HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Dduallt ger Rhydymain 3 Mai

(trefniant preifat)

Taith ar y 3ydd o Fai oedd hi, a John yn gwrthod dweud i ble 'roeddem yn mynd. Pengaled fel ag erioed. Parcio uchlaw Hengwrt, Rhydymain a dilyn Afon Eiddon trwy Gyfyng y Benglog.

Adroddiad gan Gerallt Pennant

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflickr

  1. Golygfa dda tuag at Y Gader o'r bwlch yma.
  2. Mae'r afon yn llifo'n syth bin heibio i Hafoty y Benglog a thrwy ffenest yr adfail gwelir Bryniau Cogau.
  3. Waun y Griafolen ydy'r eangder sy'n ymestyn tua'r gogledd.
  4. Yno wrth droed y Dduallt mae'r mymryn o adfail lle mae tarddiad Afon Dyfrdwy, a dyna lle mae John!
  5. Clip go serth o ddringo i gopa'r Dduallt wedyn.
  6. Dirgelwch arall – yn y goedwig ger Ty Newydd y Mynydd oedd y bocs yma. Math o hidlydd oedd y darn gwyn, mesur glaw asid efallai? Cafwyd gwledd o fyrgars ar Fryniau Cogau, ond clywyd mo'r gog.
  7. Ond fe ddaeth y 'deryn mawr arall 'ma heibio, pwy sy'n adnabod y ffarm?
    (Ateb: Cae Coch, Rhydymain ydy'r ffarm, cartref Alun Elidyr)