HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Llanwrtyd Mehefin 16-18


O'r cychwyn cyntaf roedd penwythnos Llanwrtyd yn llawn addewid; gwesty cysurus, taith heriol mewn ardal ddieithr a chyfle i aelodau'r de a'r gogledd gyfarfod. Cawsom mo'n siomi ! Mae'r Neuadd Arms yn westy llawn cymeriad efo bwyd blasus a gwasanaeth rhagorol ond gadael oedd yn rhaid yn gynnar bore Sadwrn a gyrru drwy Abergwesyn i gyfeiriad Tregaron cyn cyrraedd Pontrhydfendigaid ac Ystrad Fflur erbyn 9.00.

Hwn oedd man cychwyn taith 38 km efo 1000 m o ddringo dros fryniau caredig, ond reit galed ar adegau yng ngwres yr haul. O'r cychwyn doedd pawb o'r 21 ddim yn bwriadu gorffen y daith gyfan ond diolch i drefniadau Iolyn roedd modd iddynt alw tacsi i Bont ar Elen wedi cwblhau'r 20 km cyntaf.

Ymlaen a'r gweddill ffyddlon efo'r haul yn danbaid a chwilod coch hedegog yn gwmni lluosog. Croesi'r A470 wrth Bont Marteg gan ddilyn llwybr yr hen rheilffordd cyn dechrau dringo llethr cefn y Gamallt. Erbyn cyrraedd pen Moel Hywel roedd y coesau'n dechrau cwyno (fy nghoesau i beth bynnag !) ond roeddem yn brysur nesu at y nôd.

Erbyn hyn roeddem ar dir dieithr iawn ond diddorol oedd dilyn y map a chanfod y llwybr cywir. Cyrraedd Abaty Cwm Hir am 8.00. a dau fws mini yn barod i'n cludo yn ôl i Lanwrtyd at swper a noson o ymddiddan difyr dros ben. Roedd mwy i ddod !

Bore Sul aeth 8 ohonom dan arweiniad Iolyn eto i grwydro ochr ddwyreiniol Mynydd Epynt; trist oedd gweld yr olion milwrol ym mhob man ond cawsom glywed y gôg yn canu'n hwyr gerllaw ac adnabod ychydig ar gynefin yr hen gymdeithas Gymraeg a gollwyd i'r fyddin.

Diolch yn fawr i Iolyn am drefniadau di-fai. Aethom adre wedi cael profiadau newydd yng nghwmni cyfeillion newydd, a dyna sydd i'w ddisgwyl, wrth gwrs, ar deithiau'r de !

Adroddiad gan Llew ap Gwent

Lluniau gan Llew ap Gwent ag Anet ar Fflickr