Llwybrau Cwm Nantcol 7 Mai
Dydd Sul, Mai 7fed, bore delfrydol o wanwyn a thaith hamddenol ar hyd llethrau Cwm Nantcol. Chwech ohonom, sef Haf, Elen, Delyth, Iolo, Dylan a Llew, a ddaeth i'r man cyfarfod; Dylan a Llew wedi cael coffi yn y bentref cyn i'r lleill gyrraedd a hyn yn arwydd o'r diwrnod hamddenol a oedd yn ein disggwyl! Galw heibio capel Salem cyn cerdded ac yna cychwyn y daith ar hyd hen lwybrau porthmyn rhwng waliau cerrig a Haf yn adrodd yr hanes.
Ymweld a'r gweithfeydd magno ym mhen y cwm cyn cael cinio yn nghwmni'r merlyn llwyd efo golygfa ysblennydd i lawr at y mor o'm blaenau. Clywed y gog, cyfarfod a chymeriadau'r fro, gwrando arnynt yn adrodd hanes y cwm a gwers natur gan yr arweinydd.Taith i'w chofio. Diolch Haf !
Adroddiad gan Llew ap Gwent
Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr