Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Tachwedd - Rhagfyr 2020
Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo
I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:
- dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
- dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
- dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
- dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.
Cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y cyfnod presennol:
- Ni ddylai unrhyw un ddod ar daith os ydynt yn dangos arwyddion o salwch
- Cyfyngir y nifer ar bob taith i 12
- Rhaid cysylltu ag arweinydd y daith erbyn 7.00 p.m. ar y nos Iau cyn y daith a chael cadarnhad gan yr arweinydd. Nid yw'n ddigonol i ddanfon neges yn dweud eich bod am ddod
- Atgoffwn aelodau o’r angen i ddilyn y canllawiau a rheoliadau Cofid-19 a fydd yn weithredol ar ddyddiad y daith e.e. o ran symud o sir i sir, cyd-deithio, cadw pellter ac ati. Ni ddylai neb ddod ar daith os yw hi/ef neu aelod o’r teulu efo symptomau posib o’r feirws corona.
- Dylid cofio am yr angen i gadw pellter o ddwy fetr yn y man cyfarfod ac yn ystod y daith – oddi wrth eich cyd-aelodau a cherddwyr eraill
- DOGFEN ASESU RISG COVID-19
Mercher 11 Tachwedd
Arfordir Eifionydd a’r Lôn Goed
10.15 10.30
Parcio ger Capel Bryn Bachau (SH 432370) agos i fynedfa Hafan y Môr (Butlins gynt).
Taith hamddenol yn Eifionydd. Cerdded i Benychain ac yna dilyn yr arfordir heibio hen orsaf drên Afon Wen at aber Afon Dwyfor. Dilyn yr afon i Bont Fechan ac yna dros Afon Dwyfach (mae yna bont droed!) ac ymlaen i'r Lôn Goed. Dilyn y Lôn Goed ac yn ôl i'r man cychwyn. 'Ryw 9.5 milltir ar y gwastad; addas iawn i glwb mynydda!
Gwyn Williams neu Haf:
Sadwrn 14 Tachwedd - **** GOHIRIWYD hyd 21 Tachwedd
Taith Dwyrain y Bannau
9.15 9.30
Dechrau a gorffen yn ger heol fach i’r gogledd o Ystradfellte (SN 927164) gan anelu at gopaon Fan Llia, Fan Frynych, Cerrig Gleisiaid ac o bosib Maen Madoc.
Guto Evans
Cyfarfod Blynyddol y Clwb Nos Lun 16 Tachwedd 7.30p.m.
Drwy gyfrwng Zoom.
Er mwyn ymuno â’r cyfarfod byddwch angen gyrru e-bost at Iolo Roberts, Ysgrifennydd Cyffredinol, (ioloroberts289@btinternet.com) erbyn 9fed Tachwedd 2020.
Byddwch wedyn yn derbyn gwahoddiad, drwy ebost, ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod gyda manylion a dolen i ymuno â’r cyfarfod.
Agenda ac adroddiadau (ar ffurf pdf - clic i'w darllen/lawrlwytho):
- Rhaglen
- Cofnodion
- Adroddiad Trysorydd
- Datganiad Cyfrifon
- Adroddiad Ysg Cyffredinol
- Adroddiad Ysg Gweithgareddau
- Adroddiad Ysg Gwefan
Mercher 18 Tachwedd **** Mae'r daith hon yn llawn
Foel Goch
9.45 10.00
Parcio wrth yr eglwys (SH 966 446) yn Llangwm.
Cerdded i ben Foel Goch ac yna draw i Garnedd Fawr cyn dychwelyd i Langwm drwy Fwlch y Greigwen ac Aeddren. Taith o tua 11 km/7.5 milltir.
Arwel Roberts
Sadwrn 21 Tachwedd
Y Carneddau
9.15 9.30
Man parcio yng Nghwm Eigiau (SH 731 663).
Taith eithaf hir a fydd yn cynnwys Carnedd Llywelyn a rhai copaon eraill.
Gareth Wyn Griffiths
Sadwrn 21 Tachwedd
Taith Dwyrain y Bannau
9.15 9.30
Dechrau a gorffen yn SN 971 222 man parcio ar yr A470 uwchben yr YHA ac ychydig i’r gogledd o Storey Arms.
Bydd y daith yn mynd drwy Warchodfa natur Craig Cerrig Gleisiaid i gopa Fan Frynych, gan gerdded ar hyd Sarn Helen, tuag at Fan Llia a Fan Dringarth ac yn nôl i’r ceir. Taith o thua 12 milltir.
Guto Evans
Sul 22 Tachwedd
Cwmystradllyn, Moel Ddu a Chreigiau Tremadog
9.15 9.30
Cychwyn yn Nhremadog (SH564402). Mae lle i barcio ar ochor y lôn fawr ar y chwith cyn mynd allan o’r pentref i gyfeiriad Beddgelert (dim toiledau).
Dringo drwy Cwm Mawr ac yna ymlaen i Cwmystradllyn, o amgylch y llyn a drwy’r chwarel i fwlch Cwm Oerddwr cyn dringo i gopa Moel Ddu. Anelu yn ôl gan aros ar grib Mynydd Gorllwyn cyn disgyn lawr trwy Pant Ifan yn ôl i Dremadog. Cylch o 12 milltir, tua 2,500 troedfedd o ddringo. Taith tua 7.5 awr.
Dwynwen Pennant
Mercher 25 Tachwedd
Arfordir Eifionydd a’r Lôn Goed
10.15 10.30
Parcio ger Capel Bryn Bachau (SH 432370) agos i fynedfa Hafan y Môr (Butlins gynt).
Taith hamddenol yn Eifionydd. Cerdded i Benychain ac yna dilyn yr arfordir heibio hen orsaf drên Afon Wen at aber Afon Dwyfor. Dilyn yr afon i Bont Fechan ac yna dros Afon Dwyfach (mae yna bont droed!) ac ymlaen i'r Lôn Goed. Dilyn y Lôn Goed ac yn ôl i'r man cychwyn. 'Ryw 9.5 milltir ar y gwastad; addas iawn i glwb mynydda!
Gwyn Williams
Sadwrn 5 Rhagfyr
Taith Ardal Crughywel
9.15 9.30
Maes Parcio Crughywel (SO 218 184) y tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC.
Richard Mitchley
Sadwrn 5 Rhagfyr
Creigiau Gleision o Grafnant
9.15 9.30
Maes parcio Llyn Crafnant (SH 756618).
Dringo heibio Lledwigan i ben y Graig Gron a thros y ddau gopa yna heibio'r Graig Wen, dros Crimpiau cyn dychwelyd i'r maes parcio drwy chwarel Craig Manod. Tua 12 km/7.5 milltir
Arwel Roberts
Sadwrn 5 Rhagfyr
Y Moelwynion
9.15 9.30
Maes parcio (SH 683 452) ar y ffordd i fyny am Gwmorthin.
Taith i gopaon y Moelwyn Mawr a’r Moelwyn Bach o Danygrisiau.
Dylan Huw Jones
Mercher 9 Rhagfyr
Ardal Croesor
9.45 10.00
Maes parcio Plas Brondanw ar y ffordd yn cychwyn o Garreg i fyny am Groesor (615422).
Taith o Fron Danw i fyny i Groesor ac yn ôl ar hyd rhai o lwybrau'r ardal
Arwyn Jones
Mercher 16 Rhagfyr
Ardal Croesor **** Ail gyfle i wneud y daith hon, dim ond un neu ddau o llefydd ar ôl.
9.45 10.00
Maes parcio Plas Brondanw ar y ffordd yn cychwyn o Garreg i fyny am Groesor (615422).
Taith o Fron Danw i fyny i Groesor ac yn ôl ar hyd rhai o lwybrau'r ardal
Arwyn Jones
Sadwrn 19 Rhagfyr
Pedol Llanberis **** Mae'r daith hon yn llawn
9.15 9.30
Cyfarfod tu allan i Gaffi “Pete’s Eat” ar y Stryd Fawr yn Llanberis.
Taith o Lanberis i gopa Moel Eilio ac yna ymlaen i Foel Gron, Foel Goch a Moel Cynghorion ac yn ôl drwy Gwm Brwynog. Posib cwtogi neu ehangu’r daith yn unol â’r amodau ar y diwrnod a dymuniadau’r grwp.
Iolo Roberts
Sadwrn 19 Rhagfyr **** Mae 4 lle ar ôl ar gyfer y daith hon
Tryfan, Glyder Fach a’r Foel Goch
9.15 9.30
Parcio ar ochr yr A5 gyferbyn â’r fynedfa am Glan Dena (SH 668 605).
Cyfle i ddringo’r ddau gopa uchaf sy’n gyfangwbl oddi mewn i Sir Conwy! Dringo crib ogleddol Tryfan (gellir osgoi’r sgrialu anoddaf), i lawr i Fwlch Tryfan ac yna i fyny’r Grib Ddanheddog (neu’r sgri blinderus!) i gopa’r Glyder Fach. Disgyn oddi yno at Lyn Caseg-fraith ac ymlaen i Foel Goch ac yna lawr Braich y Ddeugwm at Wern Gof Isaf a dychwelyd ar hyd y llwybr heibio Gwern Gof Uchaf. Taith o tua 10 k/6 milltir gyda 950 m/3120’ o ddringo.
Eryl Owain
CROESO I SYLWADAU AC I SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!
Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain 01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 0780 3191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 hmeredydd21@gmail.com
Manylion Pellach
Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com