{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adolygir y Rhaglen yn gyson ....... Gweler Cysylltu i osod AP y Clwb ar eich ffôn neu lechen

Rhaglen Clwb Mynydda Cymru Awst-Rhagfyr 2024

Rhaid i chi gysylltu ymlaen llaw â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar y daith

I gymryd rhan yng ngweithgareddau’r clwb:

  • dylai unrhywun o dan 18 mlwydd oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol
  • dylid peidio dod â chŵn onibai am gŵn tywys
  • dylid fod yn aelod o’r Clwb ond mae croeso i unigolion flasu un gweithgaredd cyn ymlaeodi â’r Clwb
  • dylid fod yn ymwybodol y gall dringo a mynydda arwain at anaf neu farwolaeth – mae pawb yn gyfrifol am eu diogewlch eu hunain.

Mae arweinyddion yn cadw’r hawl i newid dyddiadau teithiau o’r dydd Sadwrn i ddydd Sul a vice versa, weithiau oherwydd y tywydd neu amodau/digwyddiadau eraill. Byddan nhw hefyd angen gwybod rhif ffôn ac enw cyswllt mewn argyfwng. Gwahoddir y rhai sydd am ymuno â’r teithiau rannu gwybodaeth, yn gyfrinachol, gyda’r arweinydd am unrhyw gyflwr meddygol os y bydd hynny o help iddyn nhw mewn argyfwng yn ystod y daith.

Mae’r Clwb yn graddio teithiau i adlewyrchu natur eu her. Bydd yr eicon a fydd yn cyd-fynd â lefel yr her yn ymddangos gyda disgrifiad pob taith (drwy clicio/cyffwrdd yr eicon gallwch weld y graddfeydd yn llawn). Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.

Mae croeso i unigolion nad ydynt yn aelodau i ymuno ag un o deithiau’r Clwb er mwyn ‘blasu’r’ profiad. Fodd bynnag, aelodau’n unig a gaiff ymuno â theithiau sydd wedi’u graddio’n ddu.

Mae amodau gaeafol yn cynyddu’r her wrth fynydda, e.e. mae taith a roddir gradd gwyrdd iddi yn yr haf yn gallu haeddu du yn y gaeaf. Mae’r Clwb yn disgwyl i aelodau sy’n ymuno â theithiau mewn amodau gaeafol gario’r offer priodol, e.e. caib rhew, pigau bach/mawr, lamp pen ynghyd â’r gallu i’w defnyddio.

Holwch arweinydd y daith os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth.


Cyfarwyddiadau defnyddio offer 'diffib'

Mae offer 'diffib' yn cael ei gario gan arweinydd pob taith Clwb Mynydda Cymru. Cyfarwyddid ar gyfer ei ddefnyddio ar gael YMA



Sadwrn 24 Awst
Pedwar dros dair
8.45
Canolfan Gwybodaeth Ogwen SH649 603

Cerdded at Lyn Idwal ac anelu am grib gogledd-ddwyrain Y Garn a cherdded i'r copa. I lawr at Lyn y Cŵn cyn dringo i'r ail gopa, sef Glyder Fawr. Ymlaen wedyn at Glyder Fach a dilyn y llwybyr (neu'r sgri!) i lawr i Fwlch Tryfan.  Rhywfaint o sgramblo wedyn i gyrraedd Tryfan, y pedwerydd copa, cyn cerdded yn ôl i Lyn Ogwen. Bydd rhaid cyrraedd Ogwen mewn da bryd os ydach chi’n gobeithio parcio yno. Dewis arall ydy parcio ym maes parcio Pantdreiniog ynghanol Bethesda - i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen - a dal y bws T10 sy’n gadael Sgwâr Victoria, Bethesda am 8.25.

Tua 13 km/8 milltir ac esgyniad o 1,265 m/4,150 troedfedd.  Rhwng 7 - 8 awr.
Gradd 4
Trystan Evans


Sadwrn 31 Awst
Mynydd Mawr, Moel Smytho, Moel Tryfan
09.00 9.15
Maes Parcio tafarn y Snowdonia Parc – SH 52694 58814. Parciwch cyn belled â phosib o’r dafarn ei hun.

O’r maes parcio, dilyn y Llwybr Llechi ac anelu am gopaon Moel Smytho a Moel Tryfan. Croesi’r rhos sy’n llawn grug yn eu blodau ar hyn o bryd ac esgyn Mynydd Mawr. Picio i Foel Rûdd ac i lawr i Fetws Garmon a dychwelyd i Waunfawr ar hyd y caeau. Peint yn Nhafarn Waun - sy’n cynnwys bragdy - i orffen y diwrnod.

17 km/10.5 milltir ac esgyniad o 933 m/3,061 o droedfeddi.
Gradd 3
Siân Shakespear


Sadwrn 7 Medi
Tarennau Meirionnydd
9.15  9.30
Maes parcio Gorsaf Abergynolwyn, tua hanner milltir i’r de-orllewin o’r pentref – SH672065. (tâl parcio: £1).

Tarren Hendre a Tharren y Gesail – taith 36, Copaon Cymru.
17 km/11 milltir ac esgyniad o 895 m/2,950 o droedfeddi.
Gradd 3
Dilys ac Aneurin Phillips 


Mercher 11 Medi
Cwm Pennant
9.30 10.00
 
Ger Eglwys Dolbenmaen (CG 507431). Byddai’n syniad rhannu ceir fel bod llai o gerbydau yn teithio i ben draw’r cwm at y maes parcio ger y bont (CG 533477). 

O’r maes parcio byddwn yn cerdded i ben draw Cwm Pennant i Feudy’r Ddôl cyn codi i gyfeiriad Cwm Trwsgl a’r chwarel lechi. Yna dilyn llwybr yr hen dramffordd tuag at Gwm Llefrith ac anelu am Brithdir Mawr. Oddi yma byddwn yn dilyn hen lwybrau a’r hen ffordd yn ôl at y ceir.
Hyd y daith – 14 km, tua 4 awr. Codi 135 m.
Gradd 1
Clive a Rhiannon James 


Sadwrn 14 Medi
Pedol Stiniog
6:15 6:30
Canol Tref Ffestiniog, ger y pistyll, o flaen Gwesty’r Queens. Maes Parcio Cyngor Gwynedd, canol y dref, neu digon o lefydd cyfagos.

Gan gychwyn o ganol y dref, cerdded tuag at Ddolrhedyn, yna i fyny ffordd Stwlan, a dringo i gopa Moelwyn Bach, yna dros weddill y Moelwynion cyn disgyn lawr i chwarel Rhosydd. Anelu am Lyn yr Adar a thros gopaon Ysgafell Wen, Moel Druman ac Allt Fawr ac yna i lawr i Fwlch y Gorddinan. Fyny am gopaon Moel Farlwyd a Phenamnen ac ymlaen dros Foel Fras a chroesi dros Chwarel Cwt y Bugail at gopa‘r Graig Ddu, a’r copa olaf, sef Manod Mawr. I lawr heibio chwarel Llyn Dŵr Oer (gallwn ychwanegu copa Manod Bach os dymunir!), ac yna yn ôl i’r dref. Diwrnod llawn o gerdded go galed! Cofiwch pen-dorch, rhag ofn!

Tua 35 km/22 milltir o gerdded, gydag esgyniad o dros 1,737 m/5,700 o droedfeddi.
Peint yn y Cwîns i ddarfod, os cyrhaeddwn cyn stop tap!
Gradd 5
Erwyn Jones 


Sadwrn 14 Medi
Drygarn Fawr o Abergwesyn
09.15   09.30
Cyfarfod ym maes parcio (di-dal) wrth neuadd Abergwesyn - SN 85988 53069, tua 5 milltir a hanner o Lanwrtyd (nid yw'r toiledau ar agor).

Cylchdaith o ryw 12 milltir gyda esgyniad o 2,000 troedfedd drwy Gwm Gwesyn,heibio rhaeadr sgwd y Ffrwd at Drygarn Fawr. Ymlaen i’r dwyrain dros Carreg yr Ast at Fwlch y Ddau Faen cyn troi nôl i’r de orllewin dros Carnau. Dilyn amryw lwybrau, llwybrau ceffyl,  a tipyn o dir corsiog heb lwybrau amlwg.
Gradd 3
Eurig James  


Sadwrn 21 Medi
Arthog i Ddolgellau dros Gadair Idris
8:45 i ddal bws 9:03 i Arthog
Sgwâr Eldon, Dolgellau. Gellir parcio yn y maes parcio arhosiad hir sydd ychydig ymhellach nag yr un arhosiad byr ar y Marian yn Nolgellau. Mae’r gost yn £5.50 am hyd at 12 awr, felly byddai’n syniad rhannu ceir cyn cyrraedd.

Cychwyn gyferbyn ag eglwys Arthog gan godi’n serth ar lwybr da sy’n dilyn afon a rhaeadr Arthog. Ymlaen heibio Llys Bradwen a Phant-y-llan am Hafoty-fach cyn croesi ar draws am y mynydd. Wedi mynd dros y gamfa a dringo’n serth ar lwybr sydd, ar y dechrau, yn eithaf garw, i’r bwlch ar y grib sy’n arwain i gopa Tyrrau Mawr. Ymlaen dros Benygadair, Mynydd Moel a Gau Graig. Disgyn oddi yno i lawr am Fwlch Coch, ac yna dilyn llwybrau a ffyrdd gwledig i lawr yn ôl i Ddolgellau.

Tua 19 km/12 milltir ac esgyniad o 1,150 m/3,772 o droedfeddi.
Gradd 4
Eirlys Wyn Jones


Sadwrn 28 Medi
Taith flasu - Y Gwyliwr, y Castell â'r ddwy Glyder
08.40 – 09.00
Man cyfarfod - Canolfan Ymwelwyr Idwal SH 649643. Cyfarfod rhwng 08.40 a 09.00 a dechrau cerdded am 09.05. 

Taith i flasu un o weithgareddau'r clwb sy’n dilyn un o’r llwybrau mynydda clasurol o Ddyffryn Ogwen. Mae'r daith hefyd yn agored i aelodau. 

Mae nifer o opsiynau parcio gerllaw er ei bod yn well gwneud defnydd o wasanaeth bws T10 a theithio o Fangor neu Fethesda gan fod y llefydd parcio yn gyfyngedig ar benwythnosau. Cychwyn o Fangor am 08.05 neu o Fethesda am 08.25 a chyrraedd Llyn Ogwen am 08.36. 

Byddwn yn dilyn y llwybr i Gwm Idwal ac ymlaen at y Twll Du yn nghefn y Cwm. Mae 'na sgrialu hawdd iawn yma cyn i ni gyrraedd Llyn y Cŵn. Yna, byddwn yn dringo llethr sgri serth sy'n dod â ni i gopa'r Glyder Fawr. O'r fan honno, ymlaen am Gastell y Gwynt lle bydd sgrialu hawdd iawn unwaith eto cyn cyrraedd copa Glyder Fach. Os yn sych, efallai bydd cyfle i gael lluniau ar garreg y Gwyliwr. Gostwng wedyn i Lyn Caseg Fraith sy'n cynnig y golygfeydd gorau oll o Tryfan. O'r llyn, dilyn llwybr y Mwynwyr i lawr o dan gysgod dwyreiniol Tryfan i Fferm Gwern Gof Uchaf ac ar hyd y Llwybr Llechi i Glan Dena cyn cerdded yn ôl ar hyd y ffordd i’r man cychwyn.

Tua 13 km/8 milltir gydag esgyniad o 898 m/2,946 o droedfeddi. Mae angen cysylltu gyda’r arweinydd i gadarnhau lle erbyn dydd Gwener 27 Medi ar yr hwyraf. Bydd angen rhif cyswllt argyfwng ar gyfer pawb sy'n ymuno â'r daith pan fyddwch yn cadarnhau eich bod am ymuno. 
Gradd 3
Stephen Williams 


Penwythnos Mynydda 4-6 Hydref
Glan-llyn Isa, Llanuwchllyn
Oedran 14-18
Dyddiad cau archebion 15 Medi

Gweler rhagor o fanylion ar dudalen Newyddion
llinosjw@urdd.org


Sadwrn 5 Hydref
Y Grib Lem a Charnedd Dafydd
09.15  09.30
Maes parcio Pantdreiniog, Bethesda – SH 623668 – i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.

Cerdded trwy Gerlan ac i ben draw Cwm Pen-llafar. Sgrialu i fyny’r Grib Lem – gradd 1 – ac ymlaen i gopa Carnedd Dafydd. Ymlaen heibio Cefn Ysgolion Duon, Bwlch y Cyfryw Drum ac i gopaon Carnedd Llywelyn a’r Elen. I lawr trwyn serth yr Elen ac yn ôl i Fethesda drwy Waun y Gwiail.

18 km/11.2 milltir ac esgyniad o 1,130 m/3,707 o droedfeddi. Rhwng 7 ac 8 awr.
Gradd 5
Matthew Williams 


Sadwrn 12 Hydref
Taith y Sgydau, Pont Nedd Fechan
09.15  09.30
Pont Nedd Fechan (SN 901 077).

Bwriada’r daith ymweld â rhai o “sgydau” neu raeadrau enwog yr ardal, yr hon a ddisgifiwyd fel “Gwlad y Rheadrau”. 

Taith cymharol wastad ar hyd ceunentydd afonydd Pyrddin, Nedd Fechan, Mellte a’r Hepste.  Mae’r ardal yn rhan o’r Fforest Fawr o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn amlygu’r amywiaethau daearyddol a daearegol.  Mae yma gynefinoedd amrywiol a chyfoethog i blanhigion, anifeiliaid ac adar o fewn y gelltydd hynafol a’r cilfachau creigiog. Hefyd olion hen ddiwydiannau, tra bod llawer o hanesion a chwedlau’n gysylliedig â’r ardal.

Mynd drwy geunant y Nedd Fechan ac wedyn y Pyrddin i fyny cyn belled â Sgwd Gwladus.  Yna sgydau Pedol, y Ddwli Isaf a’r Uchaf, Ceunant y Fellte, Sgwd Uchaf Clun-Gwyn, Sgwd y Pannwr, Sgwd Cilhepste Isaf a’r enwog Sgwd yr Eira. Afon Mellte unwaith eto, clogwyn enwog Craig y Ddinas, dyffryn Sychryd a’i sgwd yntau. 

18 km/11 milltir.
Gradd 2
Meirion Jones 


Sadwrn 12 Hydref
Pedol Cwm Caseg
09.00  09.15
Maes parcio Pantdreiniog - SH 623668 - ynghanol Bethesda; i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.

Cerdded trwy Gerlan am Gyrn Wigau ac ymlaen dros gopaon Bera Bach, Yr Aryg, Carnedd Gwenllian, Foel Grach a Charnedd Llywelyn. I lawr trwyn serth Yr Elen ac yn ôl i Fethesda dros Foel Ganol a Chors Gwaun y Gwiail.
Diweddu’r daith efo peint yn y Siôr.

19 km/11.5 milltir ac esgyniad o 1,134 m/3,720 troedfedd.
Gradd 4
Owain Evans


Mercher 16 Hydref **** GOHIRIWYD TAN Tachwedd 13 ****


Sadwrn 19 Hydref
Crib Nantlle
08.30
Maes parcio gorsaf Rhyd-ddu (tâl) – SH 57134 52592.

Cerdded i fyny’r Garn a thros gopaon eraill y grib i bentref Nebo.
Bydd rhaid trefnu ceir ymlaen llaw i ddod â’r cerddwyr yn ôl i Rhyd-ddu; felly, mae’n rhaid cysylltu ag Anna, yr arweinydd, erbyn nos Iau, 17 Hydref fan bellaf.

14 km/8.5 milltir ac esgyniad o 1,300 m/4,265 o droedfeddi.
Gradd 4
Anna George   


Sadwrn 26 Hydref
Mynydd Moel, Cader Idris a Chraig Amarch
9.15  9.30
Maes parcio Minffordd, ger Tal-y-llyn (SH732116).

Dringo yn eithaf cyson a serth i gopa Mynydd Moel. Troi am y gorllewin ac i gopa Cader Idris. Dilyn llwybr amlwg uwch Craig Cau, yna troi i'r gorllewin ar hyd Craig Cwm Amarch, cyn disgyn i lawr am Lyn Mwyngil heibio buarthau Rhiwogo a Phentre. Dilyn ffordd gul, yna pwt bach ar y ffordd fawr i gwblhau'r cylch. Ar lwybrau, rhai yn arw a charegog.

14 km/8.5 milltir ac esgyniad o 950 m/3,100 o droedfeddi.
Gradd 3
Elen Huws


Sadwrn 2 Tachwedd
Taith y Bannau
09.15 09.30
SN 849 171 - lan yr heol o Dafarn y Garreg ar yr A4067 rhwng Glyntawe a Defynnog.

Taith o tua 10 milltir gan droedio Fan Hir,Fan Brycheiniog, Bwlch y Giedd a chefn Cul y Penwyllt.
Gradd 3
Guto Evans



Sadwrn 2 Tachwedd

Sgrialu a cherdded o Ogwen
08.45 09.00
Ger y ganolfan ymwelwyr Ogwen (toiledau ar gael).

Cychwyn o Ogwen, cerdded at Llyn Idwal, troi fyny cyn y Rhiwiau Caws a sgramblo drwy Hafn y Clogwyn Du a Chrib y Clogwyn Du i gopa Glyder Fawr. Ymlaen wedyn dros Y Garn ac am gopa Foel Goch. Cerdded i lawr o Foel Goch dros y Llymllwyd i Gwm Cywion cyn disgyn yn ôl i Llyn Idwal.

Taith tua 7 milltir efo 4,000 troedfedd o ddringo, 6-7 awr.

Mae’r daith yma yn hollol ddibynnol ar y tywydd, ella bydd rhaid newid y daith ar y diwrnod os yw’r amodau yn anffafriol i sgramblo.
Gradd 5
Dwynwen Pennant  


Sadwrn 9 Tachwedd
Foel Fras a Drum
08.45  09.00
Maes parcio wrth droi oddi ar yr A55 yng ngwaelod Abergwyngregyn SH 655 728.

Dilyn y ffordd trwy’r pentre cyn ymuno â Llwybr y Gogledd. Troi i’r dde i gyfeiriad Llyn Anafon. Dringo’n serth o lannau’r llyn i gopa Foel Fras ac wedyn dychwelyd dros gopa’r Drum a chopaon Pen Bryn Du, Yr Orsedd, Foel Ganol a Foel Dduarth a dilyn y ffordd Rufeinig yn ôl. Rhannau dros dir garw, di-lwybr a gall fod yn wlyb dan draed mewn mannau.

Tua 18 km/11 milltir ac 800 m/2,641 o droedfeddi o ddringo, tua 6-7 awr.
Gradd 3
Dylan Evans 


Mercher 13 Tachwedd
Taith gylch yn ardal Dolwyddelan
10.20 10.30

Cyfarfod o flaen orsaf drenau Dolwyddelan (tâl parcio o bunt, neu ar y ffordd wrth yr eglwys am ddim).

Dilyn y ffordd goedwig i fyny Gwm Penamnen, heibio Pen y Benar ac i lawr at Bertheos. Croesi'r ffordd fawr a dilyn y ffordd fach heibio gorsaf drenau Blaenau Dolwyddelan ac yn ôl i'r pentref heibio'r castell. Rhyw bedair awr.

Gradd 1
Raymond Griffiths


Sadwrn 16 Tachwedd
Teithiau’r cyfarfod blynyddol

Taith 1
Blaenau Ffestiniog i Faentwrog
9.15 i ddal bws 09.37 i Flaenau Ffestiniog -cyrraedd am 10.00.
Maentwrog, o flaen Gwesty’r Oakley.

Cerdded i Danygrisiau ac ymlaen drwy Cwmorthin. I fyny am Moel yr Hydd ac yna draw i gopa Moelwyn Mawr. I lawr Craig Ysgafn ac efallai esgyn Moelwyn Bach hefyd. Cerdded i lawr heibio Stwlan at y rheilffordd ac yn ôl i’r Oakley drwy Goedwig Maentwrog.

15 km/9 milltir ac esgyniad o tua 863 m/2,830 o droedfeddi.
Gradd 4
Manon Davies  

Taith 2
Parc Coed Cymerau
10.00 10.15
Yr Oakley Arms er mwyn rhannu ceir ac yna dreifio i Barc Coed Cymerau.

Cychwyn cerdded o Barc Coed Cymerau, gan fynd dros bont droed dros yr afon Goedol heibio Clogwyn y Geifr i Orsaf Dduallt. Anelu am Plas y Dduallt a Choed y Bleiddiau, gan orffen yng ngwesty’r Oakley. Nôl y ceir! 
Mae’r llwybr yn serth ac yn wael mewn mannau.

14 km/9 milltir a chodi oddeutu 200 m/656 o droedfeddi.
Gradd 3
John Parry 


Sadwrn 16 Tachwedd
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Clwb Mynydda Cymru a cinio i ddilyn
Gwesty'r Oakley Arms, Maentwrog

Dogfennau ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol 16 Tachwedd

(cliciwch ar enw'r adroddiad)

Agenda'r Cyfarfod Blynyddol
Cofnodion Cyfarfod Blynyddol Tachwedd 2023
Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol ac Aelodaeth
Adroddiad yr Ysgrifennydd Gweithgareddau
Adroddiad y Trysorydd
Datganiad o gyfrifon
Adroddiad Ysgrifennydd y Wefan



Sadwrn 23 Tachwedd
******GOHIRIWYD oherwydd y tywydd*****
Cribau a’r Lliwedd
09.30
Maes parcio Pen-y-Pass SH647 556.

Cerdded at Llyn Glaslyn ar hyd Llwybr y Mwynwyr a sgrialu (gradd 1) i fyny’r Cribau i Fwlch Ciliau. Ymlaen wedyn dros gopaon y Lliwedd a dringo lawr i Lyn Glaslyn a dilyn y llwybr yn ôl i Ben-y-Pass.

11 km/7 milltir ac esgyniad o 800 metr/2,624 o droedfeddi.
Gradd 5
Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com


Sadwrn 30 Tachwedd
Pedol Elidir
09.15
Giât Marchlyn, Deiniolen - SH 59604 6311 - i rannu a symud ceir am 9.30 i Allt Ddu (cofeb chwarelwyr) Dinorwig.

Pedol Elidir ar hyd lôn a llwybrau chwarel Garret. Tir anwastad a ‘chydig o sgrialu hawdd. Codi'n serth hyd at Bwlch Melynwyn ac yna dros gerrig anwastad hyd at Fwlch y Brecan. Ymlaen dros Fynydd Perfedd a Charnedd y Filiast a cherdded yn ôl at y ceir ym Marchlyn neu, os y dymunir, yn ôl drwy’r chwarel i Ddinorwig.

Tua 11 km/7 milltir ac esgyniad o tua 854 m/2,800 o droedfeddi, tua 5 awr. 
Gradd 3
Morfudd Tomos 


Sadwrn 7 Rhagfyr 
Taith Pen-y-fâl
09.30
Maes Parcio Crughywel – tu ôl i’r ganolfan ymwelwyr - CG SO 218 184. 

Ymlaen wedyn i Westy’r Bear yng Nghrughywel am swper os dymunir (6.30 o’r gloch).
Manylion a bwydlen i ddilyn.
Gradd 2
Richard Mitchley


Sadwrn 7 Rhagfyr ******GOHIRIWYD oherwydd y tywydd*****
Cribau a’r Lliwedd
Taith y Gwawrio, Moel Siabod
05.00 05.30
Iechyd, diogewlch a chadarnhau bod pawb â’r offer cywir: 05.10 - 05.20. 
Ar ochr yr lôn yn y gilfan uwchben Llynnau Mymbyr ger Plas y Brenin ar yr A4086 SH71570  57840.

Cychwyn dros Afon Llugwy ger Plas y Brenin, yna i fyny drwy'r coed a dilyn y llwybr i’r copa i wylio’r wawr gan gyrraedd yno rhwng 7.30 a 7.45. Panad a seibiant am tua 45 munud i wylio’r wawr yn datblygu i olau dydd a mwynhau’r golygfeydd. Wedyn yn ôl i’r man cychwyn ar hyd yr un llwybr. Bydd trefniadau wedi’u gwneud i gael brecwast ym Mhlas y Brenin (dewisol). 

**Mae’n hanfodol bod pob un a fydd ar y daith yma, gyda’r offer canlynol: lamp pen a batris sbâr; het a menig gaeaf; dillad cynnes ac addas ar gyfer tywydd gaeafol Eryri; ffyn cerdded; pigau bach neu bigau mawr (crampons); sbectol eira (goggles) a chaib rhew.

10 km/6 milltir ac esgyniad o 872 m/2,867 o droedfeddi.                       
Gradd 5
Keith Roberts   07789911437  keithtan@hotmail.co.uk


Mercher 11 Rhagfyr
Taith yn ardal Tremadog

10.00 10.15
Ger yr hen Londri ar gyrion Tremadog (ochr Beddgelert).

Cychwyn i fyny Cwm Bach, yna Moel Erw Suran, Pen Rallt a dod i lawr Pant Ifan. Codi 270 m. Llwybrau garw rhyw 5 km. Paned yng nghaffi Portmeirion, Porthmadog (gyferbyn â Tesco) ar ddiwedd y daith (neu gaffi arall yn y dref).
Gradd 1
John Williams (a John Parry).


Sadwrn 14 Rhagfyr
Tal y Fan o Sychnant
9.00 9.15
Maes Parcio Sychnant SH75497-76791 (ar y ffordd gefn rhwng Conwy a Dwygyfylchi).

O’r maes parcio, dilyn llwybr tuag at Maen Esgob ac i fyny drwy’r hen chwarel i gopa Tal y Fan. Drosodd wedyn at Foel Lwyd. Dilyn llwybr i lawr am faes parcio Bwlch y Ddeufaen a heibio Cerrig Pryfaid. Yna, ar hyd godrau’r copaon i gyfeiriad Cae Coch a Chefn Maen Amor i’r man cychwyn.

Tua 15 km/9 milltir ac esgyniad o 500 m/1,627 o droedfeddi.
Gradd 3
Erwyn Jones  


Sul 22 Rhagfyr
O Ben-y-Benglog i Fethesda
08.15
Maes parcio Pantdreiniog ynghanol Bethesda, i fyny’r allt gyferbyn â Neuadd Ogwen.

Dal bws T10 am 08.25 o Sgwâr Victoria - SH 622 668 - i Ben-y-Benglog. Cerdded drwy Cwm Idwal, i fyny heibio’r Twll Du at Llyn y Cŵn. Dros gopa’r Garn ac yna i lawr yn serth i Fwlch y Cywion a chopa’r Foel Goch. Cerdded wedyn ar hyd copaon Moel Perfedd a Charnedd y Filiast cyn disgyn at Lôn y Lord ac yn ôl i Fethesda. Peint i orffen.

14 km/9 milltir a 1,000 m/3,280 o ddringo.
Gradd 4
Dwynwen Pennant  07720 057068 Ffôn/WhatsApp


TAITH AEAF YR ALBAN
Sadwrn yr 8fed - Sadwrn 15fed Mawrth 2025

Gweler manylion ar y dudalen Newyddion.


CROESO I SYLWADAU AC I  SYNIADAU AM WEITHGAREDDAU
- A CHROESO ARBENNIG I GYNIGION I ARWAIN!

Ysgrifennydd gweithgareddau: Richard Roberts 07738 856174 llanrug1956@gmail.com
Cydlynydd teithiau’r de: Dewi Hughes 02920 891753 / 07909 930427 dewihughes1@btinternet.com
Cydlynydd dringo:Curon Davies 07848 863663 curond@gmail.com
Cydlynydd teithiau Mercher: Haf Meredydd 01766 780541 / 07483 857716 hmeredydd21@gmail.com

Manylion Pellach

Arweinwyr:
Cofiwch lenwi'r ffurflen cyswllt ar ddechrau'r daith / gweithgaredd.
Os oes darpar-aelodau ar un o’r teithiau, a wnaiff yr arweinydd yrru’r enwau, cyfeiriadau a chyfeiriadau e-bost at ymholiadau@clwbmynyddacymru.com
Pob Aelod:
Rhaid cysylltu â’r arweinydd er mwyn sicrhau lle ar daith.
Cofiwch gario eich cerdyn manylion ar bob taith.