HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dringo i bobl ifanc ar Glogwyn y Person 9 Medi


Tri o bobl ifanc a 4 arweinydd profiadol o'r Clwb fu ar y daith i fyny Clogwyn y Person (fel a dywedwyd o'r blaen, ble arall mae rhywun yn cael cystal cymhareb a hyn?).

Bu Llifon a Jac yn fentrus a mynd i fyny dros y trwyn ei hunain, gan ddisodli trwyn rhyw ddringwr araf oedd yn llusgo'i hun fyny'r un ffordd. Wedi hyn fe ymunon nhw a Morfudd, Charli a Dylan ar y sgrambl gradd 2 cyn cyfarfod a Maldwyn ac Awen oedd wedi mynd i fyny'r 'Ramp'.

Tywydd braf wrth fynd yn ôl i lawr dros Crib y Ddysgl a Bwlch Coch i Gwm Glas.

Maldwyn a Jac fel dau Trainspotter yn trafod dringfeydd y Nant wrth ddisgyn yn ôl i lawr i'r ceir.

Adroddiad gan Dylan Huw

Lluniau gan Morfudd Thomas ar Fflickr