chydig cyn Pentre, dringo yn araf ac yn ofalus i fyny‘r llethr nes cyraedd gwaelod Creigiau Gleision, wedyn crosi’r ceunant ac anelu am Coed Cerrig y Frân. Seibiant i ymdrochi yn y golygfeydd o Nant Ffrancon, a draw i Nant y Benglog, cyn dilyn yr llwybr llwynog yn ôl am Cwm Cywion ac wedyn lawr i Gwm Idwal. Dilyn y llwybr o gwmpas Llyn Idwal ac yn ôl i Bont Pen y Benglog i ddal un or bysiau prynhawn yn ôl i Fethesda.
(Mae croeso i unrhyw un ymuno ym Mhen y Benglog tua 9:30, ond cofiwch bod parcio yn yr ardal yma yn hynod o rwystredig).
Taith weddol fer o tua 5-7 milltir, ond hynod o bleserus oddi ar lwybrau prysur yr ardal hyfryd yma.
Keith Roberts
Sadwrn 8 Mehefin
Taith Pwll Du
9.00 9.15
St Anne’s Close (SA34NX) i’r Dde Dwyrain o bentref Langland yn y Gŵyr SS612 8754.
Taith gylch o tua 8 milltir gan ymweld â Bae Caswel, Bishop’s Wood, Llandeilo Ferwallt, Cwm a Phwll Du
Alison Maddocks
Sadwrn/Sul 8/9 Mehefin (mwy o fanylion i’w cadarnhau yn nes at yr amser)
Her y pymtheg copa
03.15 – 03.30 i’w gadarnhau.
Cyfarfod yn Abergwyngregyn.
Taith 15 Copa o Foel Fras i gopa’r Wyddfa dros gopaon uwch na 3000 troedfedd Cymru. Bydd angen torch pen!
Taith hir o 50 km/31 milltir a 4359 m/14,300 troedfedd o ddringo. Tua 18-20 awr. Bydd angen cysylltu i ddeud eich bod chi’n dod erbyn nos Fawrth cyn y daith er mwyn gwneud trefniadau ceir a ballu.
Dwynwen Pennant
Mercher 12 Mehefin
Llyn Morynion
10.00 10.15
Parcio yn y Bont Newydd, Llan Ffestiniog SH713408
Cerdded i fyny o’r Cwm heibio Capel Babell a Chwm i Bont yr afon Gam, Llyn Morynion ac ar hyd Sarn Helen yn ôl i Bont Newydd.
6 milltir o hyd ac yn codi 200 m.
John Parry
Sadwrn 15 Mehefin ****GOHIRIWYD oherwydd tywydd gwael*****
Arthog i Ddolgellau dros Gadair Idris
8:50 i ddal bws 9:03
Sgwâr Eldon, Dolgellau i ddal y bws 9.03 i’r Bermo (Gellir parcio yn y maes parcio arhosiad hir sydd ychydig ymhellach nag yr un arhosiad byr ar y Marian yn Nolgellau. Mae’r gost yn £5.50 am hyd at 12 awr, felly byddai’n syniad rhannu ceir cyn cyrraedd.)
Cychwyn gyferbyn ag eglwys Arthog gan godi’n serth ar lwybr da sy’n dilyn afon a rhaeadr Arthog. Ymlaen heibio Llys Bradwen a Phant-y-llan am Hafoty-fach, cyn croesi ar draws am y mynydd. Wedi dringo dros y gamfa, rhaid dringo’n serth ar lwybr sydd ar y dechrau yn eithaf garw, i’r bwlch ar y grib fydd yn arwain i gopa Tyrrau Mawr. Ymlaen dros Benygadair, Mynydd Moel a Gau Graig. Disgyn oddi yno i lawr am Fwlch Coch, ac yna dilyn llwybrau a ffyrdd gwledig i lawr yn ôl i Ddolgellau
Tua 12 milltir a thua 1,150 m o godi.
Eirlys Wyn Jones 01341 241391 eirlyswyn@outlook.com
Sadwrn 22 Mehefin
Llyn Uchaf Cymru
8.30 8.45.
Maes parcio Pantdreiniog (troi gyferbyn â Neuadd Ogwen) SH623688.
Cerdded i fyny drwy Gerlan i Fferm Gwaun-y-Gwiail a dilyn llwybr garw a chorsiog i waelod crib gogledd-orllewinol Yr Elen. Dringo i gopa’r Elen cyn parhau am Garnedd Llywelyn. I lawr i Ffynnon Llyffant o'r copa (llyn uchaf Cymru) cyn esgyniad caled dros dir di-lwybr i gopa Foel Grach. Yn hytrach na pharhau dros y copaon yn ôl i Fethesda byddwn yn gostwng yn serth i lawr Clogwyn yr Heliwr i Gwm Caseg a dilyn llwybr hir a hawdd yn ôl i Fethesda.
Taith o tua 18 km/11 milltir gyda 1158 m/3,800 troedfedd o ddringo.
Steven Williams
Sadwrn 29 Mehefin
O Gapel Curig i Lanberis
09.00
Cyfnewidfa Llanberis - SH 583 599
Dal bws 09.10 o gyfnewidfa Llanberis, gyferbyn â gorsaf trên yr Wyddfa i Gapel Curig a cherdded yn ôl i Lanberis dros gopaon Gallt yr Ogof, Glyder Fach a’r Fawr, Y Garn, Elidir Fawr cyn disgyn yn ôl i Lanberis o gopa Elidir Fach drwy chwarel Dinorwig.
Tua 22 km/13.5 milltir ac esgyniad o 1467 m/4813 troedfedd. Dros naw awr o gerdded. Cyrhaeddwch mewn da bryd i gael hyd i le parcio.
Dylan Evans
Sadwrn 6 Gorffennaf
Chwareli Cwm Penmachno a’r Manod Mawr
09.15 09.30
Cwm Penmachno SH752472
Taith trwy hen chwareli’r Cwm i gopa Manod Mawr. Dychwelyd heibio Craig Blaen Cwm, Moel Llechwedd Hafod, a thrwy Hafod Fraith a Blaen Cwm yn ôl i’r pentref.
Taith hamddenol a diddorol trwy adfeilion nifer o chwareli’r fro i gopa’r Manod am olygfa ysblennydd o Ddyffryn Maentwrog gan ddychwelyd i’r Cwm tros foelydd y fro. Rhan o’r daith ar Lwybr Llechi Cymru.
16 km/10 milltir a 701 m/2300 troedfedd o ddringo. Tua 6 awr.
Eifion Jones
Gwyn Williams
Sadwrn 6 Gorffennaf
Taith Pen y Fan a Chwm Oergwm
09.15 09.30
Maes parcio bach, 3 milltir i’r de o Aberhonddu ( troi i ffwrdd o’r heol fawr yn Libanus (cul a throellog) neu yn well heol Bailhelig gan droi wrth yr eglwys yn Llanfaes ar gyrion Aberhonddu) S0 025 249. Angen arian i dalu am barcio - £4 drwy ddefnyddio yr app PayByPhone.Tua 13 milltir.
Dechrau yn Cwm Gwdi. Cefn Cwm Llwch, Pen y Fan. Cribyn, Fan y Big a dychwelyd trwy Cwm Oergwm. Mannau serth wrth gyrraedd copa Pen y Fan.
Simeon Jones
Sadwrn 13 Gorffennaf
Pedol lawn yr Wyddfa
8.45
Cyfarfod ym Mhen-y-Gwryd mewn da bryd i ddal bws 09.00 i Gorffwysfa (Pen-y-Pas). Cyrhaeddwch mewn da bryd i sicrhau lle parcio.
Cychwyn cerdded am 09.05 ar hyd Llwybr y Mwynwyr ond troi oddi arno i gerdded dros Carreg Gwalch a Chraig Llyn Teyrn i gyrraedd Bwlch y Moch. Yna, dilyn llwybr arferol Pedol yr Wyddfa dros Crib Goch a Chrib y Ddysgl i gopa'r Wyddfa a’r Lliwedd ac ymlaen i Gallt y Wenallt ac yn ôl i Ben-y-Gwryd.
Tua 16 km/10 milltir a 1372 m/4500' o ddringo. Tua 9-10 awr
Dwynwen Pennant
Sadwrn 20 Gorffennaf
Penllithrig-y-wrach a Chreigiau Gleision.
8.00 8.15
Maes parcio (SH 720582) tu ôl i siop Joe Brown yng Nghapel Curig.
Codi’n raddol heibio Clogwyn Mawr a thros Crimpiau a Graig Wen i gopa Creigiau Gleision ac yna i lawr i lannau Llyn Cowlyd. Wedi croesi’r argae, dringo’n serth i’r gefnen sy’n arwain at gopa Penllithrig-y-wrach a disgyn i Fwlch Tri Chwmwd ac yn ôl heibio Tal-y-waun. Rhannau dros dir garw, di-lwybr a gall fod yn wlyb dan draed mewn mannau.
16 km/10 milltir a 1030 m/3380 troedfedd o ddringo.
Keith Roberts 07789 911437 keithtan@hotmail.co.uk
Sadwrn 27 Gorffennaf
Pedol Cwm Brwynog
8:00 8:15
Tu allan i siop Joe Brown, Llanberis. (amrywiaeth o lefydd parcio yn y pentref).
Cychwyn o’r pentre gan anelu am gopa Moel Eilio, yna ymlaen dros gopaon Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion cyn disgyn lawr i Fwlch Cwm Brwynog (gall rai, gwtogi’r daith yma ac anelu yn ôl i Lanberis drwy’r Cwm). Ymlaen wedyn i ymuno â Llwybr Cwellyn ac i fyny ar hyd erchwyn Clogwyn Du’r Arddu ac ymlaen i gopa’r Wyddfa. Yn ôl lawr i Fwlch Glas, yna i gopa Carnedd Ugain cyn mynd lawr, uwchben clogwyni Cwm Glas a thros Grib y Llechog yn ôl i Lanbêr.
Tua 23 km/14 milltir gydag esgyniad o dros 1220 m/4000 troedfedd.
Erwyn Jones
Mercher 7 Awst
Mynydd y Glyn
Taith Goffa Gareth Pierce (Eisteddfod Rhondda Cynon Tâf)
9.15 9.30
Maes parcio Heol Sardis 5 munud o gerdded o’r orsaf drenau a thua 10 munud o Faes yr Eisteddfod (ST069 898).
Taith gylch o tua 6 milltir i gopa Mynydd y Glyn (363 m) gan ddilyn llwybrau beicio a throed. Disgyn i Ganolfan Treftadaeth y Rhondda a dilyn yr afonTaf yn ôl i’r cychwyn.
Dewi Hughes
Sadwrn 10 Awst
Darlith flynyddol y Clwb
10.30
Pabell Cymdeithasau 2 - Maes Eisteddfod Rhondda Cynon Tâf.
"Swper efo Syr Hugh a Munrowyr eraill"
Traddodir gan Gerallt Pennant
Sadwrn 17 Awst
Carnedd Gwenllian, Cwm Caseg, Ffos Brynhafod y Wern.
8.30 08.45
Maes Parcio Pantdreiniog, i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen, Bethesda.
Taith gylchol heibio’r Gyrn a Bera Bach i Garnedd Gwenllian ac yna i lawr Cwm Afon Wen i Gwm Caseg a dilyn Ffos Brynhafod y Wern i Lyn Coch a Chwarel Brynhafod y Wern.
Rhwng 20 km/12.5 milltir a 22 km/13 .5milltir ac esgyniad o 988 m/3242 troedfedd.
Rhwng 6.5 a 7.5 awr. Bydd opsiwn i gyrraedd Foel Grach ac i lawr i Gwm Caseg drwy Cwm Bychan ac yna dilyn y ffos.
Cemlyn Jones
Sadwrn 24 Awst
Pedwar dros dair
8.45
Canolfan Gwybodaeth Ogwen SH649 603
Cerdded at Lyn Idwal ac anelu am grib gogledd-ddwyrain Y Garn a cherdded i'r copa. I lawr at Lyn y Cŵn cyn dringo i'r ail gopa, sef Glyder Fawr. Ymlaen wedyn at Glyder Fach a dilyn y llwybyr (neu'r sgri!) i lawr i Fwlch Tryfan. Rhywfaint o sgramblo wedyn i gyrraedd Tryfan, y pedwerydd copa, cyn cerdded yn ôl i Lyn Ogwen. Bydd rhaid cyrraedd Ogwen mewn da bryd os ydach chi’n gobeithio parcio yno. Dewis arall ydy parcio ym maes parcio Pantdreiniog ynghanol Bethesda - i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen - a dal y bws T10 sy’n gadael Sgwâr Victoria, Bethesda am 8.25.
Tua 13 km/8 milltir ac esgyniad o 1265 m/4150 troedfedd. Rhwng 7 - 8 awr.
Trystan Evans 07900 262453 trystanllwyd@outlook.com
Sadwrn 31 Awst
Mynydd Mawr, Moel Smytho, Moel Tryfan
09.00 9.15
Maes Parcio tafarn y Snowdonia Parc – SH 52694 58814. Parciwch cyn belled â phosib o’r dafarn ei hun.
O’r maes parcio, dilyn y Llwybr Llechi ac anelu am gopaon Moel Smytho a Moel Tryfan. Croesi’r rhos sy’n llawn grug yn eu blodau ar hyn o bryd ac esgyn Mynydd Mawr. Picio i Foel Rûdd ac i lawr i Fetws Garmon a dychwelyd i Waunfawr ar hyd y caeau. Peint yn Nhafarn Waun - sy’n cynnwys bragdy - i orffen y diwrnod.
17 km/10.5 milltir ac esgyniad o 933 m/3061 o droedfeddi.
Siân Shakespear 07890 613933 sianetal@hotmail.com
Mercher 11 Medi
Cwm Pennant
9.30 10.00
Ger Eglwys Dolbenmaen (CG 507431). Byddai’n syniad rhannu ceir fel bod llai o gerbydau yn teithio i ben draw’r cwm at y maes parcio ger y bont (CG 533477).
O’r maes parcio byddwn yn cerdded i ben draw Cwm Pennant i Feudy’r Ddôl cyn codi i gyfeiriad Cwm Trwsgl a’r chwarel lechi. Yna dilyn llwybr yr hen dramffordd tuag at Gwm Llefrith ac anelu am Brithdir Mawr. Oddi yma byddwn yn dilyn hen lwybrau a’r hen ffordd yn ôl at y ceir.
Hyd y daith – 14 km, tua 4 awr. Codi 135 m.
Clive a Rhiannon James 07787 755673 clivejames1807@btinternet.com
Penwythnos Mynydda 4-6 Hydref
Glan-llyn Isa, Llanuwchllyn
Oedran 14-18
Dyddiad cau archebion 15 Medi
Gweler rhagor o fanylion ar dudalen Newyddion
llinosjw@urdd.org
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.