HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 1 Ionawr


Pymtheg yn unig a fentrodd i Ben y Pas ar fore gwlyb a gwyntog gydag addewidion i'r glaw gilio at y pnawn!

Cyd-deithio ar hyd llwybr y Pyg i Fwlch Moch … aeth pump ffôl/call (George, Eryl, Gareth Wyn, Raymond ac Ian Drummond o'r Felinheli) i'r dde am y Grib Goch … gyda'r naw call/ffôl (Alwen, Ceri, Dafydd Owen, Geraint Efans, Llew Gwent, Maldwyn a Meic Ellis) yn dilyn y Pyg i'r copa … Dafydd (call) yn mynd lawr o gyffordd y Mwynwyr.

Talpiau o rew o'r wythnos cynt ac eira ffresh ar dop y Pyg … cyfarfod Hywel Roberts (y Warden) ar Fwlch Glas (roedd wedi bod yn mesur glaw mis Rhagfyr wrth Lyn Llydaw ac ar Fwlch Coch) … Alwen, Ceri a Morfudd yn mynd am i lawr … pump (ffôl) yn cario 'mlaen i gopa'r Wyddfa, paned sydyn, llun olaf ger y gwesty(?) ac i lawr. Dim golwg o'r pump a fentrodd ar hyd y Grib.

I lawr erbyn 2.30 gyda'r tywydd wedi gwella rhywfaint … criw'r Grib rhyw chydig ar ein holau … paned a sgwrs yn y caffi … pawb yn damp/ gwlyb!

Adroddiad gan Maldwyn Roberts

Llun gan Llew ap Gwent o Maldwyn, Mike a Wynn ger caffi'r Wyddfa. Ble roedd y lleill?