Pedol Elidir 4 Mawrth
Wyth ddaru fentro am Marchlyn ond, oherwydd cyflwr y ffyrdd, dim ond saith yn llwyddo i gyrraedd sef Elen, Rhodri, Cemlyn, Ian, Shane, John Parry a minnau. Llew Gwent yn ffonio i ddweud ei fod wedi gorfod troi yn ei ôl yn Cwmtirmynach!
Cyfarfod o flaen cartref Gwyn Roberts yn Neiniolen i gael sgwrs, trafod y tywydd, ac i holi os oedd yn bosib mentro ar y lon i fyny am Marchhlyn. Diwrnod o gerdded hamddenol, edmygu'r golygfeydd, a chael hwyl wrth sglefrio i lawr ar ein penolau o Garnedd y Filiaist. Ddaru un aelod (dim yn enwi neb) anghofio cerdyn i'w gamera. Buan dysgodd sawl un ohonom mwy o ddywediadau lliwgar ardal Llanber … dyfalwch pwy!
Er fod yr eira yn drwchus iawn mewn mannau, ni fu raid defnyddio cramponau a braf iawn oedd gweld holl fynyddoedd Eryri yn eu gogoniant o dan flanced trwchus o eira. Cyrraedd giat Marchlyn tua 4.30 i weld heidiau o bobl a phlant yn cael hwyl yn sglefrio ar y llechwedd.
Adroddiad gan yr Arweinydd Morfudd Thomas
Lluniau gan Rhodri Owen ar Fflickr