HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Fan y Big a Cribyn 9 Medi


Bore delfrydol at gerdded y Bannau gan gychwyn o Lanfrynach ger Aberhonddu dan arweiniad Dai Thomas. Un ar bymtheg oedd ar y daith hon i Fan y Big a Chribyn. Roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen at y daith arbennig hon ers ei gweld ar y raglen gan nad oeddwn erioed wedi bod ar Fan y Big na chwaeth wedi cychwyn i fyny'r Bannau o'r cyfeiriad hwn. Golygfeydd eithriadol a thywydd at gerdded a cherdded. Cystal oedd hi yn wir fel nad oeddem am ddod i lawr ac aeth y mwyafrif ymlaen i Ben y Fan i goroni'r diwrnod cyn troi i lawr yn ôl i Lanfrynach.

Diolch Dai!

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ar Fflickr