HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Archif Tachwedd 2012 i Mawrth 2013

Dyddiad
2012
Amser Lle Taith Arwain/Cyswllt
Cyf. Cych.
Sadwrn
Tachwedd
10
10.00   Pen  Sychnant

Beicio Mynydd Conwy
Taith galed ond diddorol

Alwen Williams
Sadwrn
Tachwedd
10
9.00 9.15 Maes Parcio
Castell Ynysgynwraidd (Skenfrith)
CG: SO 457 203
Teithio mewn ambell i gar tuag at y Castell Gwyn

Taith Castell Gwyn
(White Castle SM S0 379 767)
trwy Grosmont  i Gastell Ynysgynwraidd (Skenfrith)
(rhan o daith y tri castell).
Pellter tua 12 milltir.
Cyfle i weld Cymru v Ariannin
wedyn yn y dafarn leol

Richard Mitchley

Mercher
Tachwedd
14
9.45 10.00 Maes parcio
dros y ffordd i
orsaf Betws-y-coed

Dyffryn Conwy
Coedwig Aberllyn, Llyn Parc, Carreg-y-Gwalch, Castell Gwydir, yn ôl i Fetws-y-coed ar hyd glan afon Conwy

Gwilym Jackson

Sadwrn
Tachwedd
17
9.15 9.30

Maes parcio (di-dâl)
ar y ffordd i mewn i’r pentref o gyfeiriad Caernarfon,
CG: SH 588 482

Moel Hebog

Iolo Roberts
Sadwrn
Tachwedd
17
     

Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Gwesty’r Royal Goat, Beddgelert
am 6.00 yr hwyr
Y siaradwr gwadd wedi’r cinio am 8.45 fydd Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri
(a chyn Ysgrifennydd y Clwb)


Iolo Roberts

Angen roi gwybod iddo a danfon siec erbyn Hydref 12fed

Sadwrn
Rhagfyr
1
9.30 9.45 Maes parcio Minffordd, CG: SH 731 115

Mynydd Moel, Cader Idris a Chraig Cwm Amarch
Peint yn y Cross Foxes ar ddiwedd y daith

Gareth Roberts

Sadwrn
Rhagfyr
8
9.15   Pontneddfechan ger Tafarn yr Angel.
CG: SO 902 076

Taith yr Ardal y Rhaeadrau Cwm Nedd
Pellter tua 13 milltir


Dai Thomas

Mercher
Rhagfyr
12

10.00 10.15 Maes parcio Croesor Moel GS
Y Rhosydd a Llyn Cwm y Foel, yna i lawr uwchben y pwerdy yn ol i Gwm Croesor
John Williams
Sadwrn
Rhagfyr
15
9.30 9.45 Dolrhedyn, Tanygrisiau, CG: SH 683 454

Y Moelwynion
Y Bychan, Y Mawr a Moel yr Hydd

Myfyr Thomas

Sadwrn
Rhagfyr
29
10.00   Penllyn,
CG: SH 559 623

Llwybraur Chwarelwyr
Taith hamddenol wedi'r Dolig yn ardal Brynrefail, Clwt y Bont a Bigil
Paned yn y Caban ar ddiwedd y daith

Morfudd Thomas

2013          

Mawrth
Ionawr
1

9.15 9.30 Pen y Pass

Yr Wyddfa ar ddydd Calan
Dewis o deithiau – cofiwch wisgo'n addas a dewch a chramponau a chaib rhag ofn y cawn ragor o'r sdwff gwyn!

Gwyn Roberts

Ionawr
4-6

   

Penwythnos 4 i’r 6ed Ionawr 2013
Ymarfer Sgiliau Gaeaf
Canolfan Rhyd Ddu
Mae llety wedi ei logi ar gyfer 24, y gost yn £7.50 y noson neu £15 am y penwythnos.
Mae tafarn o fewn 100 llath am eich lluniaeth!
Dewch ac offer cysgu hefo chi.
Taith ar y Sadwrn a'r Sul
Y bwriad ydi ymarfer techneg eira a rhew
os bydd y tywydd yn caniatau.
Trefnwyr y teithiau: Morfudd Thomas a Cemlyn Jones

Enwau a sieciau,
yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru'
at
Iolo Roberts,

cyn Rhagfyr 7fed

FFURFLEN ARCHEBU YMA

Mercher
Ionawr
9
   

Wrth y Bull yn Y Bala erbyn 10.25 a dal y bws 10.35

neu
cyfarfod ger
Pont y Pandy, Llanuwchllyn
am 11.00 o'r gloch

Taith Mary Jones
Rhan o daith hanesyddol Mary Jones i'r Bala

Ar y daith bydd John yn ein tywys uwchben Llyn Tegid, heibio Ffynnon Gywer a rhai o ffermydd yr ardal

John Parry

Sadwrn
Ionawr
19
9.15 9.30

Maes Parcio Bethesda
( ger yr orsaf heddlu)
CG: SH 623 668

Pedol Carneddau
Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, Foel Grach,
Carnedd Gwenllian.
Taith hir gyda’r cyfeiriad (clocwedd/gwrthglocwedd)
dibynnol ar dywydd ac amodau ar y diwrnod.
Efallai bydd angen caib a
chramponau.
Cofiwch sbïo ar y rhagolwg tywydd a’r amodau dan draed.

 Anita Daimond

Sadwrn
Ionawr
19
9.15  

Maes parcio
gyferbyn Storey Arms
gerbron yr A470
CG: SO 983 203

Taith y Bannau
(Corn Du, Pen y Fan, Cribyn. Neuadd, Graig Fan Ddu, Craig Gwaun Taf)
Pellter tua 10 milltir

Dewi Hughes

Sadwrn
Chwefror
2
9.00   Maes parcio
Joe Brown,
Capel Curig
i rannu ceir
cyn symud i Ogwen
Dilyn ol troed Charles Darwin
Dilyn y llwybr gymerodd
Charles Darwin
o’r Ogwen i Gapel Curig
Twll Du, Glyderau, Foel Goch, Bwlch Goleuni, Cefn Capel
Tua 12km

Cemlyn Jones

Chwefror
9-16
   

Wythnos yr Alban
Pererindod flynyddol y Clwb i'r gogledd pell
Aros yng nghytiau Na Tighean Beaga ( Y Tai Bach!)
yn Roy Bridge i’r gogledd o Fort William
– ryda ni wedi aros yno o’r blaen.
Manylion y sale ar: www.thelittlehouses.co.uk

Lle ar gyfer 24 – 3 cwt yn cysgu 8 yr un
– dewch a thyweli hefo chi.
Cost: £70 – Sieciau yn daladwy
i ‘Clwb Mynydda Cymru’ at y trefnydd Maldwyn Peris

Maldwyn Peris,

erbyn Ionawr 1af plis.

Sadwrn
Chwefror
9
     

Taith yn Ardal y Fenni
Y Fâl,Mynydd Pen-y-fâl (Sugar Loaf) ac ambell gopa arall
Mwy o fanylion i ddilyn

John Rowlands
Mercher
Chwefror
20
9.45 10.00 Maes parcio
Pont Bethania,
Nantgwynant

Ardal Moel y Dyniewyd
a Blaen Nantmor
Am Lyn Dinas, Moel Dyniewyd
a Blaen Nantmor
gan ymweld a'r hen felin goed
ar Afon Llyn Edno

Dewi Hudson Jones

Sadwrn
Chwefror
23
9.15 9.30 Dan y cloc
ar sgwar Rhuthun

Moel Fenlli a Moel Famau
Taith o tua 12 milltir
– paned neu beint i orffen y diwrnod

Richard Roberts

Sadwrn
Mawrth
2
9.15 9.30 Maes parcio Pen-y-Pas
neu
ar ochr y ffordd ychydig i'r gogledd o Ben-y-Gwryd
CG: SH 661 559) am 8.50 yn brydlon (parcio am ddim!!) i gerdded (20 munud) i Ben-y-Pas.
Yr Wyddfa
Cychwyn o Ben-y-pas at Glaslyn, i fyny'r Cribau (peth sgramblo hawdd) i Fwlch y Saethau ac yna (Lliwedd os yw'r tywydd yn dda?) copa'r Wyddfa. Dychwelyd i lawr llwybr Pen-y-gwryd
Eryl Owain
Sadwrn
Mawrth
2
     

Taith y Cymoedd
Y Werfa, Pant Blaen Hirwr, Mynydd William Meyrick.
Manylion pellach i ddilyn

Emlyn Penny Jones

Mercher
Mawrth
13
10.15 10.30

Maes parcio Llantysilio
CG: SJ 198 433

Sut i gyrraedd: Wrth ddod o’r Gorllewin ar yr A5, tua dwy filltir a hanner o Lyndyfrdwy, troi i lawr i’r chwith ychydig o lathenni cyn Gorsaf Berwyn ( adeilad du a gwyn), dilyn y ffordd dros y bont, ac yna i’r chwith ar y gyffordd ar ben yr allt. Mae’r maes parcio ( am ddim, toiledau) ar y llaw chwith.

Taith yn ardal Llangollen
heibio Abaty Glyn y Groes, i ben Castell Dinas Brân, dros bont Pontcysyllte, ar hyd y Gamlas

Gwen Evans

Ebtill      

Taith yn y Mynyddoedd Du
(Pen Cerrig Calch, Mynydd Llysiau, Pen y Gadair Fawr)
Manylion a dyddiad i ddilyn
Pellter tua 13 milltir

Aled Morgan

Ar y gorwel

   

Taith ir Atlas ar Sahara, Mawrth 2013
Mae Rhys Dafis yn trefnu taith arall i fynyddoedd yr Atlas, Morocco
gyda Rachid Imerhane, ym mis Mawrth 2013 …
ac yn ogystal a dringo i ben Jbel Toubkal yn yr eira,
bydd cyfle i dreulio 3 diwrnod ar gyrion y Sahara,
yn ceunanta, camela, a gloddesta mewn gwerddon o dan y ser!
Beth amdani?
Mae lle i 15 o fynyddwyr.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch a Rhys am fwy o wybodaeth

Teithiau/Trefniadau Eraill a Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu â’r arweinydd cyn y daith.
Hefyd, a wnaiff yr arweinyddion gysylltu â maldwynperis@tiscali.co.uk
wedi’r daith i gadarnhau nifer y teithwyr a chofiwch am hanes a lluniau i’w cynnwys ar y wefan.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts…
ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Teithiau: Mae'r Clwb yn awyddus i dderbyn syniadau am deithiau neu weithgareddau.
Cysylltwch â mi drwy e-bostio maldwynperis@tiscali.co.uk Ni fydd disgwyl ichi arwain y teithiau

Dringo dan do
Pob nos Wener cynta'r mis bydd rhai o aelodau'r Clwb yn ymgynnull yng nghanolfan dringo dan do y Beacon.
Mae'r nosweithiau yn addas i ddechreuwyr neu i'r rhai sydd yn dymuno gwella eu sgiliau dringo. Os oes ganddoch ddiddordeb, yna
cysylltwch â Gwyn Roberts ar 01286 870534, Arwel Roberts ar 01492 514424 neu Anita Daimond ar 01492 600414.

Dringo gyda’r nos
Bydd dringo ar greigiau tu allan gyda'r nos yn Ogwen yn cychwyn o ddydd Iau cyntaf mis Mai ymlaen. Cyfarfod yng
Nghaffi Ogwen. Cysylltwch ag Arwel Roberts ar 01492 514 424, Arwelgwydyr@aol.com ac i gael eich cynnwys ar restr e-bostio dringo.


Partneriaeth Awyr Agored

Mae’r Clwb wedi ymaelodi â’r Bartneriaeth a gall ein haelodau fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Tocynnau Aelodaeth i ddilyn. Bydd aelod/au o’r Pwyllgor yn cael eu penodi fel Cydlynydd Hyfforddiant maes o law.
Mae dolen i gylchlythyr diweddaraf y Bartneriaeth ar wefan y Clwb,
neu ewch i www.partneriaethawyragored.co.uk/newsletter/indexcym.php

.