Cwm Ewyas 26 Tachwedd
Roedd 15 ohonon ni yn gadael The Queen’s Head, Cwmyoy (yng Nghwm Ewyas yn y Mynyddoedd Duon) am c.9.30 a cherdded lan Hatterall Hill (gan ymweld a hen Eglwys ryfeddol Cwmyoy ar y ffordd) i Glawdd Offa. Wedyn ar hyd Llwybr y Clawdd am rhyw hanner awr cyn disgyn tuag at Abaty Llanddewi Nant Honddu (Llanthony). Cinio ymysg yr adfeiliion (ac i rai yn y dafarn yn y seler).
Gadael c. 1.30 a cerdded lan cwm serth i Pen y Bal ar y cribyn deheueol ochr arall Cwm Ewyas. Wedi bore hyfryd (ond gwynt oer) dechreuodd glaw mân tua 2.30, ond dim byd difrifol. Dilyn y cribyn heibio i’r Garn Wen a Twyn y Gaer yn ol i’r Queen’s Head erbyn 4.00. Aeth 6 ohonon ni ymlaen i weld Cymru yn curo Awstralia yn nhafarn yr Hunters Moon yn Llangattock Lingoed – lle oedd 4 o’r criw yn aros (lle bendigedig). Diweddglo perffaith i’r diwrnod.
Adroddiad gan Richard Mitchley
Llun gan Rhys Dafis