HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Erthyglau Cymru yn Summit

gan Clive James (Pwyllgor Rhanbarth Cymru y CMP)

 

Summit 41

Mae casgliad diddorol o hen gylchgronau mynydda tua hanner can mlynedd oed yng nghaffi Bryn Glo ym Metws y Coed. Mae dau beth wedi taro fy llygad wrth imi bori trwyddynt. Y cyntaf yw'r rhestr o siopau offer i gyflenwi anghenion y chwarelwyr - siopau gydag enwau anghyfarwydd a oedd wedi eu sefydlu ymhell cyn bod sôn am y siopau gyda'r enwau modern.
Yr ail yw fod y cylchgronau yn aml yn cynnwys gwersi Cymraeg a Gaeleg, gyda'r pwyslais ar enwau cyffredin a ddefnyddir mewn ardaloedd mynyddig. Mae'n bwysig cofio fod y mynyddoedd wedi bod yn fan gwaith i ffermwyr a oedd yn siarad Cymraeg neu Aeleg am ganrifoedd cyn i foneddigion oes Fictoria eu darganfod. Roedd gan y ffermwyr enw ar bob cae, nant, craig a chrib.

Mae'n hawdd anghofio fod y CMP yn gyngor mynydda i Gymru yn ogystal â Lloegr. Tra mai dim ond un iaith swyddogol sydd yn Lloegr, mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cadarnhau fod dwy iaith swyddogol yng Nghymru - Cymraeg a Saesneg. Mae yna 600,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn unig, ac felly mae'n hwyr glas i'r CMP gydnabod hyn. I wthio'r cwch i'r d?r mae Pwyllgor Rhanbarth Cymru o'r CMP a Chlwb Mynydda Cymru (y clwb sydd â dau gant o aelodau gyda'r nod o hyrwyddo mynydda yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg) wedi cytuno i gynhyrchu cyfres o erthyglau.

Ond o gofio am y cyngor blaengar a roddwyd yn yr hen gylchgronau hanner can mlynedd yn ôl, hoffwn, am r?an, ofyn i bawb ddefnyddio'r ffurf Gymraeg gywir am lefydd a'i hynganu'n gywir yn union fel y byddech yn ei wneud yn rhannau eraill y byd. Roedd gan y 'Nameless Cwm' enw, sef Blaen Cwm Cneifion, cyn iddo erioed gael ei weld gan fynyddwyr. Nid oes mynyddoedd o'r enw y Glyders, Carneds a Moelwyns yn bod, dim ond y Glyderau. Carneddau a'r Moelwynion. Dylid ynganu enwau canolfannau mynydda poblogaidd fel Llanberis, Betws y Coed a Beddgelert gyda'r un parch ag y mae'r Sais yn dweud Keswick, Ambleside neu Langdale. Ac wrth feddwl ymhellach, gyda llwyddiant Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i sicrhau cyllid i ail adeiladu'r adeiladau ar gopa'r Wyddfa, onid yw'n amser i ni anghofio'r enw Snowdon. Yr Wyddfa yw'r enw cywir - a pheidiwch byth â dweud 'Mount Snowdon'!


Summit 42

Llanberis gyntaf, yna'r Byd

Pan oeddwn yn ymweld â Boulder, Colorado ychydig flynyddoedd yn ôl fe'm hysbyswyd gan ddringwr hunan-bwysig ei fod wedi dringo ym mhob un o'r tair ardal dringo creigiau gorau yn y byd; Boulder Colorado, Yosemite a "rhyw le bach yng Nghymru na fyddet ti erioed wedi clywed amdano - Llanberis." Dychmygwch ei syndod pan ddywedais wrtho fy mod yn gallu gweld copa'r Wyddfa o ffenest fy nh?!

Unwaith eto roedd G?yl Ffilmiau Mynydda Llanberis yn llwyddiant ysgubol. Roedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn noddi sgyrsiau Cymraeg gan yr awduron Bethan Gwanas a Llion Iwan, y darlledwr Dewi Pws a choncwerwr Everest, Caradog Jones. Ond pam eu bod hwy, a'u cynulleidfaoedd, wedi eu halltudio i seler Gwesty Victoria? Pam na ellir cynnal y digwyddiadau hyn yn y prif leoliadau? A beth am ystyried defnyddio cyfieithu ar y pryd er mwyn galluogi'r di-Gymraeg i fwynhau'r sesiynau yma hefyd?

Y tu hwnt i'r seler, mae geifr gwyllt Eryri yn hawlio'r penawdau unwaith eto. Mae'n ymddangos bod y gaeafau tyner diwethaf a'r ffaith bod llai o ddefaid yn cael eu cadw wedi arwain at gynnydd mewn niferoedd. Fe gyfrais bron i 50 ar Rhinog Fach ym mis Ionawr. Mae'n sicr y bydd y newyddion o'r bwriad i ddidol a lladd geifr Y Gogarth yn Llandudno a Pharc Padarn yn cael ei dderbyn mewn dwy ffordd wahanol iawn. Ond rhag ofn bod y cig yn cael ei werthu (a dyna fyddai rheolaeth tir cynaliadwy) rwy'n argymell rysáit a gefais tra'n ymweld â Macedonia. Mae'r cig o ran ucha'r goes yn cael ei grilio gyda chaws gafr yn y canol a nionod ar y tu allan ac yn cael ei weini gyda madarch. Mae'r weriniaeth ddwyieithog annibynnol hon yn cynnig profiadau mynydda di-ben-draw, yn ogystal â rysetiau - mae'n bosib hedfan yn rhad i Thessaloniki yng Ngroeg.Efallai y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg ifanc yn heidio tua'r mynyddoedd. Mae S4C wedi darlledu cyfres o raglenni ar gyfer plant 9 - 14 oed o'r enw "Stamina". Roedd un bennod ar weithgareddau mynydd, gan gynnwys BRYCS 2006. A sôn am hynny, tybed a yw'n bryd i Ogledd a De Cymru ymuno â'i gilydd ar gyfer y cystadlaethau yma?


Summit 43

Achub bywydau

'Rydym i gyd yn tueddu i beidio rhoi ystyriaeth ddigonol i ddiogelwch ar y mynydd ac achub mynydd. Ydych chi'n wirioneddol werthfawrogi gwaith y timau achub mynydd gwirfoddol, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn mannau eraill hefyd?

Yn anffodus, bu modd i'r cyfryngau yng Nghymru roi llawer o sylw i'r materion hyn yn ddiweddar. Serch hyn, diolch i gynrychiolwyr fel Aled Taylor a Gwyn Roberts cafwyd asesiad cytbwys o'r antur a'r risg a gymerwyd gan y rhai sy'n gwneud y galwadau. Eleni mae'n ymddangos na fu modd defnyddio hofrennydd mewn cyfran uwch o achosion nag arfer. Fodd bynnag, os bydd yr adolygiad o wasanaethau achub hofrennydd yr RAF yn arwain at breifateiddio, a fydd nifer uwch hyd yn oed o gleifion yn gorfod cael eu cario oddi ar y mynyddoedd?

Gan barhau â'r thema o achub bywydau, mae gan y cwrs meddygaeth mynydd cyntaf i gael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig gyswllt Cymreig. Cynigir y Diploma a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Mynydd gan Brifysgol Caerlyr. Mae'r cwrs, sydd wedi'i gydnabod gan yr Union Internationale des Associations des Alpinism (UIAA), yn cael ei drefnu ym Mhlas y Brenin, gyda hyfforddiant yn yr Alban ac yn yr Alpau hefyd. Tra bydd gan staff Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd, fewnbwn, gyda chanolfan hyfforddi'r Ysbyty yn y Coleg ym Mangor, pam na allai'r fenter a'r ddarpariaeth fod wedi dod o Gymru?

Wrth ddychwelyd o gerdded yn yr Engadine, roedd yn ymddangos yn rhyfedd nad oedd gwrthwynebiad i Fyddin y Swistir hyfforddi ar ffiniau'r Parc Cenedlaethol. Mae canolfan newydd y Parc Cenedlaethol yn Zernoz wedi codi statws pedwerydd iaith genedlaethol y Swistir - Romansh. Gyda chyfanswm llai o siaradwyr nag sydd o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd, mae ei rôl ym mywyd tairieithog Canton Grisuns yn cynyddu ar ôl dirywiad cyson ers yr Ail Ryfel Byd.

A meddyliwch, oni allai trafnidiaeth gyhoeddus yn nyffrynnoedd mynyddoedd Cymru fod mor aml a dibynadwy â Bws y Swiss Post? Wedyn, byddai mentrau fel Goriad Gwyrdd Eryri yn llwyddo i annog cerddwyr a dringwyr i adael eu ceir gartref. A phetai car cebl wedi'i adeiladu o Ddolgellau i ben Cadair Idris - megis bryn i bobl Swistir - cymaint gwell fyddai mynediad i bawb!


Summit 44

Rwyf yn ddyledus i Glwb Mynydda Clwyd. Mae eu haelodau yn ymwelwyr cyson â Chwarel Trefor ger Llangollen yn ystod yr haf. Mae'r chwarel yn cynnig rhywbeth i bob dringwr gyda 40 dringfa yn amrywio o VD i E4. Mae Joss Thomas, un o aelodau'r clwb yn disgrifio ymweliad nodweddiadol ag atyniadau'r chwarel 'Noson dda yn Chwarel Trefor. Buom yn dringo dringfa newydd sbon John Norman gyda rhaff wedi ei ddiogelu o'r brig, dringfa dda ar 4+. Yna fe aethom i'r wal ddeheuol, ac fe arweiniais 'Gold Phlash' sydd bellach gyda dau follt a pheg wedi eu hychwanegu ato. Gorffen noson dda gyda pheint yn nhafarn y Sun'

Yn y cyfamser, ar gyrion gogleddol Eryri mae trafodaeth yngl?n â dyfodol hen chwarel arall. Mae dau gynllun hollol wahanol yn y ras i benderfynu dyfodol chwarel lechi Glyn Rhonwy. Mae un cynllun gan Gwmni Adwy Eryri Cyf. yn uchelgeisiol iawn. Maent yn argymell llethr sgïo, parc dwr, gwesty sba gyda 140 o wlâu, canolfan siopa a chanolfan beicio mynydd, gyda'r addewid o 'gannoedd o swyddi'. Mae'r ail gynllun gan gwmni cydweithredol lleol Beiciau Mynydd Llanberis yn argymell canolfan beicio mynydd. Awgrymir y byddai hyn yn cyflogi 60 drwy'r flwyddyn a 50 yn ychwanegol yn ystod yr haf.

Crêd Cyngor Gwynedd, yr awdurdod cynllunio lleol, y byddai buddsoddiad o'r math iawn yng Nglyn Rhonwy yn arwain i 'gyfleoedd economaidd newydd'. Eu bwriad yw gweld busnes newydd yn y chwarel 'a fydd o werth i'r gymuned leol' ac a fydd yn denu 'llif cyson o dwristiaid, yn ogystal ag ambell i ddigwyddiad mwy yn achlysurol'. Gobeithiwn y bydd eu penderfyniad yn un doeth, gan y bydd yn effeithio'r iaith Gymraeg yn yr ardal am flynyddoedd i ddod.

Wrth son am Eryri, deuthum i adnabod Aled Taylor pan roedd yn warden gwirfoddol gyda Chydbwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri. Wrth i ni gerdded adref ar ôl y bws olaf am 10, arferai adrodd, yn ei ffordd diymhongar am ei waith gwirfoddol, yn achub ar y mynydd - gwaith a ddyddiai yn ôl i 1966. Cefais bleser mawr, felly, o glywed ei fod wedi ennill Gwobr am Wasanaeth Nodedig gan Bwyllgor Achub Mynydd y Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd yn falch o ddweud fod y deyrnged iddo am y tro cyntaf erioed yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.


Summit 45

Camu Ymlaen

Ymlaen yn y gwanwyn, ac yn ôl yn yr hydref- dyna sut 'rwy'n cofio sut i newid y cloc ddwywaith y flwyddyn. Os nad ydym rhywsut yn newid cloc ein cyrff a chodi gyda gwawr y bore, nid ydym yn cael yr awr ychwanegol o oleuni gyda'r nos na'r cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau awyr agored unwaith mae gwaith y dydd wedi ei gwblhau.

Yn y calendr amaethyddol traddodiadol Cymreig, fel mewn sawl ardal fynyddig arall yn y byd, 'roedd dyfodiad y gwanwyn yn esgor, nid yn unig ar fywyd newydd, ond hefyd ar symudiadau. 'Hafota' yw'r term am weithwyr amaethyddol yn symud gyda'u hanifeiliaid o'r brif fferm i un arall yn uwch i fyny'r mynydd. Y bobl ifanc a wnâi'r siwrnai yma. Roedd nosweithiau braf yr haf yn rhoi digon o gyfleoedd iddynt fwynhau cwmni ei gilydd. Yn ddiau roedd y rhai mwyaf egnïol yn crwydro i'r porfeydd newydd. Mae'n rhaid mai nhw oedd y cyntaf i brofi pleser a her mynyddoedd Cymru.

Er clod, trefnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gystadleuaeth i'w helpu i ddewis enw i'r adeilad newydd ar gopa'r Wyddfa a fydd yn agor yn gynnar yn haf 2008. Dewis unfrydol yr Awdurdod o restr o 12 enw oedd 'Hafod Eryri.-mae'n enw Cymraeg sy'n hawdd i'w ynganu a'i farchnata, ac yn adlewyrchu amaethyddiaeth draddodiadol yr ardal. Ystyr 'hafod' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw 't?' neu 'annedd haf yn yr ucheldir.' Beth am 'Eryri'? Hwn yw'r enw Cymraeg traddodiadol am yr ardal sydd, fwy neu lai, yn cyfateb i Barc Cenedlaethol Eryri.

Llongyfarchiadau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Hafod Eryri fydd yr unig enw ar yr adeilad fydd yn disodli adeilad 1936 Syr Clough Williams Ellis. Pwy ddylai agor Hafod Eryri?

Yn ystod nosweithiau'r gwanwyn, un ffordd syml i mi i ddarganfod faint o'm cyd-fynyddwyr a cherddwyr sy'n siaradwyr Cymraeg yw eu cyfarch yn Gymraeg. Yn yr Alpau, mae pobl leol yn cyfarch eu cyd-fynyddwyr yn eu hiaith frodorol. Pam fod cymaint o siaradwyr Cymraeg yn gyndyn o ddefnyddio iaith yr 'hafod' ac yn defnyddio'r Saesneg?


Summit 46

Hen gyfrinachau

Nid oes rhaid i chi ymddiddori ym mynyddoedd Cymru am gyfnod hir cyn darganfod rhywbeth sy'n ymwneud â hanes Celtaidd-Rhufeinig. Mae llawer o'r ffyrdd Rhufeinig a'r caerau bryniog i'w gweld ar lechweddau isaf yr ucheldiroedd. Y llwythau cyntefig, fodd bynnag, oedd yn byw ac yn ffermio ar y mannau uchaf a hwy oedd y cyntaf i archwilio'r copaon - petai ond i gladdu eu tywysogion.

Yn 61AD safai Suetonius, llywodraethwr newydd Prydain, ar lannau'r Fenai yn pendroni sut y gallai gludo'i filwyr ar draws y Fenai, a thrwy hynny, gwblhau ei goncwest yn y gorllewin. Ar y lan gyferbyn gallai weld y gelyn. Fel y dywed Tacitus wrthym '..roedd gw?r arfog yn cael eu cymell i orffwylltra gan dderwyddon oedd yn cyhoeddi melltith a gwragedd hirwalltog, wylofus wedi'u gorchuddio mewn du fel ellyllon.'Roedd yr olygfa yn ddigon i wneud i'r llengfilwr mwyaf profiadol grynu - pe'i daliwyd yn fyw, fe derfynai'i oes yn aberth dynol ar allorau'r derwyddon. Problem Suetonius oedd lle i groesi - o'r man culaf tua'r gorllewin roedd wedi'i wynebu gan gerrynt cyflym, dyfroedd dyfn a choed yn ymestyn hyd at y lan. Roedd angen gwybodaeth am y gwastadedd d?r bas ar yr ochr ddwyreiniol - byddai golwg o'r tir uchel tu cefn i Fangor - Moel Wynion - wedi bod yn ddelfrydol.

Yn adran Rufeinig eang, Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ceir cleddyf Rhufeinig a ddarganfuwyd ar Gopa Carnedd Llywelyn yn 1933. A gafodd y milwr ei demtio i grwydro i fyny'r bryn i weld beth oedd dros yr ael? Ai fo oedd y cyntaf i ddringo mynydd yng Nghymru am yr un rheswm ag y gwna y mwyafrif ohonom?

Yn yr amgueddfeydd y ceir yr ateb i'r fath gwestiynau'n aml iawn. Er hynny, mae'r portread o fynydda yng Nghymru a chyfraniad byd-eang Cymru i fynydda yn ddiffygiol. Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, mae gennym lywodraeth newydd yng Nghymru - oni all y BMC gyfiawnhau achos ar gyfer y fath brosiect?

Mae'r gost barhaus o gynnal y fath amgueddfeydd yn uchel. Gall cost cyfalaf gynyddu'n ddirfawr. Mae angen meddwl ymhellach felly. Oni ellir sefydlu cyfres o orielau mewn lleoedd addas ledled Cymru? Byddai cael yr un math o adeilad a chynllun, yr un math o gyflwyniad dwyieithog (neu amlieithog?) ynghyd ag arweinlyfr cynhwysfawr yn cyplysu'r cyfan fel y bydd amgueddfa fynydda Cymru yn datblygu tros gyfnod o amser. Mae rhai lleoliadau a thestunau'n amlwg - byddai hanes Suetonius a chleddyf Carnedd Llywelyn yn Segontium yng Nghaernarfon, byddai hanes y blynyddoedd arloesol ac Everest ym Mhen y Gwryd, cyfraniad hanner can mlynedd Plas y Brenin, chwilio o'r awyr ac achub yn Ninas Dinlle a chyfraniad y mudiad 'Outward Bound' yn Aberdyfi. Yna, beth am roi sylw i ddringo creigiau'r arfordir yn Sir Benfro yn rhywle, cyfraniad yr awdurdodau addysg yng Nghanolfan Storey Arms a chanolbwyntio ar dechnoleg dillad ac esgidiau mynydda mewn dwy allfa adwerthu?

Pam na wnewch chi lobiïo'ch Aelod Cynulliad lleol neu ranbarthol? Gadewch i ni fynd â'r maen i'r wal!


Summit 48

Yma ac acw, ac adref drachefn

Mae llawer o fudiadau yng Nghymru wedi sefydlu cysylltiadau ffurfiol gyda mudiadau tebyg yn Lesoto, De Affrica: capeli, ysgolion, mudiadau ieuenctid a chanolfannau meddygol. Mae Lesoto tua'r un faint a Chymru gydag arwynebedd o 30,000 km sgwâr, ond yn llai poblog, gyda dim ond 2,300,000 o drigolion.

Lesoto yw'r unig wlad yn y byd gyda'i holl arwynebedd dros 1000 metr. Y pwynt uchaf yw Thabana-Ntlenyana (3,482m) ar Grib Drakensberg, sy'n ffurfio'r ffin ddwyreiniol gyda Gweriniaeth De Affrica. Mae copaon eraill dros 3,000 m yn cynnwys Mont-aux-Sources (3,285m), Cleft Peak (3,261m), Makheka (3,461m), Seqoqo (3,393m) a Makoaneng (3,416m) ym mynyddoedd Drakensberg a Thaba-Moes (3,021m) ar y Grib Ganolog. Mae rhai o'r mynyddoedd yn ymddangos yn heriol ar Google Earth. A oes unrhyw gysylltiadau mynydda rhwng Cymru a Lesoto? Oes rhywun yn cynllunio taith i Lesoto yn y dyfodol agos a fyddai'n medru creu neu gryfhau cysylltiadau?

Rwyf yn derbyn llawer o lythyrau na ofynnwyd amdanynt yn rhinwedd fy swydd fel ysgrifennydd Clwb Mynydda Cymru. Er nad yw Plas y Brenin yn fy nghynnwys ar eu rhestr lythyru (efallai nad ydynt angen hyrwyddo eu gweithgareddau i siaradwyr Cymraeg?), mae Glenmore Lodge yn yr Alban yn gwneud hynny. Mae Glenmore Lodge yn 60 oed eleni, ond o ddarllen eu prosbectws ni cheir fawr o ymdeimlad o hunaniaeth Albanaidd, hyd yn oed o'r Pairc Naiseanta a'Mhonaidh Ruaidh newydd [Parc Cenedlaethol Cairngorm] a'r tarddiad Gaidhlig i bron bob enw lleol a nodwedd ddaearyddol. Y mae, wedi'r cwbl, yn ardal hanesyddol y Gaidhlig "Gaelteachd" [ardal Gaeleg ei hiaith] - gydag Ysgol Gynradd Gaeleg yn Newtonmore gerllaw a'r Aeleg yn cael ei ddysgu yn Ysgol Uwchradd Kinguisse. Hyd y gwn i, mae'r unig siaradwr Gaeleg sy'n hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn gweithgareddau awyr agored, yn cael cefnogaeth drwy ganolfan 'Outward Bound' Locheilside yn Lochaber.

Un arwydd fod y gaeaf yn dod i ben yw Gŵyl Ffilmiau Llanberis - LLAMFF. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, hwn fu'r penwythnos gorau ar gyfer gweithgareddau rhew ac eira - rheswm arall i fynychu'r ŵyl. Mae Gŵyl 2008 yn ymestyn o 29 Chwefror i 2 Mawrth. Gan fod dydd Gŵyl Ddewi yng nghanol yr ŵyl a chan fod 70% o'r boblogaeth leol yn siarad Cymraeg, mae'n her i'r trefnwyr wneud yr ŵyl nesaf yr un mwyaf perthnasol erioed i dir, iaith a diwylliant Cymru.


Summit 49

Yn haeddiannol ddigon, rhoddwyd sylw eang yn y papurau tabloid a'r papurau trymion i farwolaeth Syr Edmund Hilary. Yn sgîl hyn, deuthum yn ymwybodol o ddau beth pwysig..

Yn y lle cyntaf, mae'n amlwg fod y tunelli o sbwriel a deflir gan fynyddwyr yn peri gofid i Edmund Hillary. Nid problem yr Himalaia yn unig yw hyn. Fe welir yr un difrod yn ardal y Peak, ar weunydd Ardal y Llynnoedd ac ar gribau mawreddog Eryri. Nid mannau picnic ar gyfer y cerddwyr achlysurol yw'r lleoedd hyn ond ardaloedd antur ar gyfer mynyddwyr selog a ddylai wybod yn well. Pam, felly, na rowch chi hen fag plastig yn eich sach y tro nesaf yr ewch allan ar y mynydd ac ewch ati i gasglu sbwriel ar derfyn eich taith?

Mae'r rhan fwyaf o'r ysgrifau coffâd yn cyfeirio at bwysigrwydd Gwesty Pen y Gwryd yn y gwaith rhagbarataol ar gyfer dringo Mynyddoedd yr Himalaia. Ond sut, mewn gwirionedd, fedrwn ni ddathlu treftadaeth Eryri fel crud mynydda tra mae cau Amgueddfa Genedlaethol Mynydda yn Rheged ar y gorwel?

Tra'n teithio ar Eurostar i weld Cymru yn colli yn erbyn Fiji yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd, fe ddarllenais erthygl yn Y Times yn coffáu mynyddwr arall - René Desmaison a fu farw yn 77 mlwydd oed. Roedd y mynyddwr Ffrengig dadleuol hwn yn enwog am herio marwolaeth ar ddringfeydd anodd ac o dan amodau enbyd. Desmaison oedd y cyntaf i ddringo 114 o ddringfeydd yn yr Alpau, Mynyddoedd yr Himalaia a'r Andes. Roedd hefyd yn dywysydd, yn awdur chwe llyfr ac yn wneuthurwr ffilmiau. Yn gymeriad dadleuol yn aml, fe'i gwaharddwyd o gymdeithas aruchel 'Compaigne des Guides de Chamonix' am ei anufudd-dod.

Yn yr ail le, fe sylweddolias nad yw'r naill na'r llall o bapurau dyddiol Cymru yn neilltuo colofnau o goffâd. O gofio'r lleihâd a fu yn nifer y newyddiadurwyr, a geir dathliad teilwng o gyflawniadau oes unrhyw un o'n mynyddwyr mawr?

Ar hyn o bryd, mae gennym fersiwn Gymraeg o'r daflen newyddion ar gyfer yr ardal - diolch i flaengarwch Cadeirydd CMP Cymru a'r cymorth a geir gan bedwar cyfieithydd gwirfoddol. Pa flaenoriaethau ddylid eu cael ar gyfer defnyddio'r iaith Gymraeg o fewn CMP Cymru? O gofio bod apwyntio swyddog datblygu'r CMP yn ôl ar yr agenda, beth ddylid eu hystyried fel blaenoriaethau?

Tra rydym yn ymhyfrydu yng nghampau mawrion y gorffennol, mae gan y CMP gyfle i gofleidio math newydd o fynydda cynhwysol gyda dimensiwn gwirioneddol Gymreig. Gadewch i ni sicrhau bod hyn yn digwydd!