Ymarfer Techneg Eira a Rhew 14 Ionawr
Taith flynyddol i ymarfer technegau mynydda gaeaf. Gorchwyl anodd iawn gan nad oedd golwg am eira na rhew pan ddaeth naw o aelodau i Nant Peris erbyn chwarter wedi naw. Serch hynny, roedd Ceri ac Alwen yn bendant eu bod wedi gweld rhywbeth gwyn ar y copaon wrth deithio o Stiniog. Ar ôl trafodaeth, penderfynwyd bod gennym ddigon o offer rhyngddom i fentro allan, ac y byddem yn anelu am grib ogleddol Crib Goch.
Felly, gyda sachau trwm a rhywfaint o obaith y byddem yn dod o hyd i eira, i ffwrdd a ni i fyny’r llethrau serth i Cwm Glas. Roedd niwl yn llenwi’r cwm ond yn clirio digon ar brydiau i ddangos Carnedd Ugain yn wyn uwch ein pennau. Ymlaen i fyny’r sgri rhydd i’r grib ogleddol. Y creigiau braidd yn llithrig a seimllyd ond dim arwydd o rew. Paned o’r diwedd yn Bwlch Coch ac yna ymlaen am Carnedd Ugain. Ac yn wir roedd haen denau o eira newydd yn gorchuddio’r creigiau gan greu awyrgylch aeafol yn y niwl ar y copa gyda’r garnedd wedi ei orchuddio a rhew. Ceri ac Alwen yn iawn wedi’r cwbl!
Ymlaen lawr y llethrau agored i gyfeiriad stesion Clogwyn gan ymuno a llwybr Llanberis. Cwrdd a dau feiciwr ar eu ffordd i’r copa ac yn cwyno bod eu dwylo’n oer!
Troi am adref i lawr llwybr serth Cwm Hetiau ac yna yn ol o dan yr ysgwydd sy’n arwain at grib Chwarenog i Gwm Glas.
Pawb wedi mwynhau’r daith mewn ardal fendigedig ac yn falch ein bod wedi gweld yr eira, o leiaf, er nad oedd digon ohonno i gyfiawnhau defnyddio caib, crampon na rhaff - ond yn ffyddiog er waetha’r cynhesu byd eang, y cawn gyfle eto!
Adroddiad gan George Jones, Arweinydd
(Ar y daith: Gareth a Ken o Benmachno, Ian o Fleinheli, Ceri ac Alwen o Stiniog, Raymond o Lanrwst, Dylan Huw o Glynnog, Alan o Fachynlleth a minnau o Gaernarfon)
Lluniau gan Dylan Huw ar Fflickr