HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd Gamelin, Y Gaer a Morfydd 2 Rhagfyr


Bore braf, heulog yn yr Rhewl, Llangollen - gwynt a glaw yn Eryri! Ond lle roedd ffyddloniaid arferol y Clwb ? Pump ohonom yn unig, Dyfir, Morfudd, John Arthur, Gwyn a fi ddaeth at lannau'r Ddyfrdwy ar fore Sadwrn, Rhagfyr 2ail, ond am ddiwrnod da! Golygfeydd ysblennydd, lliwiau'r hydref, gwynt gaeafol ac ambell gawod dila. Taith fer, heibio Chwarel y Berwyn dros Moel y Gamelin, Moel y Gaer a Moel Morfydd (roedd yn rhaid i Morfudd ddod ond oedd!) ac i lawr i dafarn Yr Haul am ddiod bach wrth y tan cyn troi am adre. Unig fai y daith hon yw'r erydu erchyll gan feiciau modur a cherbydau gyriant pedair olwyn ar hyd y gefnen, ond roedd yn daith dda, er mai'r arweinydd sy'n dweud!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr