HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Nantlle 18 Rhagfyr


Diwrnod yn dechrau'n ddigon braf, hefo chydig o eira/rhew i'w weld ar y topiau. Deg aelod yn cychwyn o faes parcio Rhyd Ddu yn brydlon am 9:30, gan gynnwys aelod newydd sef Cliff o Huddersfield.

Glaw yn dod i'n cyfarfod ar gopa'r Garn, a 'glaw rhwng cawodydd' fuo hi trwy'r dydd wedyn! Ta waeth, roedd yn well na chwffio'r miloedd yn siopa Dolig yn Llandudno, ac mi roedd ambell i gip o olygfa i'w gweld trwy'r niwl. Ac mi roedd yn gyfle da i ymarfer hefo'r GPS Garmin i rai ohonom.

Rhyfeddu at y waliau cerrig wrth eu dilyn i gopa Garnedd Goch. Cliff wedi cael ei ail enwi yn 'Clogwyn' erbyn hyn! Llyncu paned, cyn ffonio'r cwmni tacsi-bws Nantlle i ddweud mai rhyw dri chwarter awr fyddem cyn cyrraedd pen y ffordd ger Cwm Silyn.

Ac yn wir, dyna lle'r oedd y bws mini glas yn disgwyl amdanom yn brydlon. Punt y pen yn ol i Ryd Ddu (cynllun gan Gyngor Gwynedd). Diwrnod difyr.

Gwasanaeth ardderchog gan gwmni Tacsis Huw (01286 676767). Rhedeg fel bo'r angen rhwng Rhyd Ddu, Talysarn a Phenygroes, ond yn hapus i ddanfon neu nol o Gwm Silyn hefyd. Cofiwch amdano y tro nesaf y byddwch am wneud y daith yma. Jyst ffoniwch gyntaf - diwrnod cynt os oes grwp mawr. Addas ar gyfer unrhyw nifer: o un i faint bynnag fedr dau fws mini ddal. Yr un yw'r pris - dim ond punt y pen!

Adroddiad gan yr arweinydd, Gwyn Roberts

Lluniau gan Dylan Huw ar Fflickr