{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Awst i Rhagfyr 2021

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau arbennig ar gyfer y cyfnod presennol:

  • Ni ddylai unrhyw un ddod ar daith os ydynt yn dangos arwyddion o salwch
  • Rhaid  cysylltu ag arweinydd y daith erbyn 7.00 p.m. ddau ddiwrnod cyn y daith a chael cadarnhad gan yr arweinydd. Nid yw'n ddigonol i ddanfon neges yn dweud eich bod am ddod
  • Atgoffwn aelodau o’r angen i ddilyn y canllawiau a rheoliadau Cofid-19 a fydd yn weithredol ar ddyddiad y daith e.e. cadw pellter ac ati. Ni ddylai neb ddod ar daith os yw hi/ef neu aelod o’r teulu efo symptomau posib o’r feirws Corona.
  • Dylid cofio'r canllaw i gadw pellter o 2 m yn y man cyfarfod ac yn ystod y daith – oddi wrth eich cyd-aelodau a cherddwyr eraill
  • DOGFEN ASESU RISG COVID-19


Sadwrn 28 Awst
Gogledd Ardudwy
9.15 9.30

Cyfarfod ym mhentref Llanfair (SH 577 291) ger Harlech i drefnu teithio i’r maes parcio ym mhen ucha’ Cwm Bychan.

Cerdded i Fwlch Tyddiad, dros Graig Wion, heibio Llynnau Pryfed a Thŵr Glas ac i lawr yn ôl.

Haf Meredydd


Iau 2 Medi
Blas ar ddringo tu fewn

Os hoffech flasu dringo dan do yn nghanolfan ddringo Boulders yn Nghaedydd am y tro cyntaf mae Curon Davies yn hapus i’ch cwrdda chi yno gan gynnig hyfforddiant.

Os hoffech fanteisio ar y profiad cysylltwch â Curon  07848 863663   curond@gmail.com 


Sadwrn 4 Medi
Ardal Felindre
9.15 9.30
Maes Parcio (toiledau a chaffi) Cronfa Isaf Lliw (SN 649 033). Gadael yr M4 ar gyffordd 46, mynd am Felindre, dilyn yr arwyddion brown i Gronfeydd Lliw. 

Dilyn y llwybr ar hyd ymyl dwy Gronfa Lliw, ar hyd Llwybr Gŵyr wedyn i Benlle'r Castell, Llwybr Illtud i groesi Mynydd y Gwair, yna i lawr Cwm Cerdinen, i fyny i Fynydd  Pysgodlyn ac yn ôl ar hyd Cwm Ysgiach i bentref Felindre, ailgydio yn Llwybr Gŵyr yn ôl i'r man cychwyn. Ychydig o dan 11 milltir, llawer o gerdded rhwydd a dringo graddol iawn ar y cyfan.

Elin Meek


Sadwrn 4 Medi
Aran Fawddwy
9.15 9.30
Blaencywarch (SH 852 188). Toiled yno a pharcio di-dâl ond gofynnir am gyfraniad tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.

Dilyn llwybr Bydyre i ben Glascwm, ac yn ein blaenau i Aran Fawddwy a dod nol ar hyd Pen-yr-allt Uchaf – tua 11 milltir a thua 970 m o ddringo.

Tegwyn Jones


Sadwrn 11 Medi
Crib Llechog
9.15 9.30
Maes parcio’r Parc Cenedlaethol (tâl am barcio a thoiledau) yn Nantperis.

Sgrialu gradd 2/3 i fyny Crib Llechog ac yna ymlaen i gopa’r Wyddfa ac yn ôl dros Grib Goch a’r grib ogleddol lawr i Gwm Glas.

Gareth Wyn


Mercher 15 Medi
Cylchdaith Moelyci
9:45 - 10:00

Parcio ar y dde ar ôl troi i mewn i fynedfa Fferm Gymunedol Moelyci, Lôn Felin Hen, Tregarth (SH 592679).

Taith ar hyd llwybrau amrywiol drwy goetir a rhostir, i fyny Moelyci, heibio Moel Rhiwen ac yn ôl heibio cyrion Rhiwlas. Tua 4 awr o daith. Caffi Blas Lôn Las, Moelyci'n gyfleus ar ddiwedd y daith!

Nia Wyn


Sadwrn 18 Medi
Bryniau Gogledd Ceredigion
9.45 10.00
Ger Caffi Clettwr ym mhentref Tre’r Ddôl.

I fyny at Moel y Llyn, ac yn ôl i lawr dros Foel Goch. Golygfeydd godidog o afon Ddyfi, ucheldir Pumlumon a'r Tarennau. Tua 14 km efo tua 600 m o ddringo, rhywfaint a'r hen lonydd ond y rhan helaeth dros y bryniau. Mae siop/caffi Clettwr yn gyfleus i'r cychwyn a’r diwedd!

Ieuan a Dafydd Pugh Jones


Sadwrn 25 Medi ***Yn anffodus, am resymau personol, bu'n rhaid gohirio'r daith hon am y tro. Bwriadwn ei chynnal eto.
Cylchdaith Nantgwryd o Gapel Curig
8.00 8.15
Parcio ar ochr yr A4086 ger Plas y Brenin (SH 715 578).

Dilyn y llwybr drwy’r goedwig gan anelu am ysgwydd gogledd ddwyreiniol Moel Siabod ac ymlaen i’r copa. Sgrialu lefel 1 os oes awydd gan rhai unigolion – neu aros ar y llwybr. Yna lawr am Westy Pen y Gwryd a chroesi'r A4086, a dilyn llwybr y chwarelwyr fyny at Gwm Caseg-Ffraith ac yn ôl dros gopaon Foel Goch, Gallt yr Ogof, trwy Bwlch Goleuni a Cefn y Capel. Tua 24 km (15 milltir) gan godi 1,392 m at fan uchaf o 867 m a disgyniad o 1,402 m. Tua naw i ddeg awr. 
Os yw cyfyngiadau Cofid 19 Cymru ar y diwrnod yn caniatau, gobeithio y bydd modd cael pryd o fwyd yn nhafarn Plas y Brenin ar ddiwedd y daith.

Keith Roberts


Sadwrn 25 Medi
Penpych a Mynydd Blaenrhondda
9.15    9.30
Dechrau a gorffen mewn llecyn parcio Coedwig Penpych (SS 924 991) ger pentre Blaencwm.

Golygfeydd bendigedig o'r Rhondda Fawr, glofeydd wedi cau lawr, a rhaeadrau yn cynnwys Nant Carnfoesan a Nant Melyn ac olion o'r Oes Haearn. Os oes rhywun eisiau teithio i fyny i Treherbert ar y tren, gellir trefnu cludiant i'r man cychwyn (rhowch wybod) Tua 9 millt. 
 
Emlyn Penny Jones


Sadwrn 2 Hydref
Moel Hebog a’r cyffiniau
9.00 9.25
Maes parcio’r Parc Cenedlaethol, Beddgelert – gellir talu hefo cerdyn – (SH 588 482).

Dal y bws Sherpa S4 9.25 i Rhyd Ddu (pris tocyn £2). Gobeithir mynd i fyny’r Garn, Mynydd Drws y Coed a Thrum y Ddysgl, lawr i Bwlch y Ddwy-elor ac ymlaen dros Moel Lefn, Moel yr Ogof a Moel Hebog yn ôl i Feddgelert. Taith o tua 12 milltir.

Iolo Roberts 


Sadwrn 9 Hydref
Glyn Eglwyseg a Mynydd Llantysilio
9.45
Maes parcio’r hen Sun Inn, Rhewl yn nyffryn Dyfrdwy (SJ 178 448) – argymell dod yno o gyfeiriad y ‘Chain Bridge’ ac nid o Lyn Dyfrdwy.

Taith tua 10 milltir efo 750 m o godi graddol. Golygfeydd godidog a hanes diddorol.

Rhys Dafis 


Penwythnos 9-10 Hydref, Cwrs Cymorth Cyntaf

Trwy gydweithrediad y Bartneriaeth Awyr Agored, mae’r clwb wedi trefnu cwrs cymorth cyntaf dros ddau ddiwrnod (rhaid mynychu’r ddau) ar y 9fed a’r 10fed o Hydref yng Nghanolfan Llangors ger Aberhonddu. 

Noddir y cyrsiau hyn gan y Bartneriaeth ac, fel arfer, byddant yn gofyn am gyfraniad o £40 gan bob unigolyn ond mae Clwb Mynydda Cymru’n cyfrannu £20 at gostau pob aelod o’r clwb. Felly gallwch gael deuddydd o hyfforddiant a thystysgrif (os yn llwyddiannus!) am £20 yn unig.Barn amryw o aelodau a fynychodd gwrs tebyg yng Nghapel Garmon ger Llanrwst yn ddiweddar oedd ei fod yn gwrs defnyddiol dros ben oedd yn codi eu hyder mewn gallu delio â sefyllfaoedd anodd – boed hynny ar fynydd neu unrhyw le arall.

Raymond Roberts yw’r cyswllt ar ran Clwb Mynydda Cymru.Os oes diddordeb gennych, yna danfonwch ebost at Raymond – rbryngolau@aol.com  / 07967 259772. Cysylltwch ag ef os am fwy o wybodaeth am y trefniadau neu â Siân am wybodaeth bellach am natur y cwrs – Sian Williams, Swyddog Gwirfoddoli/Volunteer Officer Y Bartneriaeth Awyr Agored | The Outdoor Partnership 07591954438 www.partneriaeth-awyr-agored.co.uk


Mercher 13 Hydref
9.45 10.00
 
Ar blatfform gorsaf drên Betws-y-coed (SH795567).
Toiled, caffis, a digonedd o barcio gerllaw.

Taith hamddenol, efo digon o olygfeydd.  Cerdded dros y Bont Soldiwrs, yna brysio ar hyd y llwybr wrth ymyl yr A470 (8 munud) cyn ei gadael; a chychwyn i fyny drwy Goed Bronrhedyn a Choed Hafod.  Dringo'n raddol ar hyd llwybrau da drwy'r Coed tuag at Gallt Pen y Foel, a mwynhau golygfeydd a phaned ar ben Mynydd Garthmyn.  Ymlaen drwy Gapel Garmon heibio'r Gromlech, ac yna heibio Dinas Mawr am fwy o olygfeydd, cyn disgyn i lawr yn ôl tuag at y briffordd, ac yn ôl dros y Bont i Betws.
Tua 14 km efo tua 400 m o ddringo.

Anne Lloyd Cooper


Sadwrn 16 Hydref
Gorllewin Crib Nantlle
9.15 9.30
Mannau parcio ger Llyn Dulyn yn SH 483 500 a SH 488 498 (gweddol fach - parciwch y ceir yn agos at ei gilydd!). Dim toiledau. Cyfarfod yn y maes parcio agosaf at Lyn Dulyn.

Cylch o gwmpas tri chopa mwyaf gorllewinol Crib Nantlle. Cychwyn ger Llyn Dulyn, i gopa Mynydd Graig Goch, ar hyd y grib at y Garnedd-goch a Chraig Cwm Silyn. Dychwelyd heibio Llynnau Cwm Silyn a Chors y Llyn. Tua 13 km / 8 milltir a 650 m o ddringo. Trwy ymestyn ychydig ar y daith, gellid ymweld â Bryn Llidiart, hen gartref Silyn a Mathonwy, wrth odre Craig Cwm Silyn.

Elen Huws

Sadwrn 23 Hydref
Pedol arall Yr Wyddfa: Carnedd Ugain, Yr Wyddfa a’r Lliwedd
9.15 9.30
Ar y bont fechan sy’n arwain at Flaen-y-nant (SH 623 568). Mae parcio yng nghilfannau ardal Pont y Gromlech ac Ynys Ettws yn gallu bod yn anodd ond mae’n hawdd cyrraedd yno ar y bws Sherpa neu gerdded yno o Nant Peris.

Cyfuniad o gerdded a sgrialu hawdd (graddfa -1). Y Gyrn Las, cerdded uwchben clogwyni gogleddol Cwm Glas i gopa Carnedd Ugain, ymlaen i gopa’r Wyddfa, Bwlch y Saethau a thri chopa’r Lliwedd cyn dilyn Llwybr y Mwynwyr yn ôl i Ben-y-Pass. 8 milltir ac esgyniad o tua 3,800 o droedfeddi.

Richard Roberts


Sadwrn 30 Hydref
Tal y Fan o Benmaenmawr
9.45 10.00
Maes parcio yng nghanol Penmaenmawr (SH 717 761).

Taith o tua 15 km heibio cylch cerrig Penmaenmawr, i fyny Moelfre a Thal y Fan ac yn ôl heibio Maen Amor a fyny Foel Lûs.

Arwel Roberts


Sul 7 Tachwedd
Copaon Gogleddol y Carneddau
9.15 9.30
Maes parcio y tu ôl i'r stryd fawr ym Methesda ar waelod hen chwarel Pantdreiniog (SH 623 668). Troi gyferbyn â Neuadd Ogwen. Parcio am ddim a digon o le yno fel arfer.

Cychwyn am gyfeiriad Carneddi ac ymlaen heibio Fferm Cae Cymro drwy hen chwarel ac am gopaon Moel Faban, Llefn, Gyrn, Bera Mawr, Llwytmor, Foel Fras, Garnedd Gwenllian ac yn ôl i Fethesda dros yr Aryg, Bera Bach a Gyrn Wigau. Taith 15.5 milltir a thros 3,600’ o ddringo.

Stephen Williams


Nos Sadwrn 13 Tachwedd
Cyfarfod a'r Cinio Blynyddol eleni yng Ngwesty’r Oakley, Maentwrog ar nos Sadwrn, 13 Tachwedd 2021.

Rydym hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o allu caniatau i aelodau fynychu y cyfarfod drwy Zoom os y dymunent .
Bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu maes o law.

Nodwch y dyddiad gan obeithio y bydd y dyddiad yn gyfleus i chi ac y cawn nifer dda yn  bresennol.

Os oes unrhyw ymholiadau, cysylltwch a'r Ysgrifennydd Cyffredinol


Sadwrn 13 Tachwedd
Y Moelwynion o Faentwrog
9.15    9.30
Cyfarfod ger Gwesty’r Oakley (SH 660 409)

Cerdded drwy Goedydd Maentwrog, mwy neu lai’n gyfochrog â’r lein fach, heibio Gorsaf Dduallt at Lyn Tangrisiau. Dilyn Nant Ddu at Lyn Stwlan ac yna i gopaon Moelwyn Mawr (dewisol, yn ôl y tywydd a’r amser) a Moelwyn Bach ac i lawr yr ysgwydd orllewinol i’r ffordd gefn o Groesor yn SH 635 436. Yna ar hyd y ffordd at Orsaf Tan-y-bwlch a thrwy Goed Hafod-y-llyn a heibio Llyn Mair yn ôl. Tua 18 km/11 milltir efo tua 920 m/3000’ o ddringo.

Bydd ystafelloedd ar gael i gael cawod a newid yn y gwesty.

Eryl Owain

Y Cyfarfod a’r Cinio Blynyddol i ddilyn yng Ngwesty’r Oakley

Dogfennau'r Cyfarfod Blynyddol (18.00 Gwesty'r Oakley):


Sadwrn 13 Tachwedd
Carreg Las

9.15     9.30
Man cychwyn – Maes parcio SN 732 187.

Taith o thua 9 milltir yn mynd trwy chwarel Herbert, dros Foel Fraith a draw thua Carreg Las, dros Foel Fraith a Moel Gornach.

Guto Evans


Mercher 17 Tachwedd
Craig y Garn, Eifionydd
10.00 10.15
Maes parcio'r Neuadd Gymuned Garndolbenmaen / y groesffordd yng nghanol y pentra SH 497441.

Codi'n raddol ar hyd hen lwybrau'r pentra heibio nifer fawr o dyddynnod. Anelu am Fwlch y Bedol a chopa Craig y Garn, 363 m, gan ddod i lawr i ardal Mynydd Glas.

Oddeutu pedair awr o gerdded rhwydd a chodi 220 m.  Golygfeydd godidog o Eifionydd a Chwm Pennant.

John Parry


Sadwrn 20 Tachwedd
Rhobell Fawr
9.45 10.00
Parcio ger yr hen ysgol ym mhentref Llanfachreth (SH 756 225).

Cerdded ar lwybrau da i Fwlch Goriwaered yna llwybr llai eglur i gopa Rhobell Fawr – lle unig efo golygfeydd eang i bob cyfeiriad os bydd y tywydd yn ffafriol. Yna rhaid cerdded dros dir garw lawr o’r copa am tua cilometr i gyrraedd llwybrau da unwaith eto yn ôl i’r man cychwyn. Taith gymedrol o 11 km/7 milltir efo tua 600 m/1,970’ o ddringo graddol.

Eryl Owain


Sul 28 Tachwedd
Moel Siabod a Bwlch Maen Pig o Ddolwyddelan
8.15  8.30
Yn y leibai ar yr A470 tua 500 m i’r gorllewin o sgwâr Dolwyddelan (SH 729 523).

Cerdded mymryn ar y ffordd fawr i Ddolwyddelan lle bydd toiledau am 30c. Dilyn llwybrau drwy’r coed at Llyn y Foel cyn sgrambl gradd 1 i fyny Daear Ddu at gopa Moel Siabod. Dilyn y grib i’r gorllewin o Foel Siabod tuag at Glogwyn Bwlch y Maen a dros Carnedd y Cribau a Bwlch Maen Pig i Fwlch y Rhediad cyn troi yn ôl tua Dolwyddelan. Taith 11.5 milltir efo 3,200 troedfedd o ddringo.

Angen dod a torch pen

Dwynwen Pennant


Sadwrn 4 Rhagfyr
Crib Crughywel
9.15     9.30
yn Pengenffordd – maes parcio wrth yr hen dafarn/bwncws SO 174 296 tua 15 munud i’r Gogledd Orllewinol o Grughywel.

Cylchdaith o thua 8 milltir yn cynnwys Pen Trumau,Waun Fach,Pen y Manllwyn, Y Grib a chastell Dinas.Tua 680 m o esgyniad.

I ddilyn – Cinio Dolig yn y Nghwesty’r Dragon Crughywel am 6.30

Richard Mitchley


Sadwrn 11 Rhagfyr
Moel Ddu o Dremadog 
9.15   9.30

Lle parcio yn Nhremadog sydd ar y chwith wrth fynd allan am Feddgelert (SH564402) – dim toiledau.

Dringo allan o Dremadog heibio creigiau Pant Ifan a fyny wedyn i ben clogwyni Mynydd Gorllwynm ac ymlaen i gopa Moel Ddu. Dod yn ôl lawr i Ynys Wen a nôl i Dremadog drwy Cwm Bach.  Taith 8 milltir efo 2300 troedfedd o ddringo. Taith tua 6 awr a hanner.

Dwynwen Pennant  Text/WhatsApp/Ffôn 07720057068


Mercher 15 Rhagfyr
Capel Curig
10.00 10.15
Maes parcio Bryn Glo SH 736570, Capel Curig.

Taith hamddenol o 8 km yn cynnwys dringfa i gopa Clogwyn Mawr.
Golygfeydd da o Eryri.

Arwel Roberts  07437 716088; arwelgwydyr@aol.com


Sadwrn 18 Rhagfyr
Pedol Elidir
9.15   9.30

Cychwyn o Fethesda a cherdded y llwybr llechi at giat Marchlyn a dychwelyd hyd y Lôn Las a Parc Meurig.  Manylion pellach i ddod.

Stephen Williams   07772 546820   llechid230271@gmail.com


TAITH I'R ALBAN - CRIANLARICH HOTEL, 12-19 Chwefror 2022

Mae'r clwb wedi sicrhau telerau arbennig i grŵp sef tua £50 y noson y pen ar gyfer cinio, gwely a brecwast am saith noson. Byddai ychwanegiad o £20 y noson i rai fyddai'n dymuno cael ystafell sengl. Mae Crianlarich yn ganolfan hwylus dros ben ar gyfer cerdded llawer o fynyddoedd a nifer o Munros yn eu plith, yn ogystal â bod ar lwybr y West Highland Way. Buom yn aros yno yn 2020 a chafwyd croeso, bwyd da a lle cysurus wedi diwrnodau heriol ar y mynydd!

Gadewch i Eryl Owain wybod os ydych fanteisio ar y cyfle yma. Mae 17 eisoes am ddod felly bydd criw hwyliog a chyfeillgar yno i gadw cwmni i chi.

Eryl Owain  01690 760335 erylowain@gmail.com




CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Eryl Owain  01690 760335 erylowain@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 0780 3191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com