{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Medi-Rhagfyr 2022

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd a derbyn cadarnhad ganddi/ganddo

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'

Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA



Sadwrn 27 Awst
Y Carneddau – o Ogwen i Fethesda
8.30   8.45

Maes parcio Pant Dreiniog (SH 622 688) – parcio am ddim

Dal bws T10 o Sgwâr Fictoria ym Methesda i Lan Dena ac i fyny Pen yr Ole Wen heibio Ffynnon Lloer, dros Garnedd Dafydd a Llywelyn, wedyn Foel Grach a Charnedd Gwenllian ac i lawr heibio Bera Bach a Drosgl nol i Fethesda. Tua 16 km/8 milltir a 1100 m/3600’ o ddringo.

Siân Shakespear


Sadwrn 3 Medi
Diffwys o Bont-ddu
9.15    9.30

Maes parcio a phicnic Farchynys (SH 661 186) tua 1 km o ganol Bont-ddu ar ochr Bermo i’r pentref.

Ar hyd llwybrau i fyny Hirgwm, heibio gwaith aur y Clogau, i Gwm Llechen ac ymlaen i gopa Diffwys. Dilyn y grib tua Llawllech ac i lawr Braich ac yn ôl tua Chaerdeon a llechweddau Geuos. Tua 16 km/10 milltir a 750 m/1460’ o ddringo.

Eryl Owain


Sadwrn 10 Medi
Moel Hebog o’r dwyrain
9.15   9.30
Maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ym Meddglert (SH 587 481) ym Meddgelert - peiriant mond yn cymryd cardyn (£6.00 y diwrnod).

Mynd trwy’r coed ac fyny heibio’r fynwent, wrth anelu am Bryn y Felin, lawr i Nant Goch ac heibio Oerddwr Uchaf (cartref William Francis Hughes “William Oerddwr"), Bryn Bannog, Cwm Clyd ac ynau anleu am yr "Wal" uwchben Yr Ogof, wedyn dringo yn serth iawn at gopa Moel Hebog ac yn ôl i lawr yr llwybr arferol uwchben Cwm Llwy i'r maes parcio. Tua 7 milltir o cerdded hamddenol ac mymryn o ddringo serth.

Keith Roberts


Sadwrn 17 Medi
Y Carneddau o Ogwen i Gonwy
Amser cyfarfod i’w drefnu

Taith hir 17 milltir o Lyn Ogwen i Gonwy gyda 1260 m/4125’ o ddringo i gynnwys copaon Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafydd a Llywelyn, Foel Grach, Foel Fras, Drum a Thal-y-fan. Trefniadau cyfarfod a theithio i’w cadarnhau yn ôl niferoedd.
Rhaid wrth lefel dda o ffitrwydd a bydd elfen o gerdded yn erbyn y cloc er mwyn cyrraedd Conwy mewn pryd o ran trefniadau cludiant. Rhaid cysylltu â Matt erbyn nos Sul, 11 Medi fan bellaf os am ddod ar y daith.

Matthew Williams


Sadwrn 17 Medi
Penrhyn Gŵyr
9.15 9.30

Man cychwyn: Heol fach rhwng Burry Green a Cheriton. Dilyn yr heol fawr (B427) i gyfeiriad Llangennith. Troi i’r dde ar ôl Burry Green am tua milltir. Parcio ar y dde wrth goedwig Cheriton. (SS 449 923) am 9.30.

Taith o thua 10 milltir dros fryniau Penrhyn Gŵyr yn cynnwys Bryn Llanmadog a rhostir Ryer a Harding.

Alison Maddocks


Mercher 21 Medi
Llyn Penmaen ac Islaw’r-dref
9.45 10.00
Maes parcio di-dâl (efo toiledau) ger yr hen orsaf yn Llyn Penmaen (SH 695 185).

Codi’n raddol drwy goed Penmaen Ucha i gyfeiriad Maes Angharad a Gelli Lwyd ac yna heibio Llyn Gwernan, ymlaen i Islaw’r-dref, i lawr at bont Abergwynant ac yn ôl ar hyd glannau’r Fawddach ar lwybr yr hen reilffordd. Tua 12 km/8 milltir a thua 230 m/750’ o ddringo.

Eryl Owain


Sadwrn 24 Medi
Llechog a Chlogwyn Du’r Arddu

9.15    9.30
Maes parcio Nantperis

Diwrnod o sgrialu cymharol rwydd i fyny Crib Llechog (gradd 1/2) – nid Bwtres Llechog sy’n 2/3 – ac yna i Gwm Brwynog a Theras Dwyreiniol Clogwyn Du’r Arddu (gradd 1), os bydd yn sych – mae’n fwy anodd ar dywydd gwlyb! Ymlaen i gopa Carnedd Ugain ac efallai’r Wyddfa.

Nodyn: Penderfynwyd nad yw'n bosib cynnwys y sgrambl ar Glogwyn Du'r Arddu oherwydd cyflwr y graig yno. Yn hytrach, wedi cyrraedd copa Llechog bydd y daith yn mynd am Garnedd Ugain a thros Grib Goch, i lawr y grib ogleddol i Gwm Glas ac yn ol. Parcio yn y cae (SH 608 580) ychydig y tu allan i bentref Nantperis - ac yn nes at Llechog na maes parcio'r Parc Cenedlaethol. Cysylltwch â Gareth

Gareth Wyn


Sul 2 Hydref
Cylch Clywedog, Cwm Dugoed ger Mallwyd
9.15    9.30

Gelliddolen (SH 902136), wedi troi oddi ar yr A458 ger (SH 912130) i gyrraedd yno.

Dringo Llechwedd Llwyd, dros Cefn Brith, Tir Rhywiog, Carreg y Fran i Garreg y Big; a dod yn ôl dros Cilcwm, Y Foel, Mynydd Copog a Foel Dugoed. Golygfeydd gwych o ddarn helaeth o Gymru.

Tegwyn Jones


Sadwrn 8 Hydref **** Sylwer - Newidiwyd y rhaglen a Nodyn pwysig*****
Y Lliwedd a Gallt y Wenallt

9.15     9.30
Maes parcio Bethania, Nant Gwynant (SH 628 505). 

Cerdded ar hyd llwybr Watkin i Fwlch Ciliau ac yna sgrialu hawdd dros dri chopa’r Lliwedd ac ymlaen i gopa tawel Gallt y Wenallt. Cerdded i lawr Cwm Merch i ailymuno â’r prif lwybr. Tuag wyth milltir ac esgyniad o 900 metr.

NODYN: Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf, bydd y ffordd rhwng Penygwryd a Nant Gwynant yn dal wedi ei chau ddydd Sadwrn - ac yn debygol o fod felly am hyd at bythefnos arall. Nid oes unrhyw rwystr o ran teithio o Feddgelert i fan cychwyn y daith ger Pont Bethania. Siwrnai ychydig yn hirach i rai ohonom!

Dewch i helpu Iolyn ddathlu esgyn ei ganfed copa ers dechrau’r flwyddyn a phen-blwydd arbennig.

Richard Roberts


Sadwrn 8 Hydref,
Bannau Sir Gâr
9.15 9.30
Dechrau, a gorffen, ar bwys Tafarn y Garreg, Glyn Tawe (SN 850 172). Mae lle i barcio ar yr hen heol ar yr un ochr o'r A4067 â'r dafarn. Mae maes parcio'r dafarn ar ochr arall yr heol.

Taith o dua 12 milltir; Fan Hir, Fan Brycheiniog, Fan Foel a Picws Du. Wedyn lawr i Lyn y Fan Fach ac ymlaen i Lyn y Fan Fawr a lawr i'r man cychwyn.

Digby Bevan


Sadwrn 15 Hydref
Penllithrig-y-wrach a Phen yr Helgi Du
9.15     9.30
Maes parcio di-dâl (SH 720 582) y tu ôl i siop Joe Brown yng Nghapel Curig

Mae bosib unai dod â char neu ddefnyddio bws T10 sy'n cyraedd Capel Curig am 9.01 o gyfeiriad Bangor (gadael y cloc am 8 28) a Bethesda (gadael Sgwar Fictoria am 8.45). O'r cyfeiriad arall mae'r bws yn gadael Betws y Coed am 9.01 i Gapel Curig am 9.13. Dilyn llwybr Crafnant at y bwlch uwchben y llyn a dringo at gopa'r Crimpiau. Ymlaen o fano dros dir garw i Faen Trichwmwd uwchben Llyn Cowlyd a dringo yn serth am gopa Penllithrig-y-wrach cyn gostwng i Fwlch y Tri Marchog. Dringo crib y Lasallt wedyn i gopa Pen yr Helgi Du. Ychydyg o sgrialu hawdd ofnadwy o'r copa i lawr am Fwlch Eryl Farchog a dilyn y Llwybr yn ôl uwchben Ffynnon Llugwy i lawr i'r A5. Dychwelyd am Capel Curig ar hyd y Llwybr Llechi o Fferm Gwern Gof Isaf.
Taith 11.5 milltir gyda 550 medr o ddringo.
  
Stephen Williams


Mercher 19 Hydref
Llanystumdwy i Borthmadog
9.15 9.29
Wrth y parc dros y ffordd i dafarn yr Awstralia ym Mhorthmadog mewn da bryd i ddal y bws am Bwllheli sy’n gadael am 09.29. [Gellir gadael car yn Llanystumdwy i gyfarfod criw’r bws fydd yn cyrraedd am 09:50 ond bydd angen trefnu lifft/bws yn ôl o Port ar ddiwedd y daith.]

O bentref Llanystumdwy, cerdded i lawr trwy fferm Aberkin at geg yr afon Dwyfor ac ymlaen i Gricieth. 
Wedyn, dilyn llwybr yr arfordir am Greigddu ac i fyny am eglwys Treflys.
Trwy’r fynwent ac i lawr am Morfa Bychan cyn mynd ar draws y cwrs golff.
Ymweld â Charreg Samson ar y llwybr i Borth-y-gest.
Ar hyd lôn cei yn ôl i Port.
Hyd y daith arfordirol: tua 7 i 8 milltir.

Arweinydd: Arwyn Jones


Sadwrn 22 Hydref
Pedol Yr Aran a’r Wyddfa o Ryd-ddu
9.15    9.30
Maes parcio’r trên bach yn Rhyd-ddu, lle mae toiledau.

Cychwyn fyny’r llwybr am Fwlch Cwm Llan ond torri ar draws i gopa Craig Wen cyn mynd dros yr Aran ac i lawr i Fwlch Cwm Llan. Fyny Allt Maenderyn a dros Grib Tregalan i gopa’r Wyddfa. Disgyn lawr o’r Wyddfa ar lwybr Cwellyn i Fwlch Cwm Brwynog cyn dod nol i Rydd Ddu heibio chwarel Glan yr Afon. Taith 11 milltir efo 4100 troedfedd o ddringo.

Dwynwen Pennant


Mercher 9 Tachwedd
Ceunant Clywedog a Moel Caerynwch

10.15 10.30
Y gilfan wrth hen ysgol Brithdir (SH761182), neu yn y gilfan gyfagos ychydig i fyny’r allt.

Taith i lawr y ceunant ac i fyny ochr arall yr afon cyn dilyn lonydd bach a llwybrau i gopa Moel Caerynwch. Taith rhyw bedair awr.

Raymond Griffiths


Sadwrn 12 Tachwedd
Dyffryn a Coedwig Afan
9.15 9.30

Canolfan Afan Argoed (SS 821 951) (angen talu am barcio - £3.50 neu talu gyda charden).

Taith tua 10 milltir. Cychwyn o’r maes parcio. Dilyn y grib i Brynheulog ac yna codi i Foel y Dyffryn. Ymlaen i Rhiw Tor Cymry, Mynydd Bach, Mynydd Penhydd a dychwelyd i’r maes parcio.

Rhun Jones


Sul 13 Tachwedd
Elidir Fawr, Foel Goch a’r Garn
8.45     9.00
Maes Parcio Nantperis

Cerdded yn  serth i  fyny copa Elidir Fawr wedyn croesi  Bwlch Marchlyn ac i fyny i ben Foel Goch ac yn mlaen i’r trydydd copa, y Garn. Disgyn i lawer i Llyn y Cŵn a dilyn y llwybr trwy Cwm Padrig yn ôl i Nant Peris. Tua 13 km/8 m efo 1340 m/3606’ o ddringo.

Dylan Evans


Mercher Tachwedd 17 *** Er gwybodaeth
Cwrs ar-lein gan Y Bartneriaeth Awyr Agored: Cwrs Diogelu ac Amddiffyn Oedolion
18:00-21:00

Mae’r cwrs yma yn addas ar gyfer Swyddogion Diogelwch clybiau (Safeguarding Officer) a Hyfforddwyr/Arweinwyr, ond gall unrhyw aelod o’r clwb hefyd fynychu.

Os gwelwch yn dda, allwch chi rannu y wybodaeth gydag unrhyw un addas yn eich clwb, a gall unigolion archebu eu lle eu hunain ar y cwrs am gost o £5.98, drwy ddilyn y linc isod

Cwrs Diogelu & Amddiffyn Oedolion


Sadwrn 19 Tachwedd
Cwm Teigl, Graig Goch a Llynnau Gamallt
9.45    10.00
Llan Ffestiniog (SH 704423)

Taith o rhyw 9 milltir gyda 1800 o ddringo; heibio Llyn Morwynion, Y Garnedd, Y Gamallt a’r Clochdy. Dychwelyd heibio Hafod Ysbyty. Taith hamddenol, gyda golygfeydd arbennig o Ddyffryn Ffestiniog.

Eifion Jones


Sadwrn 19 Tachwedd
Cyfarfod a Chinio Blynyddol

Royal Oak, Betws-y-coed

Dogfennau ar gael ar y dudalen Newyddion


Sadwrn 26 Tachwedd *******Gohiriwyd y daith yma tan rhywbryd yn 2023 ********
Arenig Fawr a Moel Llyfnant
9.15     9.30
Ger Chwarel Arenig (SH 830392), wedi troi i ffwrdd o ffordd Traws i Bala i’r ffordd gul am Arenig a Llidiardau.

Taith i gopa Arenig Fawr heibio Llyn Arenig Fawr ac yna yn ein blaenau i Foel Llyfnant. Disgyn i lawr wedyn i Amnodd Bwll a gwneud ein ffordd yn ol ar hyd llwybr yr hen rheilffordd. Tua 16 km/10 milltir a 870m/2854’ o ddringo.

Iolo Roberts ioloroberts289@btinternet.com


Sadwrn 3 Rhagfyr
Moel Ysgyfarnogod a Foel Penolau
9.15     9.30
Ar ochr y ffordd gefn (SH 700 348), wedi troi o’r ffordd fawr yn union i’r de o Drawsfynydd.

Cerdded ar hyd y ffordd am Gefn-clawdd am 2 km yna llwybr heibio Wern-fach a Wern Cyfrwy (gwlyb dan draed fel arfer!) i Fwlch Gwilym ac yna dros Craig Ddrwg, Moel Ysgyfarnogod, Foel Penolau a Diffwys ac i lawr at Dŷ’n-twll a 2 km ar hyd y ffordd yn ôl at y ceir.  Taith o tua 14 km/9 milltir gyda 540 m/1770’ o dddringo.

Eryl Owain


Mercher 7 Rhagfyr
Ynys Llanddwyn
9.45   10.00

Maes parcio di-dâl ger Llyn Rhos Ddu (SH426647) lle mae cofeb i’r rhai fu’n hel moresg.

Cerdded heibio olion Llys Rhosyr a thrwy Gwarchodfa Natur Niwbwrch at y môr. Cerdded ar y traeth a mynd o gylch Ynys Llanddwyn a dychwelyd ar lwybrau eraill. Taith ar y gwastad ar lwybrau da. Hyd y daith: rhyw 8 i 9 milltir.

Gareth Tilsley


Sadwrn 10 Rhagfyr
Ardal Crughywel
9.15 9.30
Maes Parcio Crughywel – tu ôl i ganolfan ymwelwyr CRIC. (SO 218 184)

Mabylion i ddilyn

Richard Mitchley
 
Ymlaen wedyn i Westy’r Bear yng Nghrughywel am ginio os dymunur (6.30 o’r gloch). Mwy o wybodaeth am y bwyd ac ati i ddod.


Sadwrn 17 Rhagfyr **Opsiwn o newid i ddydd Sul yn ôl rhagolygon tywydd
Tro Gwawr Moel Siabod
Amser i’w gadarnhau
Parcio ar ochr yr lôn ger Plas y Brenin ar yr A4086 am Pen-y-gwryd (SH 715 578)

Cychwyn lawr dros yr afon yna i fyny drwy'r coed a dilyn yr llwybr i’r copa i wylio’r wawr.  Wedyn yn ôl i’r man cychwyn, a brecwast cynnes yn Caffi Siabod, Capel Curig (Nid yw hyn yn rhan hanfodol o’r daith). Tua 2.5 milltir i’r copa gan anelu cyrraedd erbyn 7.30 i 8.00. Bydd angen flachlamp pen, a dillad cynnes ac addas i fis Rhagfyr gaeafol.

Keith Roberts


Llun 2 Ionawr
Taith Calan: Yr Wyddfa

Manylion i ddilyn


Sadwrn 14 Ionawr
Pedol Cwm Llwch
9.15 9.30

Maes parcio bach (S0 025 248) 3 milltir i’r de o Aberhonddu (troi i ffwrdd o’r heol fawr yn Libanus neu heol Bailhelig, gan droi  wrth yr Eglwys yn Llanfaes ar gyrion Aberhonddu)

Dechrau yn Cwm Gwdi. Cefn Cwm Llwch, Pen y Fan. Tua 7 milltir. Mannau serth wrth gyrraedd copa Pen y Fan.

Dewi Hughes



CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174   rhisiarttryfan@hotmail.co.uk
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo: Arwel Roberts 0780 3191058 arwelgwydyr@aol.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr: Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Pob Aelod: Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.

Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at Iolo Roberts… ymholiadau@clwbmynyddacymru.com