HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith yn ardal Nantmor 28 Rhagfyr


Daeth 36 ohonom ynghyd , sef 28 o oedolion ac 8 o blant. Mewn tywydd braf, clir aethom drwy bentref distaw Nantmor tuag at ffermdy Carneddi, sef hen gartref y llenor a'r hanesydd Carneddog. Mae'r llun o Carneddog a'i wraig Catrin dan y teitl 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell ' gan y ffotograffydd Geoff Charles yn adnabyddus iawn. Ar ôl cerdded ar hyd y llwybr o Clogwyn tuag at Buarthau roedden ni wedi cyrraedd lôn Blaen Nantmor. Roedd ychydig o rew ar y ffordd ac awgrymwyd cael cramponau! Nid oes llawer o olygfeydd gwell na'r un o'r Wyddfa, Yr Aran a'r Lliwedd wrth gerdded i lawr i Nantgwynant.

Ymlaen a ni o gwmpas Llyn Dinas ac yna'r daith serth i fyny i Gwm Bychan lle roedd criw o Gymry eraill yn dod i lawr i'n cyfarfod. Pasiwyd heibio yr hen fwynfeydd copr yng Nghwm Bychan cyn cyrraedd y maes parcio yn Nantmor.

Adroddiad gan Delyth Evans

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr