HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Pennant 1 Ebrill


Gan fod yr arweinydd, Clive James, wedi ei alw i Facedonia ar fusnes Cyngor Gwynedd daeth John Williams i sefyll yn y bwlch. Ceir o Bont Dolbenmaen i'r man cychwyn wrth waelod Cwm Llefrith ac i fyny a ni efo ychydig o awyr las uwch ein pennau ac ambell olygfa gwerth chweil.

Erbyn cyrraedd Moel yr Ogof roeddem yn y niwl a'r gwynt yn faen; cael cysgod at baned serch hynny ac ymlaen a ni. Ambell gip ar y mor drwy'r niwl ar y ffordd i lawr at Fwlch y Ddwy Elor, saib eto ac yna rhai yn ein gadael a throi i lawr am Gwm Pennant; y gweddill ffyddlon yn bwrw 'mlaen ac i fyny'r llethr serth at y grib. Dim golygfeydd ond dim glaw chwaeth (diolch am hynny!). Ymlaen ar hyd y grib, heibio Tal y Mignedd, i lawr ac i fyny Craig Cwm Silyn. Rhai yn dewis dringo'r graig ac eraill yn cerdded. Dim byd i'w weld o'r copa eto ac ymlaen at y Garnedd Goch.

Ychydig o waith map a chwmpawd i ganfod y llwybr i Gwm Ciprwth. Lawr, lawr drwy'r grug ac yn falch o weld y cwm yn dod i'r golwg o'r diwedd. Heibio'r hen waith mwyn efo'i rhod ddwr newydd ac i'r ffordd yng Nghwm Pennant. Tipyn o waith cerdded wedyn ond yn cyrraedd nol i Bont Dolbenmaen yng ngheir John a Cen erbyn chwech.

Diwrnod hir ond heb orffen eto ! Rhai ohonom yn cyfarfod yng nghartref Gwyn a Linda yn chwilog i gychwyn ar drefniadau taith Patagonia ... ac fe fydd honno'n daith hir. Diolch o galon i Gwyn a Linda am y croeso a'r swper (ie dyna fu Linda druan yn ei wneud tra fo Gwyn yn mwynhau!) O ie, er gwaetha'r dyddiad roedd Clive yn taeru ei fod o ddifri wedi bod yn Macedonia ar fusnes y cyngor sir!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr