Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Medi i Rhagfyr 2018
Os
gwelwch yn dda, a wnewch chi gysylltu âr arweinydd cyn y daith.
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol,
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys,
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb,
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth - mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Dydd Sadwrn 8 Medi
Cader/Cadair Idris o Lanfihangel-y-Pennant
9.15 9.30
maes parcio y tu draw i Gastell y Bere SH 672 088
Dilyn afon Cader/Cadair at ’Foty Gwastadfryn ac yna i gopa Tyrau Mawr – Blwch Gwredydd – Y Cyfrwy a Phen y Gader/Gadair ac i lawr dros Graig Cau a Mynydd Pen-coed.
Tua 18 km/11 milltir a 1100 m/3610’ o ddringo – graddol a hir yn hytrach na serth.
Eryl Owain
Dydd Mercher 12 Medi
Ardal Bethesda
9.45 10.00
Parcio ym Methesda (Pen y graig) 624669 di-dâl.
Cerdded heibio hen gapel Bethesda a cadw i’r dde ac allan i’r B4409 – Grisiau Cochion.
Ymuno efo Lôn Las Ogwen tua’r mynyddoedd. Heibio hen ysbyty’r chwarel a chroesi ffordd y chwarel a Zip World i fyny at Bont Ogwen ac ymlaen heibio gwaelod hen domenni’r chwarel i Nant Ffrancon cyn belled â’r fferm Maes Caradog.
Croesi gwaelod y dyffryn a chroesi’r A5 yn Tŷ Gwyn. Mae llwybr yn cychwyn yno i fyny am Braich Tŷ Du a Chefn yr Orsedd ac i lawr i Braich Melyn ym Methesda. Yn ôl ar y B4409 am ychydig cyn troi am lwybr drwy’r coed ger afon Ogwen.
Yn ôl STRAVA mae’r daith yn 8 milltir ac mae’r wlad yn ogoneddus o hardd.
Mae yna sawl caffi ym Methesda ar gyfer panad ar ôl y daith.
Rhys Morgan Llwyd
Dydd Sadwrn 15 Medi
Ardal Glyn Nedd
9.15 9.30
Pawb i gyfarfod ar y bont yn Pont Nedd Fechan (SN 901 077). Mae llain parcio hir ar hyd y B4242 yn cydredeg gyda'r hewl am bellter ar yr ochr dde wrth ddod at y pentref ac yn arwain fyny at dafarn yr Angel.
Bydd y daith yn ymweld â rheadrau ar hyd afonydd Nedd Fechan, Mellte a'r Hepste. Mae'r daith oddeutu 11 milltir ond does dim dringfeydd heriol iawn.
Meirion Jones
Nos Wener / Dydd Sadwrn21/22 Medi
Lleuad Fedi o gopa’r Wyddfa (os bydd y tywydd dros nos addas)
8.15 p.m 8.30 p.m.
maes parcio (talu + toiledau) Nantgwynant SH 628 507
Dilyn Llwybr Cwm Llan i fyny a Watcyn i lawr i fanteisio ar olau’r lleuad (lleuad wedi codi 6.45pm) i gyrraedd y copa cyn 12.00 pm. Nol lawr erbyn tua 2.30 (lleuad yn machlud 3.41am). Bydd angen lamp dda, dillad sefyllian cynnes, mat, bwyd addas a gorchudd thermal rhag ofn. Esgyn a disgyn: 1010 m Pellter: 7 milltir
Enwau erbyn 8.00pm nos Iau, 20 Medi
NEU (os na fydd tywydd dros nos yn ffafriol)
Dydd Sadwrn Medi 22
Cylchdaith Cwm Nanmor
9.15 9.30
ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger pont Aberglaslyn SH 598 463
Crib Ddu, Yr Arddu, Cnicht, (tua 5.5 awr). Esgyn a disgyn: 7500m Pellter: 9 milltir
Rhys Dafis
Dydd Sadwrn 6 Hydref
Carnedd Llywelyn o Gwm Eigiau
9.15 9.30
maes parcio yng Nghwm Eigiau SH 731663
Mynd heibio Ffynnon Llyffant, y llyn uchaf yng Nghymru, gyda pheth sgramblo hawdd i gyrraedd copa Carnedd Llywelyn.
Arwel Roberts
Dydd Sadwrn 6 Hydref
Taith De Penrhyn Gŵyr – Calchfaen i Dywodfaen
8.45 9.00
maes parcio’r Ymddiriedolaeth yng Nghreigiau Pennard SS 5539 8743
Rhaid cychwyn am 9.00 yn brydlon i gydfynd ag amseroedd y llanw. Cychwyn tua’r gorllewin i Fae y Tri Clogwyn, a chroesi Nant Pennard – dewch a thywel bach! Wedyn, ar y traeth o gwmpas Great Tor (os ydy’r llanw yn caniatau). I fyny trwy goedwig Nicholston i Perriswood, a dringo Cefn Bryn (yr ail ‘fynydd’ uchaf ar y Gŵyr), lawr i Benmaen (Parkmill), a dilyn y cwm i Gastell Pennard ac yn ôl i’r man cychwyn. Taith gylch o thua 10 milltir.
Alison Maddocks
Dydd Mercher 17 Hydref
Cestyll, Caerau ac Ogofau
10.15 10.30
Maes parcio SJ063793 ar yr A5151, i'r dwyrain o Ddyserth ar y ffordd i i Drelawnyd. ‘Barrier’ melyn uwchben y fynedfa.
Dilyn yr hen reilffordd i gyfeiriad Gallt Melyd cyn dringo y Graig Fawr. Ar hyd Llwybr Clawdd Offa i Waenysgor yna i ben Y Gop. Dychwelyd i'r man cychwyn dros Foel Hiraddug - tua 8 milltir.
Arwel Roberts
Dydd Sadwrn 20 Hydref
Elidir Fawr, Y Garn a Glyder Fawr
9.00 9.15
maes parcio Nant Peris (tâl a toiledau) SH 588608
Elidir Fawr – Bwlch y Brecan – Foel-goch – Y Garn – Llyn y Cŵn – Glyder Fawr – Pen-y-Pas. Dal bws 16.10 o Ben-y-pas yn ôl i Nant ar ddiwedd y daith. Peint neu baned i orffen y diwrnod. Taith hir o tua 8 milltir ac esgyniad o 4700’.
Dydd Sul 4 Tachwedd
Pedol Cwm Ystradllyn
9.15 9.30
Cyfarfod am 9.15 lle gellir parcio (dim cyfleusterau) ar ddiwedd y lôn ger yr argae (SH 557442) yng NghwmYstradllyn.
Cerdded o’r argae i gopa Moel Ddu a wedyn dros Bryn Banog i gopa Moel Hebog cyn disgyn yn ôl i Gwm Ystradllyn. Paned a cacen yn Ystafell De Tyddyn Mawr i bawb sydd ffansi. Tua 7.5 milltir, 2700 o droedfeddi mewn 6 awr. Tirwedd eitha garw.
Dydd Mercher 14 Tachwedd
Dilyn ôl-traed y Crynwyr
10.15 10.30
Cyfarfod ar y Marian, Dolgellau (SH725179) (parcio ym maes parcio Clwb Rygbi Dolgellau yn rhatach na’r Marian).
Taith 7 milltir ar hyd llwybrau cefn gwlad ardal Dolgellau. Tir gwlyb mewn mannau gyda pheth dringo. Ymweld â safle Bryn Mawr, Dewisbren Uchaf a Mynwent y Crynwyr, Tyddyn Garreg. Panad a chacen yn TH i ddilyn.
Mary Jones
Dydd Sadwrn 17 Tachwedd
Foel Goch a Foel Emoel
9.15 9.30
Llanfor, ger Y Bala SH 938366
Taith o 10 milltir i gopaon rhai o fynyddoedd anghyfarwydd ac anghysbell Penllyn, sef Moel Emoel, ac yna Y Garnedd Fawr, gan wedyn ddilyn ffin y plwyf i gopa’r Foel Goch. Disgyn i lawr i gyfeiriad Moel Darren cyn llwybro yn ôl i bentref Llanfor. Peth tirwedd garw a gwlyb. Cyfanswm dringo o 730 m a 6.5 awr.
Gwyn Williams
Nos Sadwrn 17 Tachwedd
Cyfarfod a Chinio Blynyddol
Y Llew Gwyn, Y Bala
Iolo Roberts
Dydd Sadwrn 17 Tachwedd
Taith Craig y Nos
9.15 9.30
Cychwyn o Barc Gwledig Craig y Nos (SN 839155 – SA9 1GL yw’r côd post) ac yn ymweld â hen chwarel, hen reilffordd, Rhaeadr Henrhyd a chopa Cribarth. Tua 9.5 milltir
Guto Evans
Dydd Sul 2 Rhagfyr
Y Garn a Foel Goch
9.15 9.30
Canolfan Wybodaeth y Parc ger Bwthyn Ogwen SH 649603
Maes parcio talu gyda chyfleusterau yno neu gellir parcio’n ddi-dâl yn un o’r cilfannau gyferbyn â Llyn Ogwen.
Iolo Roberts
Dydd Sadwrn 8 Rhagfyr
Taith Ardal Crughywel
9.30 9.45
maes parcio Crughywel – tu ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr SO 218184
Gyrru mewn 3 neu 4 car i Fwlch, 10 munud lan yr A40. Cerdded cylchdaith o Lyn Syfadden (Llyn Llangors) o 11-12 milltir (5 - 6 awr), gyda phosibilrwydd o beint ganol dydd ym mhentref Llangors.
Ymlaen wedyn i Westy’r Bear yn Crughywel (gweler isod).
Richard Mitchley
Nos Sadwrn 8 Rhagfyr
Cinio Mawreddog
Gwesty’r Bear, Crughywel
Richard Mitchley
Dydd Mercher 12 Rhagfyr *****SYLWER - NEWID I'R RHAGLEN
Cyfle i ymestyn y coesau ychydig cyn dechrau dathlu ’Dolig!
9.45 10.00
Ger tafarn ‘Gardd Fôn’, Glan y Môr (Beach Road) yn Y Felinheli, CG524675, a cherdded i fyny at y briffordd a Thafarn Y Fic. Bws am 10:25 i gyfeiriad Bangor.
O arosfa ‘Goleufryn’ ger Ysbyty Gwynedd i lawr y ‘Lôn Dywyll’ i’r A487 ac ymlaen at Bont y Borth. O bont Telford i’r gorllewin ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a thrwy Erddi Botanegol Treborth. Wedyn i lawr at lannau’r Fenai ac o dan Bont Rheilffordd Stephenson at wal Y Faenol. Ymlaen wedyn ar hyd rhan newydd cylchdaith glan y môr Cymru trwy’r adwy a giât newydd yn y wal derfyn i mewn i Barc y Faenol. Wedyn ar hyd ochr mewnol y wal a golygfeydd godidog ar draws Y Fenai. Ar ôl cerdded trwy Goed Bryntirion, ymlaen heibio’r doc pleser ac ar hyd lôn fach at lodj y doc. Mae gweddill y daith trwy’r ‘marina’ yn ôl at dafarn Gardd Fôn.
8 km/5 m. Codi a disgyn: man uchaf 90 medr ar y cychwyn (!), codi 75 medr i gyd.
Noder - gall fod yn wlyb o dan draed!
Bydd dim angen bwyd arnoch chi, oherwydd disgwylir y byddwn yn ôl yn y ‘Gardd Fôn’ erbyn amser cinio cyn 1:45 yp – a chyfle i ddechrau dathlu ’Dolig gyda’n gilydd. Anfonir y bwydlenni cyn gynted ag y byddan nhw ar gael a gofynnir i chi ymateb efo'ch dewis erbyn nos Sul drwy gysylltu efo Rhiannon. BWYDLEN
Rhiannon James
Dydd Sadwrn 15 Rhagfyr
Tal-y-fan
9.15 9.30
ger y tai cyngor yn Ro-wen SH 760 719
Taith i anghofio am y siopa ’Dolig! Taith gylch o rhyw 4 i 5 awr i gopa Tal-y-fan. Esgyn tua 560 m/1840’.
Dilys Phillips
Wythnos yn yr Alban, 24 Chwefror - 3 Mawrth 2019 (Sul i Sul)
Hostel Glenfeshie, Am Monadl Ruadh (Mynyddoedd Cairngorm)
Mae lle ar gyfer 16 yn Hostel Glenfeshie (NH 849009), 9 milltir o Aviemore. Mae tair llofft yn cysgu 4 mewn byncs ac un llofft hefo 4 gwely sengl. Cyfleusterau arferol yn cynnwys cegin newydd, tair stafell gawod, ystafell londri a sychu. Rhagor o wybodaeth am y lle a lluniau ar www.glenfeshiehostel.co.uk neu ar www.visitcairngorms.com.
Gall yr amgylchiadau yn yr Alban fod yn heriol felly rhaid wrth ddillad ac offer pwrpasol. Er bod angen profiad blaenorol o fynydda cyffredinol, a pharodrwydd i wynebu amodau anodd, mae taith y clwb yn cynnig cyfle i ymestyn profiad a datblygu sgiliau o ran mynydda gaeaf.
Cost: £125. Rhaid talu wrth archebu lle. Ni fydd yn bosib derbyn arian yn ôl os oes rhaid canslo am unrhyw reswm.
Angen y canlynol erbyn 1 Ionawr 2016: Enw, Cyfeiriad, Rhif(au) Ffôn, cyfeiriad e-bost. Sieciau yn daladwy i 'Clwb Mynydda Cymru' i’w danfon at:
Maldwyn Roberts, Y Gesail, 4 Mor Awel, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd LL54 6RA maldwynperis@tiscali.co.uk
Rhaghysbysiad: Taith Haf i'r Alban
24 Mai - Mehefin 2019
Cabanau Inchree, ger Onich
Lle i hyd at 20 mewn pedair llofft. Byddwn yn llogi adain gyfan felly ni fydd rhaid rhannu cyfleusterau (cegin, ystyfalloedd molchi ac ati) efo eraill. Tafarn/bwyty ar y safle. Lleoliad cyfleus, 7 milltir o Fort William ac yn agos at Glencoe. Digonedd o fynyddoedd gwych! Pris tebygol: tua £120
Nodwch y dyddiadau rŵan. Gellir archebu lle yn y flwyddyn newydd.
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07760 283024 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com