Cylch Moel y Gest 6 Medi
Roedd hi'n bwrw'n ddiflas iawn pan ymgasglon ni ar sgwar Tremadog - Llew a Dyfir, Alun y Gelli, John Arthur, Gwyn Chwilog, Rhian Llangybi a finna. Cyrhaeddodd Haf a John W wedi cerdded o'r Port ac eisoes yn go wlyb. Doedd dim golwg o Foel y Gest dan niwl trwchus, ond ffwrdd a ni beth bynnag. Cychwyn heibio'r ysgol (er mwyn i Llew gael llawn werthfawrogi ei daith ddydd Mercher gyntaf) a heibio safle'r ysbyty newydd tua Phenmorfa. Croesi'r lôn fawr a dilyn y lôn bach tuag eglwys Penmorfa a'r Wern. John Parri yn ymuno â ni wrth i ni groesi'r lôn fawr eto a dilyn y llwybr gyda chefn Moel y Gest heibio Bron y Foel. Dal i fwrw a'r niwl yn drwchus wrth i ni swatio dan goeden i gael tamaid i'w fwyta.
Rhyw bum munud wedi i ni ail-gychwyn mi gliriodd y niwl a daeth Castell Cricieth i'r golwg tua'r gorllewin a chopa Moel y Gest yr ochor arall. Ond, achosodd hyn broblem arall. Doedd J.A. erioed wedi bod i gopa Moel y Gest, yn wir roedd wedi camddeall ac yn credu mai taith i'r copa oedd hon i fod. Dyna'r unig reswm iddo ddod medda fo! Mi geisiodd yn daer newid trywydd y daith neu berswadio rhywun arall i fynd am y copa, ond heb lwyddiant. Cyd-deithiwr digon pigog gerddodd i lawr tua Borth y Gest yn bygwth a chwyno tan ei wynt.
Anghofiwyd am y copa yn bur sydyn pan garlamodd lama mawr tuag atom - yr ochor arall i ffens drwy drugaredd. Ambell un yn meddwl mai paratoad at daith yr Andes oedd hyn.
Erbyn cyrraedd Borth y Gest roeddem yn dechrau sychu ac yn barod am ginio arall cyn mynd ymlaen am y Port a thros y Cob Crwn. Roedd pasio caffi'r trên bach yn ormod o demtasiwn ar ddiwedd taith ac i mewn a ni am banad. Chydig o funudau fuon ni wedyn ar hyd y llwybr beics yn ôl i Dremadog.
Adroddiad a llun gan Anet.