HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Dduallt o Rhydymain 8 Hydref


Bore cymylog ond sych yn Rhydymain, i fyny heibio Hengwrt ac i dŷ/Benglog- Hendre Mynach y Ffridd - dirgelwch! Dim ar y map. Ymlaen trwy'r Cyfyng ar afon Eiddon ar y dde - Hafotty Benglog - Bryniau Cogau - dilyn ffens at droed y Dduallt a sylwi ar furddun honedig tarddiad y Ddyfrdwy. Dringo'r llechwedd serth i'r copa. Dim Rhobell heddiw ond anelu at y Fron ac ymlaen i Graig y Benglog ac i lawr ochr serth gorllewinol y graig yn ôl i lwybr y bore. Clir a sych trwy'r dydd - Eryri yn glir ond yn ddi haul. Dylan Edwards, Alan Hughes, Bert Roberts, Gerallt Pennant, John Williams Llew ap Gwent a Sian Williams(Williams Minimus!) yn bresennol a diolch i AH a GP am ddigidoleiddio'r cyfan.

Adroddiad gan yr arweinydd, John Williams.

Lluniau gan Gerallt at Fflickr

  1. Bert Roberts yn llamu'r Eiddon
  2. Sian yn cael gofal a sylw gan bawb heblaw tada!
  3. Tua Aran Fawddwy
  4. Swig
  5. Roedd canoedd o wylun y cadno, (fox moth) ar y coed llys. Dywed Duncan Brown bod 'wylun' yn golygu 'fel llun o wy' i ddisgrifio'r siani flewog pan fo wedi cyrlio
  6. Ger tarddiad Afon Dyfrdwy
  7. Copa'r Dduallt
  8. Y glew arweinydd yn cael seibiant bach o sŵn ei fintai afreolus!
  9. Copa Craig y Benglog
  10. Seibiant cartograffig
  11. Cuddfan yn y coed, dirgelwch arall!
  12. Fel 11