HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Crib Nantlle 10 Mehefin


Ar wythnos o dywydd crasboeth, di-awel roedd yr 11 ohonom a ymgasglodd yn Rhyd Ddu yn go falch fod gwynt wedi codi erbyn bore Sadwrn i leddfu mymryn ar y gwres. Er hynny roedd hi?n dywydd loetran a sawl saib am banad. Ar y darnau sgramblo go "gyffrous" ar Fynydd Drws y Coed dewisodd Gwyn, Clive, Morfudd a Sian sgrambl anos eto ar Graig Cwm Silyn tra'r aeth y rhelyw: Iona, Lis, Rhiannon, Gwen, Ann, Bili, ac Anet ar hyd y llwybr haws.

Roedd dafnau glaw yn y gwynt cryf ym Mwlch Drosbern yn ein hatgoffa nad doeth ydy mynd i'r mynydd heb ddillad glaw hyd yn oed yng nghanol cyfnod anarferol o boeth ym Mehefin, ond dafnau yn unig gawson ni drwy drugaredd.

Diwrnod difyr, a thacsi Huw (a threfniant Cyngor Gwynedd fod posib teithio o Benygroes i Ryd Ddu am £1 y person) yn gwneud cyrraedd o un pen i'r llall yn gyfleus.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Gwyn ar Fflickr