HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llynnoedd Teifi a Chlaerwen 10 Rhagfyr


Peth prin yw cael diwrnod heb wynt na glaw ym mis Rhagfyr, yn arbennig felly ar fryniau didostur y canolbarth, ond trwy drugaredd roedd y duwiau’n gwenu pan aeth un ar ddeg ohonom o abaty Ystrad Fflur, ar hyd hen lwybr y mynachod heibio i lynnoedd Teifi a chronfa ddwr Claerwen. Chwarae teg arbennig i Arwel a ddaeth lawr yn blygeiniol o Fae Colwyn a Rhys a ddaeth lan o Gaerdydd.

Dringasom o wyrddni dyffryn Teifi i dir diffaith yr Elenydd, a chafwyd ychydig o antur pan fu’n rhaid croesi’r afon Claerwen yn droednoeth a neidio dros y Claerddu, a’r ddwy wedi chwyddo ers i Rhidian wneud y daith baratoi ym mis Medi! Roedd e’n ddiwrnod difyr mewn ardal sy’n gweld mwy o gathod gwyllt nag o gerddwyr.

Adroddiad gan Rhidian Jones yr Arweinydd.

Llun gan Rhys Dafis.