Capel Garmon, Nebo a Moel Trefriw 17 Mai
Cyfarfu chwech ohonom yn Betws y Coed am chwarter i ddeg, sef Rodney Hughes, Haf Meredydd, John Parry (Porthmadog), Anet Thomas a finnau, John Arthur.
'Roedd yn fore sych a chynnes, braidd yn gymylog, ond y rhagolygon am y prynhawn ddim yn dda iawn - glaw trwm a gwyntoedd cryfion! Cychwyn yn brydlon am ddeg i fyny'r llwybr wrth ochr Gwesty y Ty Gwyn drwy'r coed i gyfeiriad Capel Garmon. Codi'n serth drwy'r coed a blodau gwyllt yn eu llawn blodau o dan ein traed. Cyrraedd tir agored a'r borfa heb ei phori eleni, felly digon o liw i'r ddaear gan fwy o flodau gwyllt. Gweld cwt pren yng nghwr y coed a, choeliwch neu beidio, ei weld eto mewn rhyw ugain mumud i hanner awr! 'Does dim byd tebyg i fynd mewn cylchoedd pan yn mwynhau eich hunain.
Sŵn yr adar yn canu o'n cwmpas a'r gôg yn rhoi ei phwt i mewn cyn bo hir. Toc, dod yn anfwriadol at Pant y Pwll, sef Llety Cathod Capel Garmon, ble 'roedd cathod o bob maint, lliw a llun. Ymlaen tuag at y gamfa'n arwain i 'nunlle ger Cefn Rhydd ac ar hyd y ffordd hyd nes y daethom ar draws gweithwyr Y Parc yn gosod giat newydd o bren derw. Aros am ginio, ac yna ymweld â Ystafell Gladdu Capel Garmon - cromlech o oes Neolithig, 2,500 - 1,900 o flynyddoedd cyn Crist.
Gweithio ein ffordd yn araf wedyn i gyfeiriad Nebo a sylwi ar gylfinir yn un o'r caeau. Troi tuag at Moel Trefriw o ble 'roeddem i fod i gael golygfa werthchweil o Ddyffryn Conwy a chribau'r Carneddau pe buasai'n glir, ond dim ond rhyw arlliw oedd i'w weld heddiw, gan ei bod erbyn hyn yn dechrau glawio.
I lawr a ni felly reit sydyn heibio Gwninger, croesi'r ffordd ac ymlwybro drwy Goed Garthmyn i ail ymuno â'r llwybr serth y daethom i fyny bore 'ma ac, na, ni welsom y cwt pren ar y ffordd i lawr! Cyrraedd y ceir am dri, ac erbyn hyn 'roedd yn tywallt y glaw, ond ni rwystrodd hyn ni rhag mynd am baned i gaffi Tan Lan yn Betws y Coed. Diwrnod boddhaol a llwyddo i ddychwelyd yn ôl yn saff cyn y glaw mawr a'r stormydd.
Adroddiad gan John Arthur
Lluniau gan John Arthur ar Fflickr