HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Aran o Feddgelert 10 Rhagfyr


Pump aelod wedi mentro allan er y tywydd gwyntog a gwlyb. (John Parry, Jeremy, Llew, Janet a Morfudd).

Llawer o ddiolch i Richard Till am ein arwain ar ran o'i fferm heibio y Ddinas ac i fyny Craig Wen.
Oherwydd y tywydd, penderfynu peidio mynd ar hyd crib Craig Wen am yr Aran. Disgyn i lawr tuag at Cwm Hyrddod ac yn ôl ger fferm Hafod y Porth a Craflwyn i Perthi.

Treulio pnawn difyr yn nghaffi'r hen gapel Nantgwynant hefo Lis Till yn sgwrsio am hanesion a trigolion y fro dros baned, bechdan cig oen a mins peis / cacen cartref.

Adroddiad gan Morfudd Thomas

Lluniau gan Morfudd Thomas ar Fflickr